
Da chi’n gwybod bod swper yn llwyddiant pan fo’ch plentyn yn clirio ei blât ac yn rhoi cwtsh enfawr i chi fel diolch.
Dio’n sicr ddim yn digwydd yn aml, ond dyna yn union ddigwyddodd ar ôl i mi goginio’r pryd yma am y tro cyntaf. Ymateb gwych o ystyried mai’r unig beth wnes i oedd taflu llwyth o gynhwysion mewn tun a’u pobi.
Ar ôl diwrnod prysur, y peth olaf dwi eisiau ei wneud yw treulio oriau yn y gegin yn gwneud swper cymhleth ac wedyn gwario lot gormod o amser yn clirio’r llanast. Felly fy mwriad efo’r rysáit yma oedd creu rhywbeth syml a chyflym, oedd hefyd yn defnyddio’r cynhwysion prin oedd gen i yn yr oergell, achos i fod yn onest doedd gen i ddim mynadd mynd i’r siop chwaith!
Felly dyma daflu’r hanner pwmpen cnau menyn (butternut squash) oedd ‘di bod yn llechu yng ngwaleod yr oergell ers duw a ŵyr pryd, mewn i dun pobi efo cwpwl o foron, courgette oedd di gweld dyddiau gwell, ychydig o ewynnau o arlleg a chwe chlun cyw iâr.

Roedd gen i ychydig bach o pesto gwyrdd a phast tomato heulsych (sundried) oedd angen eu denfyddio felly fe gafodd hanner y cyw iâr eu gorchuddio gyda’r pesto a’r hanner arall gyda’r past tomato. Gallwch chi ddefnyddio un neu’r llall.
Yna i goroni popeth fe daflais ychydig o gnocchi i mewn hefyd. Does dim angen eu berwi, dim ond eu taflu i mewn yn syth o’r paced. Yn y diwedd fe fydd gennych chi gyw iâr blasus, llysiau sydd wedi’i coginio yn berffaith a gnocchi cras sydd hefyd wedi amsugno blas y cyw iâr a’r pesto a saws tomato.

Dwi’n ffan mawr o goginio mewn un badell, a gewch chi ddim swper symlach na hwn . Ond eto roedd o’n hynod flasus a llwyddiant ysgubol efo’r teulu cyfan. A dim ond un tun oedd i’w olchi ar y diwedd. Be well?
Cynhwysion
6 clun cyw iâr
1/2 pwmpen cnau menyn
2 foronen
corbwmpen (courgette)
6 ewyn garlleg (dal yn eu croen)
3 llwy de o pesto
3 llwy de o saws tomato heulsych
1 llwy fwrdd o olew olewydd
350g o gnocchi
Dull
Cynheswch y popty i 200C / 180C ffan / mar nwy 6.
Torrwch sleisys yng nghroen y cyw iâr, a’i osod mewn tun pobi.
Torrwch y bwmpen, moron a courgette yn dameidiau a’u gosod o gwmpas y cyw iâr efo’r garlleg.
Taenwch y pesto ar dri o’r darnau cyw iâr a’r saws tomato ar y gweddill.
Tywalltwch yr olew am ben y llysiau a’i roi yn y popty i goginio am 10 munud.
Ychwanegwch y gnocchi gan eu cymysgu yn y sudd a’r olew, cyn ei ddychwelyd i’r popty a choginio am 25/30 munud arall, hyd nes bod y cyw iâr wedi coginio a’r llysiau yn feddal.