Archif | Ryseitiau RSS feed for this section

Myffins Marmaled

28 Tach

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Am ryw reswm dyw hi jyst ddim yn dderbyniol i fwyta cacen i frecwast. Er dwn i ddim pam chwaith, dyw darn o gacen ddim gwaeth i chi na phowlen o Frosties neu patisserie melys llawn menyn a siwgr – ac mae’r Ffrancwyr wedi’n dysgu ni bod hynny yn fwy na derbyniol.

Ond dwi’n benderfynol o newid hynny gyda’r myffins yma, sydd yn llawn ceirch a marmaled. Dwi ddim yn dweud y dyle chi eu bwyta bob dydd, Ond maen nhw’n berffaith ar gyfer brecwast arbennig ar benwythnos, neu hyd yn oed fel rhywbeth i’w gipio fel da chi’n rhedeg allan trwy’r drws heb hyd yn oed amser i wneud darn o dost.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

A pheidiwch â phoeni, does dim angen treulio oriau yn y gegin cyn y cewch chi’ch brathiad cyntaf, mae’r rhain mor syml a chyflym i’w gwneud fe fydden nhw’n barod i’w bwyta mewn llai na hanner awr.

Neu beth am gael y plant i’ch helpu? Dim ond pwyso a chymysgu sydd angen ei wneud, mae hyd yn oed fy mhlentyn dwy oed yn gallu helpu efo hynny.

Gan fod gen i jariau lu yn y tŷ, dwi’n hoffi defnyddio marmaled cartref yn fy rhai i, ond wrth gwrs fe wnaiff marmaled siop yn hefyd cyn belled eich bod yn prynu un da sydd ychydig yn chwerw a ddim yn rhy felys.

Bydd y rysáit yn gwneud 6 myffin mawr.

Cynhwysion

150g o flawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de o soda pobi

Pinsied o halen

25g o geirch

25g o almonau mâl

50g o fenyn heb halen wedi toddi

1 wy

150g o farmaled (yn ogystal â  llwy fwrdd ychwanegol i roi sglein ar y topiau)

Sudd 1 oren

2 llwy fwrdd o iogwrt plaen

 

Dull
Cynheswch y popty i 180ºC / 160ºC ffan / marc nwy 4 a gosod cesys myffin yn eich tun.

Cymysgwch yr holl gynhwysion sych mewn powlen.

Yna mewn powlen neu jwg arall cymysgwch yr holl gynhwysion gwlyb.

Gwnewch bant ynghanol y cynhwysion sych a thywalltwch y cynhwysion gwlyb i mewn.

Plygwch yn gyflym ac yn ysgafn, hyd nes ei fod bron wedi’i gymysgu, ond gyda rhai lympiau o flawd yn dal i’w gweld. Os ydych yn ei or-gymysgu fe fydd eich myffins yn drwm.

Llenwch eich cesys myffin gyda’r gymysgedd ac ysgeintiwch ychydig o geirch ar ben pob un.

Coginiwch am 20 munud, hyd nes eu bod wedi codi ac yn euraidd.

Tra bod y myffins yn oeri ar rwyll fetel, cynheswch lond llwy fwrdd o’r marmaled mewn sosban gyda llwy fwrdd o ddŵr. Pan fydd wedi toddi yn llwyr, brwsiwch am ben y cacennau.

Bisgedi cyntaf

28 Tach


Mae amser wir wedi hedfan yn ddiweddar, ac mae’r mab nawr wedi dechrau bwyta. Fel rhywun sydd wrth eu bodd gyda bwyd a choginio, mae hyn yn gyfnod cyffroes iawn i mi, ond hefyd yn cynnig her newydd i mi – pobi a choginio gyda llai o halen a siwgr na’r arfer. Ond mae’n un dwi’n ei fwynhau hyd yn hyn, yn sicr mae’n helpu bod y bychan yn mwynhau ei fwyd cymaint â’i fam.

Stwnsh neu bethau meddal mae’n ei fwyta yn bennaf ar hyn o bryd, ond gyda dannedd ar y ffordd, mae o’n mwynhau cnoi ar bethau caled hefyd. Felly dyma’r cyfle cyntaf i bobi bisgedi ar ei gyfer, bisgedi sydd yn ddigon caled fel nad oes modd iddo dorri darn mawr i ffwrdd, ond yn meddalu yn araf wrth iddo gnoi a sugno arnyn nhw. A bisgedi sydd wrth gwrs heb unrhyw siwgr ynddyn nhw, ond yn hytrach wedi’i melysu gan ychydig o biwre afal.

