Archif | Nadolig RSS feed for this section

Pobi Nadoligaidd

11 Rhag


20121211-220321.jpg

Fel pob cogydd da dwi wedi gwneud fy nghacennau Nadolig ers peth amser. Dwi wedi bod yn eu bwydo gyda brandi yn weddol reolaidd ac yn fuan fe fydd hi’n amser i mi eu haddurno. Ond fe geith hynny aros am ryw wythnos arall.

Ond yn y cyfamser mae yna ddigon o bobi arall i gadw fi’n brysur. A dyma rai o’r pethau dwi wedi’i gwneud dros yr wythnos diwethaf.

20121211-220336.jpg

Wrth gwrs dyw hi ddim yn gyfnod y Nadolig heb mins peis, er mae’n rhaid cyfaddef mai dim ond yn weddol ddiweddar dwi wedi dechrau eu licio. Dwi’n gwneud toes melys ar gyfer fy mins peis, gydag ychydig o almonau mâl a sudd oren. A dwi dal heb wneud fy mriwgig fy hun (twt twt) felly dwi’n defnyddio pot o friwgig siop ac yn ychwanegu croen oren a brandi.

20121211-220346.jpg

Ond yn ogystal â’r mins peis traddodiadol dwi hefyd wedi gwneud byns Nadoligaidd. Rhywbeth wnes i greu ydi’r rhain, yn seiliedig ar fy rysait ar gyfer byns chelsea. I’w gwneud nhw bach yn Nadoligaidd fe ychwanegais sbeis at y menyn a siwgr yn y canol a rhoi ceirios, llugaeron sych a chroen candi yng nghanol gyda’r rhesins. Wedyn ar ôl eu coginio tywallt ychydig o eisin am ei ben ac ysgeintio gydag almonau wedi’i sleisio.

20121211-220450.jpg

 

20121211-220509.jpg

Rai wythnosau yn ôl fe ddaeth fy ffrind Pia o Sweden draw i aros (os da chi wedi prynu’r llyfr fe fyddwch chi wedi clywed amdani, hi sy’n rhoi’r holl ryseitiau hyfryd i mi o Sweden). Fe ddoth hi ag ychydig o anrhegion gyda hi – mygiau hyfryd sy’n edrych fel eu bod nhw wedi’i gweu, cesys bach i wneud Mazariner (mae’r rysáit ar gyfer rhain yn y llyfr) a llwyth o dorwyr Nadoligaidd. Felly pan ddaeth hi’n amser i mi ddefnyddio’r torwyr a gwneud bisgedi Nadoligaidd, roedd rhaid i mi wneud rhywbeth scandinafiaidd, rhywbeth fel Pepperkaker. Bisgedi bach tenau sy’n llawn sbeis. Wel yn digwydd bod gen i ychydig bach o obsesiwn gyda Scndinafia, ac un o’r llyfrau diweddar i mi eu prynu oedd Scandilicious gan Signe Johansen, ac mae ‘na rysáit perffaith ar gyfer pepperkaker yno. Mae’r rysáit yn gwneud llwythi o fisgedi, ond maen nhw’n para am oes, felly perffaith i’w cadw yn y tŷ dros yr ŵyl. Maen nhw’n hyfryd hefyd fel anrhegion, wedi’i rhoi mewn bagiau a’u clymu gyda rhuban.

Wishgit, wishgit i ffwrdd a ni mae’r Nadolig yn nesau.

21 Hyd

Wel dyna ni’r cam cyntaf o baratoadau’r Nadolig wedi’i gwblhau, mae’r cacennau wedi eu gwneud. Roeddwn i eisoes wedi gwneud un, nol ym mis Gorffennaf, er mwyn tynnu llun ar gyfer y llyfr, ond dwi’n gwneud 3-4 bob blwyddyn ar gyfer y teulu. Dim ond dau yr oeddwn i’n bwriadu ei wneud ond yn y pendraw fe benderfynais wneud dau ganolig eu maint ac un bach.

