Mae penwythnos hir yn golygu un peth i fi, digon o amser i botsian yn y gegin. Doedd gen i ddim llawer o gynlluniau dros benwythnos y Pasg, felly fe fachais ar y cyfle i bobi ychydig o bethau sydd angen amser ac amynedd i’w gwneud. Pethau na fuaswn i’n gallu eu gwneud ar benwythnos prysur arferol. Ar frig y rhestr wrth gwrs oedd hot cross buns, neu bynen y Grog yn Gymraeg (dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd efo’r blog ma!). Dwi wrth fy modd efo’r byns bach sbeislyd yma, yn enwedig wedi’i tostio a’u taenu efo menyn. Ond yn wahanol i’r arfer roeddwn i’n awyddus i drio eu gwneud nhw gyda blawd spelt y tro hwn. Dwi heb bobi gyda’r blawd yma o’r blaen ond mae’r pobydd o Norwy, Signe Johansen yn ei argymell yn ei llyfrau hi, ac fe ddywedodd wrthyf ei bod hi’n ei defnyddio mewn 90% o’i bara melys y dyddiau yma. Mae spelt yn wenith hynafol, oedd wedi mynd allan o ffasiwn, ond mae o i fod yn fwy iachus na gwenith arferol ac mae yn lot llai o glwten felly mae’n dda ar gyfer pobl sy’n sensitif i wenith.
Mae blawd spelt yn bihafio ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, fe wnes i ffeindio bod angen llai o hylif nag y buaswn i’n arferol, ond dyw’r diffyg glwten ddim yn effeithio ar y bara yn y pendraw, a dweud y gwir mae’n rhoi blas hyfryd i’ch byns.
Yn ogystal â chwarae gyda spelt roeddwn i hefyd eisiau trio rhywbeth hollol newydd, felly ar ôl pori drwy fy llyfrau fe benderfynais y buaswn i’n trio gwneud croissants am y tro cyntaf, gan ddilyn rysáit o lyfr gwych Richard Bertinet.
Nawr dwi erioed wedi trio gwneud croissants o’r blaen, yn bennaf gan ei fod yn cymryd cymaint o amser. Ond mewn gwirionedd dyw o ddim yn anodd, ond mae’r broses yn un hir wyntog, gan fod angen digon o amser i’r toes godi dros nos, ac mae’n rhaid gadael i’r toes orffwys rhwng bob cam.
Er bod y broses yn un llafurus, roedd o’n werth o yn y diwedd i gael croissants cartref ffres. Roedden nhw’n hyfryd, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu y buasent nhw’n troi allan cweit mor dda. Rydych chi’n gallu rhewi’r toes hefyd cyn eu coginio, felly rwan mae gen i lond rhewgell o croissants yn barod i’w dadmer pan fyddai awydd un eto. Fe ddywedodd rhywun ar twitter yn ddiweddar bod Pasg yn wyliau llawer gwell na’r Nadolig, does ‘na ddim y pwysau na’r disgwyliadau i borthi’r pum mil na’r angen i lynu at fwydlen ddogmatig, ac felly mae rhywun yn tueddu i’w fwynhau yn fwy. Ac mae’n rhaid dweud fy mod i’n cytuno, dwi’n cael digon o amser i bobi, ond teimlo fy mod i’n gallu gwneud hynny yn fy amser fy hun a gwneud yn union beth dwi eisiau. O weld trydar pobl dros y dyddiau diwethaf dim fi yw’r unig un, mae’r byg pobi wedi bachu llawer. Beth arall sy’n well pan fo’r tywydd yn dal i fod mor oer.
Mwynhewch y pobi a’r wyau siocled!
Tag Archives: croissant
Pobi dros y Pasg
1 Ebr- Sylwadau Gadael Sylw
- Categorïau bara, pastry, pobi
Fi
Fy enw i ydi Elliw Gwawr a dwi'n caru cacennau. Felly dyma gofnod o'r hyn dwi'n ei bobi a'i fwyta.
Cofnodion Diweddar
Chwilio
Categorïau
Archif
- Chwefror 2019 (2)
- Ionawr 2019 (1)
- Chwefror 2016 (1)
- Tachwedd 2015 (2)
- Hydref 2015 (2)
- Gorffennaf 2015 (1)
- Ebrill 2015 (2)
- Mawrth 2015 (3)
- Chwefror 2015 (3)
- Ionawr 2015 (4)
- Tachwedd 2014 (2)
- Gorffennaf 2014 (3)
- Mehefin 2014 (1)
- Mai 2014 (4)
- Ebrill 2014 (1)
- Mawrth 2014 (5)
- Hydref 2013 (2)
- Gorffennaf 2013 (2)
- Mehefin 2013 (1)
- Ebrill 2013 (3)
- Mawrth 2013 (1)
- Chwefror 2013 (3)
- Ionawr 2013 (4)
- Rhagfyr 2012 (1)
- Tachwedd 2012 (4)
- Hydref 2012 (6)
- Awst 2012 (1)
- Mehefin 2012 (1)
- Mai 2012 (1)
- Ebrill 2012 (2)
- Mawrth 2012 (2)
- Chwefror 2012 (4)
- Ionawr 2012 (4)
- Rhagfyr 2011 (5)
- Tachwedd 2011 (6)
- Hydref 2011 (4)
- Medi 2011 (4)
- Gorffennaf 2011 (7)
- Mehefin 2011 (4)
- Mai 2011 (2)
- Ebrill 2011 (4)
- Mawrth 2011 (6)
- Chwefror 2011 (4)