Nawr dwi’n ymwybodol iawn bod amser yn brin os oes gennych fabi bach, felly mae’r rhain yn syml ac yn gyflym iawn i’w gwneud, yn enwedig os oes gennych chi lond rhewgell o biwre afal yn barod, fel y fi.

Er bod y rhain yn berffaith ar gyfer babis o 6 mis ymlaen, mae’n dal yn bwysig i gadw golwg ar eich plentyn wrth iddyn nhw eu bwyta, rhag ofn iddyn nhw dagu.

Cynhwysion

300g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi

1 wy

100g o biwre afal trwchus (Tua 2/3 afal) 

 

Dull

Dechreuwch drwy wneud y piwre afal. Peidiwch a phlicio’r afalau (mae yna lot o faeth yn y croen), ond torrwch y canol allan, a thorri’r afalau yn ddarnau. Dwi’n hoffi stemio fy afalau, ond gallech eu coginio mewn sospan hefyd. Fe ddylai gymeryd 15-20 munud hyd nes eu bod yn feddal. Yna defnyddiwch brosesydd bwyd i’w malu yn llyfn.
Gadewch i’r piwre oeri rhywfaint. 

Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Cymysgwch yr holl gynhwysion hyd nes bod popeth yn dod at ei gilydd i ffurfio toes llyfn. 

Torrwch belen o’r toes a’i rolio yn sosej rhyw 2 fodfedd o hyd, Gosodwch ar eich tun pobi a’i wasgu yn fflat. Mae angen i’r bisgedi fod yn ddigon mawr i fabi eu dal yn eu dwrn i fwydo eu hunain, ond ddim yn rhy fawr i’w roi yn eu ceg. Ailadroddwch gyda gweddill y bisgedi gan sicrhau bod digon o le rhwng pob un. 

Coginiwch am 25-30 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac yn galed. 

Gadewch i’r bisgedi oeri ar rwyll fetel. 
Fe fydd rhain yn cadw yn dda o’u rhoi mewn tun a chaead iddi. 

Tartenni afal

13 Hyd

Mae cyfres arall o’r Great British Bake Off wedi dod i ben ac fel y cyfresau eraill cyn hyn, dwi wedi mwynhau hon yn aruthrol, ac yn hapus iawn o weld Nadiya yn ennill. Pencampwr haeddiannol yn fy marn i, wnaeth gynyddu mewn hyder wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen gan greu cacennau trawiadol a blasus iawn yr olwg wythnos ar ôl wythnos.

Fel y dywedodd un person wrtha i ar twitter nos Fercher, ‘dyma dy world cup di ynte?’ – wel ia o bosib, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn mynd i fod yn hapus yn ei wylio adra ar fy mhen fy hun. O na, fe wnes i wylio’r rownd derfynol ar sgrin fawr mewn tafarn, gyda llond ystafell o gyd bobwyr a mwy na digon o gacennau a gwin.

A dweud y gwir dwi wedi bod yn cwrdd â grŵp o ffrindiau yn rheolaidd i wylio’r rhaglen, ac yn aml yn pobi rhywbeth i gyd fynd gyda themâu’r wythnos. Yn ystod wythnos toes y rhaglen, fe wnes i’r tartenni bach afal yma. Crwst pwff menynaidd, gydag afalau yn gorwedd ar bast almon melys. Tartenni bach trawiadol sydd mewn gwirionedd yn hawdd iawn i’w gwneud.

Fe wnes i fy nghrwst pwff fy hun, a wir i chi mae’n lot haws nag y buasech chi’n ei feddwl os ydych yn dilyn fy rysáit ar gyfer ‘rough puff’. Ond os yw amser yn wirioneddol yn brin yna does yna s dim byd yn bod gyda defnyddio paced da o does pwff, cyn belled mai un wedi’i wneud gyda menyn ydi o.  Ond rhowch gyfle arni unwaith o leiaf.



Cynhwysion
Ar gyfer y crwst

250g o fenyn oer

250g o flawd plaen

1 llwy de o halen

150ml o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad
80g o fenyn heb halen

80g o siwgr mân

1 wy

80g o almonau mâl

15g o flawd plaen

1 wy

1 llwy de o rym

2 afal

25g o fenyn wedi toddi

50g o siwgr mân

1 llwy fwrdd o jam bricyll wedi’i gynhesu efo llwy de o ddwr.


