Tag Archives: pastry

Tartenni afal

13 Hyd

Mae cyfres arall o’r Great British Bake Off wedi dod i ben ac fel y cyfresau eraill cyn hyn, dwi wedi mwynhau hon yn aruthrol, ac yn hapus iawn o weld Nadiya yn ennill. Pencampwr haeddiannol yn fy marn i, wnaeth gynyddu mewn hyder wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen gan greu cacennau trawiadol a blasus iawn yr olwg wythnos ar ôl wythnos.

Fel y dywedodd un person wrtha i ar twitter nos Fercher, ‘dyma dy world cup di ynte?’ – wel ia o bosib, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn mynd i fod yn hapus yn ei wylio adra ar fy mhen fy hun. O na, fe wnes i wylio’r rownd derfynol ar sgrin fawr mewn tafarn, gyda llond ystafell o gyd bobwyr a mwy na digon o gacennau a gwin.

A dweud y gwir dwi wedi bod yn cwrdd â grŵp o ffrindiau yn rheolaidd i wylio’r rhaglen, ac yn aml yn pobi rhywbeth i gyd fynd gyda themâu’r wythnos. Yn ystod wythnos toes y rhaglen, fe wnes i’r tartenni bach afal yma. Crwst pwff menynaidd, gydag afalau yn gorwedd ar bast almon melys. Tartenni bach trawiadol sydd mewn gwirionedd yn hawdd iawn i’w gwneud.

Fe wnes i fy nghrwst pwff fy hun, a wir i chi mae’n lot haws nag y buasech chi’n ei feddwl os ydych yn dilyn fy rysáit ar gyfer ‘rough puff’. Ond os yw amser yn wirioneddol yn brin yna does yna s dim byd yn bod gyda defnyddio paced da o does pwff, cyn belled mai un wedi’i wneud gyda menyn ydi o.  Ond rhowch gyfle arni unwaith o leiaf.



Cynhwysion
Ar gyfer y crwst

250g o fenyn oer

250g o flawd plaen

1 llwy de o halen

150ml o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad
80g o fenyn heb halen

80g o siwgr mân

1 wy

80g o almonau mâl

15g o flawd plaen

1 wy

1 llwy de o rym

2 afal

25g o fenyn wedi toddi

50g o siwgr mân

1 llwy fwrdd o jam bricyll wedi’i gynhesu efo llwy de o ddwr.


Dull

  • Torrwch y menyn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen.
  • Gyda’ch dwylo rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bras. Rydych dal eisiau darnau gweddol fawr o fenyn ynddo.
  • Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn tylino’r toes, fe ddylai fod yn reit lympiog.
  • Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a siapiwch eich toes fel ei fod yn ffurfio petryal. Nawr roliwch allan o’ch blaenau i un cyfeiriad fel bod gennych un darn hir o does tua 30cm x 15cm.
  • Plygwch draen o’r toes i lawr ar ben ei hun, cyn plygu’r traean gwaelod i fyny am ben hwnna, fel petai chi’n plygu llythyr!
  • Nawr trowch y toes 90°, a’i rolio unwaith eto mewn un cyfeiriad nes ei fod tair gwaith mor hir eto. Ailadroddwch y plygu, cyn ei lapio mewn cling film a’i roi yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar ôl iddo oeri yn ddigonol, roliwch a phlygwch ddwywaith eto. Fe fyddwch wedi rholio a phlygu pedair gwaith erbyn y diwedd. Rhowch yn ôl yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C / Nwy 6 a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
  • I wneud y past almon chwisgiwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am ychydig funudau hyd nes eu bod yn ysgafn ac yn olau. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n dda, yna plygwch yr almonau, y blawd a’r rym i mewn i’r gymysgedd.
  •  Rholiwch eich toes nes ei fod yn drwch ceiniog punt. Yna gyda thorrwr siâp cylch tua 4 modfedd ar draws, torrwch 10 o gylchoedd allan.
  • Gosodwch ar dun pobi wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim, a phrociwch ganol pob un gyda fforc.
  • Rhowch yn ôl yn yr oergell am o leiaf 20 munud.
  • Yn y cyfamser pliciwch eich afalau, torrwch y canol allan a sleisiwch yn dafellau tenau.
    Tynnwch y cylchoedd toes o’r oergell a thaenwch lond llwy de o’r past almon yn y canol a gosodwch dafellau afal am ei ben mewn patrwm del.
  • Brwsiwch y menyn wedi toddi am eu pennau ac ysgeintiwch gyda siwgr mân. Coginiwch am 15 munud neu hyd nes bod y crwst yn euraidd a’r afalau yn dechrau lliwio.
    Gadewch i oeri ar rwyll fetel.
  •  Wrth aros iddyn nhw oeri cynheswch y jam a’r dŵr mewn sosban a brwsiwch am ben y tartenni i roi sglein deniadol iddynt.