Nawr mae’r popty yn y fflat newydd yn ofnadwy, mae’n rhaid rhoi stôl yn erbyn y drws er mwyn ei gau yn iawn, felly roedd angen gweddi fach wrth goginio’r cacennau achos duw a ŵyr beth oedd y tymheredd i fod yn onest. Maen nhw wedi brownio ychydig yn fwy nag y buaswn i’n licio ar y top, ond dwi’n gobeithio bod y gacen oddi tano yn iawn.

Diolch byth da ni’n cael popty newydd fory, bach yn rhy hwyr i’r cacennau yma efallai ond fe fydd gwybod bod tymheredd y popty yn gywir yn eithaf defnyddiol i fi!

Fyddai ddim yn addurno’r cacennau yma tan yn llawer agosach at y Nadolig, ond wrth gwrs fe fydd yn rhaid bwydo’r cacennau bob nawr ag yn y man gyda brandi. Dwi ddim yn siŵr sut dwi’n mynd i addurno fy nghacennau eleni, pengwins bach wnes i y llynedd, ond mae gen i ddigon o amser i chwilio am ysbrydoliaeth.

Felly gyda’r cacennau wedi’u gwneud, beth arall sydd ar ôl? O ia dwi mond angen prynu anrhegion a’u lapio, gwneud cardiau a’u sgwennu ac wrth gwrs lot mwy o bobi. Dim llawer felly!

 

 

 

 

 

Dim ond 10 wythnos i fynd!

20 Hyd

 

Sori am hyn, ond gyda llai na 10 wythnos tan y Nadolig, mae’n amser dechrau paratoi!

Yr wythnos hon fe ddechreuais i wneud rhestr o beth i gael i bawb fel anrhegion Nadolig, gyda’r gobaith o orffen fy siopa cyn diwedd Tachwedd. Yn anffodus dwi’m yn meddwl y gallai gael get-awe efo rhoi llyfr i bawb!

Ond dwi’n gwybod nad ydi pawb mor od a fi, gyda llawer ohonoch dwi’n siŵr yn gwrthod cydnabod bodolaeth yr ŵyl tan ddechrau fis Rhagfyr. Ond os da chi am wneud cacen Nadolig, mae’n ddrwg gen i, mae’n rhaid i chi ddechrau yn fuan. Fel dwi wedi’i ddweud ganwaith o’r blaen mae cacen Nadolig ar ei gorau wedi rhyw ddau fis ar ôl ei choginio. Ond wrth gwrs tydio ddim yn ddiwedd y byd, os nad ydych chi’n cael amser i’w wneud tan yn hwyrach.

Felly os da chi am wneud un hefyd, mae ‘na rysáit yma ar y blog. Mae na bennod cyfan o bobi Nadolgaidd yn y llyfr hefyd, digon i’ch cadw chi’n brysur hyd at y diwrnod mawr.

Mae angen mesur y ffrwythau heddiw, a’u gadael i fwydo dros nos yn y brandi. Yna fory fe fydd angen rhyw 4-5 awr i’w coginio. Esgus gwych i eistedd yn y tŷ yn gwneud dim!

Gadewch i mi wybod os da chi wrthi hefyd neu os ydych wedi gwneud eich cacen chi yn barod.

 

Nadolig yn yr haf

2 Awst

Dwi wedi dweud o’r blaen bod angen dechrau ar eich cacen Nadolig yn gynnar, ond efallai bod coginio ac addurno cacen Nadolig ym mis Gorffennaf yn mynd cam yn rhy bell. Ond dyna yn union yr ydw i wedi’i wneud. Na, dyw’r tywydd oer yma ddim fy ffwndro yn llwyr, dwi wedi bod yn tynnu lluniau ar gyfer y llyfr.

Mae’r gwaith ar y llyfr yn tynnu tuag at ei derfyn erbyn hyn. Dwi wedi profi’r ryseitiau droeon, wedi gorffen y gwaith sgwennu i gyd, a rhyw bythefnos yn ôl fe dreuliais i benwythnos cyfan yn pobi tra bod ffotograffydd yn tynnu lluniau ohonof (a’r cacennau wrth gwrs!). Fi sydd wedi tynnu’r rhan fwyaf o’r lluniau ar gyfer y llyfr, ond gan nad wyf yn ffotograffydd proffesiynol, nag hyd yn oed yn berchen ar gamera call, roedd o’n neis cael rhywun oedd yn gwybod beth oeddent nhw’n ei wneud yn tynnu rhai o’r lluniau. Warren Orchard oedd y ffotograffydd ac mae ei luniau yn hyfryd, da ni jyst angen pigo un ar gyfer y clawr rwan!

