Archif | te RSS feed for this section

Te Prynhawn yn Tea at 73

22 Maw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Fel da chi’n gwybod rydw i a fy ffrindiau wrth ein boddau gyda the prynhawn, ac mae o wedi mynd yn dipyn o draddodiad i fynd i rywle gwahanol yn Llundain bob tro y maen nhw’n dod yma i aros. Ond pan ddes i lawr i Gaerdydd yn ddiweddar, fe awgrymodd Catrin ein bod ni’n trio’r lle te newydd ar Cathedral Road – Tea at 73. Doeddwn i ddim wedi clywed am y lle o’r blaen, gan ei fod yn weddol newydd, ac o gael cip ar y wefan fe wnaeth yn sicr wedi ennyn fy chwilfrydedd.

Mae Tea at 73 ar lawr gwaelod un o’r tai mawr hyfryd sydd ar Cathedral Road, ac mae’r lle wedi’i addurno yn hyfryd, yn fodern, glan ond eto yn groesawgar hefyd. Ac nid dim ond te prynhawn maen nhw’n ei weini chwaith, maen nhw hefyd yn cynnig brecwast a chinio, a hyd yn oed diodydd fin nos. Fyny staer wedyn mae yna westy boutique gyda naw o ystafelloedd braf iawn yr olwg.

Fe gawsom ni fwrdd yn y brif ystafell wrth y piano mawr (oedd mae’n rhaid cyfaddef yn hyfryd ond ychydig bach yn rhy swnllyd i dair ffrind oedd a lot o ddal fyny i’w wneud), ond mae yna ystafell wydr yn y cefn hefyd sy’n agor allan i’r ardd sy’n le perffaith ar gyfer parti mwy.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Yn debyg iawn i lawr o lefydd un fwydlen yno, ond gyda dewis o de. Fe aeth y tair ohonom am y te Assam (fy ffefryn), ond roedd o bach yn siomedig i weld mai bag te mewn tebot gawsom ni nid te rhydd, fel y buaswn i’n disgwyl gyda the prynhawn o safon. Ond roedd yn ddigon neis ac roedden nhw’n fwy na hapus i gynnig mwy heb unrhyw gost ychwanegol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ond fe gefais i fy mhlesio gyda’r bwyd, oedd yn sicr o safon uchel. Roedd yna blât o frechdanau, rhai ham a mwstard, wy, caws a phicl ac eog wedi’i fygu; ac roedden nhw’n amlwg wedi’i torri yn ffres gan nad oedd yr ochrau wedi mynd yn sych o gwbl (cas beth gen i mewn te prynhawn!). Wedyn fe gawsom ni sgonsen gynnes, wedi’i weini gyda jam a hufen oedd yn ddigon blasus, er efallai ychydig yn sych os ydw i’n mynd i fod yn ffyslyd. Ond roedd y cacennau eraill yn hyfryd, roedd yna brownie siocled llaith, darn o gacen afal a rhesin – oedd ymhell o fyd yn sych, macaron caramel hallt a mousse mafon blasus.

Nawr doedd y bwyd ddim yn cymharu gyda the prynhawn mewn rhai o westai gorau Llundain, ond doedd dim disgwyl iddo.

Er hynny roedd o’n brofiad hyfryd, bwyd blasus dros ben a gwasanaeth da iawn hefyd. Ac am £15.80 roedd o’n dipyn o fargen. Mae Tea at 73 yn sicr yn gaffaeliad i’r ardal yma o Gaerdydd, ac yn le perffaith i gwrdd fyny efo ffrindiau neu deulu am wledd sydd ddim yn mynd i dorri’r banc. Dwi’n sicr yn ei argymell.

Te prynhawn gwyddonol

29 Maw


20140424-192834.jpg

Dwi’n geek, dwi wastad wedi bod yn geek a dwi’n hapus iawn i gyhoeddi hynny.

Dwi wastad wedi bod â diddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, Dyna fy hoff bwnc yn yr ysgol, ac uchafbwynt bob Nadolig i mi oedd gwylio’r Royal Institute Christmas Lectures – darlithoedd gwyddoniaeth arbennig i blant. A dweud y gwir dwi dal yn eu gwylio hyd heddiw efo’r un brwdfrydedd a phlentyn sy’n dysgu am sut mae’r ymennydd yn gweithio am y tro cyntaf.

