Archif | Uncategorized RSS feed for this section

Cyw iâr, pwmpen cnau menyn a gnocchi

23 Chw

Da chi’n gwybod bod swper yn llwyddiant pan fo’ch plentyn yn clirio ei blât ac yn rhoi cwtsh enfawr i chi fel diolch.

Dio’n sicr ddim yn digwydd yn aml, ond dyna yn union ddigwyddodd ar ôl i mi goginio’r pryd yma am y tro cyntaf. Ymateb gwych o ystyried mai’r unig beth wnes i oedd taflu llwyth o gynhwysion mewn tun a’u pobi.

Ar ôl diwrnod prysur, y peth olaf dwi eisiau ei wneud yw treulio oriau yn y gegin yn gwneud swper cymhleth ac wedyn gwario lot gormod o amser yn clirio’r llanast. Felly fy mwriad efo’r rysáit yma oedd creu rhywbeth syml a chyflym, oedd hefyd yn defnyddio’r cynhwysion prin oedd gen i yn yr oergell, achos i fod yn onest doedd gen i ddim mynadd mynd i’r siop chwaith!

Felly dyma daflu’r hanner pwmpen cnau menyn (butternut squash) oedd ‘di bod yn llechu yng ngwaleod yr oergell ers duw a ŵyr pryd, mewn i dun pobi efo cwpwl o foron, courgette oedd di gweld dyddiau gwell, ychydig o ewynnau o arlleg a chwe chlun cyw iâr.

Roedd gen i ychydig bach o pesto gwyrdd a phast tomato heulsych (sundried) oedd angen eu denfyddio felly fe gafodd hanner y cyw iâr eu gorchuddio gyda’r pesto a’r hanner arall gyda’r past tomato. Gallwch chi ddefnyddio un neu’r llall.

Yna i goroni popeth fe daflais ychydig o gnocchi i mewn hefyd. Does dim angen eu berwi, dim ond eu taflu i mewn yn syth o’r paced. Yn y diwedd fe fydd gennych chi gyw iâr blasus, llysiau sydd wedi’i coginio yn berffaith a gnocchi cras sydd hefyd wedi amsugno blas y cyw iâr a’r pesto a saws tomato.

Dwi’n ffan mawr o goginio mewn un badell, a gewch chi ddim swper symlach na hwn . Ond eto roedd o’n hynod flasus a llwyddiant ysgubol efo’r teulu cyfan. A dim ond un tun oedd i’w olchi ar y diwedd. Be well?

Cynhwysion

6 clun cyw iâr

1/2 pwmpen cnau menyn

2 foronen

corbwmpen (courgette)

6 ewyn garlleg (dal yn eu croen)

3 llwy de o pesto

3 llwy de o saws tomato heulsych

1 llwy fwrdd o olew olewydd

350g o gnocchi

Dull

Cynheswch y popty i 200C / 180C ffan / mar nwy 6.

Torrwch sleisys yng nghroen y cyw iâr, a’i osod mewn tun pobi.

Torrwch y bwmpen, moron a courgette yn dameidiau a’u gosod o gwmpas y cyw iâr efo’r garlleg.

Taenwch y pesto ar dri o’r darnau cyw iâr a’r saws tomato ar y gweddill.

Tywalltwch yr olew am ben y llysiau a’i roi yn y popty i goginio am 10 munud.

Ychwanegwch y gnocchi gan eu cymysgu yn y sudd a’r olew, cyn ei ddychwelyd i’r popty a choginio am 25/30 munud arall, hyd nes bod y cyw iâr wedi coginio a’r llysiau yn feddal.

Crempogau tatws melys

9 Chw

Dros y blynyddoedd rwyf wedi postio nifer o ryseitiau crempog gwahanol ar y blog, o grempog gyffredin, i ymerawdwr y crempogau- y kaiserschmarrn, a hyd yn oed rhai fegan. Ac ar ddydd Mawrth Ynyd mae gen i un arall i chi – crempogau tatws melys. Nawr peidiwch â throi eich trwynau yn syth, mae’r rhain yn llawer mwy blasus nag y maen nhw’n swnio.

