Hwre! Mae’n dymor riwbob a dwi’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r ffrwyth /llysieuyn hyfryd yma.
Gyda bwyd yn cael ei hedfan ar draws y byd, does yna ddim llawer o lysiau neu ffrwythau sy’n wirioneddol dymhorol erbyn hyn. Os ydych wir eisiau, maen bosib cael mefus yn ganol gaeaf yn yr archfarchnad, er eu bod nhw fel arfer yn blasu o ddim. Ond am hanner y flwyddyn mae hi’n amhosib cael gafael ar riwbob, felly’r munud mae o’n ymddangos yn yr ardd neu’r siop dwi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n cael fy nigon. Peidiwch â dweud wrth fy rhieni yng nghyfraith ond roeddwn i yn eu gardd yr wythnos diwethaf, tra’r oedden nhw i ffwrdd ar eu gwyliau, yn dwyn eu riwbob.
Wrth gwrs dyw o ddim yn ddigon i mi wneud crymbl neu darten riwbob, dwi wastad yn chwilio am rywbeth newydd i’w wneud. Mae yna rysáit ar gyfer cacen gaws riwbob a sinsir yn Paned a Chacen, dwi hefyd wedi gwneud jam riwbob a sinsir, hufen ia crymbl riwbob a fodka riwbob. Ond eleni roeddwn i’n awyddus i wneud cacen oedd yn cyfuno’r ddau flas clasurol yna – riwbob a chwstard.
Ar ôl tipyn o arbrofi, a dwy gacen oedd yn llanast llwyr, fe lwyddais i greu dwy rysáit yr oeddwn i’n hapus iawn â nhw. Y gacen sbwng riwbob a chwstard yma a sgwariau crymbl riwbob a chwstard (rysáit i ddilyn).
Mae’r gacen yma gam i fyny o sbwng Fictoria arferol, dwi wedi ychwanegu almonau mâl at y sbwng ac wedyn yn y canol mae yna eisin menyn cwstard a riwbob wedi’i bobi. cacen berffaith ar gyfer te prynhawn ar ddiwrnod braf.
Cynhwysion
200g o riwbob
2 lwy fwrdd o siwgr fanila
Ar gyfer y sbwng
200g o fenyn heb halen
200g o siwgr mân
3 wy
160g o flawd codi
60g o almonau mâl
Ar gyfer yr eisin
120g o fenyn heb halen
120g o siwgr eisin
1 llwy fwrdd bowdr cwstard
200g o gwstard (unai un siop neis neu un cartref)
2 llwy de o fanila
Dull
Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.
Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch waelod dau dun crwn 20cm.
Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.
Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.
Ychwanegwch y blawd a’r almonau mâl a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.
Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddau dun a’u coginio am 20 munud, nes eu bod yn euraidd a’r sbwng yn bownsio yn ôl wrth ei gyffwrdd. Gadewch i oeri yn y tun am 5 munud cyn eu tynnu allan a’u rhoi ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.
Tra bod y cacennau yn oeri gwnewch yr eisin drwy guro’r menyn
Curwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr eisin a’r powdr cwstard yn raddol gan barhau i gymysgu am 2-3 munud arall. Yna ychwanegwch y cwstard a’r fanila ‘i gymysgu yn dda am 2-3 munud arall nes ei fod yn drwchus.
Pan fydd eich cacennau wedi oeri yn llwyr, gosodwch un ar blât gweini, a thaenwch neu beipiwch (mae peipio yn gwneud iddo edrych yn lot fwy proffesiynol a deniadol, ond does dim rhaid) yr eisin am ei ben. Rhowch y riwbob am ben yr eisin wedyn, cyn gosod yr ail gacen am ei ben. Ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.