Doeddwn i byth yn disgwyl y bydden ni’n gweithio fel newyddiadurwyr, roeddwn i eisiau swydd yn ymwneud  â gwyddoniaeth. Fe wnes i astudio Cemeg a Bywydeg ar gyfer lefel A, a hyd yn oed dechrau hyfforddi fel physiotherapist – cyn i mi sylwi nad oeddwn yn or-hoff o ysbytai, a newid i astudio gwleidyddiaeth!

A dwi’n siŵr mai dyna pam  yr ydw i’n hoffi pobi cymaint. Mae pobi yn sicr yn wyddoniaeth o fath, rhaid mesur a thrin cynhwysion yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod nhw’n adweithio gyda’i gilydd a gyda’r gwres i greu cacen ysgafn a blasus. Y gegin yw fy labordy i’r dyddiau hyn a’r bunsen burner wedi’i gyfnewid am bopty.

Felly dychmygwch fy ecseitment pan weles i fod gwesty’r Ampersand yn Kensington yn gwneud te prynhawn gwyddoniaeth. Te arbennig oedd hwn am gyfnod byr, ac erbyn i mi glywed amdano dim ond wythnos oedd ar ôl. Ond trwy lwc fe lwyddais i gael bwrdd i fi a fy ffrind Ildiko ar y diwrnod olaf un, a gyda gwydraid o champagne yr un am ddim hefyd. Perffaith!

20140424-192843.jpg

Mae gwesty’r Ampersand yn South Kensington, nid nepell oddi wrth yr amgueddfa wyddoniaeth, y Natural History a’r V&A, ac mae nhw’n amlwg yn cael eu hysbrydoli gan yr amgueddfeydd cyfagos wrth greu eu te prynhawn.

Pan ddaeth y stand yn llawn danteithion doedden ni ddim yn cael bachu’r bwyd tan iddyn nhw ychwanegu’r rhew sych fel bod mwg gwyn yn llifo i lawr stand cacennau. Roedd o’n drawiadol iawn ac yn sicr yn rhoi tipyn o wow factor i’r profiad – dwi erioed wedi gweld y fath beth mewn unrhyw de prynhawn arall. Ond roedd y te yma yn fwy na dim ond sioe, roedd yna sylwedd iddi hefyd.

20140424-192911.jpg

Mae’r Pastry Chef Ji Sun Si wedi creu te prynhawn heb ei ail. Roedd yna gacen siocled wedi’i wneud i edrych fel folcano, gyda dinosor siocled ar yr ochr. Macaron pistasio gyda pipette o saws ceirios i wasgu’r i mewn i’r canol, a chacen fafon a siocled Gwyn oedd yn edrych fel planed. Roedd yna hefyd bicer o ddiod glas, dwi ddim yn siŵr beth oedd o, ond yn sicr roedd o’n flasus.

Roedd yna hefyd sgons siocled gwyn, wedi’i gweini gyda jam mefus, ac yn hytrach na’r brechdanau arferol roedd yna choux buns sawrus. Roeddwn i wrth fy modd gyda rhain gan eu bod mor ysgafn.

20140424-192852.jpg

20140424-192902.jpg

Pan welais i’r te yma i ddechrau, roedd o mor drawiadol roeddwn i’n poeni na fyddai yn blasu hanner cystal ag yr oedd o’n edrych. Ond fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roedd popeth yn eithriadol o flasus yn ogystal a bod yn greadigol. Nawr doedd y gwasanaeth ddim cweit mor arbennig a rhai o’r gwestai crand, ond doeddwn i ddim yn talu cymaint chwaith. Er hynny roedd yr awyrgylch yn groesawgar a chartrefol a’r bwyd yn ogoneddus felly dwi’n siwr o ddychwelyd.

Dwi newydd sywli bod y te prynhawn gwyddoniaeth yn ôl ymlaen am gyfnod, ond dwu methu aros i weld beth fydd y thema nesaf.

 

Te yn y Dorchester

29 Ebr

20130429-213045.jpg

Gyda fy ffrind gorau, Catrin, yn dod i aros am y penwythnos, a minnau heb ei gweld hi ers sbel, roedd rhaid trefnu rhywbeth arbennig. A does yna ddim esgus gwell nag ymweliad ffrind i wneud y mwyaf o’r ddinas hon. Roeddwn i eisoes wedi cael tocynnau i ni fynd i’r theatr i weld The Audience, drama am gyfarfod wythnosol y frenhines (wedi’i actio yn wych gan Helen Mirren) gyda phrif weinidogion y wlad, ond wrth gwrs roedd angen trefnu rhywle i fwyta cyn hynny hefyd. Felly, gan fod angen bwyta yn gynnar, beth well na the prynhawn (unrhyw esgus!).