Fe wnes i’r rhain yn gyntaf ar gyfer fy mab, gan ei fod o wrth ei fodd gyda thatws melys, ac maen nhw’n gwneud brecwast neu ginio perffaith ar gyfer plant sy’n dechrau bwyta gyda’u dwylo. Ond wrth gwrs roedd rhaid i mi eu trio hefyd, ac fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roeddwn nhw’n nhw ysgafn a blasus – yn enwedig gydag ychydig o ffrwythau ffres a surop masarn. Ac maen nhw’n dda i chi hefyd, gan fod tatws melys yn llawn maeth a fitaminau.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
Rydw i fel arfer yn coginio mwy na digon o datws melys pan fyddai’n bwydo’r mab, wedyn fe fydd hi’n bosib gwneud y rhain y diwrnod canlynol heb unrhyw drafferth.

Cynhwysion

100g o datws melys wedi’i goginio (tua 1 taten)

100g o flawd plaen

1/2 llwy de o bowdr codi

1/2 llwy de o soda pobi

1/2 llwy de o sinamon mâl

1 wy

100ml o laeth

 

Gwneud 12 crempog fach

 

Dull

Cynheswch eich popty i 220°C / 200°C ffan / marc nwy 8 a rhostiwch eich tatws melys am awr hyd nes eu bod yn feddal.

Gadewch i oeri, cyn tynnu’r croen a stwnsio’r cnawd.

Rhowch gnawd y tatws mewn prosesydd bwyd, neu ‘blender’ gyda’r holl gynhwysion eraill a’u prosesu nes ei fod yn llyfn.

Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros dymheredd cymedrol a rhowch lond llwy bwdin o’r gymysgedd yn y badell ar gyfer pob crempog. Coginiwch am ryw ddau funud ar bob ochr, hyd nes eu bod yn euraidd.

Ailadroddwch gyda gweddill y gymysgedd.

Bwytewch yn syth, tra’u bod nhw yn gynnes. Ond os ydych am gadw rhai i’w fwydo i’ch babi yn oer, fe fydden nhw’n cadw am gwpwl o ddiwrnodau yn yr oergell. Neu fe allwch eu rhewi hefyd, gan eu dadmer ar dymheredd ystafell.

Pobi – y llyfr newydd

2 Tach

IMG_7740

Wel mae’r llyfr newydd wedi’i gwblhau ac i’w brynu yn eich siop lyfrau lleol.

Ar ôl yr holl arbrofi, sgwennu a golygu roedd o’n foment gyffroes iawn pan ddaeth y copi cyntaf drwy’r post. Unwaith eto mae Warren Orchard wedi gwneud gwaith gwych o wneud i fi edrych yn hanner call ynddo a Dorry Spikes wedi gwneud job hyfryd gyda’r dylunio

Fel mae’r teitl yn awgrymu, llyfr yn llawn cacennau, bisgedi a phwdinau yw hyn unwaith eto. Ond doeddwn i methu sgwennu llyfr am bobi ac anwybyddu danteithion sawrus. Felly mae yna bennod o ryseitiau ar gyfer pastai, cracyrs a thartenni sawrus hefyd.

DS2_4877

Ond daeth yr ysbrydoliaeth gyntaf am y llyfr wrth feddwl am fisgedi retro fy mhlentyndod, felly dwi wedi creu fy custard creams, bourbons a jammy dodgers fy hun.