Dull

  • Torrwch y menyn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen.
  • Gyda’ch dwylo rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bras. Rydych dal eisiau darnau gweddol fawr o fenyn ynddo.
  • Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn tylino’r toes, fe ddylai fod yn reit lympiog.
  • Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a siapiwch eich toes fel ei fod yn ffurfio petryal. Nawr roliwch allan o’ch blaenau i un cyfeiriad fel bod gennych un darn hir o does tua 30cm x 15cm.
  • Plygwch draen o’r toes i lawr ar ben ei hun, cyn plygu’r traean gwaelod i fyny am ben hwnna, fel petai chi’n plygu llythyr!
  • Nawr trowch y toes 90°, a’i rolio unwaith eto mewn un cyfeiriad nes ei fod tair gwaith mor hir eto. Ailadroddwch y plygu, cyn ei lapio mewn cling film a’i roi yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar ôl iddo oeri yn ddigonol, roliwch a phlygwch ddwywaith eto. Fe fyddwch wedi rholio a phlygu pedair gwaith erbyn y diwedd. Rhowch yn ôl yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C / Nwy 6 a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
  • I wneud y past almon chwisgiwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am ychydig funudau hyd nes eu bod yn ysgafn ac yn olau. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n dda, yna plygwch yr almonau, y blawd a’r rym i mewn i’r gymysgedd.
  •  Rholiwch eich toes nes ei fod yn drwch ceiniog punt. Yna gyda thorrwr siâp cylch tua 4 modfedd ar draws, torrwch 10 o gylchoedd allan.
  • Gosodwch ar dun pobi wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim, a phrociwch ganol pob un gyda fforc.
  • Rhowch yn ôl yn yr oergell am o leiaf 20 munud.
  • Yn y cyfamser pliciwch eich afalau, torrwch y canol allan a sleisiwch yn dafellau tenau.
    Tynnwch y cylchoedd toes o’r oergell a thaenwch lond llwy de o’r past almon yn y canol a gosodwch dafellau afal am ei ben mewn patrwm del.
  • Brwsiwch y menyn wedi toddi am eu pennau ac ysgeintiwch gyda siwgr mân. Coginiwch am 15 munud neu hyd nes bod y crwst yn euraidd a’r afalau yn dechrau lliwio.
    Gadewch i oeri ar rwyll fetel.
  •  Wrth aros iddyn nhw oeri cynheswch y jam a’r dŵr mewn sosban a brwsiwch am ben y tartenni i roi sglein deniadol iddynt.

Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

2 Hyd


Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond dyw o ddim yn gacen ar gyfer dathliad, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth llawer mwy trawiadol. Felly gyda’r gacen lemon yn ysbrydoliaeth, fe es ati i wneud cacen lemon a mafon, gyda’r dyw haen o gacen lemon a haen ar all yn y canol wedi’i wneud gyda’r mafon ffres. Rhwng pob haen wedyn roedd yna eisin menyn lemon, ceuled lemon a mwy o fafon ffres. Addurnais y cyfan gydag eisin menyn lemon wedi’i liwio yn felyn a phinc, er mwyn rhoi rhyw syniad o’r hyn oedd y tu fewn.

IMG_1334
Roedd yna glod mawr i’r gacen ymysg ei deulu, ac roedden nhw’n amlwg wedi’i fwynhau achos dim ond un darn gefais i cyn yr oedd y gacen wedi diflannu yn llwyr.
Yn sicr dyw hon ddim yn gacen ar gyfer pob dydd ond mae’n berffaith ar gyfer achlysur arbennig pan mae yna ddigon o bobl i’w bwydo.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cynhwysion 