Nawr dwi wedi bod am de mewn nifer o westai yn Llundain yn barod, ond mae yna dal ddigon ar fy ‘to do list’. Y broblem fel arfer yw bod angen mis neu fwy o rybudd i gael bwrdd yn y llefydd gorau, yn enwedig ar ddydd Sadwrn. Ond rhywsut, gyda minnau ddim ond yn bwcio rhyw bythefnos yn ôl, fe gefais i fwrdd i dri yn y Dorchester.

20130429-213307.jpg

Pan gyrhaeddodd Catrin a fi (ar ôl bod yn potsian o gwmpas Selfridges) roedd Johny eisoes yn aros amdanom yn y bar, felly gydag ychydig o amser i fynd nes bod y bwrdd yn barod, roedd rhaid cael diod bach. Ac wrth gwrs, beth mae merch i fod i’w yfed yn y Dorchester na glased o Bollinger. Yn amlwg maen nhw’n mynd trwy lot o champagne yno, achos nid o botel safonol y daeth ein glased ond o Jeraboam, roedd o’n anferth. Duw a ŵyr faint mae Jeraboam o Bollinger yn ei gostio!

Doedd dim rhaid aros yn hir am ein bwrdd, ac fe gawsom ein harwain draw i fwrdd ger y piano yn y Promenade, sef lobby y gwesty. Ond peidiwch â meddwl ein bod ni’n ei slymio hi, dyma’r lobby mwyaf crand yr ydw i wedi’i weld, gyda cholofnau euraidd, trefniadau blodau anferthol a soffas moethus. Ac roeddem ni mewn cwmni da, pwy oedd yn eistedd yno gyda chwpwl o ffrindiau ond y cricedwr Kevin Pieterson (bu bron i mi stopio i gymharu anafiadau ben-glin, wrth i mi hoblan heibio ar fy maglau!).

20130429-212852.jpg

20130429-213149.jpg

Dwi’n licio ffaith mai’r unig ddewis mae’n rhaid i chi wneud gyda the prynhawn yw champagne neu beidio (champagne bob tro!) a pha de i’w gael. Yn y Dorchester roedd yna ddewis helaeth o de, ond roedd ein gweinyddes yn hapus iawn i’n helpu ni i wneud penderfyniad. Gan ein bod ni i gyd yn hoff o de cryf, fe wnaeth hi argymell yr Assam, te dwi wastad yn dewis fy hun fel arfer.

20130429-213112.jpg

Ar ôl i’r te a’r champagne gyrraedd (o Jeraboam arall!) fe ddaeth y brechdanau. Roedd yna ddewis o eog wedi’i fygu, ham, wy, cyw iâr a chiwcymbr. A ddim eisiau edrych yn farus fe es i am dri i ddechrau, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn mynd i fod yn ddigon a diolch byth fe ddaeth y weinyddes yn ôl i gynnig mwy i ni. Roedden nhw’n flasus iawn gyda bara gwahanol i bob llenwad, ac roedden nhw’n amlwg wedi eu torri yn ffres (does dim byd gwaeth na brechdanau sy’n dechrau sychu ar yr ochrau). Roedd y tri ohonom yn gytûn bod y frechdan cyw iâr, gyda bara basil ymysg y frechdan cyw iâr orau i ni ei gael. Roeddwn i’n hoff iawn o’r frechdan ciwcymbr, oedd yn fwy diddorol na’r arfer gan fod yna caraway yn y bara.

20130429-220016.jpg

Cyn i’r sgons a chacennau gyrraedd, fe gawsom ni gwpan bach siocled wedi’i lenwi gyda mousse cappucino a ffeuen goffi aur am ei ben. Doeddwn i ddim yn disgwyl hwn, felly roedd o’n ychwanegiad bach neis. Roedd y mousse yn ysgafn dros ben o’n flasus iawn, ac er fy mod wedi trio bwyta’r gwpan siocled gyda’r llwy, roedd o bach yn anodd felly fe wnes i stwffio yn un darn i fy ngheg.

20130429-213123.jpg

Dim ond wedyn y daeth y sgons, yn dal yn gynnes o’r popty a’r cacennau bach. Roedd yna ddwy sgon yr un i ni, un plaen ac un ffrwythau, ac wrth gwrs jam mefus, jam cyrens duon a hufen tolchog i fynd gyda nhw. Roedd y sgons yn ysgafn iawn a ddim yn rhy fawr, felly doedd bwyta dwy ddim yn ormod o broblem!