IMG_5898

IMG_5902

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn arbrofi gyda’r defnydd o berlysiau a sbeisys mewn cacennau felly mae ‘na gacen siocled a chilli, myffins llys a choriander a chacennau bach lemon a theim – swnio yn anarferol efallai, ond maen nhw i gyd yn blasu’n hyfryd dwi’n addo.

lemon a theim

DS2_7762

Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer y llyfr hwn, fe es yn ôl i Awstria er mwyn ymweld â Heinz ac Anita Schenk yn y gwesty ble bu’m yn gweithio flynyddoedd yn ôl. Mae Heinz yn bobydd o fri, ac roeddwn i’n lwcus iawn i ddod adref gyda rhai o’i hoff ryseitiau. Mae’r bara plethu melys yn odidog a’r beugels yn wahanol i unrhywbeth dwi wedi’i weld o’r blaen ond yn hynod flasus.

bara plethu2

DS2_7102

Unwaith eto dwi’n gobeithio bod yna rywbeth i demtio pawb yn y llyfr hwn boed chi’n ddibrofiad neu yn barod i fentro mae yn ryseitiau ar gyfer bisgedi syml, neu macarons mentrus. Mae yn glamp o gacennau mawr ar gyfer achlysuron arbennig fel y gacen enfys isod (yr yn y gwnes i ar gyfer fy mhriodas) neu’r gacen siocled a charamel hallt , ond mae yn bwdinau syml hefyd ar gyfer unrhyw ddydd.

macarons 6


cacen enfys

siocled a charamel2

Dwi mond yn gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli i estyn am y ffedog a mynd ati i bobi unwaith eto.

Diolch i bawb sydd wedi prynu Paned a Chacen, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r ail gyfrol yma cystal.

Crempogau banana di-glwten

4 Gor

crempog banana7

Dwi’n amlwg ar dipyn bach o ‘health kick’ ar hyn o bryd, achos dyma i chi rysáit iachus arall.

Fel yr oeddwn i’n dweud yn fy nghofnod diwethaf ar bwdin chia, dwi’n licio meddwl fy mod i’n bwyta’n weddol iach y rhan fwyaf o’r amser. Ond pan fo’r tywydd yn braf, fel mae hi wedi bod yn ddiweddar, dwi’n naturiol yn tueddu i fwyta salad a ffrwythau yn hytrach na rhywbeth trymach.

Wedi dweud hynny dwi wedi priodi yn ddiweddar a dwi’n mynd ar fy mis Mel ymhen mis, felly mae hynny wedi rhoi rheswm ychwanegol i mi chwilio am opsiynau sy’n is mewn braster a siwgr.

A dyma i chi grempogau sydd nid yn unig yn blasu’n hyfryd ac yn hawdd iawn i’w gwneud ond hefyd sydd heb unrhyw siwgr na glwten ynddyn nhw, ac yn isel mewn calorïau. A dweud y gwir yr oll sydd ynddyn nhw yw banana ac wy, gydag ychydig bach o bowdr codi a sinamon.

crempog banana

 

crempog banana3

Nawr mae’n amhosib credu y gall bananas ac wyau wneud crempog call, ond wir i chi drwy ryw ryfedd wyrth mae’n gweithio. Wrth gwrs dy nhw ddim cystal â chrempog arferol, ond maen nhw’n flasus. Ac yn berffaith os ydych chi’n gwylio’ch pwysau neu jyst eisiau brecwast sydd ychydig yn fwy iach. A gyda’r wyau a banana maen nhw’n fwyd perffaith i’w fwyta os ydych wedi bod yn gweithio’n galed yn y gym.

crempog banana6

 

Cynhwysion
1 banana mawr
2 wy
¼ llwy de o bowdr codi
½ llwy de o sinamon

Dull
1. Stwnsiwch y banana mewn powlen nes ei fod yn weddol lyfn, ond gydag ychydig o lympiau.
2. Ychwanegwch yr wyau a’u cymysgu yn dda cyn ychwanegu’r powdr codi a sinamon, a’u cymysgu eto.
3. Yna fel gyda chrempogau bach arferol, rhowch lond llwy mewn padell gynnes i goginio. Dwi’n tueddu i wneud rhyw 4 ar y tro.
4. Ar ôl munud neu ddwy trowch nhw drosodd a’u coginio am funud neu ddwy ymhellach.
5. Bwytewch gyda ffrwythau ffres ac ychydig bach o surop masarn.