300g o fenyn heb halen

350g o siwgr mân

5 wy

350g o flawd plaen

3 llwy de o bowdr codi

Croen un lemon wedi’i gratio

100g o fafon

Ar gyfer yr eisin

375g o fenyn heb halen

700g o siwgr eisin

Sudd un lemon

Croen hanner lemon wedi’i gratio

Past lliw melyn a pinc

I orffen y gacen

Sudd un lemon

100g o Siwgr eisin

100g o fafon

Ceuled lemon

Dull

  • Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch dri thun crwn 20cm a leinio’r gwaelod gyda phapur gwrthsaim.
  • Rhowch y menyn mewn powlen a’i guro am funud gyda chwisg drydan nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y siwgr yn raddol a’i guro am 5 munud arall nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.
  • Nawr ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu’n drwyadl gyda’r chwisg drydan rhwng pob un. Os ydych yn poeni ei fod yn mynd i geulo ychwanegwch lwy fwrdd o flawd rhwng pob wy.
  • Hidlwch y blawd a’r powdr codi i mewn a’i gymysgu gyda llwy neu spatula.
  • Rhannwch y gymysgedd yn hafal rhwng tair powlen, gan ychwanegu’r croen lemon at ddau a’r mafon wedi’i stwnsio at y llall a chymysgwch yn ofalus.
  • Rhowch eich cymysgedd yn y tri thun a’u coginio am 25-30 munud, hyd nes bod y sbwng yn euraidd a bod sgiwer sy’n cael ei osod ynghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri yn y tuniau am rai munudau cyn eu trosglwyddo i rwyll fetel i oeri yn llwyr.
  • Yn y cyfamser gwnewch surop drwy gynhesu sudd un lemon gyda’r siwgr eisin.
  • Os nad yw eich cacennau yn wastad, torrwch y topiau i ffwrdd efo cyllell fara yna brwsiwch y ddwy gacen lemon gyda’r surop.
  • Er mwyn gwneud yr eisin, cymysgwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch sudd a chroen y lemon a’r siwgr eisin yn raddol. Cymysgwch yn dda am 4-5 munud.
  • Gosodwch un o’r cacennau lemon ar eich plât gweini, a thaenwch haen o eisin am ei ben yn ogystal â rhywfaint o geuled lemon a hanner y mafon (wedi’i stwnsio) sydd yn weddill. Gosodwch y gacen mafon am ei ben, a gwnewch yr un peth eto. Rhowch y drydedd gacen (yr un lemon) ar y top a gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau o’r eisin. Fe fydd yr haen yma yn dal y briwsion i gyd ac yn gweithio fel sylfaen i’r haen olaf o eisin, felly does dim rhaid iddo fod yn rhy daclus nac yn rhy drwchus.
  • Rhowch y gacen yn yr oergell am 30 munud fel bod yr eisin yn caledu. Ar ôl i’r haen gyntaf o eisin setio, rhannwch yr eisin sy’n weddill rhwng pedwar powlen, gadewch un yn wyn, lliwiwch un yn binc a’r ddau arall yn felyn, ond gydag un yn dywyllach na’r llall.
  • Gorchuddiwch dop y gacen gyda’r eisin gwyn, gan ei wneud mor llyfn â phosib gyda chyllell balet. Yna yn fras Rhowch haen o eisin pinc p gwmpas gwaelod y gacen, yn a’r melyn golau, gan orffen gyda’r melyn tywyll. Ewch dros y cyfan gyda chyllell balet i’w wneud yn llyfn, gan sicrhau bod y lliwiau yn llifo i mewn i’w gilydd, a’r melyn yn lledaenu i’r top hefyd.

Cacen foron a courgette

11 Ebr

IMG_1158

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith.

Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael y gwanwyn. Mae’n braf gweld yr holl ffrwythau a llysiau ffres yn y siopau ac mae’r gacen hon yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw.

Dwi wedi gwneud cacen foron o’r blaen a chacen corbwmpen (courgette) o’r blaen, ond pam ddim cyfuno’r ddau. Maen nhw’n llysiau perffaith ar gyfer cacennau, maen nhw’n rhoi digon o felysrwydd a lleithder, i’r gacen, a da ni’n gallu perswadio ein hunain ei fod ychydig yn fwy iach na chacen arferol! Er bod yna wyau, does dim cynnyrch llaeth, felly er nad yw’n fegan, mae’n berffaith i’r rheiny ag alergedd i laeth.

IMG_1159

Fe fuasech chi’n gallu rhoi eisin caws meddal am ben y gacen hon, ond dwi’n meddwl bod eisin oren syml yn berffaith, gan ei fod yn gadael i flas y llysiau i ddisgleirio.

Cynhwysion

180g o siwgr mân
180g o siwgr brown
4 wy
300ml o olew rapeseed
200g o foron wedi’i gratio
150g o gorbwmpen (courgette) wedi’i gratio
120g o syltanas
croen 1 oren wedi’i gratio
300g o flawd plaen
1/2 llwy de o soda pobi
1/2 llwy de o bowdr codi
2 lwy de o sbeis cymysg
pinsied o halen

Ar gyfer yr eisin

150g o siwgr eisin
sudd un oren

Dull

Cynheswch y popty i 160C ac irwch dun bundt yn dda (dwi’n defnyddio olew pobi pwrpasol y gellir ei chwistrellu ymlaen er mwyn cyrraedd pob twll a chornel). )

Rhowch y siwgr a’r wyau mewn powlen a’u curo gyda chwisg drydan am 5 munud, nes eu bod yn olau ac yn ysgafn.

Gyda’r chwisg yn dal i guro, ychwanegwch yr olew yn araf fel ei fod yn cyfuno yn llwyr.

