Tag Archives: peis

Peis bach cyw iâr a chennin

1 Maw

peis cyw iarDydd Gŵyl Dewi Hapus bawb.

Mae’n braf gweld cymaint yn dathlu diwrnod ein nawddsant y dyddiau hyn. Ac efallai na fydd yn eich synnu fy mod i wedi defnyddio hwn fel esgus i bobi cacs bach (cacennau cri / pice ar y maen). Dwi wedi postio’r rysáit o’r blaen ac mae o yn y llyfr cyntaf hefyd, ond mae gen i rysáit addas arall dwi di bod yn bwriadu ei bostio ers peth amser – peis bach cyw iâr a chennin.

Mae yna rywbeth cysurus iawn am bei cynnes, mae’r llenwad sawrus a chrwst euraidd am ei ben yn ddigon i gynhesu calon unrhyw un, felly beth well ar ddiwrnod fel hyn. Mae’r cyfuniad o gyw iâr a chennin yn glasur, ond yn hytrach na gwneud un pei mawr i rannu dwi’n licio gwneud rhai bach unigol. Mae’r rhain yn hyfryd yn gynnes ond yr un mor hyfryd yn oer, ac mae eu maint yn golygu eu bod yn berffaith ar gyfer picnic.

Cynwhysion

Ar gyfer y crwst

60g o fenyn

60g o lard

240g o flawd plaen

½ llwy de o halen

60ml o ddŵr

 

Ar gyfer y llenwad

2 brest cyw iâr

1 llwy fwrdd o olew olewydd

2 genhinen

1 clof o arlleg

1 llwy fwrdd o flawd corn

½ llwy de o deim sych

1 llwy de o fwstard Dijon

½ litr o stoc cyw iâr

25ml o hufen

1 wy

 

Dull

Gwneud 8 pei bach

Torrwch y menyn a’r lard yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen. Gan ddefnyddio eich dwylo, rhwbiwch y menyn a’r lard i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel brwision.

Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.

Lapiwch y toes mewn cling film a’i roi i orffwys yn yr oergell am o leiaf hanner awr tra’ch bod chi’n gwneud eich llenwad.

Torrwch y cyw iâr yn ddarnau gweddol fach a’u rhoi mewn sosban i ffrio yn yr olew nes eu bod yn dechrau brownio.

Torrwch y cennin yn ddarnau bach a malwch y garlleg yn fân a’u hychwanegu at y cyw iâr, a’u coginio nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y blawd corn yna’r teim, mwstard a’r stoc a’i adael i fudferwi nes bod yr hylif wedi lleihau a thewychu. Pan fydd y saws yn drwchus ychwanegwch yr hufen a digon o bupur. Tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i oeri.

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch y toes allan nes ei fod yn 4-5 mm o drwch. Torrwch 8 o gylchoedd allan sy’n ddigon mawr i ffitio mewn tun myffin dwfn. Os nad oes gennych dorrwr o’r maint iawn, dylai myg wneud y tro. A thorrwch 8 cylch ychydig yn llai i ffitio fel caead.

Gosodwch y cylchoedd mwyaf yn ofalus yn nhyllau’r tun myffin, a llenwch gyda’r llenwad cyw iâr a chennin. Brwsiwch o amgylch eich caead gydag ychydig o ddŵr, er mwyn ei helpu i lynu, a’i osod am ben y llenwad. Gwasgwch yr ochrau i lawr gyda fforc a brwsiwch y top gydag wy wedi’i guro. Torrwch dwll yn y top gyda chyllell er mwyn gadael y stem allan, a choginiwch am 30-35 munud nes eu bod yn euraidd.

Gweinwch yn gynnes neu gadewch i oeri.