Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers wythnosau a’r haf wedi cyrraedd ac mae hynny yn golygu bod yna geirios ffres yn y siopau (neu os ydych chi’n lwcus iawn, ar eich coeden). Mae tymor ceirios ffres yn un byr iawn, felly dwi wastad yn trio gwneud y mwyaf o’r cyfnod yma.
Mae gen i atgofion melys iawn o fwyta bagiad cyfan o geirios fel plentyn, hyd nes bod gen i fynydd o gerrig ar ôl. Nawr os ydych chi’n gallu osgoi eu bwyta nhw i gyd yn syth, mae’r gacen hon yn ffordd hyfryd o ddathlu hyfrydwch ceirios ffres.
Wrth gwrs os nad ydych chi’n gallu cael gafael ar geirios ffres yna ddefnyddio ceirios glacee yn lle, ond cofiwch eu golchi i ddechrau fel nad ydyn nhw’n or-felys.
Cynhwysion
300g o geirios (cyn tynnu’r cerrig)
125g o fenyn heb halen
150g o siwgr mân
2 wy
½ llwy de o rin almon
150g o flawd plaen
1½ llwy de o bowdr codi
100g o almonau mâl
20g o almonau tafellog
Dull
Cynheswch eich popty i 180C / 160C ffan / Nwy ac irwch a lein irwch waelod tun crwn 20cm sy’n cau gyda sbring (springform tin)
Torrwch y cerrig allan o’r ceirios. Mae’n bosib cael teclyn pwrpasol i wneud hyn sy’n gadael y ceirios yn gyfan , ond dwi’n eu torri’n hanner gyda chyllell finiog.
Yna gyda chwisg drydan, cymysgwch y menyn a’r siwgr am 5 munud nes eu bod yn olau ac yn ysgafn.
Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan sicrhau eich bod chi’n chwisgio’n drylwyr cyn ychwanegu’r ail wy.
Ychwanegwch y rhin almon a’i gymysgu yn dda, cyn ychwanegu’r blawd, powdr codi a’r almonau mâl a’u plygu i mewn i’r gymysgedd gyda llwy neu spatula.
Rhowch ryw 50g o’r ceirios i un ochr, a chymysgwch y gweddill i mewn i gymysgedd y gacen.
Trosglwyddwch y gymysgedd i’ch tun, a’i goginio am 30 munud. Wedi hanner awr tynnwch allan o’r popty ac ysgeintiwch yr almonau tafellog am ei ben, a Rhowch y ceirios sydd gennych yn weddill yn bentwr ar ganol y gacen. Rhowch yn ôl yn y popty i goginio am 10 munud arall, neu hyd nes bod sgiwer, o’i osod yng nghanol y gacen, yn dod allan yn lân.
Gadewch i oeri yn y tun, ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin cyn ei weini.