Tag Archives: moron

Cacen foron a courgette

11 Ebr

IMG_1158

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith.

Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael y gwanwyn. Mae’n braf gweld yr holl ffrwythau a llysiau ffres yn y siopau ac mae’r gacen hon yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw.

Dwi wedi gwneud cacen foron o’r blaen a chacen corbwmpen (courgette) o’r blaen, ond pam ddim cyfuno’r ddau. Maen nhw’n llysiau perffaith ar gyfer cacennau, maen nhw’n rhoi digon o felysrwydd a lleithder, i’r gacen, a da ni’n gallu perswadio ein hunain ei fod ychydig yn fwy iach na chacen arferol! Er bod yna wyau, does dim cynnyrch llaeth, felly er nad yw’n fegan, mae’n berffaith i’r rheiny ag alergedd i laeth.

IMG_1159

Fe fuasech chi’n gallu rhoi eisin caws meddal am ben y gacen hon, ond dwi’n meddwl bod eisin oren syml yn berffaith, gan ei fod yn gadael i flas y llysiau i ddisgleirio.

Cynhwysion

180g o siwgr mân
180g o siwgr brown
4 wy
300ml o olew rapeseed
200g o foron wedi’i gratio
150g o gorbwmpen (courgette) wedi’i gratio
120g o syltanas
croen 1 oren wedi’i gratio
300g o flawd plaen
1/2 llwy de o soda pobi
1/2 llwy de o bowdr codi
2 lwy de o sbeis cymysg
pinsied o halen

Ar gyfer yr eisin

150g o siwgr eisin
sudd un oren

Dull

Cynheswch y popty i 160C ac irwch dun bundt yn dda (dwi’n defnyddio olew pobi pwrpasol y gellir ei chwistrellu ymlaen er mwyn cyrraedd pob twll a chornel). )

Rhowch y siwgr a’r wyau mewn powlen a’u curo gyda chwisg drydan am 5 munud, nes eu bod yn olau ac yn ysgafn.

Gyda’r chwisg yn dal i guro, ychwanegwch yr olew yn araf fel ei fod yn cyfuno yn llwyr.

Nawr ychwanegwch y moron, corbwmpen, syltanas a chroen yr oren a’i gymysgu gyda spatula neu lwy.

Nawr ychwanegwch y blawd, soda pobi, powdr codi, sbeis cymysg a halen a’i blygu i mewn.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a phobwch am awr, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun cyn ei dynnu allan, yna gwnewch yr eisin drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd yr oren a’i dywallt am ben y gacen.

 

 

 

Cacennau moron iach (ish!)

6 Rhag

Dwi di recordio eitem arall ar gyfer rhaglen Blas ar Radio Cymru. Fe fydd o’n cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd pan fydd y rhan fwyaf ohonom ar ryw fath o ddiet. Felly fe fues i’n trafod cacennau iachus efo Rhodri Williams.

Nawr dyw cacen byth yn mynd i fod cweit mor dda i chi ag afal neu ryvita, ond mae’n bosib gwneud cacen sydd ychydig yn fwy iachus na’r arferol. Trwy, er enghraifft, leihau’r braster, defnyddio blawd wholemeal neu ddefnyddio llai o siwgr.

Ond yn bersonol dwi’m yn siwr os oes yna bwynt. Yn anffodus cacen sy’n llawn siwgr a braster sydd fel arfer yn blasu orau! Felly os ydych chi ar ddiet, rhowch y gorau i’r cacennau am y tro, neu bwytewch gacen bob nawr ag yn y man. ‘Everything in moderation’ ynte!

Er hynny dwi wedi ymdrechu i ganfod rysait ar gyfer cacen fydd ddim yn eich gwneud chi deimlo’n hollol euog, ond sydd hefyd yn blasu’n dda. A gan mai cacennau moron yw’r rhain, dwi’n licio perswadio fy hun eu bod nhw’n cyfri tuag at fy ‘five a day’!

Felly dyma fo’r rysait ar gyfer cupcakes moron iach (ish!)

Cynhwysion

1 oren
140g cyrens
125ml olew rapeseed
115g blawd plaen wholemeal
115g blawd codi wholemeal
1 llwy de o bowdr codi
1 llwy de bicarbonate of soda
1 1/2 llwy de o mixed spice
140g siwgr brown golau
280g moron wedi’i gratio (tua 4-5)
2 wy

Dull

1. Cynheswch y popty i 160C / 140C fan.
2. Gratiwch groen yr oren a gwasgwch sudd hanner oren. Cymysgwch gyda’r cyrens a’u gadael i socian tra’ch bod chi’n paratoi gweddill y gacen.


3. Rhannwch un o’r wyau gan roi’r gwyn wy mewn un bowlen a’r melyn mewn bowlen arall. Ychwanegwch yr wy arall at y melynwy.
4. Ychwnaegwch y siwgr a chymysgwch gyda chwisg trydan am 2-3 munud.
5. Cariwch ymlaen i gymysgu ar bwer isel ac ychwanegwch yr olew yn araf.
6. Mewn bowlen arall cymysgwch y ddau flawd, powdr codi, bicarbonate of soda a’r mixed spice. Ychwanegwch at y siwgr ag wy, hanner ar y tro, a’i gymysgu gyda llwy bren neu spatula blastig. Fe fydd y gymysgedd yn stiff iawn ar y pwynt yma, ond peidiwch â phoeni.
7. Ychwanegwch y moron a’r cyrens (gan gynnwys unrhyw hylif) at y blawd.
8. Nawr ychwanegwch binsied o bowdr codi at y gwynwy sydd ar ôl a’i gymysgu gyda chwisg trydan nes ei fod yn bigau meddal.
9. Plygwch y gwynwy yn ofalus i mewn i’r gymysgedd gyda blawd.
10. Llenwch gesys muffin gyda’r gymysgedd, a’i bobi am 30 munud.


11. Gadewch i oeri a gorffenwch gyda ychydig bach o eisin wedi ei wneud gyda sudd oren.