Pwdin Chia

21 Meh

pwdin chia 3

O ddarllen y blog yma fe fuasai’n ddigon teg petae chi’n meddwl mai’r unig beth dwi’n ei fwyta yw cacennau.

Dwi’n addo nad yw hynny yn wir. A dweud y gwir,  dwi’n licio meddwl fy mod i’n bwyta’n iach y rhan helaeth o’r amser – dwi’n bwyta lot o ffrwythau, llysiau a physgod – ac yn trio osgoi gormod of fraster a siwgr.

Ond wrth gwrs popeth ‘in moderation’ ys dywed y Sais.

Felly ar benwythnos mi ydw i’n mwynhau darn o gacen, bisgedi neu darten heb deimlo’n euog. A bryd hynny dwi ddim yn poeni iot faint o fraster neu siwgr sydd ynddo!

Nawr dwi’n ddigon hapus yn bwyta salad drwy’r wythnos, yn enwedig pan mae’r tywydd fel hyn, ond dwi wastad yn teimlo’r angen am rywbeth melys ar ôl pryd. Yn aml bydd ffrwyth yn gwneud y tro, ond weiniau dwi eisiau rhywbeth sy’n teimlo ychydig bach yn fwy fel pwdin, rhywbeth mwy boddhaol, ond eto ydd ddim yn mynd i fynd yn syth ar fy mol.

Wel dwi wedi darganfod y pwdin iach perffaith. Mae’n falsus ac mae’n cael ei wneud â hadau chia, y ‘superfood’ diweddaraf.

pwdin chia5

Daw hadau chia yn wreiddiol o Fecsico ac roedden nhw’n elfen hanfodol o ddiet yr Astec a’r Mayan. Mae’n debyg bod yr Astecs yn talu eu trethi gyda’r hadau yma, a bod dwy lwy fwrdd yn ddigon i gadw milwyr i fynd am 24 awr. Ac mae’n hawdd gweld pam, mae’r hadau bach yn llawn ffibr, omega-3, calsiwm, protein – lot o bethau da.

Maen nhw’n ddarganfyddiad weddol newydd i mi, ond ers i mi eu prynu o’r siop bwyd iach lleol dwi wedi gwneud defnydd helaeth ohonyn nhw, gan eu hychwanegu at iogwrt, at uwd a hyd yn oed eu hysgeintio dros salad.

pwdin chia7

pwdin chia2

Er mwyn gwneud y pwdin yma dwi’n eu cymysgu gydag iogwrt plaen braster isel a’u gadael am o leiaf hanner awr, neu’n well fyth dros nos, hyd nes bod yr hadau bach yn amsugno rhywfaint o’r hylif ac yn chwyddo ac yn troi’n feddal. Yna dwi’n ychwanegu ychydig o riwbob wedi’i stiwio, neu fafon ffres a banana.

 

Mae’n bwdin syml, ond blasus, gyda’r hadau chia yn rhoi ychydig mwy o sylwedd i’r pwdin.

Cynhwysion

3 llwy fwrdd o iogwrt plaen braster isel
1 llwy de o hadau chia
2 lwy fwrdd o riwbob wedi’i stiwio (wedi’i wneud heb ormod o siwgr)
Neu 6 mafon a hanner banana.

Dull

Rhowch yr iogwrt a’r hadau mewn powlen a’i gymysgu, gorchuddio hi gyda cling film neu rhowch gaead am ei ben a rhowch yn yr oergell am o leiaf hanner awr, neu mwy o amser os oes gennych chi.

Yna cymysgwch y riwbob i mewn, neu os ydw i’n defnyddio ffrwythau ffres, stwnsiwch nhw rywfaint, cyn eu cymysgu at y pwdin.

Cacen riwbob a chwstard

11 Mai

 

DS2_9426

Hwre! Mae’n dymor riwbob a dwi’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r ffrwyth /llysieuyn hyfryd yma.

