Dwi wedi sôn o’r blaen fy mod i’n aelod o glwb pobi lleol – band of bakers. Rydym fel arfer yn cwrdd ryw unwaith y mis, yn pobi llwyth o gacennau, bisgedi neu fara sy’n cyd-fynd a thema benodol. Wedyn da ni’n eu bwyta i gyd, cael sgwrs a diod fach ac yna’n mynd ag unrhyw beth sydd ar ôl adref gyda ni. Mae’n syniad syml iawn ond yn lot o hwyl.
Ond roedd y cyfarfod diwethaf ychydig yn wahanol i’r arfer, y tro hwn roedd rhaid i ni bobi rhywbeth penodol allan o lyfr gwych y pobydd Dan Lepard – Short and Sweet. Nawr does yna ddim byd anarferol am hynny, a dweud y gwir mae’n un o fy hoff lyfrau pobi felly roedd o’n ddigon hawdd dewis rhywbeth i’w wneud.
Ond roedd yna bwysau ychwanegol y tro hwn gan ein bod ni’n pobi ar gyfer y dyn ei hun, yn ogystal â nifer o newyddiadurwyr gan mai dyna lansiad swyddogol ar gyfer fersiwn yr Iseldiroedd o’r llyfr.
Mae Dan Lepard yn dipyn o arwr i mi, fe wnes i ddod ar ei draws yn wreiddiol yn y Guardian. Mae o wedi bod yn ysgrifennu colofn ar bobi ers rhai blynyddoedd bellach, er mae o newydd stopio ysgrifennu i’r papur er mwyn canolbwyntio ar brosiectau eraill. Mae ei ryseitiau wastad yn ddiddorol, yn flasus ac o hyd yn llwyddianus, ac mae ei lyfr Short and Sweet yn feibl i unrhyw un sy’n hoffi pobi. Mae yna gyflwyniadau swmpus i bob pennod a channoedd o ryseitiau ar gyfer popeth o fisgedi, i fara ac o does i deisennau.
Felly doedd hi ddim yn hawdd dewis un rysáit o’r llyfr; ond gan fy mod i wrth fy modd yn pobi ac yn bwyta byns melys, fe benderfynais wneud ei ‘sticky toffee apple buns’. Doeddwn i ddim wedi gwneud y byns melys yma, sy’n llawn cnau pecan ac afalau wedi’i coginio mewn caramel o’r blaen, felly roedd o’n her ychwanegol, ond un wnes i ei fwynhau yn fawr.
Mae’r byns yn hyfryd, mae’r cnau pecan yn rhoi ansawdd neis, sy’n cyferbynnu gyda’r toes meddal, a’r afalau wedyn yn ychwanegu melysrwydd a rhywfaint o leithder sy’n eu stopi rhag mynd yn sych o gwbl.
Ar y noson roedd rhyw bump ar hugain ohonom wedi pobi danteithion o lyfr Dan, ac roedd y byrddau dan eu sang gyda chacennau, bisgedi, bara a phastai. Gwledd go iawn.
A chwarae teg i Dan roedd o’n glên iawn, ac yn llawn canmol o’n hymdrechion ni. Mae o’n foi hyfryd ac roedd o’n grêt cael sgwrs ef fo am bobi, a chlywed am yr hyn mae o am wneud nesaf. Fe ddywedodd ei fod yn gweithio ar lyfr am bobi traddodiadol o Brydain, gan gynnwys ryseitiau o Gymru. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld dehongliad rhywun o Awstralia o’n cacennau traddodiadol ni.
Roedd hi wir yn bleser cael bod yn rhan o’r noson ac o gael pobi ar gyfer rhywun mor dalentog â Dan Lepard.