20130429-213205.jpg

Y cwrs olaf yw’r piece de resistance bob tro, ble ma’r chefs yn gallu dangos eu hunain gyda’r cacennau a thartenni bach del. Y broblem yn aml yw fy mod i’n stwffio gymaint ar y brechdanau a’r sgons fel nad oes gen i ryw lawer o le pan ddaw hi at y cacennau. Ond y tro hwn roedd y cacennau yn ddigon bach ac ysgafn fel nad oeddwn i’n teimlo’n rhy llawn ar y diwedd. OK roeddwn i’n llawn ond ddim yn teimlo fel fy mod i’n mynd i fyrstio!

Yn rhy aml hefyd mae’r danteithion olaf yma yn gallu edrych yn dlws iawn ond mae’r blas yn gallu bod ychydig yn siomedig. Ond nid y tro hwn, roedd y gacen oren yn iawn, ond ddim byd anhygoel, ond roedd yvgweddill yn flasus dros ben. Roedd yna gacen mefus a siocled gwyn, financier siocled gyda mousse pistasio (dwi’n caru unrhywbeth pistasio), macaron pina colada (wow!) a tharten siocled a chanu mwnci a charamel hallt (OMG!).

20130429-213025.jpg

20130429-212938.jpg

Roedd y darten siocled a chnau mwnci yn ogoneddus, fel snickers posh iawn ac roedd y macaron yn gyfuniad perffaith o goconyt a phinafal. Roedd rhaid i mi gael mwy ac roedd y weinyddes yn fwy na bodlon i ddod a rhagor.

Fe wnaeth y tri ohonom ni wedi mwynhau yn fawr a doeddwn i ddim yn gallu canfod yr un bai, wel heblaw am y bil yn y diwedd! Mae o’n sicr yn un o’r drytaf yn Llundain, ond mae o hefyd, yn fy marn i, ymysg y gorau hefyd.

Fe aethom ni’n syth o’r’ Dorchester i’r Gielgud Theatre i wylio Helen Mirren yn The Audience. Drama ddoniol a diddorol iawn gyda Helen Mirren yn portreadu’r frenhines yn llwyddianus iawn o’r dyddiau cynnar i’r presennol.

Diweddglo perffaith ar ddiwrnod i’r brenin (neu frenhines).

**Ymddiheuriadau am ansawdd y lluniau, ro’n i’n canolbwyntio mwy ar y bwyta a’r joi ang ar y lluniau!**

Te Prynhawn yn yr Athenaeum

6 Ion

Pia

Da chi gyd yn gwybod cymaint dwi’n joio te prynhawn, ac yn bachu ar unrhyw esgus i fwyta llond bol o frechdanau bach, cacennau a the. Felly pan ddaeth un o fy ffrindiau gorau draw i aros o Sweden, roedd o’n un o’r pethau cyntaf ar ein ‘to do list’.  Mae Pia yn dipyn o bobwraig hefyd ac fe fydd y rhai ohonoch sydd wedi darllen y llyfr wedi gweld rhai o’i ryseitiau hi, felly roedd rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni’n mynd i rywle gwerth chweil. Ac yn ôl y Tea Guild does ‘na unrhwy le gwell ar hyn o bryd na’r Athenaeum, enillydd y te prynhawn gorau yn Llundain yn 2012. 

Mae’r Athenaeum yn westy pum seren ynghanol Llundain sy’n edrych dros Green park. Wrth gwrs mae’n foethus ond tydio ddim yn teimlo yn rhy ffurfiol. A dweud y gwir mae’r stafell ble maen nhw’n gweini’r te prynhawn yn glyd a chysurus, a dweud y gwir roedden nhw hyd yn oed yn rhoi blancedi i chi swatio yn eich cadeiriau os oeddech chi eisiau.

bwydlen te

Y peth da am de prynhawn yw nad oes rhaid i chi ddewis rhyw lawer (dwi’n un ofnadwy am bendroni am oes dros fwydlen hirfaith), ond ar ôl eistedd i lawr yn ein cadeiriau cyfforddus, roedd ‘na ddau ddewis i’w wneud. Pa de i’w ddewis? – Assam gan amlaf i mi. Ac oeddem ni eisiau Champagne? – dim ond un ateb sydd i’r cwestiwn yna!

te

Felly glasied o champagne yr un, champagne pinc gydag ychydig o flas rhosyn arno, a the wedi’i weini mewn tebotau arian.

