Tag Archives: ffrwythau

Torth Simnel

7 Ebr

IMG_1156

Dyma fy fersiwn i o gacen simnel, mae’n bell o fod yn draddodiadol – mae hi’n symlach ac yn ysgafnach na chacen simnel arferol, ond eto mae blas traddodiadol y ffrwythau sych a’r marsipan yn dal i ddisgleirio. Er yn y dorth hon dwi’n ychwanegu darnau o farsipan at y gymysgedd, fel eich bod yn cael blas o farpsian meddal ym mhob cegaid.

Byddai wedi bod yn rysáit perffaith ar gyfer y Pasg, yn anffodus, roeddwn i ychydig yn rhy brysur yn dal fyny efo ffrindiau a theulu, ac yn bwyta gormod, i bostio’r rysáit mewn digon o amser. Ond does dim rheswm pan na allech ei wneud unrhyw adeg o’r flwyddyn, mae’n gacen hyfryd i’w gweini gyda phaned o de, pan fydd gennych ymwelwyr.

Cynhwysion

300g o ffrwythau sych cymysg

60g o geirios glacee wedi’u torri yn chwarteri

croen a sudd 1 oren

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

4 wy

300g o flawd codi

50g o almonau mâl

1 llwy de o sbeis cymysg

2 llwy fwrdd o laeth

150g o farsipan

4 llwy fwrdd o siwgr eisin

sudd ½ oren

 

Dull

Cynheswch y popty i 170ºC / 150ºC ffan / marc nwy 4, ac irwch a leiniwch dun torth dau bwys.

Rhowch y ffrwythau sych a’r ceirios i socian gyda’r croen a sudd oren.

Gyda chwisg drydan curwch y menyn am funud nes ei fod yn feddalach yn llyfn yna ychwanegwch y siwgr a’i guro am 4 munud ymhellach nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro gan sicrhau eich bod chi’n curo’r gymysgedd yn drwyadl rhwng pob un. Os ydych yn poeni bod y gymysgedd yn dechrau ceulo yna ychwanegwch lond llwy fwrdd o’ch blawd gyda’r wy.

Yna ychwanegwch y blawd, almonau mâl, a sbeis cymysg, a’i blygu i mewn gyda spatula neu lwy bren. Llaciwch y gymysgedd rhywfaint gyda’r llaeth, cyn torri’r marsipan yn ddarnau a’u hychwanegu at y gymysgedd.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a’i goginio am 1 awr 20 munud, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri yn llwyr. Yna addurnwch gydag eisin wedi’i wneud drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd oren.

 

 

Tegan Newydd

11 Gor

DS2_9679 DS2_9682

Sori os ydw i’n swnio fel rhyw dôn gron ynglŷn â bwyta’n iach y dyddiau hyn (dwi’n addo blog am gacen go iawn yn fuan) ond roedd rhaid i mi flogio am fy nhegan newydd – y nutribullet. Yn ôl y cwmni nid ‘juicer’ na ‘blender’ mo hwn ond ‘superfood nutrition extractor’ – sydd wrth gwrs yn swnio fel nonsens llwyr. Ond anghofiwch am beth mae’r cwmni yn ei ddweud, yr hyn ydi o yw blender hynod o gryf, sy’n gwneud smoothies perffaith mewn munud. Gallwch hyd yn oed ychwanegu cnau, llysiau caled, neu afalau gyda’u croen ac fe fyddwch chi’n dal i gael diod lyfn.

Nawr mae’n rhaid cyfaddef fy mod i yn y gorffennol wedi bod yn ddigon parod i wneud hwyl am ben pobl oedd yn yfed eu llysiau, ond ers prynu hwn, mae’n ddrwg gen i ddweud fy mod i nawr yn un o’r bobl hynny . A dweud y gwir mae smoothie gwyrdd yn reit flasus. Efallai bod diod wedi’i wneud gyda sbigoglys neu kale yn edrych fel chwd kermit y frog, ond o’u cymysgu gyda ffrwythau fyddwch chi ddim yn eu blasu, er wrth gwrs rydych chi’n dal i gael y maeth.

DS2_9642

 

DS2_9658

 

DS2_9634

Dwi wedi bod yn yfed un o’r rhain i frecwast bob dydd ers pythefnos ac wedi gwneud pob math o gyfuniadau gwahanol.

  • sbigoglys, ciwcymbr, mafon a mango
  • sbigoglys, afocado, nectarin, grawnwin, lemon a flaxseed
  • letys, afocado, banana, mango a chnau cashew
  • sbigoglys, brocoli, ciwcymbyr, melon, mango a sinsir

Yn syml dwi’n taflu pa bynnag lysiau a ffrwythau sydd gen i yn y potyn a’u cymysgu i fyny gydag ychydig o ddŵr neu laeth reis, gan ychwanegu ychydig o hadau chia neu flax a dyna ni, diod blasus sy’n eich llenwi ac sy’n dda i chi hefyd. Dwi’n siŵr nad ydi o i bawb, ond dwi wrth fy modd gyda fy nhegan newydd  – ac mae unrhywbeth sy’n fy annog i fwyta mwyaf o lysiau a ffrwythau yn dda yn fy marn i.