Nawr ychwanegwch y moron, corbwmpen, syltanas a chroen yr oren a’i gymysgu gyda spatula neu lwy.

Nawr ychwanegwch y blawd, soda pobi, powdr codi, sbeis cymysg a halen a’i blygu i mewn.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a phobwch am awr, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun cyn ei dynnu allan, yna gwnewch yr eisin drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd yr oren a’i dywallt am ben y gacen.

 

 

 

Torth Simnel

7 Ebr

IMG_1156

Dyma fy fersiwn i o gacen simnel, mae’n bell o fod yn draddodiadol – mae hi’n symlach ac yn ysgafnach na chacen simnel arferol, ond eto mae blas traddodiadol y ffrwythau sych a’r marsipan yn dal i ddisgleirio. Er yn y dorth hon dwi’n ychwanegu darnau o farsipan at y gymysgedd, fel eich bod yn cael blas o farpsian meddal ym mhob cegaid.

Byddai wedi bod yn rysáit perffaith ar gyfer y Pasg, yn anffodus, roeddwn i ychydig yn rhy brysur yn dal fyny efo ffrindiau a theulu, ac yn bwyta gormod, i bostio’r rysáit mewn digon o amser. Ond does dim rheswm pan na allech ei wneud unrhyw adeg o’r flwyddyn, mae’n gacen hyfryd i’w gweini gyda phaned o de, pan fydd gennych ymwelwyr.

Cynhwysion

300g o ffrwythau sych cymysg

60g o geirios glacee wedi’u torri yn chwarteri

croen a sudd 1 oren

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

4 wy

300g o flawd codi

50g o almonau mâl

1 llwy de o sbeis cymysg

2 llwy fwrdd o laeth

150g o farsipan

4 llwy fwrdd o siwgr eisin

sudd ½ oren

 

Dull

Cynheswch y popty i 170ºC / 150ºC ffan / marc nwy 4, ac irwch a leiniwch dun torth dau bwys.

Rhowch y ffrwythau sych a’r ceirios i socian gyda’r croen a sudd oren.

Gyda chwisg drydan curwch y menyn am funud nes ei fod yn feddalach yn llyfn yna ychwanegwch y siwgr a’i guro am 4 munud ymhellach nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro gan sicrhau eich bod chi’n curo’r gymysgedd yn drwyadl rhwng pob un. Os ydych yn poeni bod y gymysgedd yn dechrau ceulo yna ychwanegwch lond llwy fwrdd o’ch blawd gyda’r wy.

Yna ychwanegwch y blawd, almonau mâl, a sbeis cymysg, a’i blygu i mewn gyda spatula neu lwy bren. Llaciwch y gymysgedd rhywfaint gyda’r llaeth, cyn torri’r marsipan yn ddarnau a’u hychwanegu at y gymysgedd.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a’i goginio am 1 awr 20 munud, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri yn llwyr. Yna addurnwch gydag eisin wedi’i wneud drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd oren.

 

 

Peis bach cyw iâr a chennin

1 Maw

peis cyw iarDydd Gŵyl Dewi Hapus bawb.

Mae’n braf gweld cymaint yn dathlu diwrnod ein nawddsant y dyddiau hyn. Ac efallai na fydd yn eich synnu fy mod i wedi defnyddio hwn fel esgus i bobi cacs bach (cacennau cri / pice ar y maen). Dwi wedi postio’r rysáit o’r blaen ac mae o yn y llyfr cyntaf hefyd, ond mae gen i rysáit addas arall dwi di bod yn bwriadu ei bostio ers peth amser – peis bach cyw iâr a chennin.

Mae yna rywbeth cysurus iawn am bei cynnes, mae’r llenwad sawrus a chrwst euraidd am ei ben yn ddigon i gynhesu calon unrhyw un, felly beth well ar ddiwrnod fel hyn. Mae’r cyfuniad o gyw iâr a chennin yn glasur, ond yn hytrach na gwneud un pei mawr i rannu dwi’n licio gwneud rhai bach unigol. Mae’r rhain yn hyfryd yn gynnes ond yr un mor hyfryd yn oer, ac mae eu maint yn golygu eu bod yn berffaith ar gyfer picnic.