IMG_2889

Yn wahanol i rai gwestai dyw’r holl fwyd ddim yn dod ar unwaith wedi’i gweini ar stand cacennau. yn hytrach fe ddaeth gweinydd draw gyda phlât yn llawn brechdanau a gofyn pa rai oeddem ni eisiau a’u gosod ar ein plât. Doedd dim angen poeni am fod yn farus roedd o’n fwy na bodlon i ni gael llond plât o frechdanau a mwy wedyn, a’r peth da am hyn oedd nad oedd rhaid i unrhyw un fwyta’r brechdanau wy! Brechdanau reit glasurol oedd y rhain, eog wedi’i fygu, ciwcymbr a chaws hufen a ham a phicl, ond roedd pob un yn flasus ac yn amlwg wedi’i dorri yn ffres gan nad oedd yna un ochr sych.

sgons a crympets

Ar ôl y brechdanau daeth y sgons a chrympets, i gyd yn gynnes o’r popty, gyda photiau o jam mefus, hufen a cheuled lemon. Wrth gwrs fe sglaffiwyd y cyfan. Ond roedd seren y sioe eto i ddod.

troli cacen

cacennau

Gyd prin ddim lle ar ôl yn ein boliau fe gawsom ni ddewis nid o ddau neu dair cacen arall ond llond troli ohonyn nhw. Roedd yna gymaint o bethau bach blasus gwahanol o dartenni ffrwythau i jeli champagne i gacen ffrwythau roedd hi’n anodd penderfynu beth i’w gael. Yn y diwedd fe ges i darten ffrwythau, bocs siocled wedi’i lenwi gyda mousse siocled gwyn, a paflofa bach mafon. Roedd y tri pheth yn hyfryd ac roedd fy ffrindiau Pia a Kläs yn hapus gyda’u dewis nhw hefyd. fe fuaswn i wedi bod wrth fy modd yn trio mwy, ond wir i chi doedd na ddim lle ar gyfer un briwsionyn arall erbyn y diwedd.

Fe wnaeth y tri ohonom fwynhau’r profiad yn fawr, a fydden i’n newid dim. Llwyr haeddiannol o’r wobr ddywedwn i.

Amser am baned?

4 Ebr

Fe wnaeth rhywun bwyntio allan y diwrnod o’r blaen, nad yw’r blog yma yn cadw’n ddigon at y teitl. Hynny yw, mae yna lot o gacennau yma ond dim llawer o baneidiau. Wel dyma ymdrech i wneud fyny am hynny.

Nawr dwi’n hoffi coffi, fel arfer espresso neu americano cryf, ond te sy’n cadw fi fynd drwy’r dydd. A dwi’n yfed lot o de, tua 10 paned y dydd ar ddiwrnod arferol!

A dwi’n benodol iawn am sut dwi’n licio fy nhe hefyd, dwi wrth fy modd yn cael paned mewn cwpan a soser tseina, ond does yna ddim i guro mwg anferthol o de cryf gyda dim ond ychydig bach iawn o laeth. Os oes yna ffrindiau draw, neu os dwi’n gwybod fy mod i’n mynd i’n mynd i fod eisiau mwy nag un paned dwi’n gwneud tebot, ond y rhan fwyaf o’r amser dwi’n arbed ar y golchi ac yn gwneud te tramp.

Ond mae gen i gasgliad bach o debotau gwahanol. Yr un pinc Bodum dwi’n ei ddefnyddio  fwyaf gan fod ganddo hidlydd ynddo sy’n golygu eich bod chi’n gallu defnyddio te rhydd heb gael y dail yn eich cwpan. Mwy ar gyfer sioe mae’r ddau arall ond dwi’n hoff iawn ohonyn nhw. Un gin Hendricks yw’r un mawr yn y canol, mae’n rhan o set te a brynais ar ôl profi te prynhawn gin Hendricks ym, mwyty Hush yn Llundain. Mae’r brandio Hendricks yn golygu i fod yn wahanol iawn ond dwi’n hoff iawn o siâp y tebot hefyd, mae’n ddigon mawr i ddal lot o de! Anrheg Nadolig gan fy nhad oedd yr un chrome a hufen, dwi’n caru’r steil art deco ond mae’n gwneud y job yn gret hefyd, gan fod y metel ar y tu allan wedi’i inswleiddio fel ei fod yn cadw’r te yn gynnes heb i chi ddefnyddio tea cosy.