Am y tro dyma rai o’r lluniau wnes i ei tynnu.

 

 

 

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith allan o fy nwylo i rwan, a dweud y gwir dim ond y dylunio terfynol sydd ar ôl. Ond dwi eisoes wedi gweld proflenni a dwi mor hapus gyda sut mae’r llyfr yn mynd i edrych. Mae’n hyfryd ac yn llawer gwell nag y bydden i erioed wedi ei ddychmygu. Dwi mond yn gobeithio y bydd pawb arall yn ei hoffi gymaint â fi. Bydd y llyfr allan dechrau mis Tachwedd, felly perffaith ar gyfer anrhegion Nadolig – hint hint!

Fe fydd y llyfr yn dod allan jyst fel dwi’n dechrau ar swydd newydd yn Llundain, felly dwi’ disgwyl y byddai’n teithio nôl a mlaen am ychydig yn trio gwthio’r llyfr ar gymaint o bobl â phosib! A dweud y gwir mae’r job wedi dechrau yn barod. Fues i ar raglen Dafydd a Caryl, (wel Daniel Glyn a Caryl) yr wythnos diwethaf, gan fynd a cupcakes hufen ia efo fi. Dwi’n siŵr nad ydi o’n syndod i rai sy’n nabod Dan ond fe wnaeth o fwyta un mewn un cegiad bron a bod. Roedd Caryl yn llawer mwy delicet, ac roeddwn i wrth fy modd pan ddywedodd hi mai dyna’r cupcakes gorau iddi drio. Hwre!

Yn y cyfamser mae gen i gacen briodas arall i’w wneud cyn diwedd y mis, ac mae’n rhaid i fi rannu lluniau o’r gacen wnes i ar gyfer priodas yn Ffrainc hefyd, ond fydd rhaid i hwnna aros tan y blog nesa.

 

 

 

 

Roulade siocled

15 Ion

20120113-191332.jpg

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl yn ein teulu ni sy’n licio pwdin dolig. Yn sicr dwi ddim! Mae’n llawer rhy gyfoethog a thrwm i fwyta ar ôl pryd mor fawr. Felly fe benderfynais wneud roulade siocled ar gyfer y dydd, llawer ysgafnach na phwdin nadolig, a pwy sydd ddim yn licio siocled?

Nawr dwi’n gwybod pawb di hen ddiflasu efo’r nadolig erbyn hyn, ond roeddwn i’n meddwl bod o’n werth rhannu’r rysait yma efo chi, gan fod roulade yn bwdin perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

A gan ei bod hi’n flwyddyn newydd, a rhai ohonom (gan gynnwys fi!) yn ceisio bwyta’n iach, mae modd gwneud y roulade yma yn weddol iachus. Hynny yw os ydych chi’n cyfnewid yr hufen dwbl am iogwrt neu creme fraiche braster isel. Hefyd does dim blawd ynddo, sy’n ei wneud yn ysgafn awn, ac yn gluten free. Felly beth sydd yna i beidio ei licio?

Mae yna filoedd o ryseitiau roualde i’w cael ond rysait gan Merry Berry yw hwn.

 

 

Cynhwysion

175g siocled tywyll, o leiaf 70% cocoa solids

6 wy, wedi eu gwahanu

175g siwgr caster

2 llwy fwrdd o bowdr cocoa

300ml hufen dwbl

Ychydig o ffrywthau fel mefus neu fafon

Dull

1. Cynheswch y popty I 180C/160 fan ac irwch dun swiss roll a’i leinio gyda papur gwrth saim.

2. Torrwch y siocled yn ddarnau man, a’i doddi mewn bowlen sydd wedi ei osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. (gwnewch yn siwr nad yw’r fowlen yn cyffwrdd y dŵr o gwbl)

20120113-191658.jpg

3. Rhowch y 6 gwyn wy mewn bowlen a’i chwisgo tan ei fod yn stiff, ond gofalwch nad ydych chi’n ei or-wisgio. Dyle’ chi fod yn gallu dal y fowlen uwch eich pen heb iddo gwympo allan!

