Ddydd Gwener fe fues i mewn ffair gacennau gwahanol iawn, doedd na ddim cupcakes del na macarons prydferth yn agos at y lle. Na roedd y digwyddiad yma yn amgueddfa patholeg St Barts, Llundain. Ie, ymysg y jariau o esgyrn ac organau wedi’u piclo, roedd ‘na ffair gacennau yn cael ei chynnal. Enw’r digwyddiad oedd Eat Your Heart Out, ac yn ogystal a chalonnau roedden nhw’n gwerthu cupcakes gwythiennau neu berfeddion, siocled STDs a chacen ysgyfaint gydag emffysema.
Edrych yn hollol afiach, ond wir i chi roedden nhw’n blasu’n hyfryd.
Syniad anhygoel Miss Cakehead yw Eat Your Heart Out a dyma’r drydedd flwyddyn iddi gynnal y digwyddiad.
Roedd y cacennau wir yn anhygoel o realistig, ac yn amlwg roedd yna lot o waith wedi mynd fewn i’r digwyddiad.
Yn ogystal ag edrych ar y sbesimenau yn y jariau a synnu ar y cacennau, roedd yr amgueddfa hefyd wedi trefnu ystod o ddarlithoedd.
Sex and the City oedd thema’r darlithoedd ddydd Gwener, ac fe wnes i wrando ar ddarlith ddiddorol iawn gan Dr Lesley Hall ar STDs yn Llundain o’r 17eg ganrif hyd at heddiw.
Nawr efallai bod patholeg a chacennau yn swnio fel cyfuniad od, ond bwriad y digwyddiad yw addysgu pobl a chodi ymwybyddiaeth o afiechydon, mewn ffordd ysgafn a hwyl.
Fel rhywun sydd â chryn ddiddordeb mewn bywydeg ac anatomi (fe astudiais ffisiotherapi ar un adeg!), roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl gysyniad. Mae’n wych gweld pobl yn bod mor greadigol gyda chacennau.
Felly pwy sy’n ffansi darn o goes septig?