Tag Archives: hufen ia

Hufen iâ crymbl riwbob

13 Gor

hufen ia crymbl riwbobDwi’n caru riwbob, mae’n un o fy hoff ffrwythau ( ok dwi’n gwybod mai llysieuyn ydio, ond tydio ddim yn swnio’n iawn), felly pan ges i gynnig llond bag mawr o riwbob o ardd y rhieni yng nghyfraith, roeddwn i wrth fy modd.

Roedd yna gymaint o bethau y gallwn i fod wedi’i gwneud efo nhw, ond gan fy mod i hefyd wedi cael benthyg peiriant hufen ia fy mam yng nghyfraith, roeddwn i’n awyddus i geisio gwneud rhyw fath o hufen iâ. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r riwbob sawrus yn cyferbynnu yn berffaith gyda’r hufen melys, wel da ni gyd yn gwybod pa mor dda ydi riwbob a chwstard. Ond dwi’n licio ychydig mwy o ansawdd yn fy hufen iâ, felly dyna ble daeth y syniad o ychwanegu crymbl iddo.

hufen ia crymbl riwbob 2

 

hufen ia crymbl riwbob 3

Dwi’m yn licio canmol fy hun  (ok mi ydw i weithiau!) ond dyma’r hufen iâ gorau i mi ei wneud, ac yn agos iawn i fod fy hoff flas erioed – wel heblaw am yr un afal yn Odettes, mae hwnna yn anhygoel!

 

Cynhwysion

400g riwbob

150g siwgr mân

1 llwy fwrdd o sudd lemon

80g blawd plaen

50g menyn

40g siwgr brown meddal

40g ceirch

4 melynwy

300ml hufen dwbl

450ml llaeth

150g siwgr mân

½ pod fanila

 

Dull

Dechreuwch drwy goginio’r riwbob a’r crymbl, gan fod angen gadael iddyn nhw oeri cyn gwneud yr hufen ia.

Cynheswch y popty i 210°C / 190°C ffan

Rhowch y riwbob, sudd lemon a siwgr mewn dysgl sy’n iawn i fynd yn y popty, a’u coginio am 30 munud.

Yn y cyfamser gwnewch y crymbl drwy rwbio’r menyn i mewn i’r blawd gyda’ch bysedd, nes ei fod yn edrych fel briwsion. Yna ychwanegwch y siwgr a’r ceirch a’i gymysgu.

Taenwch ar dun pobi, a’i goginio yn yr un popty am 10 munud, gan ei droi hanner ffordd trwy’r amser coginio.

Gadewch y crymbl i oeri yn llwyr, ond ar ôl gadael i’r riwbob oeri rhywfaint, rhowch mewn prosesydd bwyd neu blender nes ei fod yn llyfn. Rhowch yn yr oergell i oeri yn llwyr.

Er mwyn gwneud yr hufen ia curwch y siwgr a’r melynwy mewn powlen a thynnwch yr hadau o’r pod fanila a’u hychwanegu at y siwgr ar wyau.

Mewn sosban, cynheswch y llaeth , gyda’r pod fanila sydd ar ôl, nes ei fod jyst yn dechrau codi berw.

Tynnwch y pod fanila allan a thywallt y llaeth cynnes dros y wyau a’r siwgr, gan ei chwisgio yr holl amser.

Trosglwyddwch yr holl gymysgedd yn ôl i mewn i’r sosban, a’i gynhesu eto, gan ei droi gyda llwy bren yr holl amser, nes ei fod yn tewychu. Dylai fod yn ddigon trwchus i orchuddio cefn eich llwy, ond gwnewch yn siŵr nad ydio’n berwi o gwbl.

Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi yn ôl mewn powlen, gyda haen o cling ffilm reit ar wyneb y cwstard (er mwyn osgoi ffurfio croen), a’i adael i oeri.

Unwaith y bydd popeth wedi oeri, ychwanegwch yr hufen at y cwstard a’i gymysgu yn dda, yna ychwanegwch y riwbob a’i gymysgu.

Rhowch yn eich peiriant hufen iâ, a pan fydd o’n dechrau mynd yn drwchus ac yn rhewi, ychwanegwch eich crymbl.

Pan fydd wedi rhewi digon rhowch mewn bocs plastig a’i gadw yn y rhewgell.

Os nad oes gennych chi beiriant hufen ia, rhowch yr hufen ia yn syth mewn bocs plastig a’i rewi am ddwy awr, yna tynnwch allan a’i gymysgu yn dda gyda chwisg neu fforc. Ailadroddwch bob rhyw awr, a pan fydd o’n ddigon trwchus gallwch ychwanegu’r crymbl.

Dyw o ddim yn gwneud hufen iâ cweit mor dda â pheiriant ac efallai y bydd yn rhaid ei adael i ddadmer ychydig cyn gweini, ond fe fydd yn dal i flasu’n hyfryd. Os ydych yn gwenud hufen ia fel hyn, weithiau mae’n helpu i roi sloch o alcohol ynddo, gan ei fod yn golygu na fydd yn rhewi mor galed, mae vodka yn dda, gan nad oes blas iddo.

 

hufen ia crymbl riwbob 4

Baked Alaska

11 Chw

Ddydd llun fe fyddai’n feirniad ar raglen Cog1nio, rhaglen debyg i junior masterchef. Fe fyddai’n gwneud masterclass efo’r plant ac wedyn yn beirniadu eu hymdrechion nhw.

