Archif | cyrsiau RSS feed for this section

Meistrioli macarons efo Edd Kimber

29 Medi

Yr wythnos dwiwethaf fe gefais i’r pleser o fynychu dosbarth macarons gyda Edd Kimber, ennillydd y Great British Bake Off y llynedd. Fel mae drallenwyr selog y blog yma yn ei wybod, dwi wedi ceisio gwneud macarons unwaith o’r blaen a doedden nhw ddim yn rhy ddrwg (hyd yn oed os ydwi’n dweud fy hun!) Ond am ryw reswm doeddwn i ddim wedi eu gwneud nhw eto. Prinder amser oedd y rheswm pennaf, ond dwi’n credu yng nghefn fy meddwl roedd genai dal bryderon am eu gwneud nhw eto, gan feddw efallai mai ffliwc oedd y tro cyntaf yna.

Felly pan weles i bod Edd Kimber yn cynnal dosbarthiadau nos yn Llundain, fe neidiais ar y cyfle i gael tips gan rywun sydd yn gallu gwneud canoedd ohonyn nhw, a chael pob un i edrych yn berffaith (welsoch chi y twr o macarons wnaeth o ar y rhaglen y llynedd?).

Wel ar ol y cwrs yma does genai ddim pryderon o gwbwl, fydd na ddim stopio fi rwan, fyddai’n pobi macarons drwy’r amser.

Y dull Ffrengig o goginio macarons yr oeddwn i wedi’i ddilyn o’r blaen, ond fe ddangosodd Edd y dull Eidalaidd i ni. Mae’r dull yma yn golygu ychydig bach mwy o waith, gan bod angen berwi siwgr a dwr at dymheredd penodol iawn (dwi di bod yn John Lewis yn barod yn prynnu thermometr siwgr!) Ond does dim rhaid i chi fod cweit mor ofalus wrth gymysgu’r meringue. Er syndod i mi roedd o’n ein hannog ni i guro’r gymysgedd yn galed! Rhywbeth oedd yn mynd yn erbyn pob gyngor arall yr oeddwn i wedi’i ddarllen.

Roedd o’n werthfawr gweld rhywun yn eu gwneud nhw’n iawn yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau mewn llyfr. Pan da chi’n gwneud macarons mae yna bwynt penodol iawn pan mae’r gymysgedd yn barod – gormod o gymysgu a fydd eich macarons chi ddim yn codi, dim digon ac fe fydden nhw’n rhy galed. Rhywbeth sy’n anodd ei ddisgrifio ar bapur.

A dyma sut ddylai’r gymysgedd edrych

Un peth arall ddysgais i oedd bod lleithder yn gallu effeithio ar lwyddiant eich macarons. Os yw hi’n ddiwrnod poeth a chlos, fe fydd hi’n cymryd llawer hirach i’ch macarons sychu, rhywbeth mae’n rhaid ei wneud cyn y gallwch eu coginio. Felly yn ôl Edd yr amser gorau i wneud macarons yw ben bore ac yn y gaeaf. Roeddem ni’n lwcus i fod mewn stafell gyda system cyflyru aer, felly roedd ein macarons ni’n barod i’w coginio o fewn 15 munud, oes yw hi’n llaith, fe allai gymryd hyd at ddwy awr – felly mynadd piau hi!

Wrth aros i’r macarons goginio, fe gawsom ni glased o bubbly a nibbles, a chyfle i holi Edd am ei brofiadau. Roedd o’n hynod o gyfeillgar, ac yn ogystal â rhannu tips coginio, fe rannodd lot o straeon am ei amser yn cystadlu ar y Great British Bake Off.

Pan ddaeth hi’n amser tynnu’r macarons allan o’r popty, roeddwn i ychydig bach yn bryderus na fyddai fy rhai i cystal a gweddill y dosbarth, ond doedd dim rhaid i mi boeni roedd macarons pawb yn edrych yn berffaith.

Ar ôl eu pobi, roedd hi’n amser eu llenwi, ac roedd gennym ni ddewis o siocled, jam mefus a lemon curd. Mae’n bosib eu llenwi efo unrhyw beth da chi eisiau, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Er pan fyddai’n pobi rhain adref, dwi’n meddwl mai rhyw fath o garamel hallt fydd ar frig y rhestr.

Mae pawb sydd wedi trio’r macarons wedi dweud eu bod nhw wrth eu bodd gyda nhw, ac roeddwn i’n bles iawn efo sut yr oedden nhw’n blasu a sut yr oedden nhw’n edrych. A dweud y gwir fe ddywedodd fy nghariad nad oedd o’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng fy rhai i a’r rhai yr oedd Edd wedi ei roi i ni fel anrheg. Canmoliaeth mawr yn wir! Fy un i sydd ar y chwith ac un Edd sydd ar y dde yn y llun isod.

