Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis diflas iawn, mae holl ddathlu a gloddesta’r Nadolig drosodd a phawb yn teimlo bach yn dlotach o’r herwydd. Ond da ni Gymru yn lwcus iawn, mae rheswm i ddathlu ym mis Ionawr hefyd, mae hi’n ddydd Santes Dwynwen ar y 25ain. Nawr dwi ddim y person mwyaf rhamantus yn y byd, a dweud y gwir mae’r syniad o ddathlu ddydd Sant Ffolant yn gwneud i mi deimlo bach yn sâl, ond rywsut mae Santes Dwynwen yn teimlo ychydig yn wahanol, rhywsut yn llai ffug.
Felly dwi’n falch iawn o weld y diddordeb cynyddol yn ein nawddsant cariadon. Mae’n llai masnachol na Dydd San Ffolant. Dydy siopau blodau ddim yn dyblu eu prisiau ac os ydych yn mynd allan am swper does dim rhaid i chi rannu bwyty gyda chant a mil o gyplau eraill sy’n trio bod yn rhamantus yr un pryd. Ond eto does dim rhaid gwario ffortiwn ar flodau neu swper drud, beth allai fod yn fwy rhamantus na gwneud eich anrheg eich hunain?
Dwi wedi blogio o’r blaen am y bisgedi santes Dwynwen – sydd i’w gweld yn y llyfr hefyd, neu’r gacen melfed coch yma, ond eleni dwi am wneud siocledi cartref.
Mae’r siocledi cartref yma’n hawdd iawn i’w gwneud ond eto’n blasu’n ogoneddus ac yn edrych yn drawiadol iawn. Mae yna bosibiliadau diddiwedd i chwarae gyda gwahanol flasau. Dwi wedi gwneud rhai â siocled tywyll a sinsir, a chyda siocled gwyn a pistasio, ond gallwch ychwanegu unrhyw flas i’r rysáit sylfaenol e.e. ffrwythau sych, gwirod neu gnau.
Siocled tywyll a sinsir
140g o siocled tywyll
120ml o hufen dwbl
20g o fêl
20g o fenyn heb halen
30g o sinsir mewn surop
Pinsied o Halen Môn fanila
3 llwy fwrdd o bowdr coco
Torrwch y siocled yn ddarnau mân a’u gosod mewn bowlen.
Cynheswch yr hufen a’r mêl mewn sosban nes bod yr hylif bron â dod i’r berw a thywalltwch dros y siocled. Ychwanegwch y menyn mewn darnau bach a chymysgwch yn ofalus nes bod y cyfan yn llyfn.
Torrwch y sinsir yn ddarnau mân a’u hychwanegu at y siocled, yn ogystal â’r halen, a chymysgwch yn dda.
Rhowch y gymysgedd mewn bowlen neu dwb plastig a’i roi yn yr oergell i setio am 1½ i 2 awr.
Ar ôl i’r siocled setio tynnwch o’r oergell a thorri lwmp i ffwrdd a’i rolio yn eich llaw i ffurfio pêl, yna rholiwch y belen mewn powdr coco. Os ydi o’n rhy galed gadewch am i feddalu ar dymheredd ystafell am ychydig. Mae hyn yn joban flêr ond dyma’r ffordd orau i greu peli neis.
Cadwch y siocledi yn yr oergell nes eich bod yn barod i’w bwyta neu eu rhoi yn anrheg. Fe fyddan nhw’n cadw yn yr oergell am 3–5 diwrnod.
Siocled gwyn a pistasio
300g o siocled gwyn
150ml o hufen dwbl
20g o fenyn heb halen
¼ llwy de o Halen Môn fanila
50g o gnau pistasio
Torrwch y siocled yn ddarnau mân a’u gosod mewn bowlen.
Cynheswch yr hufen mewn sosban nes ei fod bron â dod i’r berw a thywalltwch dros y siocled. Ychwanegwch y menyn mewn darnau bach a chymysgwch yn ofalus nes bod y cyfan yn llyfn. Ychwanegwch yr halen a chymysgwch yn dda.
Rhowch y gymysgedd mewn bowlen neu dwb plastig a’i roi yn yr oergell i setio am 1½ i 2 awr.
Ar ôl i’r siocled setio, malwch y cnau pistasio yn fân mewn prosesydd bwyd a’u rhoi mewn bowlen. Cymerwch lond llwy de o’r siocled a’i rolio yn eich llaw i ffurfio pêl. Rholiwch y peli yn y pistasio mâl.
Cadwch y siocledi yn yr oergell nes eich bod yn barod i’w bwyta neu eu rhoi yn anrheg. Fe fyddan nhw’n cadw yn yr oergell am 3–5 diwrnod.