Mae’n bwysig iawn i mi bod tebotau yn gwneud y job yn ogystal ag yn edrych yn ddel. Synnwyr cyffredin fyse chi’n ei feddwl, ond mae’n gwylltio fi cymaint o debotau sy’n arllwys te i bob man wrth ei dywallt. Waeth i chi gael tebot siocled ddim!

Fel da chi’n ei weld, mae gena’i gasgliad reit eang o de yn fy nghwpwrdd. Dwi’n licio te cryf ar gyfer fy nhe bob dydd, Barry’s Tea o Iwerddon da ni’n ei yfed ar hyn o bryd, ond dwi hefydd yn licio Te Clipper sy’n de masnach deg hyfryd. Dwi hefyd yn licio cael te ychydig bach yn fwy crand yn y tŷ, ac ar y foment mae gen i de Fortnum a Mason ond dwi hefyd yn ffan mawr o de Tea Pigs, pan dwi’n gallu cael gafael ar focs (er tydyn nhw ddim yn rhad).

Te dwi’n ei gadw yn y pot coffi!

Nawr ar y pwynt pwysig. Sut i wneud paned dda? Wel i ddechrau mae angen dwr berwedig, a dyna’r rheswm pam mae te o lefydd coffi yn aml yn afiach (Starbucks yw’r gwaethaf) gan nad ydy dwr yn ddigon poeth. Ond dwi hefyd wedi ffeindio’r erthygl wych yma oddi ar wefan y BBC sy’n nodi 11 rheol George Orwell i wneud y baned berffaith, a dwi’n cytuno efo pob un ohonyn nhw (er fy mod i’n ffan o’r hen fag te hefyd).

Yn ôl yr erthygl fe ddywedodd George Orwell hyn ynglŷn â the:

“one of the “mainstays of civilization” – is ruined by sweetening and that anyone flouting his diktat on shunning the sugar bowl could not be called “a true tealover”.

Dwi hefyd yn cytuno yn llwyr y dylid ychwanegu’r llaeth ar ôl y te, ond mae’r gwyddonwyr yn dweud y gwrthwyneb. Ond mae’n hawdd iawn ychwanegu gormod o laeth os ydio’n mynd i mewn yn gyntaf, a does ‘na ddim byd gwaeth yn fy marn i na the efo lot o laeth.

Ond pwy ydw i, i ddweud wrthych chi sut i yfed eich te. Ond mae un peth yn wir, mae paned wastad yn mynd yn dda gyda chacen Neu fisged!) Mwynhewch.

Bara Brith Nain

6 Hyd

Er bod bara brith yn o fy ffefrynnau, dwi heb wneud torth ers blynyddoedd. Dwi’n tueddu i wneud ryseitiau newydd o’r holl lyfrau dwi’n eu prynu ac yn anghofio am yr hen ffefrynnau. Ond pan ges i gais am gacen gan griw o’r gwaith (sy’n cynnwys Saeson, Albanwyr, Cymry a rhywun o Awstralia) y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd bara brith. Doedd nfer ohonyn nhw erioed wedi trio bara brith o’r blaen felly roedd ‘na bwysau arnaf i, i sicrhau bod ein cacen genedlaethol yn plesio.

Doeddwn i methu ffeindio’r rysait adref, sy’n dangos pa mor hir yn ôl wnes i fara brith diwethaf! Ond hen rysait Nain oedd hi felly dim ond un galwad ffôn oedd ei angen ac roedd genai gopi eto.

Dwi’n cofio Nain yn nodi ei ryseitiau mewn llyfr bach glas, gyda’r tudalennau yn cwympo allan ohono o’r holl ddefnydd. Ond roeddwn i wedi anghofio yn llwyr amdano tan i fi ffonio Nain yr wythnos diwethaf i holi am y rysait. Dyw Nain ddim yn pobi bellach felly’r tro nesaf dwi’n mynd adref i’r gogledd mae hi wedi dweud y gai fynd a’r llyfr efo fi. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa fath o ryseitiau sydd ynddo ac efallai rhannu un neu ddau yma!

Ond cyn hynny dyma rysait Nain ar gyfer bara brith, sy’n cael ei wneud trwy socian y ffrwythau mewn te. Cacen efo te ynddi – perffaith!