Gyda bwyd yn cael ei hedfan ar draws y byd, does yna ddim llawer o lysiau neu ffrwythau sy’n wirioneddol dymhorol erbyn hyn. Os ydych wir eisiau, maen bosib cael mefus yn ganol gaeaf yn yr archfarchnad, er eu bod nhw fel arfer yn blasu o ddim. Ond am hanner y flwyddyn mae hi’n amhosib cael gafael ar riwbob, felly’r munud mae o’n ymddangos yn yr ardd neu’r siop dwi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n cael fy nigon. Peidiwch â dweud wrth fy rhieni yng nghyfraith ond roeddwn i yn eu gardd yr wythnos diwethaf, tra’r oedden nhw i ffwrdd ar eu gwyliau, yn dwyn eu riwbob.

DS2_9302

Wrth gwrs dyw o ddim yn ddigon i mi wneud crymbl neu darten riwbob, dwi wastad yn chwilio am rywbeth newydd i’w wneud. Mae yna rysáit ar gyfer cacen gaws riwbob a sinsir yn Paned a Chacen, dwi hefyd wedi gwneud jam riwbob a sinsir, hufen ia crymbl riwbob a fodka riwbob. Ond eleni roeddwn i’n awyddus i wneud cacen oedd yn cyfuno’r ddau flas clasurol yna – riwbob a chwstard.

Ar ôl tipyn o arbrofi, a dwy gacen oedd yn llanast llwyr, fe lwyddais i greu dwy rysáit yr oeddwn i’n hapus iawn â nhw. Y gacen sbwng riwbob a chwstard yma a sgwariau crymbl riwbob a chwstard (rysáit i ddilyn).

Mae’r gacen yma gam i fyny o sbwng Fictoria arferol, dwi wedi ychwanegu almonau mâl at y sbwng ac wedyn yn y canol mae yna eisin menyn cwstard a riwbob wedi’i bobi. cacen berffaith ar gyfer te prynhawn ar ddiwrnod braf.

DS2_9398

 

DS2_9410

 

DS2_9420

 

Cynhwysion

200g o riwbob

2 lwy fwrdd o siwgr fanila

 

Ar gyfer y sbwng

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

3 wy

160g o flawd codi

60g o almonau mâl

 

Ar gyfer yr eisin

120g o fenyn heb halen

120g o siwgr eisin

1 llwy fwrdd  bowdr cwstard

200g o gwstard (unai un siop neis neu un cartref)

2 llwy de o fanila

 

 

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.

Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch waelod dau dun crwn 20cm.

Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.

Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.

Ychwanegwch y blawd a’r almonau mâl a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.

Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddau dun a’u coginio am 20 munud, nes eu bod yn euraidd a’r sbwng yn bownsio yn ôl wrth ei gyffwrdd. Gadewch i oeri yn y tun am 5 munud cyn eu tynnu allan a’u rhoi ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Tra bod y cacennau yn oeri gwnewch yr eisin drwy guro’r menyn

Curwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr eisin a’r powdr cwstard yn raddol gan barhau i gymysgu am 2-3 munud arall. Yna ychwanegwch y cwstard a’r fanila ‘i gymysgu yn dda am 2-3 munud arall nes ei fod yn drwchus.

Pan fydd eich cacennau wedi oeri yn llwyr, gosodwch un ar blât gweini, a thaenwch neu beipiwch (mae peipio yn gwneud iddo edrych yn lot fwy proffesiynol a deniadol, ond does dim rhaid) yr eisin am ei ben. Rhowch y riwbob am ben yr eisin wedyn, cyn gosod yr ail gacen am ei ben. Ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.

Clwb Pobi: Gwanwyn

24 Ebr

20140424-211916.jpg

Mae’n rhaid cyfaddef, yn ddiweddar dwi wedi bod yn aelod ofnadwy o fy nghlwb pobi lleol, Band of Bakers. Dwi wedi bod yn hwyr iawn i’r ddau ddiwethaf, yn cyrraedd jyst mewn pryd i rannu fy nghacennau fel roedd pawb arall yn gadael. Mae cywilydd arna i.