20120113-192007.jpg

4. Rhowch y 6 melynwy mewn bowlen arall gyda’r siwgr a’i chwisgo am 2-3 munud nes ei fod yn edrych fel hufen trwchus.

5. Ar ôl i’r siocled oeri rhywfaint, ychwanegwch at y melynwy a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus, nes ei fod wedi cymysgu yn llwyr.

6. Yna gan ddefnyddio llwy fetel mawr ychwanegwch ddau lond llwyaid o’r gwyn wy at y gymysgedd siocled. Mae hyn yn llacio’r gymysgedd ac yn ei gwneud hi’n haws i gymysgu gweddill y gwyn wy heb golli’r holl aer.

20120113-192323.jpg

7. Ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus. Felly cymysgu yn ofalus mewn ffigwr wyth, yn hytrach na’i guro yn galed.

8. Hidlwch y powdr coco dros y cyfan a’i blygu yn ysgafn.

20120113-192504.jpg

9. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun, gan ei wthio yn ofalus i’r corneli.

10. Pobwch am 20-25 munud nes bod y gymysgedd wedi codi, a bod y top yn teimlo’n eithaf cadarn. Gadewch iddo oeri yn y tun (fe fydd y roulade yn disgyn rhywfaint wrth iddo oeri, ac efallai y bydd y top yn cracio rhywfaint).

11. Chwisgiwch yr hufen nes ei fod yn weddol stiff a pharatowch eich ffrwythau.

12. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar eich bwrdd a thaenu ychydig o siwgr eisin ar ei ben. Gosodwch y roulade ar ei ben, fel bod y papur leinio yn eich wynebu. Yna, yn ofalus, tynnwch y papur i ffwrdd.

20120113-192749.jpg

13. Taenwch yr hufen ar ben y roulade, gan adael gofod o 2cm yr holl ffordd o gwmpas yr ochr. Rhowch eich ffrwythau ar ben yr hufen.

14. Nawr mae’n amser rolio! Gydag un o’r ochrau byrraf yn eich wynebu chi, torrwch linell gyda chyllell finiog ryw 2cm o’r pen, gan sicrhau mai dim ond hanner ffordd trwy’r roulade yr ydych chi’n torri. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau rholio. Yna roliwch y darn yma drosodd yn ofalus, yna defnyddiwch y papur i’ch helpu chi i rolio gweddill y roulade yn dynn, trwy ei dynnu oddi wrthoch chi tra da chi’n rholio.

Peidiwch â phoeni os yw eich roulade yn cracio (fe wnaeth fy un i) mae’n eithaf cyffredin ac yn ychwanegu at edrychiad terfynol y pwdin.

Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben.

Addurno’r gacen Nadolig

13 Rhag

Dwi’n tueddu i aros tan yr wythnos cyn y Nadolig i addurno fy nghacennau Nadolig (er mwyn rhoi digon o amser i fi eu bwydo gyda brandi!). Ond heno fydd y tro olaf i mi weld mam a thad y cariad cyn y Nadolig, felly roedd rhaid gorffen eu cacen nhw mewn amser.

Mae’r addurn ar y cacennau yn mynd yn fwy uchelgeisiol bob blwyddyn. Pan ddechreuais i wneud cacennau Nadolig roeddwn i’n ddigon hapus i osod ryw Siôn Corn plastig ar y top a rhuban rown yr ochr. Ond erbyn hyn dwi’n licio gwneud yr addurniadau fy hun.

Ac eleni mae yna thema frozen planet i’r gacen. A dweud y gwir weles i lun o gacen gyda phengwiniaid arni ryw fis yn ôl a meddwl bysa fo’n syniad gwych ar gyfer fy nghacennau i. Pwy sydd ddim yn licio pengwiniaid?

