Tag Archives: mafon

Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

2 Hyd


Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond dyw o ddim yn gacen ar gyfer dathliad, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth llawer mwy trawiadol. Felly gyda’r gacen lemon yn ysbrydoliaeth, fe es ati i wneud cacen lemon a mafon, gyda’r dyw haen o gacen lemon a haen ar all yn y canol wedi’i wneud gyda’r mafon ffres. Rhwng pob haen wedyn roedd yna eisin menyn lemon, ceuled lemon a mwy o fafon ffres. Addurnais y cyfan gydag eisin menyn lemon wedi’i liwio yn felyn a phinc, er mwyn rhoi rhyw syniad o’r hyn oedd y tu fewn.

IMG_1334
Roedd yna glod mawr i’r gacen ymysg ei deulu, ac roedden nhw’n amlwg wedi’i fwynhau achos dim ond un darn gefais i cyn yr oedd y gacen wedi diflannu yn llwyr.
Yn sicr dyw hon ddim yn gacen ar gyfer pob dydd ond mae’n berffaith ar gyfer achlysur arbennig pan mae yna ddigon o bobl i’w bwydo.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cynhwysion 

300g o fenyn heb halen

350g o siwgr mân

5 wy

350g o flawd plaen

3 llwy de o bowdr codi

Croen un lemon wedi’i gratio

100g o fafon

Ar gyfer yr eisin

375g o fenyn heb halen

700g o siwgr eisin

Sudd un lemon

Croen hanner lemon wedi’i gratio

Past lliw melyn a pinc

I orffen y gacen

Sudd un lemon

100g o Siwgr eisin

100g o fafon

Ceuled lemon

Dull

  • Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch dri thun crwn 20cm a leinio’r gwaelod gyda phapur gwrthsaim.
  • Rhowch y menyn mewn powlen a’i guro am funud gyda chwisg drydan nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y siwgr yn raddol a’i guro am 5 munud arall nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.
  • Nawr ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu’n drwyadl gyda’r chwisg drydan rhwng pob un. Os ydych yn poeni ei fod yn mynd i geulo ychwanegwch lwy fwrdd o flawd rhwng pob wy.
  • Hidlwch y blawd a’r powdr codi i mewn a’i gymysgu gyda llwy neu spatula.
  • Rhannwch y gymysgedd yn hafal rhwng tair powlen, gan ychwanegu’r croen lemon at ddau a’r mafon wedi’i stwnsio at y llall a chymysgwch yn ofalus.
  • Rhowch eich cymysgedd yn y tri thun a’u coginio am 25-30 munud, hyd nes bod y sbwng yn euraidd a bod sgiwer sy’n cael ei osod ynghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri yn y tuniau am rai munudau cyn eu trosglwyddo i rwyll fetel i oeri yn llwyr.
  • Yn y cyfamser gwnewch surop drwy gynhesu sudd un lemon gyda’r siwgr eisin.
  • Os nad yw eich cacennau yn wastad, torrwch y topiau i ffwrdd efo cyllell fara yna brwsiwch y ddwy gacen lemon gyda’r surop.
  • Er mwyn gwneud yr eisin, cymysgwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch sudd a chroen y lemon a’r siwgr eisin yn raddol. Cymysgwch yn dda am 4-5 munud.
  • Gosodwch un o’r cacennau lemon ar eich plât gweini, a thaenwch haen o eisin am ei ben yn ogystal â rhywfaint o geuled lemon a hanner y mafon (wedi’i stwnsio) sydd yn weddill. Gosodwch y gacen mafon am ei ben, a gwnewch yr un peth eto. Rhowch y drydedd gacen (yr un lemon) ar y top a gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau o’r eisin. Fe fydd yr haen yma yn dal y briwsion i gyd ac yn gweithio fel sylfaen i’r haen olaf o eisin, felly does dim rhaid iddo fod yn rhy daclus nac yn rhy drwchus.
  • Rhowch y gacen yn yr oergell am 30 munud fel bod yr eisin yn caledu. Ar ôl i’r haen gyntaf o eisin setio, rhannwch yr eisin sy’n weddill rhwng pedwar powlen, gadewch un yn wyn, lliwiwch un yn binc a’r ddau arall yn felyn, ond gydag un yn dywyllach na’r llall.
  • Gorchuddiwch dop y gacen gyda’r eisin gwyn, gan ei wneud mor llyfn â phosib gyda chyllell balet. Yna yn fras Rhowch haen o eisin pinc p gwmpas gwaelod y gacen, yn a’r melyn golau, gan orffen gyda’r melyn tywyll. Ewch dros y cyfan gyda chyllell balet i’w wneud yn llyfn, gan sicrhau bod y lliwiau yn llifo i mewn i’w gilydd, a’r melyn yn lledaenu i’r top hefyd.

