Tag Archives: semla

Llond bol o grempog

16 Chw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

O ystyried eu bod nhw mor syml, mae yna rywbeth moethus iawn am blatiaid mawr o grempogau. Boed chi’n eu bwyta efo siwgr a lemon clasurol, eu llenwi gyda chaws a ham neu hyd yn oed yn eu gweini gyda chig moch a surop masarn; mae nhw wastad yn teimlo fel pleser arbennig iawn.

Wrth gwrs does yna ddim rheswm i beidio eu bwyta drwy gydol y flwyddyn, dwi’n aml yn eu bwyta fel brecwast arbennig ar benwythnos neu yn bwdin syml ond blasus pan fo amser yn brin. Ond wrth gwrs mae Dydd Mawrth Ynyd yn esgus perffaith i ni loddesta ar grempogau.

A dyna yn union y gwnes i’r bore ma gan fy mod adra gyda fy neiaint a nithoedd. Roedd hi fel ffatri grempogau yma y bore ma a phawb wrth eu boddau.

Mae’r rysait ar gyfer crempigau syml isod, neu beth am drio rhywbeth ychydig yn fwy mentrus?

20120221-211517.jpg

topfenpal

Os ydych chi awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni ewch chi ddim o’i le yn edrych tuag Awstria am ysbrydoliaeth. Dwi di blogio o’r blaen am fy hoff bwdinau crempog o Awstria, felly beth am drio Kaiserchmarrn – ymewrawdwr y crempogau. Pwdin swmpus sy’n groes rhwng crempog a soufflé ac sy’n cael ei weini efo compot ffrwythau.

Neu beth am Topfenpalatschinken – crempog wedi’i stwffio efo caws meddal a rhesins a’i bobi mewn cwstard. Beth well os da chi wir eisiau ddefnyddio’r holl fwydydd cyfoethog cyn dechrau’r grawys.

20140424-211847.jpg

Neu os am rhywbeth hollol wahanol triwch Semlor. Byns cardamom o Sweden sydd wedi’i llenwi â phast almon a hufen. Mae nhw’n ogoneddus.

Rysait crempog syml

Cynhwysion

100g o flawd plaen
Pinsied o halen
2 wy
250ml o laeth
25g o fenyn wedi toddi

Dull

Hidlwch y blawd a’r halen mewn powlen. Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.

Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.

Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.

Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.

Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.

Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.

Bwytewch tra eu bod yn gynnes.

Clwb Pobi: Gwanwyn

24 Ebr

20140424-211916.jpg

Mae’n rhaid cyfaddef, yn ddiweddar dwi wedi bod yn aelod ofnadwy o fy nghlwb pobi lleol, Band of Bakers. Dwi wedi bod yn hwyr iawn i’r ddau ddiwethaf, yn cyrraedd jyst mewn pryd i rannu fy nghacennau fel roedd pawb arall yn gadael. Mae cywilydd arna i.

Ond roeddwn i’n digwydd bod i ffwrdd o’r gwaith yr wythnos hon, oedd yn golygu diwrnod cyfan i baratoi ac am unwaith roeddwn i ar amser. Hwre!

Ond beth i’w wneud? Y thema’r mis hwn oedd ‘Y Gwanwyn’, ac i ddechrau roeddwn i’n meddwl gwneud rhywbeth gyda riwbob, gan ei fod yn ffrwyth tymhorol iawn, ond roeddwn i’n amau y byddai yna lawer o aelodau eraill wedi meddwl yr un peth. Ac roeddwn i’n iawn roedd yna gacennau riwbob a sinsir, crymbl riwbob, meringue riwbob a llawer mwy.

Felly yn hytrach, fe benderfynais i wneud y mwyaf o’r holl amser oedd gen i baratoi drwy wneud hot cross buns. Dwi wedi bwyta digonedd ohonyn nhw dros yr wythnosau diwethaf, ond heb gael cyfle i wneud rhai fy hun eto, felly roedd hwn yn gyfle perffaith.

20140424-211811.jpg

20140424-211819.jpg

Dwi wrth fy modd gyda bynsen groes feddal, sy’n llawn sbeis a ffrwythau, yn enwedig wedi’i dostio gyda llwyth o fenyn hallt am ei ben.  Ac mae’r rhai yma weid’i gwneud gyda blawd spelt ac yn cynnwys darnau o afal er mwyn ychwnegu blas ychydig yn wahanol.

20140424-211847.jpg

Ond gyda digon o amser ar fy nwylo fe benderfynais wneud bynsen arall hefyd sef Semlor. Byns cardamom o Sweden, wedi’i llenwi gyda phast almon a hufen. Dwi wedi blogio am y rhain o’r blaen ac maer rysait yn llyfr Paned a Chacen hefyd, ac maen nhw’n hyfryd. Dyma mae’r Sgandinafiaid yn ei fwyta ar ddydd Mawrth Ynyd, ond doeddwn i heb fwyta na gwneud rhai eleni, tan rwan. Nawr dwi’n siŵr y byddai rhai Sgandinafiaid yn fy niawlio am wneud Semlor nawr, ond be di’r ots, dwi’n ddiogn hapus i fwyyta cacen neis unrhyw adeg o’r flwyddyn.

20140424-211835.jpg

20140424-211827.jpg

Dwi’n falch o ddweud bod y ddau fath o fynsen blesio criw Band of Bakers, ac fe gefais innau lond bol o ddanteithion blasus gan fy nghyd bobwyr. Roedd yna gacen lemon a prosecco hyfryd gan Gemma, tarten bakwell riwbob bendigedig gan Aimee, (y ddau i’w gweld isod)  bisgedi lemon a siocled gwyn gan Chloe.

20140424-211858.jpg

Ac am unwaith roedd yna lwyth o ddanteithion sawrus hefyd fel y pastai tseiniaidd gogoneddus ymagyda phorc a garlleg gwyllt yn y canol. Roed dyna hefyd darten asbaragwsa rhôl selsig pwdin gwaed a tsili blasus dros ben.

20140424-211906.jpg

20140424-211928.jpg

Dwi’n siŵr eich bod chi’n gweld pam fy mod i’n licio’r clwb yma gymaint.