Felly sut mae mynd ati i addurno eich cacen Nadolig? Wel y peth cyntaf i’w wneud yw paratoi’r gacen gan dorri’r top i ffwrdd er mwyn ei wneud yn hollol fflat. Yna roliwch allan ddigon o farsipán i orchuddio’r gacen gyfan. Er mwyn helpu’r marsipán i sticio i’r gacen mae angen brwsio’r gacen gyda jam bricyll wedi’i ei doddi. Yna gallwch osod y marsipán ar ei ben gan esmwytho’r top i ddechrau a gweithio eich ffordd i lawr yr ochrau.

Yna cyn i chi roi’r eisin ar y top mae angen gadael y marsipán i sychu rhywfaint, dwi’n tueddu i’w adael dros nos o leiaf.

Dwi’n defnyddio eisin ffondant i orchuddio fy nghacennau ond dwi wedi defnyddio royal icing yn y gorffennol hefyd, sy’n edrych yn dda hefyd. Mae’n gallu bod yn llawer haws i’w ddefnyddio nag eisin ffondant, does dim angen bod cweit mor daclus, ac mae modd ei sbeicio i fyny i edrych fel eira, sy’n neis.

Ond os ydych chi’n defnyddio eisin ffondant roliwch ddarn allan sy’n ddigon mawr i orchuddio eich cacen. Brwsiwch ychydig bach o ddŵr ar ben y marsipán i helpu’r eisin i lynu wrtho. Yna gosodwch ar ben y marsipán a’i esmwytho ar y top i ddechrau ac yna lawr yr ochrau. Torrwch unrhyw eisin ychwanegol o gwmpas y gwaelod,a dyna ni.

Wedyn mae rhydd hynt i chi wneud beth bynnag da chi eisiau i addurno eich cacen. Fe ddefnyddiais i eisin du i wneud y pengwiniaid, gan dorri stribyn o eisin gwyn i’r frest a darn bach o eisin melyn fel pig. Wedyn fe wnes i beipio smotiau bach o royal icing ar hyd top y gacen i edrych fel eira a’i orchuddio gyda glitter gwyn, sy’n disgleirio fel rhew (mae’n ddolig mae angen glitter!).

20111213-123905.jpg

20111213-123923.jpg

20111213-123954.jpg

20111213-124059.jpg

20111213-124120.jpg

20111213-124146.jpg

20111213-124208.jpg

20111213-124217.jpg

Mins Peis Cartref

11 Rhag

Fe gefais i ddiwrnod prin iawn i fi fy hun ddoe, felly wrth gwrs fe wnes i ei dreulio’r diwrnod cyfan yn y gegin. Dwi’n mynd ar fy ngwyliau i New York yr wythnos nesaf,(gewch chi’r hanes ar y blog pan dwi’n dod ‘nôl) felly dyma oedd fy unig gyfle i wneud ychydig bach o bobi Nadoligaidd.

Y peth cyntaf yr oeddwn eisiau ei wneud oedd mins peis, ond hefyd roeddwn i eisiau trio gwneud stollen am y tro cyntaf, gan ei fod yn un o fy hoff fwydydd Nadoligaidd. Y llynedd fe wnes i fy saws cranberry fy hun a siytni nionod coch, ac roedd y ddau mor boblogaidd gyda’r teulu’r llynedd, fel fy mod i wedi cael galwadau i wneud mwy eleni. Heddiw mae’n rhaid i mi fwrw ymlaen gydag addurno fy nghacennau Nadolig, ond yn gyntaf dwi am rannu fy rysait am fins peis gyda chi.

Goeliwch chi byth ond fel plentyn roeddwn i’n casau mins peis. Dwi wastad wedi bod wrth fy modd efo cacen Nadolig ond am ryw reswm doeddwn i ddim yn licio mins peis. ond mae hynny wedi hen newid, ac er bod mins pes o’r siop yn ddigon neis does dim i guro un cartref.

Mae lot o bobl yn defnyddio pastry plaen gyda’u mins peis ond dwi’n licio defnyddio pastry melys. Mae’n ddolig felly mae’n rhaid i bopeth fod mor gyfoethog a blasus a phosib!

