O ystyried eu bod nhw mor syml, mae yna rywbeth moethus iawn am blatiaid mawr o grempogau. Boed chi’n eu bwyta efo siwgr a lemon clasurol, eu llenwi gyda chaws a ham neu hyd yn oed yn eu gweini gyda chig moch a surop masarn; mae nhw wastad yn teimlo fel pleser arbennig iawn.
Wrth gwrs does yna ddim rheswm i beidio eu bwyta drwy gydol y flwyddyn, dwi’n aml yn eu bwyta fel brecwast arbennig ar benwythnos neu yn bwdin syml ond blasus pan fo amser yn brin. Ond wrth gwrs mae Dydd Mawrth Ynyd yn esgus perffaith i ni loddesta ar grempogau.
A dyna yn union y gwnes i’r bore ma gan fy mod adra gyda fy neiaint a nithoedd. Roedd hi fel ffatri grempogau yma y bore ma a phawb wrth eu boddau.
Mae’r rysait ar gyfer crempigau syml isod, neu beth am drio rhywbeth ychydig yn fwy mentrus?
Os ydych chi awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni ewch chi ddim o’i le yn edrych tuag Awstria am ysbrydoliaeth. Dwi di blogio o’r blaen am fy hoff bwdinau crempog o Awstria, felly beth am drio Kaiserchmarrn – ymewrawdwr y crempogau. Pwdin swmpus sy’n groes rhwng crempog a soufflé ac sy’n cael ei weini efo compot ffrwythau.
Neu beth am Topfenpalatschinken – crempog wedi’i stwffio efo caws meddal a rhesins a’i bobi mewn cwstard. Beth well os da chi wir eisiau ddefnyddio’r holl fwydydd cyfoethog cyn dechrau’r grawys.
Neu os am rhywbeth hollol wahanol triwch Semlor. Byns cardamom o Sweden sydd wedi’i llenwi â phast almon a hufen. Mae nhw’n ogoneddus.
Rysait crempog syml
Cynhwysion
100g o flawd plaen
Pinsied o halen
2 wy
250ml o laeth
25g o fenyn wedi toddiDull
Hidlwch y blawd a’r halen mewn powlen. Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.
Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.
Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.
Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.
Bwytewch tra eu bod yn gynnes.
Un Ymateb i “Llond bol o grempog”