Cynwhysion

Ar gyfer y crwst

60g o fenyn

60g o lard

240g o flawd plaen

½ llwy de o halen

60ml o ddŵr

 

Ar gyfer y llenwad

2 brest cyw iâr

1 llwy fwrdd o olew olewydd

2 genhinen

1 clof o arlleg

1 llwy fwrdd o flawd corn

½ llwy de o deim sych

1 llwy de o fwstard Dijon

½ litr o stoc cyw iâr

25ml o hufen

1 wy

 

Dull

Gwneud 8 pei bach

Torrwch y menyn a’r lard yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen. Gan ddefnyddio eich dwylo, rhwbiwch y menyn a’r lard i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel brwision.

Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.

Lapiwch y toes mewn cling film a’i roi i orffwys yn yr oergell am o leiaf hanner awr tra’ch bod chi’n gwneud eich llenwad.

Torrwch y cyw iâr yn ddarnau gweddol fach a’u rhoi mewn sosban i ffrio yn yr olew nes eu bod yn dechrau brownio.

Torrwch y cennin yn ddarnau bach a malwch y garlleg yn fân a’u hychwanegu at y cyw iâr, a’u coginio nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y blawd corn yna’r teim, mwstard a’r stoc a’i adael i fudferwi nes bod yr hylif wedi lleihau a thewychu. Pan fydd y saws yn drwchus ychwanegwch yr hufen a digon o bupur. Tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i oeri.

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch y toes allan nes ei fod yn 4-5 mm o drwch. Torrwch 8 o gylchoedd allan sy’n ddigon mawr i ffitio mewn tun myffin dwfn. Os nad oes gennych dorrwr o’r maint iawn, dylai myg wneud y tro. A thorrwch 8 cylch ychydig yn llai i ffitio fel caead.

Gosodwch y cylchoedd mwyaf yn ofalus yn nhyllau’r tun myffin, a llenwch gyda’r llenwad cyw iâr a chennin. Brwsiwch o amgylch eich caead gydag ychydig o ddŵr, er mwyn ei helpu i lynu, a’i osod am ben y llenwad. Gwasgwch yr ochrau i lawr gyda fforc a brwsiwch y top gydag wy wedi’i guro. Torrwch dwll yn y top gyda chyllell er mwyn gadael y stem allan, a choginiwch am 30-35 munud nes eu bod yn euraidd.

Gweinwch yn gynnes neu gadewch i oeri.

Crempogau fegan

17 Chw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Peidiwch â phoeni dwi ddim wedi llwyr ymwrthod â chynnyrch llaeth, ond anffodus i fy nai bach pwyll mae ganddo alergedd i laeth ac wyau. Fel minnau roedd o a fy nith Lleucu wedi dod at fy chwaer Annest am y gwyliau, felly’r bore ma, a hithau yn ddiwrnod crempog, bu raid i ni ganfod rysáit fyddai’n gwneud crempogau oedd yn addas iddo fo hefyd.

Roedd gan  fy mrawd alergedd i laeth ac wyau pan oedd o’n fach a dwi’n cofio bod diwrnod crempog wastad yn dipyn o siom iddo. Byddai mam yn ceisio gwneud rhai fegan iddo fo, ond doedden nhw byth cystal â rhai fy chwaer a minnau. Doedden nhw ddim o’r un ansawdd a wastad yn edrych bach yn anaemic. Ond mae’n siŵr ei bod hi’n anodd iawn ar mam bryd hynny, doedd hi ddim yn bosib chwilio am ryseitiau ar y we, fel da i’n gallu gwneud rwan, a doedd cynnyrch heb laeth ddim i’w ganfod mor hawdd yn y siop leol – yn enwedig mewn tref fach fel Dolgellau.

Ond yn lwcus i ni mae yna lwyth o bobl yn torri llaeth allan o’u deiet nawr, boed raid iddyn nhw neu beidio felly roedd hi’n ddigon hawdd canfod rysait ar gyfer crempog heb wyau na llaeth ynddo.

Mae’n rhaid cyfaddef fy mod i ychydig yn amheus – heblaw am y blawd, y llaeth a’r wyau yw prif gynhwysion crempog, ond mae’r rysait yma ar gyfer cremogau bach, yn gwneud rhai ysgafn a blasus. Mae’n dweud cyfrolau mai nid dim ond Pwyll fwytawodd rhain, a bod pawb arall wedi eu mwynhau cymaint a’r crempogau traddodiadol.

 Cynhwysion

75g o flawd plaen

1 llwy de o siwgr mân

1 llwy de o bowdr codi

pinsied o haeln

150ml o laeth soya

1 llwy bwdin o olew llysiau

Dull

Rhowch y blawd, siwgr, powdr codi a’r halen mewn powlen. gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu’r llaeth soya ac olew a’i gymysgu.