Anrheg bach gan Ed

Fe brynais lyfr Edd Kimber, The Boy Who Bakes, cyn mynychu’r cwrs, ac os ydych chi’n hoffi pobi dwi’n argymell eich bod chi’n ei brynu hefyd. Mae yna gymaint o ryseitiau gwahanol a newydd yna, dwi methu aros i’w profi nhw. Ac os ydych chi awydd mynd ar y cwrs eich hunain, mae’n nhw’n cael eu cynnal yn fisol yng Nghanol Llundain – ac fe wnaeth Edd son y bydd yna gyrsiau gwahanol yn agosach at y nadolig – cadwch lygad ar ei wefan os oes gennych chi ddiddordeb!

Coginio Eidalaidd

23 Mai

Ymddiheuriadau i ddechrau am beidio a blogio ers spel, mae gwaith wedi bod yn anhygoel o brysur a prin dwi wedi bod adref. Felly dwi heb gael llawer o gyfle i goginio a phobi yn ddiweddar chwaith.

Ond y penwythnos diwethaf fe wnaeth fy nghariad a finnau ddianc i’r wlad am y penwythnos. Fe wnes i fwcio’r gwesty trwy wefan Mr & Mrs Smith pan oedden nhw’n cynnig dwy noson am bris un. Roedd y lluniau a’r adolygiadau o Eckington Manor yn edrych yn addawol iawn, a ges i ddim fy siomi ar ôl cyrraedd.

Roedd y gwesty ei hun yn hyfryd – tŷ fferm hanesyddol wedi’i ei adnewyddu yn chwaethus iawn, gyda chymysgedd eclectig iawn o gelfi hen a newydd, a’r chandelier gorau dwi rioed wedi’i weld!

Ond y peth gorau am y lle oedd bod yna ysgol goginio reit ar draws y buarth. Nawr roedd y wefan yn dweud bod y cwrs coginio Eidalaidd yn llawn pan nes i fwcio. Ond ar ôl cyrraedd fe ofynais eto, ac yn lwcus i fi roedden nhw’n fodlon gwasgu un arall ar y cwrs.

Cwrs hanner diwrnod oedd hwn rhwng 10 o’r gloch a 2, oedd yn berffaith mewn gwirionedd gan mai holl fwriad y penwythnos oedd treulio bach o amser gyda fy nghariad!

Dyma’r cwrs coginio cyntaf i fi ei wneud, ond mae’n rhaid dweud bod y cyfleusterau yn Eckington Manor o’r safon uchaf. Mae ganddyn nhw gogydd sy’n gweithio llawn amser yn yr ysgol ond roedd y cwrs yma cael ei ddysgu gan Felice Tocchini chef Eidalaidd lleol.

Maen nhw’n newid y fwydlen ar gyfer y gwersi yn ddibynnol ar beth sy’n dymhorol ar y pryd. Felly fe reoddem ni’n ddysgu sut i wneud foccacia, risotto asparagus, rhyw fath o gaserol cyw iâr Eidalaidd a panacotta.

Roedd Felice yn dda iawn ar esbonio beth oedd angen ei wneud ac yn rhoi digon o tips a chefnogaeth pan oedd hi’n amser i ni goginio ein hunain. Doedd yna ddim byd hynod o anodd yn yr hyn yr oeddem ni’n ei wneud, ond roedd o’n lot o hwyl a nes i bigo fyny lot o tips ar y ffordd e.e rhoi melynwy a sudd lemon yn saws y caserol ar y diwedd, er mwyn ei wneud yn fwy cyfoethog – iym!

Ac yn ogystal â dysgu sut i goginio’r prydau, fe gafom ni gyd wersi ar sut i ddefnyddio cyllyll yn iawn a thorri llysiau yn fân. A gan fod pawb wedi gofyn yn glên fe gawsom wers ychwanegol ar sut i wneud pasta, er nad oedd hynny i fod yn rhan o’r cwrs.

Ar ôl yr holl waith caled, roedd hi’n bryd eistedd lawr gyda glasied o win i flasu ein campweithiau. A hyd yn oed os ydw i’n dweud fy hun, roedd y bwyd yn hyfryd! Dwi’n edrych mlaen rwan i drio’r ryseitiau adref fy hun, felly os da chi’n dod am swper yn fy nhŷ i rwan, da chi’n gwybod be fyddwch chi’n ei gael!

Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn, ac fe fuaswn i’n argymell Eckington manor i unrhyw un, hyd yn oed os nag ydych chi’n mynd i’r ysgol goginio. Y broblem nawr yw fy mod i eisiau gwneud mwy o gyrsiau. Dwi wrth fy modd yn dysgu pethau newydd a dwi eisoes wedi cytuno i fynd ar gwrs pobi bara 3 diwrnod gyda fy mrawd yn hwyrach yn y flwyddyn!