Archif | Ionawr, 2019

Cacen Blodau’r Ysgaw heb glwten

20 Ion

Mae bywyd wedi bod yn eithaf prysur yn ddiweddar. Rhwng magu plentyn, ysgrifennu llyfr arall (Blasus) a gweithio yn San Steffan yn un o’r cyfnodau mwyaf gwallgof yn ein gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad ar adegau. Ond ar droad blwyddyn newydd dwi wedi gwneud adduned i fi fy hun i ailgydio yn y blog. Mae’n debyg y bydd yna lai o gacennau a mwy o’r prydau da ni’n ei fwyta fel teulu, gan mai dyna dwi’n ei goginio yn bennaf y dyddiau hyn.

Ond dwi’n dal i bobi pan mae’r cyfle yn codi, ac mae hon yn rysáit dwi wedi bod yn bwriadu ei rannu ers peth amser. Fe wnes i greu’r gacen blodau’r ysgaw yma yn arbennig ar gyfer y gyflwynwraig teledu Nia Parry. Bydd rhai ohonoch wedi gweld y gacen, a minnau, ar raglen Adre ar S4C yn ddiweddar.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Daeth y criw i ffilmio yn fy nghartref haf diwethaf, ac yn ogystal â busnesu rownd y tŷ, roedden nhw’n awyddus i fy ffilmio’n coginio. Ond gan nad yw Nia yn gallu bwyta glwten doedd yr un o fy ryseitiau yn mynd i wneud y tro felly roedd rhaid i mi arbrofi a chreu rhywbeth newydd.

Doeddwn i erioed wedi coginio gyda blawd di-glwten o’r blaen, ac fe ddarganfyddais ei fod yn creu ansawdd ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, ond mae ychwanegu almonau mâl yn creu ansawdd hyfryd. Roeddwn i’n awyddus i arbrofi gyda blas newydd hefyd a hithau yn ganol haf roeddwn i wedi bod yn yfed cryn dipyn o gordial blodau’r ysgaw efo sleisen o leim, perffaith mewn diod, ac mae’n gwneud cacen reit flasus hefyd.

Roedd hon yn sicr yn plesio Nia a’r criw, ac fe gafodd Gruff hwyl yn ei goginio,  felly gobeithio y byddwch chithau yn ei fwynhau hefyd.

Cynhwysion

200g o fenyn heb halen
200g o siwgr mân
4 wy
100g o flawd codi di-glwten
100g o almonau mâl
2 llwy de o bowdr codi
Croen 1 leim wedi’i gratio
4 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

Ar gyfer yr eisin

200g o siwgr eisin
3 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

 

Dull

Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan ac irwch eich tun bundt yn dda gydag olew.
Rhowch y menyn meddal i mewn i’r cymysgwr ai gymysgu am ychydig funudau.

Ychwanegwch y siwgr a chymysgwch am 5 munud nes bod y lliw yn mynd yn oleuach a’i fod yn edrych yn ysgafn.

Ychwanegwch eich wyau un ar y tro, gan gymysgu yn drylwyr rhwng pob un.
Rhowch y blawd , y powdr codi a’r almonau mâl i mewn i’r gymysgedd a chymysgwch yn araf.

Gratiwch groen un leim i mewn i’r gymysgedd a thywalltwch y cordial blodau’r ysgaw i mewn, cyn ei gymysgu yn ofalus gyda spatula neu lwy.

Rhowch y cymysgedd yn y tun a choginiwch am 30 munud, hyd nes ei fod yn edrych yn euraidd

Gadewch i’r gacen oeri yn y tun am 15 munud cyn ei droi allan ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Er mwyn gwneud yr eisin cymysgwch y siwgr eisin gyda’r cordial cyn ei dywallt am ben y gacen.