Cynheswch eich padell ffrio, ac irwch unai gydag ychydig o olew neu fenyn soya. Rhowch lond llwy fawr o’r gymysgedd yn y badell – gallwch wneud o leiaf dau ar y tro – a’u goginio nes bod swigod i’w gweld ar y top. Trwoch drosodd a’u goginio am ychydig o funudau ymhellach nes eu bod wedi brownio ar y ddau ochr.

Ailadroddwch gyda gweddill y cytew.

Llond bol o grempog

16 Chw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

O ystyried eu bod nhw mor syml, mae yna rywbeth moethus iawn am blatiaid mawr o grempogau. Boed chi’n eu bwyta efo siwgr a lemon clasurol, eu llenwi gyda chaws a ham neu hyd yn oed yn eu gweini gyda chig moch a surop masarn; mae nhw wastad yn teimlo fel pleser arbennig iawn.

Wrth gwrs does yna ddim rheswm i beidio eu bwyta drwy gydol y flwyddyn, dwi’n aml yn eu bwyta fel brecwast arbennig ar benwythnos neu yn bwdin syml ond blasus pan fo amser yn brin. Ond wrth gwrs mae Dydd Mawrth Ynyd yn esgus perffaith i ni loddesta ar grempogau.

A dyna yn union y gwnes i’r bore ma gan fy mod adra gyda fy neiaint a nithoedd. Roedd hi fel ffatri grempogau yma y bore ma a phawb wrth eu boddau.

Mae’r rysait ar gyfer crempigau syml isod, neu beth am drio rhywbeth ychydig yn fwy mentrus?

20120221-211517.jpg

topfenpal

Os ydych chi awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni ewch chi ddim o’i le yn edrych tuag Awstria am ysbrydoliaeth. Dwi di blogio o’r blaen am fy hoff bwdinau crempog o Awstria, felly beth am drio Kaiserchmarrn – ymewrawdwr y crempogau. Pwdin swmpus sy’n groes rhwng crempog a soufflé ac sy’n cael ei weini efo compot ffrwythau.

Neu beth am Topfenpalatschinken – crempog wedi’i stwffio efo caws meddal a rhesins a’i bobi mewn cwstard. Beth well os da chi wir eisiau ddefnyddio’r holl fwydydd cyfoethog cyn dechrau’r grawys.

20140424-211847.jpg

Neu os am rhywbeth hollol wahanol triwch Semlor. Byns cardamom o Sweden sydd wedi’i llenwi â phast almon a hufen. Mae nhw’n ogoneddus.

Rysait crempog syml

Cynhwysion

100g o flawd plaen
Pinsied o halen
2 wy
250ml o laeth
25g o fenyn wedi toddi

Dull

Hidlwch y blawd a’r halen mewn powlen. Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.

Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.

Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.

Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.

Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.

Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.

Bwytewch tra eu bod yn gynnes.

Marmalêd orenau seville

1 Chw

IMG_1040.JPG

Ydyn ni’n cwympo allan o gariad efo marmalêd? Mae’n anodd gen i gredu hynny, mae’n un o fy ffefrynau i, ond mae’n debyg bod gwerthiant marmalêd wedi bod yn gostwng yn raddol ers blynyddoedd, ac i lawr 7% rhwng 2010 a 2012. Mae’n cael ei weld fel rhywbeth hen ffasiwn gyda pobl ifanc yn ffafrio mêl neu bast siocled i frecwast yn lle.

Ond galwch fi’n hen ffasiwn achos fe gymeraf i farmalêd siap dros rhyw bast siocled gor-felys unrhyw ddydd. Does yna ddim brecwast gwell na thost ffres efo digon o fenyn a marmalêd gyda myg mawr o de.

IMG_1039.JPG

Ac mae’n llawn atgofion melys i mi hefyd, marmalêd oedd ffefryn Nain, dyna fyddai hi’n ei gael i frecwast bron bob bore. Ond roeddem ni’r wyrion a wyresau hefyd yn bwyta ein siâr hefyd, un a’i ar frechdan neu yn amlach na fyth ar cream crackers ar gyfer ein te bach ar ôl dod adref o’r ysgol.

Ond eto er gwatha’r ystadegau gwerthiant gwael dwi’n synhwyro bod y ffasiwn dros wneud eich marmaled eich hunain ar dwf. Mae nifer o fy ffrindiau yn ei wneud a dwi wedi gweld earthyglau di-ri yn canu clod marmalêd cartref eleni.

