Tag Archives: Oren

Cacen orennau bach a marmalêd – rysait o’r llyfr newydd

19 Hyd

20131019-192659.jpg

Dwi wedi bod yn reit dawel ar y blog yma yn ddiweddar, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod wedi rhoi’r ffedog o’r neilltu a’i bod hi wedi bod yn dawel yn y gegin. I’r gwrthwyneb, dwi wedi bod yn pobi fel ffŵl yn ddiweddar, yn gwneud pob math o ddanteithion wrth i mi arbrofi gyda ryseitiau newydd. Os ydych chi’n fy nilyn ar twitter neu instagram fyddwch chi wedi gweld y dystiolaeth. Dyw popeth ddim wedi bod yn llwyddiant wrth gwrs (fe wnes i gacen siocled sych ar y diawl!), ond mae yna rai sy’n mynd i fod yn ffefrynnau i mi am flynyddoedd i ddod dwi’n siŵr.

Ond pam yr holl bobi ma a’r diffyg blogio? Wel dwi’n ysgrifennu llyfr arall – Paned a Chacen 2 (mae’n rhaid i mi feddwl am enw gwell cyn cyhoeddi!) Llyfr pobi arall fydd hon, gyda ryseitiau ar gyfer pob achlysur. Mae yn fisgedi ‘retro’ fel custard creams a bourbons, cacennau gydag ychydig o ‘wow factor’ ar gyfer achlysuron arbennig, ac fe fydd yna hyd yn oed bennod ar bobi sawrus.

Felly fel tamaid bach i aros pryd, dyma un o’r ryseitiau y gwnes i’r penwythnos yma, cacen orennau bach a marmaled. Mae Johny eisoes wedi datgan hon fel un o’i hoff ryseitiau gen i erioed! Dwi’n gobeithio y bydd hi’n eich plesio chi cymaint.

Cynhwysion

    4 oren bach (rhywbeth fel clementines)
    200g o siwgr mân
    400ml o ddŵr
    200g o fenyn heb halen
    200g o siwgr mân
    3 wy
    250g o flawd codi
    4 llwy fwrdd o farmaled (y gorau gallwch ei gael)
    2 lwy fwrdd o laeth

    Dull

      1. Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan ac iro a leinio tun crwn dwfn.
      2. Torrwch yr orennau bach yn dafellau tua 0.5cm gan gael gwared a’r ddau ben ar bob un.
      3. Rhowch y siwgr a’r dŵr mewn sosban a’i gynhesu nes bod y siwgr wedi toddi, yna ychwanegwch y tafellau oren a’u coginio am ryw 5 munud ymhellach, nes eu bod yn feddal ond yn dal eu siâp.
      4. Tynnwch allan o’r surop siwgr a’u rhoi i un ochr.
      5. Parhewch i ferwi’r surop nes ei fod yn ludiog a hadwch tan yn hwyrach ymlaen.
      6. Curwch y menyn am funud gyda chwisg trydan, yna ychwanegwch y siwgr a’i guro am 4 munud arall nes ei fod yn ysgafn ac yn olau.
      7. Ychwanegwch yr wyau un ar y tro, gan sicrhau eich bod yn cymysgu yn llwyr rhwng pob un.
      8. Nawr ychwanegwch y marmaled a’i gymysgu, cyn plygu’r blawd i mewn ac wedyn y llaeth.
      9. Gorchuddiwch waelod eich tun gyda’r tafellau oren, yna rhowch gymysgedd y gacen am ei ben yn ofalus gan sicrhau nad yw’r orennau yn symud.
      10. Coginiwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o ganol y gacen yn lân.
      11. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am ychydig , cyn ei droi allan ben i waered, fel bod yr orennau ar y top.
      12. Defnyddiwch sgiwer i wneud ychydig o dyllau yn y gacen, a thywallt y surop y coginiwyd yr orennau ynddo am ei ben (mae’n annhebyg y byddwch ei angen i gyd).

      Macarons siocled oren

      4 Tach

      Fe ddysgais i lot ar y cwrs macarons efo Edd Kimber, ac roeddwn i’n hapus iawn efo sut oedd y macarons yn blasu ac yn edrych. Ond y prawf mawr oedd efelychu’r llwyddiant gartref. Felly ar ôl prynu thermomedr siwgr, (pwy feddylia y bydden i byth yn prynu’r ffasiwn beth!) fe es ati i drio gwneud rhai fy hun.

      Fe benderfynais i wneud rhai siocled oren, dwn im pam, ond feddylies i y byddai macarons lliw oren gyda ganache siocled yn y canol yn edrych yn ddel.

      Am ryw reswm fe gefais i ychydig o broblem gyda fy meringue Eidalaidd, roedd o’n edrych ychydg bach yn fflat. Er dwi’n rhoi’r bai ar y chwisg trydan, gan bod un o’r attachements wedi torri! (roedd hyn cyn i mi brynu’r kitchenaid) Ond er gwaethaf y problemau roedd y macarons yn edrych yn iawn ar ôl eu coginio.

      Er mwyn gwneud y ganache fe wnes i doddi 220g o siocled tywyll blas oren, mewn 240ml o hufen dwbl oedd newydd ferwi, ac yna cymysgu 50g o fenyn fewn i’r cwbl, a’i adael i oeri nes oedd yn ddigon trwchus i’w beipio rhwng y macarons.

      Dwi’n edrych mlaen rwan i’w gwneud gyda’r kitchenaid newydd, dwi’n siwr y bydd o’n llawer haws.

      Cacen oren a passion fruit

      1 Hyd

      Dwi di bod yn slacio efo’r blogio ma yn ddiwedar, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydwyf wedi bod yn pobi. A dweud y gwir dwi wedi bod yn trio pob math o bethau newydd, gan gynnwys bara, felly mae yna ddigon i ddod dros yr wythnosau nesaf.

      Ychydig o wythnosau yn ôl fe brynais lyfr newydd Edd Kimber, The Boy Who Bakes. Cyn i mi drio unrhyw un o’r ryseitiau roeddwn i’n gwybod ei fod yn mynd i fod yn un o fy ffefrynau. Mae yna gymaint o ryseitiau gwahanol a blasus yr olwg, dwi’n gallu gweld fy hun yn trio pob un. Mae hyn yn anarferol iawn i mi, dwi fel arfer yn gwneud ryw ddau neu dri rysait allan o lyfr cyn colli diddordeb a symud ymlaen at y nesaf.

      Y gacen caramel a sinamon wnaeth dynnu fy sylw yn gyntaf, ond mae honno yn gacen gyda tair haen ac ar gyfer digwyddiad arbennig, neu lot fawr o bobl llwglyd. Felly yn anffodus fe fydd yn rhaid iddo aros tan rywbryd arall.

      Roeddwn i’n chwilio’n benodol am gacen y buaswn i’n gallu ei gludo yn hawdd i’r gwaith, gan fy mod i unwaith eto wedi addo gwneud cacen i fy nghydweithwyr. A’r gacen oedd yn ffitio’r brîff yn berffaith oedd y gacen oren a passion fruit. Mae cacen lemon drizzle wedi dod yn dipyn o ‘signature cake’ i fi erbyn hyn, ac mae’r gacen yma yn debyg iawn, ond yn cyfnewid oren am y lemwn a gyda’r ychwanegiad hyfryd o eisin passion fruit ar ei ben. Cyfuniad perffaith!