Er fy mod i’n gwneud fy mhastry fy hun dwi erioed wedi gwneud fy mincemeat fy hun, mae amser yn rhy brin ar hyn o bryd! Ond wrth gwrs dwi yn licio ychwanegu rhywbeth at y mincmeat dwi’n ei brynu o’r siop. Dwi’n tueddu i brynu’r un gorau posib ac wedyn yn ychwanegu zest oren wedi’i gratio a sblash go dda o frandi (mae’n rheol bod rhaid rhoi alcohol ym mhopeth da chi’n ei goginio dros y Nadolig)

Pan da chi’n gwneud y pastry mae’n bwysig eich bod chi’n cadw popeth mor oer â phosib, felly cadwch eich cynhwysion a hyd yn oed eich bowlen yn yr oergell a throwch y gwres canolog yn eich cegin i ffwrdd am ychydig neu agorwch ffenest!

Cynhwysion

250g blawd plaen

50g siwgr eisin

75g almonau mâl

pinsied o halen

150g menyn heb halen

2 felynwy

2 llwy fwrdd o sudd oren ffres oer

Dull

1. Hidlwch y blawd, siwgr eisin a halen mewn i fowlen ac ychwanegwch yr almonau mâl.

2. Torrwch y menyn mewn i ddarnau bach a’i rwbio fewn i’r blawd, nes ei fod yn edrych fel tywod. Neu os oes gennych chi brosesydd bwyd, cymysgwch bopeth at ei gilydd yn hwnna.

3. Cymysgwch y melynwy gyda’r sudd oren a’i ychwanegu ar y blawd a menyn.

4. Cymysgwch at ei gilydd nes ei fod yn ffurfio toes, mae’n haws defnyddio eich dwylo i wneud hyn.

5. lapiwch y toes mewn cling film a’i roi yn yr oergell i oeri am o leiaf 30 munud.

6. Ar ôl 30 munud rholiwch hanner y toes allan ar fwrdd gydag ychydig o flawd arno. Dwi’n licio pastry tenau, felly dwi’n rholio fo allan nes ei fod yn ryw 2mm o drwch. Yna torrwch gylch allan, a’i osod mewn tun wedi ei iro gyda menyn.

7. Yna roliwch weddill y toes a thorri cylchoedd ychydig bach yn llai mewn maint i ffitio ar y top.

8. Lenwch y cesys pastry gyda mincemeat a gosodwch y caead ar ei ben, gan ddefnyddio ychydig o laeth o amgylch yr ochr i’w ludo. Dwi wedyn yn defnyddio fforc i grimpio’r ochrau ac yn torri twll yn y top i adael y stem allan.

9. Gorffennwch drwy eu brwsio gyda llaeth a rhowch ychydig bach o siwgr ar y top

10. Pobwch ar dymheredd o 180ºC / 160ºC fan am 25-30 munud.

Mae’n bosib rhewi rhain ar ôl eu coginio, felly gwnewch ddwywaith gymaint a da chi eisiau, ac fe fydd gennych chi ddigon i bara tan ddiwrnod dolig.

Cacen Nadolig

13 Tach

Dwi byth yn un o’r bobl yna sy’n gadael eu siopa Nadolig tan y funud olaf. A dweud y gwir dwi’n dechrau panicio os nag ydwyf wedi gorffen fy siopa Nadolig erbyn dechrau fis Rhagfyr. A gyda mwy na mis i fynd cyn y Nadolig dim ond un neu ddau o anrhegion sydd ar ôl i’w prynu. Ond mae’n rhaid cyfaddef, dwi’n tiemlo fy mod i ychydig ar ei hôl hi gyda fy nghoginio Nadolig.

Dwi fel arfer yn gwneud fy nghacen Nadolig diwedd mis Hydref . Ond gan fy mod i’n byw rhwng Caerdydd a Llundain ar hyn o bryd, mae hi wedi bod yn anodd canfod digon o amser i wneud fy nghacennau. Dwi’n gwneud o leiaf 3 bob blwyddyn a gan eu bod nhw’n cymryd rhyw 4½ i 5 awr i’w coginio mae angen neilltuo diwrnod cyfan i’w gwneud nhw. Os ydio’n bosib dylech chi wneud y gacen yma ryw 8 wythnos o flaen llaw. Dwi’n gwybod bod meddwl am ddolig fis Hydref yn anghywir, ond fe fydd y gacen yn blasu yn well gydag amser.