Ond roeddwn i’n digwydd bod i ffwrdd o’r gwaith yr wythnos hon, oedd yn golygu diwrnod cyfan i baratoi ac am unwaith roeddwn i ar amser. Hwre!

Ond beth i’w wneud? Y thema’r mis hwn oedd ‘Y Gwanwyn’, ac i ddechrau roeddwn i’n meddwl gwneud rhywbeth gyda riwbob, gan ei fod yn ffrwyth tymhorol iawn, ond roeddwn i’n amau y byddai yna lawer o aelodau eraill wedi meddwl yr un peth. Ac roeddwn i’n iawn roedd yna gacennau riwbob a sinsir, crymbl riwbob, meringue riwbob a llawer mwy.

Felly yn hytrach, fe benderfynais i wneud y mwyaf o’r holl amser oedd gen i baratoi drwy wneud hot cross buns. Dwi wedi bwyta digonedd ohonyn nhw dros yr wythnosau diwethaf, ond heb gael cyfle i wneud rhai fy hun eto, felly roedd hwn yn gyfle perffaith.

20140424-211811.jpg

20140424-211819.jpg

Dwi wrth fy modd gyda bynsen groes feddal, sy’n llawn sbeis a ffrwythau, yn enwedig wedi’i dostio gyda llwyth o fenyn hallt am ei ben.  Ac mae’r rhai yma weid’i gwneud gyda blawd spelt ac yn cynnwys darnau o afal er mwyn ychwnegu blas ychydig yn wahanol.

20140424-211847.jpg

Ond gyda digon o amser ar fy nwylo fe benderfynais wneud bynsen arall hefyd sef Semlor. Byns cardamom o Sweden, wedi’i llenwi gyda phast almon a hufen. Dwi wedi blogio am y rhain o’r blaen ac maer rysait yn llyfr Paned a Chacen hefyd, ac maen nhw’n hyfryd. Dyma mae’r Sgandinafiaid yn ei fwyta ar ddydd Mawrth Ynyd, ond doeddwn i heb fwyta na gwneud rhai eleni, tan rwan. Nawr dwi’n siŵr y byddai rhai Sgandinafiaid yn fy niawlio am wneud Semlor nawr, ond be di’r ots, dwi’n ddiogn hapus i fwyyta cacen neis unrhyw adeg o’r flwyddyn.

20140424-211835.jpg

20140424-211827.jpg

Dwi’n falch o ddweud bod y ddau fath o fynsen blesio criw Band of Bakers, ac fe gefais innau lond bol o ddanteithion blasus gan fy nghyd bobwyr. Roedd yna gacen lemon a prosecco hyfryd gan Gemma, tarten bakwell riwbob bendigedig gan Aimee, (y ddau i’w gweld isod)  bisgedi lemon a siocled gwyn gan Chloe.

20140424-211858.jpg

Ac am unwaith roedd yna lwyth o ddanteithion sawrus hefyd fel y pastai tseiniaidd gogoneddus ymagyda phorc a garlleg gwyllt yn y canol. Roed dyna hefyd darten asbaragwsa rhôl selsig pwdin gwaed a tsili blasus dros ben.

20140424-211906.jpg

20140424-211928.jpg

Dwi’n siŵr eich bod chi’n gweld pam fy mod i’n licio’r clwb yma gymaint.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyl Tafwyl

13 Meh

image001

Y penwythnos yma fe fydda i’n mynd nôl i Gaerdydd i gymryd rhan yng Ngŵyl Tafwyl.

Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol sy’n cael ei drefnu gan Fenter Caerdydd. Mae’r prif ddigwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed, ond fe fydd digwyddiadau ar draws Caerdydd drwy gydol yr wythnos.

Roedd gŵyl y llynedd yn llwyddiant ysgubol, yn anffodus doeddwn i ddim yn gallu mynd, felly roeddwn i’n falch iawn pan ges i wahoddiad i gymryd rhan eleni.