 

Cynhwysion

8oz ffrwythau cymysg

6 fl oz te oer

8oz blawd codi

pinsed o halen

4oz siwgr brown

1 wy wedi’i guro

 

Dull

1. Gwnewch de cryf a’i adael i oeri (dwi’n gaadel iddo stiwio efo’rbagiau te dal ynddo)

2. Mwydwch y ffrwythau yn y te dros nos

3. Y diwrnod wedyn, cymysgwch yr wy i mewn i’r ffrwythau

4. Ychwanegwch y siwgr

5. Gogor y blawd a’r halen a’i gymysgu i gyd.

6. Irwch dun bara 2lbs a ‘i  bobi am awr ar 150°C

Bwytewch efo haenen dew o fenyn!

Te yn Claridges

1 Gor

Dwi mond angen yr esgus lleiaf i fynd am afternoon tea, ac felly gyda dwy ffrind o Gaerdydd yn dod lawr i aros am y penwythnos, beth gwell i’w wneud na mynd i dre i siopa ac wedyn mynd am de ar ddiwedd y dydd.

Mae yna gymaint o lefydd yn Llundain i fynd i gael te, ond roeddwn i eisiau mynd a’r genod i Claridges, gan mai nhw oedd wedi ennill gwobr y tea guild am y te gorau yn Llundain y flwyddyn hon.

Nawr fel gwnes i sôn mewn blog arall roedd rhaid bwcio’r bwrdd fisoedd o flaen llaw, felly roeddwn i wedi bod yn edrych malen am y penwythnos yma ers peth amser. Ond gyda’r te yn costio £50 yr un (gyda service charge o 12.5% ar ben hynny) roedd genai ddisgwyliadau uchel iawn. Ond dwi’n falch o ddweud na chefais i fy siomi.

Roeddwn wedi bwcio bwrdd am hanner awr wedi pump, ac efallai eich bod chi’n meddwl bod hynny bach yn hwyr am baned a chacen, ond roedd yn hyn yn bwrpasol, fel ein bod ni yn ddigon llwglyd i wneud y mwyaf o’r danteithion, ac fel nad oedd angen swper arnom wedyn, ar ôl gwario cymaint!

Felly beth oeddem ni’n ei gael am £50?

Wrth gwrs roedd yna ddewis helaeth o de, ac fe es i am y Claridges royal blend, a dwn i’m faint o baneidiau wnes i yfed, paned dda!

Roedd ganddyn nhw fwydlen arbennig ar gyfer wimbledon felly ar ben y te arferol roeddem ni’n cael gwydraid o champagne rose a phlât o fefus a macarons mefus. Fel da chi’n gwybod dwi’n ffan MAWR o macarons ,ac roedd y rhain ymysg y gorau dwi wedi’i gael, dwi’n glafoeri rwan wrth feddwl amdanyn nhw.

Nawr fe fuaswn i wedi bod yn hapus efo hynny, ond roedd yn a lot mwy i ddod. Fe gawsom ni blât o frechdanau, dewis reit glasurol – samwn wedi’i fygu, wy, ciwcymbr, coronation chicken a ham. Roedd yn amlwg eu bod nhw wedi cael eu gwneud yn ffres ac roedden nhw mor neis fe gawsom ni blât arall.

Nesaf wrth gwrs oedd y sgons, dau fath, un efo cyrens ac un efo afal. Roedden nhw’n ysgafn iawn ac yn gynnes ac roedd y ‘tea-infused jam’ yn odidog.

Wrth edrych nôl mae’n anodd meddwl y gallem ni fwyta mwy ond dyna wnaethom ni, gydag ystod o gacennau a pastries i orffen. Y gorau gen i oedd y darten afal a’r gacen caws lemwn.

Ond nid dim ond y bwyd a’r te sy’n bwysig pan fyddwch chi’n cael afternoon tea, mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio, y stafell yr ydych ynddo a safon y gweini i gyd yn ychwanegu at y profiad.

Mae gwesty Clardiges yn hyfryd, ‘old school glamour’ go iawn. Mae’r ystafell fwyta yn reit fawr ond wedi ei rannu yn ddwy, sy’n wgneud iddo deimlo yn lot llai, ond mewn ffordd neis. Mae’r ystafell edrych yn reit art deco, mae yna lot o arian a drychau mawr ar y waliau – da chi’n gallu dychmygu eich hunain mewn rhaglen poirot!

Mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio yn hyfryd hefyd, streipiau gwyrdd a gwyn gydag ymyl arian, sy’n cyd fynd gydag addurn y stafell. Ond fy hoff beth i oedd y bocs bach arian yn dal y siwgr – hyfryd!