Dwi’n defnyddio’r un rysait ar gyfer fy nghacennau Nadolig a chacennau priodas – sef rysait Delia. Dyna’r rysait oedd nain a fy mam yn arfer ei ddefnyddio ac mae’n gweithio yn ddi-ffael bob tro. Ond mae’n rhaid cyfaddef fy mod i wedi meiddio newid rhywfaint ar rysait. Cyrens yw’r prif ffrwyth yn y rysait gwreiddiol, ond dwi ddim yn or-hoff ohonyn nhw felly dwi’n rhoi mwy o syltanas a rhesin yn lle, ac yn ychwanegu llugaeron (cranberries) wedi eu sychu a cheirios sur wedi eu sychu hefyd, sy’n ychwanegu blas gwahanol ac ychydig mwy o liw i’r gacen.

Mae’r rysait yma yn gwneud cacen gron 8 modfedd neu un sgwâr 7 modfedd.

Dyw hi dal ddim yn rhy hwyr i wneud un eich hunain, felly rhowch dro arni.

Cynhwysion

450g syltanas
200g rhesin
75g llugaeron (cranberries) wedi’i sychu
75g ceirios sur wedi’i sychu
50g ceirios glacé wedi eu torri
50g pîl cymysg
3 llwy fwrdd o brandi
225g blawd plaen
½ llwy de o halen
¼ llwy de o nytmeg
½ llwy de o sbeis cymysg
50g almonau wedi eu torri yn eithaf man
225g siwgr brown meddal
1 llwy bwdin o driog du
225g menyn heb halen
4 wy
Croen 1 oren wedi’i gratio
Croen 1 lemon wedi’i gratio

Dull

Y noson cyn i chi wneud y gacen, rhowch y ffrwythau i gyd mewn bowlen gyda’r brandi, a’i orchuddio gyda lliain sychu llestri (glan!) a’u gadael i socian am o leiaf 12 awr.

1. Cynheswch y popty i 140C/ 120C fan/ marc gas 1

2. Irwch eich tun gyda menyn a gosod papur gwrthsaim ar hyd yr ochrau a’r gwaelod.

3. Hidlwch y blawd, halen a sbeisys mewn bowlen, a’i roi i un ochr.

4. Mewn bowlen arall cymysgwch y menyn a’r siwgr am ychydig funudau nes ei fod yn ysgafn.

5. Curwch yr wyau a’u hychwanegu un llwyed ar y tro i’r menyn a siwgr. Os yw’n edrych fel ei fod yn mynd i geulo, rhowch lwyaid o’r blawd at y gymysgedd.

6. Ar ôl ychwanegu’r wyau i gyd, plygwch y blawd a’r sbeisys i mewn i’r gymysgedd.

7. Nawr ychwanegwch groen yr oren a lemon, y triog a’r cnau, ac yn olaf y ffrwythau sydd wedi bod yn socian dros nos.

8. Rhowch y gymysgedd yn eich tun gan sicrhau eich bod yn ei wthio i mewn i’r corneli.


9. Clymwch ddarn o bapur brown o gwmpas y tun a rhowch ddwy haen o bapur gwrthsaim ar y top, gyda thwll bach yn y canol (fe fydd hyn yn stopio tu allan y gacen rhag coginio yn rhy gyflym).


10. Coginiwch y gacen am 41/2 i 43/4 awr a pheidiwch â hyd yn oed agor y drws i edrych tan ar ôl 4 awr.

12. Ar ôl gadael y gacen i oeri, lapiwch y gacen mewn dwy haen o bapur gwrthsaim a haen o ffoil, tan fyddwch chi’n barod i’w eisio.

13. Bob rhyw wythnos neu ddau bwydwch y gacen gyda brandi, gan wneud tyllau yn y top a thywallt llond llwy fwrdd o frandi i mewn i’r tyllau.

Fyddai nol cyn y Nadolig, i ddangos i chi sut fyddai’n eisio’r gacen.