Peis bach cyw iâr a chennin

1 Maw

peis cyw iarDydd Gŵyl Dewi Hapus bawb.

Mae’n braf gweld cymaint yn dathlu diwrnod ein nawddsant y dyddiau hyn. Ac efallai na fydd yn eich synnu fy mod i wedi defnyddio hwn fel esgus i bobi cacs bach (cacennau cri / pice ar y maen). Dwi wedi postio’r rysáit o’r blaen ac mae o yn y llyfr cyntaf hefyd, ond mae gen i rysáit addas arall dwi di bod yn bwriadu ei bostio ers peth amser – peis bach cyw iâr a chennin.

Mae yna rywbeth cysurus iawn am bei cynnes, mae’r llenwad sawrus a chrwst euraidd am ei ben yn ddigon i gynhesu calon unrhyw un, felly beth well ar ddiwrnod fel hyn. Mae’r cyfuniad o gyw iâr a chennin yn glasur, ond yn hytrach na gwneud un pei mawr i rannu dwi’n licio gwneud rhai bach unigol. Mae’r rhain yn hyfryd yn gynnes ond yr un mor hyfryd yn oer, ac mae eu maint yn golygu eu bod yn berffaith ar gyfer picnic.

Cynwhysion

Ar gyfer y crwst

60g o fenyn

60g o lard

240g o flawd plaen

½ llwy de o halen

60ml o ddŵr

 

Ar gyfer y llenwad

2 brest cyw iâr

1 llwy fwrdd o olew olewydd

2 genhinen

1 clof o arlleg

1 llwy fwrdd o flawd corn

½ llwy de o deim sych

1 llwy de o fwstard Dijon

½ litr o stoc cyw iâr

25ml o hufen

1 wy

 

Dull

Gwneud 8 pei bach

Torrwch y menyn a’r lard yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen. Gan ddefnyddio eich dwylo, rhwbiwch y menyn a’r lard i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel brwision.

Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.

Lapiwch y toes mewn cling film a’i roi i orffwys yn yr oergell am o leiaf hanner awr tra’ch bod chi’n gwneud eich llenwad.

Torrwch y cyw iâr yn ddarnau gweddol fach a’u rhoi mewn sosban i ffrio yn yr olew nes eu bod yn dechrau brownio.

Torrwch y cennin yn ddarnau bach a malwch y garlleg yn fân a’u hychwanegu at y cyw iâr, a’u coginio nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y blawd corn yna’r teim, mwstard a’r stoc a’i adael i fudferwi nes bod yr hylif wedi lleihau a thewychu. Pan fydd y saws yn drwchus ychwanegwch yr hufen a digon o bupur. Tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i oeri.

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch y toes allan nes ei fod yn 4-5 mm o drwch. Torrwch 8 o gylchoedd allan sy’n ddigon mawr i ffitio mewn tun myffin dwfn. Os nad oes gennych dorrwr o’r maint iawn, dylai myg wneud y tro. A thorrwch 8 cylch ychydig yn llai i ffitio fel caead.

