Dwi ar fin priodi, a’r un cwestiwn mae pawb yn ei ofyn i mi yw pwy sy’n gwneud dy gacen? Wel fi wrth gwrs!
Dwi’n gwybod y bydd rhai ohonoch yn meddwl fy mod i’n hollol wallgo ac yn ychwanegu at fy llwyth gwaith drwy wneud hyn, ond fe fuaswn i’n ei chael hi’n anodd iawn talu crocbris i rywun arall wneud rhywbeth y gallen i wneud fy hun am ffracsiwn o’r pris. Ond hefyd ar ôl gwneud cymaint i ffrindiau a theulu, fe fuaswn i’n teimlo’n od yn gofyn i rywun arall, wneud un ar gyfer fy mhriodas i. Ac me yna elfen o ddisgwyliad gan eraill hefyd amwn i. Ond o leiaf os mai fi sy’n ei gwneud hi dwi’n gwybod yn union sut y bydd hi’n blasu ac yn edrych a chai mo fy siomi, er dwi’n gwybod yn iawn pwy i feio os yw’n mynd o’i le.
Ond gyda llai na pythefnos i fynd, dwi’n dechrau meddwl fy mod i’n hurt. Dwi wedi gwneud pethau yn anoddach i mi fy hun hefyd drwy ddewis gwneud cacen sbwng, sydd wrth gwrs angen ei gwneud mor agos i’r briodas a phosib. Ac os nad yw hynny yn ddigon, mae hi’n mynd i fod yn gacen enfys dau tier, sy’n golygu 12 haen mewn 6 lliw gwahanol!
Wrth gwrs fe fuasai bywyd yn llawer haws petawn i wedi gwneud cacen ffrwythau, a ellir ei baratoi fisoedd o flaen llaw. Ond byddai hynny yn llawer rhy geidwadol ac roeddwn i eisiau cacen oedd yn wahanol i gacen briodas traddodiadol, gyda tipyn o ‘wow factor’. Dwi ddim yn ffan o gacennau priodas draddodiadol sydd wedi’i gor haddurno, ac mae cyfnod y cupcake wedi hen basio, felly mae cacen enfys yn siwtio fi a fy mhriodas i’r dim – tipyn o hwyl a digon o liw.
Y bwriad gwrieddiol oedd gwneud y gacen yn ffres cyn y briodas. Ond gan fy mod yn priodi yn Henffordd, ac yn mynd i fod yno rai dyddiau ynghynt, dwi wedi penderfynu y bydd hi’n llawer haws gwneud y cacenau rwan, a’u rhewi yn barod i’w dadmer a’u haddurno yn agosach at y briodas.
Felly dyna dwi wedi bod yn gwneud heddiw. Un peth yn llai i boeni amdano pan ddaw’r briodas.
Cewch weld lluniau o’r gacen orffenedig yn fuan!