Archif | myffins RSS feed for this section

Myffins Marmaled

28 Tach

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Am ryw reswm dyw hi jyst ddim yn dderbyniol i fwyta cacen i frecwast. Er dwn i ddim pam chwaith, dyw darn o gacen ddim gwaeth i chi na phowlen o Frosties neu patisserie melys llawn menyn a siwgr – ac mae’r Ffrancwyr wedi’n dysgu ni bod hynny yn fwy na derbyniol.

Ond dwi’n benderfynol o newid hynny gyda’r myffins yma, sydd yn llawn ceirch a marmaled. Dwi ddim yn dweud y dyle chi eu bwyta bob dydd, Ond maen nhw’n berffaith ar gyfer brecwast arbennig ar benwythnos, neu hyd yn oed fel rhywbeth i’w gipio fel da chi’n rhedeg allan trwy’r drws heb hyd yn oed amser i wneud darn o dost.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

A pheidiwch â phoeni, does dim angen treulio oriau yn y gegin cyn y cewch chi’ch brathiad cyntaf, mae’r rhain mor syml a chyflym i’w gwneud fe fydden nhw’n barod i’w bwyta mewn llai na hanner awr.

Neu beth am gael y plant i’ch helpu? Dim ond pwyso a chymysgu sydd angen ei wneud, mae hyd yn oed fy mhlentyn dwy oed yn gallu helpu efo hynny.

Gan fod gen i jariau lu yn y tŷ, dwi’n hoffi defnyddio marmaled cartref yn fy rhai i, ond wrth gwrs fe wnaiff marmaled siop yn hefyd cyn belled eich bod yn prynu un da sydd ychydig yn chwerw a ddim yn rhy felys.

Bydd y rysáit yn gwneud 6 myffin mawr.

Cynhwysion

150g o flawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de o soda pobi

Pinsied o halen

25g o geirch

25g o almonau mâl

50g o fenyn heb halen wedi toddi

1 wy

150g o farmaled (yn ogystal â  llwy fwrdd ychwanegol i roi sglein ar y topiau)

Sudd 1 oren

2 llwy fwrdd o iogwrt plaen

 

Dull
Cynheswch y popty i 180ºC / 160ºC ffan / marc nwy 4 a gosod cesys myffin yn eich tun.

Cymysgwch yr holl gynhwysion sych mewn powlen.

Yna mewn powlen neu jwg arall cymysgwch yr holl gynhwysion gwlyb.

Gwnewch bant ynghanol y cynhwysion sych a thywalltwch y cynhwysion gwlyb i mewn.

Plygwch yn gyflym ac yn ysgafn, hyd nes ei fod bron wedi’i gymysgu, ond gyda rhai lympiau o flawd yn dal i’w gweld. Os ydych yn ei or-gymysgu fe fydd eich myffins yn drwm.

Llenwch eich cesys myffin gyda’r gymysgedd ac ysgeintiwch ychydig o geirch ar ben pob un.

Coginiwch am 20 munud, hyd nes eu bod wedi codi ac yn euraidd.

Tra bod y myffins yn oeri ar rwyll fetel, cynheswch lond llwy fwrdd o’r marmaled mewn sosban gyda llwy fwrdd o ddŵr. Pan fydd wedi toddi yn llwyr, brwsiwch am ben y cacennau.