Pwdin Chia

21 Meh

pwdin chia 3

O ddarllen y blog yma fe fuasai’n ddigon teg petae chi’n meddwl mai’r unig beth dwi’n ei fwyta yw cacennau.

Dwi’n addo nad yw hynny yn wir. A dweud y gwir,  dwi’n licio meddwl fy mod i’n bwyta’n iach y rhan helaeth o’r amser – dwi’n bwyta lot o ffrwythau, llysiau a physgod – ac yn trio osgoi gormod of fraster a siwgr.

Ond wrth gwrs popeth ‘in moderation’ ys dywed y Sais.

Felly ar benwythnos mi ydw i’n mwynhau darn o gacen, bisgedi neu darten heb deimlo’n euog. A bryd hynny dwi ddim yn poeni iot faint o fraster neu siwgr sydd ynddo!

Nawr dwi’n ddigon hapus yn bwyta salad drwy’r wythnos, yn enwedig pan mae’r tywydd fel hyn, ond dwi wastad yn teimlo’r angen am rywbeth melys ar ôl pryd. Yn aml bydd ffrwyth yn gwneud y tro, ond weiniau dwi eisiau rhywbeth sy’n teimlo ychydig bach yn fwy fel pwdin, rhywbeth mwy boddhaol, ond eto ydd ddim yn mynd i fynd yn syth ar fy mol.

Wel dwi wedi darganfod y pwdin iach perffaith. Mae’n falsus ac mae’n cael ei wneud â hadau chia, y ‘superfood’ diweddaraf.

pwdin chia5

Daw hadau chia yn wreiddiol o Fecsico ac roedden nhw’n elfen hanfodol o ddiet yr Astec a’r Mayan. Mae’n debyg bod yr Astecs yn talu eu trethi gyda’r hadau yma, a bod dwy lwy fwrdd yn ddigon i gadw milwyr i fynd am 24 awr. Ac mae’n hawdd gweld pam, mae’r hadau bach yn llawn ffibr, omega-3, calsiwm, protein – lot o bethau da.

Maen nhw’n ddarganfyddiad weddol newydd i mi, ond ers i mi eu prynu o’r siop bwyd iach lleol dwi wedi gwneud defnydd helaeth ohonyn nhw, gan eu hychwanegu at iogwrt, at uwd a hyd yn oed eu hysgeintio dros salad.

pwdin chia7

pwdin chia2

Er mwyn gwneud y pwdin yma dwi’n eu cymysgu gydag iogwrt plaen braster isel a’u gadael am o leiaf hanner awr, neu’n well fyth dros nos, hyd nes bod yr hadau bach yn amsugno rhywfaint o’r hylif ac yn chwyddo ac yn troi’n feddal. Yna dwi’n ychwanegu ychydig o riwbob wedi’i stiwio, neu fafon ffres a banana.

 

Mae’n bwdin syml, ond blasus, gyda’r hadau chia yn rhoi ychydig mwy o sylwedd i’r pwdin.

Cynhwysion

3 llwy fwrdd o iogwrt plaen braster isel
1 llwy de o hadau chia
2 lwy fwrdd o riwbob wedi’i stiwio (wedi’i wneud heb ormod o siwgr)
Neu 6 mafon a hanner banana.

Dull

Rhowch yr iogwrt a’r hadau mewn powlen a’i gymysgu, gorchuddio hi gyda cling film neu rhowch gaead am ei ben a rhowch yn yr oergell am o leiaf hanner awr, neu mwy o amser os oes gennych chi.

Yna cymysgwch y riwbob i mewn, neu os ydw i’n defnyddio ffrwythau ffres, stwnsiwch nhw rywfaint, cyn eu cymysgu at y pwdin.