Yr hyn fydd yn rhaid i’r plant ei goginio bydd baked Alaska. Bach o blast from the past ond rhywbeth fydd, gobeithio, yn herio’r plant.

Mae rhoi hufen ia mewn popty yn swnio yn hollol hurt, ond mae’r meringue yn gweithio fel ynysydd da. A gan mai dim ond am ychydig o funudau da chi’n rhoi’r pwdin yn y popty (jysd digon i setio’r meringue) dyw’r gwres ddim yn cyrraedd yr hufen ia.

Mae’n bosib gwneud un pwdin mawr ond fe wnes i rai bach unigol. Er doeddwn i dal methu gorffen un cyfan gan ei fod mor gyfoethog. Roedd o’n flasu iawn, mae’r meringue meddal un cyferbynnu yn hyfryd efo’r hufen ia oer, a’r sbwng ar y gwaelod yn rhoi ansawdd gwahanol. Ond wir maen nhw mor felys roeddwn i’n bownsio oddi ar y waliau! Felly os da chi isio sugar hit, triwch un o’r rhain.

 

Cynhwysion

Cacen sbwng (gwnewch un eich hun, neu prynwch un o’r siop)
Jam
Hufen ia (pa bynnag flas da chi eisiau)
3 gwyn wy
125g siwgr caster

 

Dull

1. Cynheswch y popty i 220C / 200C ffan.

 

2. Torrwch sleisen o’r gacen a thorri cylch allan (neu os da chi’n ddiog fel fi torrwch sgwâr, dio’n gwneud dim gwahaniaeth). Gosodwch y gacen ar hambwrdd pobi sydd wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim.

3. Taenwch ychydig o jam ar y gacen a gosod pelen o hufen ia am ei ben. Rhowch yn y rhewgell i’w gadw yn oer tan da chi wedi gwneud eich meringue.

4. Er mwyn gwneud y meringue gwahanwch y wyau a gosod y gwyn wy mewn bowlen fawr lân. Nawr mae’n bwysig bod y fowlen yn hollol lân heb unrhyw saim arni neu bydd y wyau ddim yn chwisgio yn iawn.

5. Chwisgwch y gwyn wy ar gyflymder isel i ddechrau, gan gynyddu’r cyflymder yn raddol. Unwaith da chi’n gallu gwneud copaon meddal gyda’r gwyn wy, gallwch ychwanegu’r siwgr. Gwnewch hyn un llwy fwrdd ar y tro, gam barhau i chwisgio nes bod eich wyau yn drwchus ac yn sgleiniog.

6. Nawr tynnwch eich sbwng a hufen ia o’r rhewgell a gorchuddiwch gyda’r meringue. Gwnewch yn siŵr nad oes yna unrhyw dyllau o gwbl, yn enwedig o gwmpas gwaelod y gwaelod.

7. Coginiwch yn y popty am ryw 4 munud, neu nes bod y meringue wedi dechrau brownio ar y tu allan. Gweinwch a bwytewch yn syth.

Hufen ia fanila ddefnyddiais i, ond defnyddiwch pa bynnag flas da chi’n licio. Hefyd os da chi’n licio siocled beth am roi cacen siocled neu brownie siocled ar y gwaelod a defnyddio hufen ia siocled. Hyfryd!

 

 

 

 

 

 

Cupcakes lemon a cupcakes hufen ia

25 Tach

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda cupcakes yn ddiweddar, mewn ymdrech i wneud rhywbeth ychydig bach yn fwy diddorol na chacen fanila gydag eisin fanila. Felly dwi wedi creu dau newydd –  cupcakes lemon a cupcakes hufen ia, gyda sypreis bach ynghanol y ddau.

Fe ddefnyddiais y rysait ar gyfer cupcakes fanila fel sail i’r ddwy gacen, ond ar gyfer y gacen lemon fe wnes i gyfnewid y fanila am ychydig o groen lemon wedi’i gratio.

Er mwyn ychwanegu ychydig mwy o flas i’r cacennau fe dorrais dwll ymhob un o’r cacennau, ar ôl eu coginio,  a llenwi’r rhai lemon gyda lemon curd a’r rhai fanila gyda jam mafon. Sypreis bach neis pan da chi’n brathu mewn iddyn nhw! Mae modd gwneud hyn efo cyllell, ond fe ddefnyddiais i declyn i dynnu canol afal – oedd yn torri twll bach perffaith yng nghanol y cacennau.

Fe ddefnyddiais i eisin menyn fanila arferol ar gyfer y cacennau hufen ia. Ond ar gyfer y cacennau lemon,  fe wnes i eisin menyn heb y fanila ond gan ychwanegu ychydig o sudd lemon ac i orffen fe wnes i gratio ychydig bach mwy o groen lemon ar eu pen (da chi’n meddwl bod yna ddigon lemon yn y cacennau yma?).

Roeddwn i eisiau gwneud i’r cupcakes hufen ia edrych fel hufen ia 99 traddodiadol. Felly fe roddais eisin menyn fanila ar dop y gacen a thywallt ychydig o saws mafon ar ei ben, ac wrth gwrs mae angen flake ar ben pob un hufen ia gwerth chweil!