Gosodwch y cylchoedd mwyaf yn ofalus yn nhyllau’r tun myffin, a llenwch gyda’r llenwad cyw iâr a chennin. Brwsiwch o amgylch eich caead gydag ychydig o ddŵr, er mwyn ei helpu i lynu, a’i osod am ben y llenwad. Gwasgwch yr ochrau i lawr gyda fforc a brwsiwch y top gydag wy wedi’i guro. Torrwch dwll yn y top gyda chyllell er mwyn gadael y stem allan, a choginiwch am 30-35 munud nes eu bod yn euraidd.

Gweinwch yn gynnes neu gadewch i oeri.

Mins Peis Cartref

11 Rhag

Fe gefais i ddiwrnod prin iawn i fi fy hun ddoe, felly wrth gwrs fe wnes i ei dreulio’r diwrnod cyfan yn y gegin. Dwi’n mynd ar fy ngwyliau i New York yr wythnos nesaf,(gewch chi’r hanes ar y blog pan dwi’n dod ‘nôl) felly dyma oedd fy unig gyfle i wneud ychydig bach o bobi Nadoligaidd.

Y peth cyntaf yr oeddwn eisiau ei wneud oedd mins peis, ond hefyd roeddwn i eisiau trio gwneud stollen am y tro cyntaf, gan ei fod yn un o fy hoff fwydydd Nadoligaidd. Y llynedd fe wnes i fy saws cranberry fy hun a siytni nionod coch, ac roedd y ddau mor boblogaidd gyda’r teulu’r llynedd, fel fy mod i wedi cael galwadau i wneud mwy eleni. Heddiw mae’n rhaid i mi fwrw ymlaen gydag addurno fy nghacennau Nadolig, ond yn gyntaf dwi am rannu fy rysait am fins peis gyda chi.

Goeliwch chi byth ond fel plentyn roeddwn i’n casau mins peis. Dwi wastad wedi bod wrth fy modd efo cacen Nadolig ond am ryw reswm doeddwn i ddim yn licio mins peis. ond mae hynny wedi hen newid, ac er bod mins pes o’r siop yn ddigon neis does dim i guro un cartref.

Mae lot o bobl yn defnyddio pastry plaen gyda’u mins peis ond dwi’n licio defnyddio pastry melys. Mae’n ddolig felly mae’n rhaid i bopeth fod mor gyfoethog a blasus a phosib!

Er fy mod i’n gwneud fy mhastry fy hun dwi erioed wedi gwneud fy mincemeat fy hun, mae amser yn rhy brin ar hyn o bryd! Ond wrth gwrs dwi yn licio ychwanegu rhywbeth at y mincmeat dwi’n ei brynu o’r siop. Dwi’n tueddu i brynu’r un gorau posib ac wedyn yn ychwanegu zest oren wedi’i gratio a sblash go dda o frandi (mae’n rheol bod rhaid rhoi alcohol ym mhopeth da chi’n ei goginio dros y Nadolig)

Pan da chi’n gwneud y pastry mae’n bwysig eich bod chi’n cadw popeth mor oer â phosib, felly cadwch eich cynhwysion a hyd yn oed eich bowlen yn yr oergell a throwch y gwres canolog yn eich cegin i ffwrdd am ychydig neu agorwch ffenest!

Cynhwysion

250g blawd plaen

50g siwgr eisin

75g almonau mâl

pinsied o halen

150g menyn heb halen

2 felynwy

2 llwy fwrdd o sudd oren ffres oer

Dull

1. Hidlwch y blawd, siwgr eisin a halen mewn i fowlen ac ychwanegwch yr almonau mâl.

2. Torrwch y menyn mewn i ddarnau bach a’i rwbio fewn i’r blawd, nes ei fod yn edrych fel tywod. Neu os oes gennych chi brosesydd bwyd, cymysgwch bopeth at ei gilydd yn hwnna.