IMG_1044.JPG

Os ydych am fynd ati i wneud eich marmalêd eich hunain mae yna un peth sy’n angenrheidiol; ac orenau Seville yw rheiny. A nawr ydi’r amser i’w wneud, achos mae tymor orenau Seville yn un byr. Mae nhw’n dechrau ymddangos mewn siopau a marchnadoedd tua canol mis Ionawr. Ond dy nhw ddim o gwmpas am yn hwy nag ychydig wythnosau, felly dy nhw ddim wastad yn hawdd i’w canfod. A dwi’n siwr mai dyna pam yr roedd Nain yn genud ei marmalêd hi gyda’r tuniau mawr o Marmade – sy’n cynnig yr orenau Seville wedi’i torri a’u paratoi yn barod.

Ond yn lwcus i mi roedden nhw’n ddigon hawdd i’w canfod yma yn Llundain.

Wrth gwrs fe allwch chi ddefnyddio orenau cyffredin, neu hyd yn oed ffrwythau citrws eraill ond fydd y marmalêd ddim cystal yn fy marn i. Mae orenau Seville ychydig yn fwy chwerw nag orenau cyffredin ac mae’r croen yn llawer mwy trwchus hefyd.

IMG_1042.JPG

IMG_1041.JPG

Mae’r gwaith o wneud marmaled ychydig yn llafurus, yn enwedig y job o dorri’r croen yn ddarnau mân. Ond fe fydd y rysait yma yn gwneud rhyw 8-10 jar o farmaled – felly digon i bara’r flwyddyn os nad ydych yn ei fwyta’n ddyddiol!

Cynhwysion

1kg o orenau Seville
2 litr o ddwr
2 lemon
2kg o siwgr gronynnog euraidd

Bydd hefyd angen 8-10 jar gwydr wedi’i sterileiddio, sosban go fawr a darn o ddefnydd muslin.

Dull

Y noson cyn gwneud y marmalêd ei hun, tynnwch y croen oddi ar yr orenau, gan ei sgorio yn chwarteri gyda chyllell finiog a’i blicio i ffwrdd.

Torrwch y croen yn ddarnau mân, mae fyny i chi pa mor fân neu drwchus yr ydych chi’n licio’r croen yn eich marmalêd ond cofiwch y bydden nhw’n ehangu rhywfaint wrth socian a choginio. Rhowch mewn sosban fawr.

Gosodwch ridyll dros eich sosban a gwasgwch yr holl sudd allan o’r orenau i mewn at y croen, yn ogystal a sudd y ddau lemon (mae hyn yn ychwnanegu pectin fydd yn helpu’r marmalêd i setio). Rhowch yr hadau a’r cnawd oren sy’n weddill yn eich muslin a’i glymu gyda chortyn neu fand elastig.

Rhwoch y sach muslin ynghanol y croen a’r sudd, a thywalltwch ddau little o ddŵr am ei ben. Rhowch gaead ar y sosban a gadewch i socian dros nos.

Pan fyddwch yn barod I wneud y marmalêd rhowch y sosban ar y gwres a chodi berw. Yna gadewch i fud ferwi am rhyw awr nes bod y croen yn feddal.

Trowch y gwres i ffwrdd a thynnwch y sach muslin allan, gan ei roi i un ochr mewn powlen i oeri am rhyw hanner awr. Pan fydd y sach muslin yn ddigon oer i’w ddal, gwasgwch yr holl sudd allan ohono i mewn i’r sosban, cyn taflu’r cynnwys.

Nawr ychwanegwch y siwgr a throi’r gwres i fyny yn uchel, a’i ferwi yn galed am rhyw 30-40 munud, nes ei fod yn cyraedd y pwynt setio. Os oes gennych thermomedr siwgr dylai’r tymheredd fod tua 104C, ond y ffordd orau o gadarnhau yw drwy wneud prawf ar soser oer.

Felly rhowch ddwy soser yn y rhewgell nes eu bod yn oer, a phan fyddwch yn barod i brofi’r marmalêd rhowch lwy fwrdd ohono ar y soser a’i osod yn yr oergell am bum munud. Tynnwch allan a phwyswch ar y marmalêd yn ysgafn gyda’ch bys, oes oes croen wedi ffurffio, sy’n crychu wrth ei bwyso yna mae’n barod. Os ddim parhewch i ferwi am 5 munud ymhellach, cyn gwneud prawf arall.

Pan fydd y marmaled yn barod, trowch y gwres i ffwrdd a gadewch i oeri am rhyw bymtheg munud cyn ei dywallt i mewn i’ch potiau wedi’i sterileiddio, Rhowch gaead arnyn nhw yn syth a gadewch i oeri yn llwyr.