Roedd y staff gweini yn arbennig hefyd, doedd yna ddim snobyddiaeth o gwbl ac roedden nhw’n ein hannog ni i gymryd mwy o frechdanau a mwy o gacennau, rhywbeth sydd yn ennill ychydig o bwyntiau ychwanegol iddyn nhw yn fy marn i.

A cyn gadael fe gawsom ni anrheg, dau siocled hyfryd mewn bocs bach del,  i fynd adref gyda ni. Diwedd perffaith i bnawn perffaith. Sori does genai ddim byd gwael i ddweud am y lle, mae’r tea guild yn amlwg yn gwybod beth maen nhw’n siarad amdano!

Hendricks High Tea

20 Ebr

Dwi di bod am ddau ‘afternoon tea’ yn ddiweddar, roedd un yn ofnadwy ac un yn anhygoel – dwi bron a dweud y gorau dwi wedi’i gael hyd yn hyn.

Afternoon tea ydi fy hoff bryd i, hynny yw os ydio’n cyfri fel pryd. Fe fuasai’n well gennai fynd allan am de a chacen a brechdanau bach nag am swper neu ginio crand.

Hyd yn hyn y te gorau i fi gael, o bell ffordd, oedd yn y Lanesborough – dewis anhygoel o de oedd yn cael ei weini mewn tebot arian go iawn gan sommelier te, brechdanau a chacennau hyfryd a gwasanaeth penigamp. Ac mae’r gwesty ei hun yn hyfryd hefyd, felly tan rŵan doeddwn i ddim wedi canfod afternoon tea arall oedd yn gallu ei guro.

Ond wedyn fe ddois i ar draws adolygiad o’r Hendricks High Tea yn Hush. Bwyty a bar cocktail oddi ar New Bond Street ydi Hush felly roedd y profiad ychydig yn wahanol i fynd am de mewn gwesty mawr crand, ond fe gefais fy siomi ar yr ochr orau.

Yn lle gweini champagne efo’r te mae Hush yn gweini cocktails gin Hendricks. Nawr os nag ydych chi wedi trio gin Hendricks, ble da chi di bod, mae o’n hyfryd, gin efo hint o giwcymbr, be well!

Roeddem ni’n eistedd mewn stafell fwyta fach, reit breifat, ar y llawr cyntaf ac roedd y te yn cael ei weini mewn llestri Hendricks arbennig. Dwi wrth fy modd efo nhw, a fyswn i’n caru cael set fy hun adref.

                                                                                  Roedd y bwyd yn hyfryd, roedd yna nifer o frechdanau (salmon, wy, ciwcymbr a chyw iâr ac afocado ar fara poilâne) a sgons cynnes efo jam mefus, rhosyn a gwsberis a blodau ysgaw. A’r ‘piece de resistance’ oedd y detholiad o macarons – 6 blas gwahanol o salted caramel i pistachio – llawer gwell na’r cacennau bach da chi fel arfer yn ei gael a’r maint perffaith ar ol yr holl fwyd arall.

Ond y peth gorau am y te oedd y cocktails. Roedd yna ddewis hir a gwahanol iawn, ac yn y diwedd fe es i am y Royal Lady a fy nghariad johny am y Hush Wolfsberry. Ges i’r cocktail anghywir i ddechrau, ac er nad oeddwn i wedi sylwi ond fe ddaeth y gweinydd a’r un cywir draw yn fuan iawn, felly ges i ddau gocktail am bris un!

Roedd y Royal Lady wedi ei wneud efo Hendricks, Grand Marnier, ciwcymbr wedi ei garameleiddio a cinnamon ‘caviar’. Roedd y cocktail yn hynod gryf ond lyfli ac roedd y cinnamon caviar yn ddiddorol, ond do’n i’m yn rhy siŵr o’r texture – fatha bwyta penbyliaid!

Roedd yr Hush Woolfsberry yr un mor potent ac wedi ei wneud efo Hendricks, petalau rhosod, mwyar Goji a liqueur Goji.

Ar ôl cael dau cocktail roeddwn i’n reit hapus yn gadael, ond fyddai’n sicr yn ôl yn fuan, ac am £24.75 yr un am y te a’r cocktails, mae’n fargen i gymharu â rhai o westai Llundain – fyddai’n talu £50 am de yn Claridges fis Mehefin!

A ble oedd y te ofnadwy? … Gwesty St Brides. Gwasanaeth ofnadwy, brechdanau sych, te o fagiau te a chacennau di-ddim. Hynod siomedig ac am bris tebyg i’r te yn Hush. Dwi’n gwybod ble fydd yn cael fy arian i eto!