3. Cymysgwch y melynwy gyda’r sudd oren a’i ychwanegu ar y blawd a menyn.

4. Cymysgwch at ei gilydd nes ei fod yn ffurfio toes, mae’n haws defnyddio eich dwylo i wneud hyn.

5. lapiwch y toes mewn cling film a’i roi yn yr oergell i oeri am o leiaf 30 munud.

6. Ar ôl 30 munud rholiwch hanner y toes allan ar fwrdd gydag ychydig o flawd arno. Dwi’n licio pastry tenau, felly dwi’n rholio fo allan nes ei fod yn ryw 2mm o drwch. Yna torrwch gylch allan, a’i osod mewn tun wedi ei iro gyda menyn.

7. Yna roliwch weddill y toes a thorri cylchoedd ychydig bach yn llai mewn maint i ffitio ar y top.

8. Lenwch y cesys pastry gyda mincemeat a gosodwch y caead ar ei ben, gan ddefnyddio ychydig o laeth o amgylch yr ochr i’w ludo. Dwi wedyn yn defnyddio fforc i grimpio’r ochrau ac yn torri twll yn y top i adael y stem allan.

9. Gorffennwch drwy eu brwsio gyda llaeth a rhowch ychydig bach o siwgr ar y top

10. Pobwch ar dymheredd o 180ºC / 160ºC fan am 25-30 munud.

Mae’n bosib rhewi rhain ar ôl eu coginio, felly gwnewch ddwywaith gymaint a da chi eisiau, ac fe fydd gennych chi ddigon i bara tan ddiwrnod dolig.

Gwyliau Haf

2 Medi

Ymddiheuriadau am beidio a blogio ers oes, ond dwi wedi bod yn galifantio cryn dipyn yr haf yma, a dwi  prin wedi bod adref i goginio swper heb son am bobi unrhywbeth. Ond dwi wedi bod yn bwyta mwy na fy nigon o gacennau, yn enwedig tra ar fy ngwyliau yn Ffrainc. Heblaw am y gwin (yn amlwg!) yr un peth dwi wastad yn edrych mlaen iddo yn Ffrainc yw’r  pastries. Mae’r Ffrancwyr yn gwybod sut mae gwneud tarten dda, ac mae’r safon, hyd yn oed yn archfarchnadoedd, yn aml yn llawer gwell na’r hyn sydd i’w ganfod yn y wlad hon. Cacennau a cupcakes yw’r ffasiwn yma ond tartenni ffrwythau o bob math sydd i’w gweld ymhob patisserie yn Ffrainc. A gyda patisserie bron ymhob pentref, roeddwn i’n gwledda ar y tartenni ffrwythau bychan, fel y gwelwch isod!

 

A gan fy mod yng ngwlad y macaron, roedd rhaid i mi gael llond bag, a wow roedden nhw’n hyfryd! Mynd yn berffaith efo gwydraid o champagne!

 

 

Roeddwn i’n joio cael macarons bach gyda coffi ar ol pryd hefyd

 

 

Ac roedd rhaid cael crepe yn doedd! Un efo siocled i fi ac yn efo mynydd o hufen chantilly i’r cariad.

 

Ac edrychwch ar y siocled peth yma ges i yn Bruges, bowlen o laeth poeth gyda cwpan siolced llawn botymau siolced i’w gymysgu mewn iddo. Hyfyrd!

tarten lemon

21 Maw

Daeth cwpwl o ffrindiau draw am swper nos Sadwrn, ac mae hynny wastad yn golygu un peth, guinea pigs ar gyfer ryseitiau newydd!