Mae’n edrych fel bod yna rywbeth i bawb yn Ffair Tafwyl dydd Sadwrn, gan gynnwys stondinau yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig (o weld y rhestr fe fydd yn rhaid i mi gofio fy mhwrs!); gweithdai llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama; a pherfformiadau byw gan ystod o artistiaid gan gynnwys un o fy hoff fandiau Cymraeg, Colorama.

Mae nhw wedi gofyn i mi gynnal sesiwn yn y babell goginio (ble arall?) am 1 o’r gloch. Sesiwn ar addurno cacennau bach fydd hi, felly os ydych chi eisiau gwybod y gyfrinach i eisin menyn ysgafn, neu’n cael trafferth peipio yn berffaith dewch draw. Dwi’n gobeithio dangos nifer o ffyrdd gwahanol o addurno a rhannu digon o tips ar sut i gael cacennau perffaith bob tro. Ac wrth gwrs ar ôl addurno’r cacennau fe fydd rhaid i rywun eu bwyta, felly fe fydd yna gegaid o gacen i’r rhai sydd yn dod i wrando (dim fy mod i’n eich llwgrwobrwyo gyda chacen!).

Dwi hefyd yn mynd i gael cyfle i lenwi fy mol, gan fy mod i’n beirniadu Bake Off Tafwyl gyda Nerys Howell. Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ac oedolion , gyda 3 chategori gwahanol i’r gwahanol oedrannau. Mae’n rhaid i blant dan 11, pobi ac addurno chwech fairycake, pobl ifanc dan 16 yn pobi ac addurno chwech cupcake, ac mae’n rhaid i’r oedolion bobi ac addurno cacen sbwng dwy haen neu fwy. Dwi’n disgwyl y bydd yna wledd o gacennau, a gyda rhyw 45 o blant ac oedolion wedi cofrestru, dwi’n amau na fyddai angen cinio wedyn!

Fe fydd Nerys a minnau yn cyhoeddi’r canlyniadau am 12 yn y babell goginio, dwi’n addo y byddai’n fwy o Mary Berry na Paul Hollywood wrth feirniadu.

Felly os ydych chi o gwmpas Caerdydd dydd Sadwrn, dewch draw i Ffair Tawfyl, mae yna lwyth o bethau yn mynd ymlaen a chofiwch bigo fewn i’r babell goginio i ddweud helo.

Diwrnod Crempog

12 Chw

20130212-080923.jpg

I lawer, dydd Mawrth Ynyd yw’r un diwrnod y flwyddyn pan maen nhw’n gwneud yr ymdrech i wneud crempogau. Ond dwi’n hapus i fachu ar unrhyw gyfle i wneud crempogau, boed nhw’n rai tenau fel sy’n draddodiadol i ni heddiw, neu grempogau tew Americanaidd i frecwast gyda bacwn a sudd masarn, neu hyd yn oed y Kaiserschmarrn o Awstria, sy’n gwneud pwdin neu hyd yn oed ginio barus.

Ond ar ddydd Mawrth Ynyd, dim ond y crempogau mawr tenau sy’n gwneud y tro, a dwi’n reit draddodiadol ac yn hoffi eu llenwi gyda menyn, siwgr a lemon ( a rhaid cyfaddef dwi’n ddigon hapus i ddefnyddio sudd lemon ffug ar y rhain, dyna da ni wastad wedi ei wneud ers yn blant). Yna byddaf eu rholio i fyny ac yn eu sglaffio yn sydyn, does dim angen cyllell a fforc. Ac os ydy un grempog yn unig yn eich digoni, yna rydych chi’n well person na fi o lawer!

20130212-081144.jpg

 

20130212-080911.jpg

Mae’n bosib prynu pob math o gymysgedd crempogau wedi’i gwneud yn barod yn y siopau y dyddiau hyn, ond beth all fod yn haws na chymysgu ychydig o flawd gydag wyau a llaeth?

