Gyda’r haul yn tywynnu o’r diwedd, fe ges i fy ngwahodd i farbeciw yn nhŷ ffrind. Roedd hi wedi gofyn i ni gyd ddod a rhywfaint o gig a diod gyda ni, ond wrth gwrs doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu troi fyny heb bwdin (dyna di’r broblem y dyddiau yma!). Felly’r cwestiwn mawr oedd beth i’w wneud yn bwdin ar gyfer barbeciw, pan fo rhaid teithio ar draws Llundain ar y tube?
Doeddwn i methu gwneud hufen ia, gan y byddai wedi toddi erbyn i mi gyrraedd, doeddwn i hefyd methu gwneud cacen neu darten neis gan fy mod i ar faglau ac yn gorfod stwffio popeth mewn rycsac. Y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd meringue, gan ei fod yn ysgafn a doedd dim ots mawr os oedd o’n malu rhywfaint yn fy mag.
Felly fe es ati i wneud nifer meringues bach, fel bod pawb yn cael un yr un. Y bwriad wedyn oedd mynd a hufen efo fi, a’i chwisgio yno, a’i weini efo ychydig o ffrwythau. Ond wrth gwrs ar ôl gwneud y meringues roedd gen i lot o felyn wy yn sbâr, a dwi ddim yn licio taflu dim. Felly ar ôl edrych ar beth oedd gen i yn y cypyrddau (rhyw foment ready steady cook bach!), fe ges i brên wêf o wneud ceuled lemon (neu lemon curd i’r rhan fwyaf ohonom). Fe fyddai’r ceuled lemon yn mynd yn berffaith gyda’r meringue melys a’r hufen.
Efallai bod ceuled lemon yn swnio’n strach i’w wneud, ond mewn gwirionedd mae’n hawdd iawn, ac yn reit sydyn hefyd. Fe wnes ei wneud fore’r barbeciw, gyda digon o amser iddo oeri.
Wrth gwrs does dim rhaid ei ddefnyddio fel ag y gwnes i, mae’n hyfryd ar dost neu crumpet, neu ynghanol sbwng Victoria.
Ceuled lemon
Cynhwysion
3 lemon (sudd a chroen)
150g siwgr mân
4 melyn wy, 1 wy cyfan
100g menyn heb halen
Dull
1. Rhowch y siwgr, sudd lemon, creon lemon wedi’i gratio’r wyau mewn powlen wnaiff ffitio dros sosban.
2. Rhowch fodfedd o ddŵr yn eich sosban i fudferwi a gosod y bowlen am ei ben, gan sicrhau nad yw’r gwaelod yn cyffwrdd y dŵr.
3. Cymysgwch gyda chwisg llaw, nes ei fod wedi cyfuno, yna ychwanegwch y menyn mewn lympiau bach.
4. Daliwch ymlaen i chwisgio nes ei fod yn edrych fel cwstard, dylai hyn gymryd rhyw 10-15 munud, fe fydd yn parhau i dewychu wrth oeri. Gofalwch eich bod yn cymysgu drwy’r amser, da chi ddim eisiau wyau wedi’i sgramblo.
5. Unwaith y bydd yn ddigon trwchus, trosglwyddwch i bot jam wedi’i sterileiddio (hynny yw wedi’i olchi yn y dishwasher, neu wedi’i olchi yn dda gyda dŵr a sebon, a’i sychu yn y popty ar dymheredd isel).
6. Rhowch gaead am ei ben a gadewch i oeri, cadwch yn yr oergell a defnyddiwch o fewn pythefnos.
Meringue
Cynhwysion
4 gwyn wy
150g siwgr mân
1 llwy fwrdd blawd corn
1 llwy fwrdd finegr gwyn
Dull
1. Cynheswch y popty i 120°C / 100°C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
2. Chwisgiwch y gwyn wy gyda chwisg drydan nes ei fod yn ffurfio pigau meddal.
3. Ychwanegwch y siwgr, un llwy ar y tro, a pharhewch i chwisgio nes ei fod yn bigau stiff.
4. Ychwanegwch y blawd corn a’r finegr a’i gymysgu yn dda gyda’r chwisg.
5. Peipiwch y meringue ymlaen i’r papur gwrthsaim, neu defnyddiwch lwy.
6. Coginiwch am 2 awr ac wedyn troi’r popty i ffwrdd a’u gadael yno nes ei fod yn oer.
Gweinwch y meringues gyda hufen a ‘r ceuled lemon.