Tag Archives: cacen briodas

Cacen briodas Lisa a Gwyddno

13 Meh

Y rheswm y dechreuais y blog yma, oedd gan fy mod i’n gwneud dwy gacen briodas eleni. Wel mae priodas rhif un wedi mynd a dod, felly dwi rwan yn rhydd i rannu’r hyn wnes i efo chi.

Priodas un o fy ffrindiau gorau Lisa oedd hwn, a’r gacen briodas oedd fy anrheg i iddi hi a’i gwr Gwyddno. Doedd Lisa ddim yn siwr os oedd hi eisiau cacen ffrwythau draddodiadol neu cupcakes, felly fe wnes i gynnig fy mod i’n gwneud y ddau iddi – dwy gacen ffrwythau a tua 70 o cupcakes.

Nawr gan fod y briodas yn Aberystwyth a minnau yn byw yn Llundain, roedd gwneud y cacennau yn bach o ‘logistical nightmare’!

Fe wnes i’r ddwy gacen ffrwythau nol ym mis Ebrill, felly’r unig beth oedd angen ei wneud gyda rheiny oedd eu gorchuddio gyda marsipan ac eisin a’u haddurno. Ond yn amlwg roedd rhaid gwneud y cupcakes ychydig ddiwrnodau cyn y briodas, a doeddwn i ddim yn ffansio cartio llond car o cupcakes o Lundain i Aberystwyth.

Yn y diwedd roedd fy chwaer i’n ddigon clên i adael i mi ddefnyddio ei chegin hi yn y Bermo i goginio’r cupcakes (gyda’r bonws ychwanegol bod ganddi Kitchenaid i leihau’r baich!) ac wedyn fe wnes i eisio ac addurno’r cacennau yn nhŷ fy mrawd yn Aberystwyth.

Y rysait wnes i ddefnyddio ar gyfer y vanilla cupcakes oedd yr un wnes i flogio yn ddiweddar, ac mae’n rhaid dweud eu bod nhw wedi gweithio allan yn berffaith.

Dyma liwiau Lisa ar gyfer y briodas ac felly y thema ar gyfer y cacennau hefyd. Pink, oren a navy.

Felly fe wnes i eisio’r cacennau i gyd gydag eisin gwyn a gwneud rhosod allan o flower paste ar gyfer y ddwy gacen ffrwythau, a chalonnau bach allan o sugarpaste ar gyfer y cupcakes.

Roedd yr holl broses yn dipyn o straen, gan fod yna gymaint i’w wneud ac mae diwrnod priodas rhywun mor bwysig, doeddwn i ddim am i unrhyw beth yr oeddwn i yn ei wneud i fynd o’i le.

Ond diolch byth roedd pawb yn hapus gyda’r cacennau a doedd na ddim un cupcake ar ôl ar ddiwedd y dydd. Felly roedd o’n werth o!

Roedd yn rhaid i fi gynnwys y llun yma, gan fod fy mrawd yn dweud bod gennyf yr un wyneb a fy mrawd bach ar ôl ennill rhywbeth yn yr eisteddfod!