Ar ôl ychydig o ddiwrnodau braf a’r gobaith bod y gwanwyn ar ei ffordd mae fel petai’r tywydd wedi troi eto, a’r gwynt a’r glaw yn ei ôl. A pan fo’r tywydd fel hyn does dim ond un peth i’w wneud, swatio adra a choginio rhywbeth cynnes a chysurus.
A does dim byd gwell i fwytho’r enaid a’ch cynhesu o’r tu fewn na phwdin reis. Mae’n dod ag atgofion melys yn ôl i mi o ginio dydd Sul fel plentyn, pan fyddai mam wastad yn gwneud pwdin reis i ni. Er gwaethaf hynny oll dwi heb wneud nac hyd yn oed bwyta pwdin reis ers blynyddoedd, ond am ryw reswm dwi wedi cael yr awydd mwyaf i wneud un yn ddiweddar. Ond wrth gwrs, roedd yn rhaid i mi chwarae efo’r rysáit a chreu rhywbeth ychydig bach yn wahanol.
Felly yn hytrach na gwneud pwdin reis traddodiadol fe benderfynais wneud pwdin wedi’i ysbrydoli gan flasau sy’n gyffredin iawn mewn pwdinau o India – cnau coco, cardamom a mango. Does dim llaeth na hufen yn hwn, felly mae’n addas ar gyfer rhywun sy’n fegan – yn hytrach dwi’n defnyddio llaeth cnau coco, sydd nid yn unig yn rhoi blas hyfryd ond sydd hefyd yn rhoi’r ansawdd hufennog angenrheidiol yna ar gyfer pwdin reis. Mae’r cardamom yn cyfuno yn berffaith gyda’r cnau coco, ond os nad ydych yn ei hoffi does dim rhaid ei gynnwys, fe allech chi ychwanegu’r hadau o goden fanila yn lle.
Hefyd yn wahanol i bwdin reis arferol, mae’r un yma wedi’i wneud ar y stof yn hytrach nag yn y popty, er does dim rheswm pan na allech chi ei wneud yn y popty os da chi eisiau
Gweiniwch y pwdin yn gynnes neu yn oer, gyda thafellau o fango ffres ac ychydig o ganu pistasio am ei ben.
Cynhwysion
Tun 400ml o laeth cnau coco
400ml o ddŵr
120g o reis pwdin neu reis arborio
75g o siwgr mân
½ llwy de o gardamom mâl (neu os nad oes gennych gardamom mâl rhowch 2 goden cardamom yn y gymysgedd gan gofio eu tynnu allan cyn gweini)
Mango ffres
Ychydig o gnau pistasio heb halen i weini
Dull
Rhowch y llaeth cnau coco, y dŵr, reis, siwgr a’r cardamom mewn sosban gweddol drom a rhowch ar wres weddol uchel nes ei fod yn codi berw.
Yna trowch y gwres i lawr yn isel a’i adael i fudferwi am ryw 45 munud, nes bod y reis wedi coginio a’r gymysgedd yn drwchus a hufennog.
Trowch y gymysgedd yn gyson fel nad yw’n sticio i waelod y sosban.
Gweiniwch gyda thafellau o fango ffres ac ychydig o gnau pistasio.