Mae un o’r ffrindiau ddaeth draw yn llysieuwr, felly cyfle perffaith i drio ychydig o ryseitiau o’r llyfr Ottolenghi nes i brynu’r wythnos diwethaf.  Mae’r llyfr yn llawn ryseitiau hyfryd yr olwg felly roedd o’n anodd dewis ond pan weles i’r ‘surprise tatin’, odd rhaid fi ei drio. Tart tatin cyffredin ydi hwn, efo pastry a caramel ond efo tatws a tomatos a caws, yn lle afalau … swnio yn od … ond mai god odd o’n hyfryd. Yn anffodus nes i anghofio tynnu llun, ond dwi’n gaddo gwneud o eto yn fuan i ddangos i chi.

Beth bynnag tarten lemon ydi pwnc y post yma, a dyna gawsom ni i bwdin. Dwi’m yn tueddu i goginio tartennau yn aml, dim ond am eu bod nhw’n tueddu i fod mor fawr ac yn ormod ar gyfer dau, felly os dwi byth yn cael unrhyw un draw am swper dwi’n bachu ar y cyfle i ymarfer. Dwi wrth fy modd efo tarten lemon ond doeddwn i erioed wedi gwneud un o’r blaen., ond o’n i’n reit hapus efo’r canlyniad yn y diwedd, felly dyma i chi’r rysáit.

Cynhwysion


Pastry

175g blawd plaen

25g cocoa

pinsied o halen

25g siwgr eisin

125g menyn heb halen oer

1 melynwy mawr

2 llwy fwrdd o ddŵr oer

llenwad

75g siocled tywyll

3 lemon

150g siwgr caster

4 wy mawr

150ml hufen dwbwl

Dull

1. Er mwyn gwneud y pastry, hidlwch y blawd, cocoa, halen ac eisin. Rhwbiwch y menyn oer i mewn iddo gydag eich bysedd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bara.  Neu os oes gennych chi brosesydd bwyd, jysd rhowch wizz iddo yn hwnna.

2. Cymysgwch y melynwy gyda’r dŵr ac ychwanegwch at y gymysgedd i wneud toes. Efallai y bydd angen ychwanegu ychydig mwy o ddŵr ond da chi ddim eisiau i’r toes fod yn rhy stici chwaith. Roliwch y pastry mewn i bêl a’i lapio mewn cling film ac oerwch yn yr oergell am ryw awr.

3. Roliwch y pastry mewn i gylch mawr a’i osod yn eich tun. Tun tarten 23 modfedd gyda gwaelod rhydd dwi’n ei ddefnyddio.

4. Prociwch waelod y pastry gyda fforc cyn gadael iddo i oeri eto yn yr oergell am o leiaf 2 awr, neu hyd yn oed dros nos fel gwnes i.

5. Pan da chi’n baro di goginio’r pastry, cynheswch y popty i 200°C neu 180°C ffan.

6. Mae angen pobi’r pastry cyn ychwanegu’r cynnwys, a’r ffordd oraf o wneud hyn yw gorchuddio’r pastry efo ychydig o bapur greasproof a’i lenwi efo baking beads. Mae genai rai pwrpasol ond mae’n bosib defnyddio unrhyw fath o beans neu pulses sych. Beth mae hyn yn ei wneud yw sicrhau bod y pastry ddim yn codi nag yn lleihau gormod wrth goginio.

7. Coginiwch am 15 munud, yna tynwch y beans a’r papur greasproof a’i goginio am 5 munud arall.

8. Tra bod y pastry dal yn boeth gratiwch y siocled drosto a’i adael i oeri.

9. Cyn gwneud y llenwad, cynheswch y popty i 160°C neu 140°C ffan.

10. Gratiwch groen y lemonau mewn i fowlen ac ychwanegwch y sudd a’r siwgr. Cymysgwch nes bod y siwgr wedi toddi. Yna cymysgwch y wyau a’r hufen nes bod y gymysgedd yn llyfn.

11. Tywalltwch y gymysgedd fewn i’r pastry a’i roi yn ofalus yn y popty.

12. Coginiwch am tua 30-35 munud a gadewch i oeri yn llwyr cyn ei dynnu o’r tun.