Y broblem pam da chi’n eu coginio yw nad ydych chi byth yn cael nhw ar eu gorau, yn syth o’r badell yn chwilboeth.

Dyma chi’r rysáit , ond sut ‘da chi’n licio eich rhai chi?

 

Cynhwysion

110g blawd plaen

pinsied o halen

2 wy mawr

250ml llaeth (dwi’n defnyddio llaeth sgim gan mai dyna sydd yn y tŷ, ond defnyddiwch chi beth bynnag da chi eisiau)

25g menyn wedi’i doddi.

 

Dull

Hidlwch y blawd mewn i bowlen ac ychwanegwch yr halen

Cymysgwch y wyau mewn cwpan a gwnewch bant ynghanol y blawd a’u tywallt i mewn.

Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw.

Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau yn raddol. Fe fydd hynny sicrhau na fydd gennych chi unrhyw lympiau.
Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.

Pan fyddwch chi’n barod i goginio eich crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio, ac ychwanegwch ddau lond llwy fwrdd i’r cytew, a’i gymysgu yn dda.

Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur gegin i gael gwared ag unrhyw ormodedd o fenyn yn y badell, da chi ddim eisiau boddi eich crempog mewn menyn. (Dwi’n ffeindio drwy wneud hyn a drwy sicrhau bod y gwres yn ddigon uchel fe fydd hyd yn oed y grempog cyntaf yn berffaith).

20130212-081152.jpg

Yna gyda’r gwres i fyny yn uchel rhowch diogon o gytew yn eich padell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew yn gorchuddio’r badell yn hafal. Gofalwch i beidio â rhoi gormod, fe ddylen nhw fod yn eithaf tenau.

20130212-081243.jpg

Ar ôl rhyw funud neu ddau, fe ddylech chi weld swigod bach ar dop y grempog, trowch nhw drosodd a’u coginio am funud neu ddau yn bellach.

Bwytewch cyn gynted â da chi’n gallu.

Blwyddyn Newydd Dda!

4 Ion

IMG_3060

Ac am flwyddyn mae hi di bod.

Dwi methu coelio mai blwyddyn yn ôl y dechreuais i sgwennu’r llyfr, ac erbyn hyn mae llwythi o bobl wedi ei dderbyn fel anrheg Nadolig ac wedi bod wrthi yn coginio fy ryseitiau i.

Mae o wedi bod yn grêt gweld cymaint o bobl ar Twitter yn dweud eu bod nhw wedi derbyn y llyfr yn anrheg, a gwell fyth wedyn gweld lluniau o’r cacennau da chi wedi bod yn eu coginio. Diolch i chi gyd am fod mor gefnogol.

Felly 2013 beth sydd o fy mlaen?

Wel dwi’n mynd i barhau i ganfod ryseitiau gwahanol, pobi pethau newydd a chario mlaen i sgwennu am yr hyn dwi’n ei wneud.

panettone

Jyst cyn y Nadolig fe wnes i Panettone am y tro cyntaf gan ddefnyddio rysait Paul Hollywood, a hyd yn oed os dwi’n dweud fy hun roedd o’n hyfryd, felly dwi’n sicr yn mynd i arbrofi mwy gyda thoes melys tebyg ac mae’n rhaid fi ganfod amser i wneud croissants a danish pastries fy hun.

Ond wrth gwrs fyddai’n dal i wneud yr hen ffefrynnau, ac mae’n rhaid dweud dwi’n ffeindio’r llyfr yn ddefnyddiol iawn fy hun. Y paflofa yn y llyfr wnes i ar gyfer nos calan. Hen ffefryn wnaeth blesio pawb!

paflofa

Dwi hefyd angen sgwennu am rai o’r prydau hyfryd dwi wedi’i bwyta yn ddiweddar gan gynnwys te prynhawn yn yr Athenaeum. Dwi’n addo gwneud hynny yn fuan!

Gobeithio y bydd eich blwyddyn pobi chi’n llwyddiannus.