Tag Archives: jam

Jam Eirin

26 Gor

 

20110726-075507.jpg

Mae mam a dad fy nghariad yn tyfu pob math o lysiau yn eu gardd nhw a da ni wastad yn gadael efo bag o ffa neu ychydig o gourgettes. Ond pan oeddem ni lawr yna n ddiweddar fe fuom ni’n eu helpu nhw i gasglu eirin oddi ar goeden yn yr ardd. Roedd y goeden yn llawn dop o eirin, ac roedd o’n amlwg nad oedden nhw’n gallu defnyddio’r holl eirin yma eu hunain, felly fe ges i lond bocs i fynd adra efo fi.

Unwaith y cyrhaeddais adref fe bwysais yr eirin ac roedd gen i bron i 4kg ohonyn nhw. felly’r peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd gwneud jam eirin. Nawr doeddwn i erioed wedi gwneud jam unrhyw fath o’r blaen, ond pan oeddwn i’n iau roedd nain yn gwneud jam eirin bob blwyddyn, o’r eirin gwyllt yr oedd hi a taid yn eu casglu ar y ffordd i’n fferm yn Llanfachreth.

Felly fe nes i chwilio am ryseitiau ar y we, ac yn syml yr hyn oedden nhw i gyd yn ei ddweud oedd bod angen yr un pwysau o siwgr a ffrwythau ac ychydig o ddŵr.

Felly fe wnes i dynnu’r cerrig i gyd allan, er ar ôl siarad efo nain yn hwyrach, does dim angen gwneud hyn , gan ei bod hi’n bosib pysgota nhw’i gyd allan ar ôl stiwio’r ffrwythau am ychydig. Wedyn fe roddais i bopeth mewn dwy sosban anferth a dechrau stiwio’r eirin yn araf gyda rhyw 1.5-2 beint o ddŵr.

Yna fe ychwanegais y siwgr, ychydig ar y tro, gan wneud yn siwr bod y siwgr i gyd yn toddi cyn ychwanegu mwy. Mae’n bwysig sicrhau bod y siwgr i gyd wedi toddi yn llwyr, yna mae angen berwi’r jam ar dymheredd uchel. Mae angen gwneud hyn tan mae’r jam yn cyrraedd y pwynt setio.

Y ffordd gorau o sicrhau bod y jam wedi cyrraedd y pwynt setio, yw cadw soser yn y rhewgell, ac yna rhoi llond llwy o’r jam ar y soser oer, a’i roi yn ôl yn y rhewgell am ryw funud. os yw’r jam yn ffurfio croen wrth ei wthio efo’ch bys, yna mae’n barod. os ddim parhewch i ferwi tan fod hyn yn digwydd.

Nawr roedd y ryseitiau i gyd yn dwud bod y pwynt yma yn cyraedd ar ol rhyw 10 munud o ferwi, ond dim i fi, roeddwn i wrthi am lot hirach. Efallai bod rhywun yn gallu dweud pam wrthai. Ond mae’r jam wedi setio yn iawn rwan felly maen rhaid fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn.

Unwaith mae’r jam yn barod, mae angen ei oi mewn jariau sydd wedi ei steryleiddio. Y ffordd gorau o wneud hyn yw eu golchi a’u rhoi yn y popty ar dymheredd o 120C am ryw hanner awr. Mae angen gadael i’r jariau oeri ychydig, ond mae angen iddyn nhw fod yn gynnes pan fddwch yn tollti’r jam iddyn nhw, neu fe fydden nhw’n cracio.

Fel y gwelwch chi, roedd genai lwyth o jam, felly roedd on lwcus fy mod i’n un sy’n cadw jariau jam ar gyfer adegau fel hyn! Dwi’m yn meddwl y byddai angen prynnu jam am sbel rwan!