Tag Archives: topfenpalatschinken

Llond bol o grempog

16 Chw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

O ystyried eu bod nhw mor syml, mae yna rywbeth moethus iawn am blatiaid mawr o grempogau. Boed chi’n eu bwyta efo siwgr a lemon clasurol, eu llenwi gyda chaws a ham neu hyd yn oed yn eu gweini gyda chig moch a surop masarn; mae nhw wastad yn teimlo fel pleser arbennig iawn.

Wrth gwrs does yna ddim rheswm i beidio eu bwyta drwy gydol y flwyddyn, dwi’n aml yn eu bwyta fel brecwast arbennig ar benwythnos neu yn bwdin syml ond blasus pan fo amser yn brin. Ond wrth gwrs mae Dydd Mawrth Ynyd yn esgus perffaith i ni loddesta ar grempogau.

A dyna yn union y gwnes i’r bore ma gan fy mod adra gyda fy neiaint a nithoedd. Roedd hi fel ffatri grempogau yma y bore ma a phawb wrth eu boddau.

Mae’r rysait ar gyfer crempigau syml isod, neu beth am drio rhywbeth ychydig yn fwy mentrus?

20120221-211517.jpg

topfenpal

Os ydych chi awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni ewch chi ddim o’i le yn edrych tuag Awstria am ysbrydoliaeth. Dwi di blogio o’r blaen am fy hoff bwdinau crempog o Awstria, felly beth am drio Kaiserchmarrn – ymewrawdwr y crempogau. Pwdin swmpus sy’n groes rhwng crempog a soufflé ac sy’n cael ei weini efo compot ffrwythau.

Neu beth am Topfenpalatschinken – crempog wedi’i stwffio efo caws meddal a rhesins a’i bobi mewn cwstard. Beth well os da chi wir eisiau ddefnyddio’r holl fwydydd cyfoethog cyn dechrau’r grawys.

20140424-211847.jpg

Neu os am rhywbeth hollol wahanol triwch Semlor. Byns cardamom o Sweden sydd wedi’i llenwi â phast almon a hufen. Mae nhw’n ogoneddus.

Rysait crempog syml

Cynhwysion

100g o flawd plaen
Pinsied o halen
2 wy
250ml o laeth
25g o fenyn wedi toddi

Dull

Hidlwch y blawd a’r halen mewn powlen. Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.

Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.

Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.

Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.

Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.

Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.

Bwytewch tra eu bod yn gynnes.

Topfenpalatschinken – crempogau wedi’i pobi

4 Maw

topfenpal2

Does gen i ddim bwriad i ymprydio dros y Grawys, a dweud y gwir dwi ddim yn mynd i ymwrthod rhag unrhyw beth (mae bywyd yn rhy fyr). Ond dyw hynny ddim yn mynd i fy stopio rhag defnyddio’r holl flawd, siwgr wyau, llaeth a menyn yn y tŷ a dathlu Dydd Mawrth Ynyd, neu fel da ni gyd yn licio galw’r diwrnod arbennig hwn – Diwrnod Crempog.

Dwi wrth fy modd gyda’r hen glasur – crempog gyda siwgr a lemon am ei ben, ond weithiau mae angen ehangu ein gorwelion. Ac os ydych awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’ch crempogau eleni yna ewch chi ddim o’i le o edrych tuag Awstria. Mae’r Awstriaid yn bwyta crempogau drwy gydol y flwyddyn, boed o’n bwdin (dwi di blogio am fy hoffter o Kaiserschmarrn o’r blaen) ond hefyd i ginio – mae nhw’n gwneud cawl clir hyfryd, gyda stribedi o grempog ynddo.

20140303-204527.jpg

Ond eleni dwi am wneud Topfenpalatschinken – pwdin eithaf newydd i mi, ond un traddodiadol iawn yn Awstria. Mae crempogau’n cael eu llenwi gyda chymysgedd melys o gaws meddal, lemon a rhesin; ac yna’n cael eu pobi mewn cwstard. Wir i chi mae’n ogoneddus, ac yn berffaith os ydych chi’n chwilio am esgus i ddefnyddio’r holl fraster a siwgr yn y tŷ cyn y Grawys (neu jyst yn farus fel fi!). Y caws meddal Quark maen nhw’n ei ddefnyddio yn Awstria, dyw o ddim wastad yn hawdd i’w ffeindio yn y wlad hon, felly mae’n bosib defnyddio caws mascarpone neu gaws meddal fel Philadelphia yn ei le.

Cynhwysion

Ar gyfer y Crempogau

100g o flawd plaen

Pinsied o halen

2 wy

250ml o laeth

25g o fenyn wedi toddi

Ar gyfer y llenwad

40g o resins

1 llwy fwrdd o frandi

250g o Quark

1 wy

1 llwy fwrdd o groen lemon wedi gratio

3 llwy fwrdd o siwgr fanila

Ar gyfer y cwstard

125ml o laeth

1 wy

1 llwy fwrdd o siwgr

Dull

  1. Gwnewch y crempogau i ddechrau. Hidlwch y blawd mewn powlen ac ychwanegu’r halen.
  2. Cymysgwch yr wyau mewn cwpan. Gwnewch bant ynghanol y blawd a thywallt yr wyau i mewn.
  3. Yn raddol ychwanegwch y llaeth gan gymysgu gyda chwisg llaw. Cymysgwch yn araf o’r canol gan gymysgu’r blawd o’r ochrau’n raddol. Dylai hyn sicrhau na fydd lympiau yn y gymysgedd.
  4. Ar ôl ychwanegu’r llaeth i gyd, gadewch y cytew yn yr oergell i orffwys am ryw hanner awr.
  5. Pan fyddwch chi’n barod i goginio’r crempogau toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegu dau lond llwy fwrdd i’r cytew a chymysgu’n dda.
  6. Tywalltwch y gweddill allan o’r badell a’i roi i un ochr. Defnyddiwch bapur cegin i gael gwared ar unrhyw fenyn sydd dros ben yn y badell er mwyn sicrhau nad ydych yn boddi eich crempog mewn menyn.
  7. Yna, gyda’r gwres i fyny’n uchel, rhowch ddigon o gytew yn y badell i orchuddio’r gwaelod, gan droi’r badell o gwmpas i wneud yn siŵr bod y cytew’n ei orchuddio’n hafal. Gofalwch beidio â rhoi gormod o gytew yn y badell, fe ddylai’r crempogau fod yn eithaf tenau.
  8. Ar ôl rhyw funud neu ddwy, fe ddylech weld swigod bach ar y grempog. Trowch y grempog drosodd a’u coginio am funud neu ddwy arall.
  9. Cynheswch y popty i 180°C / Ffan 160°C / Nwy 4 ac irwch ddysgl sy’n addas i’r popty gyda menyn.
  10. Rhowch y rhesins i socian yn y brandi.
  11. Rhowch y Quark, yr wy, y croen lemon a’r siwgr mewn powlen a’u cymysgu gyda llwy bren neu chwisg llaw. Ychwanegwch y rhesins a chymysgu.
  12. Mewn powlen arall cymysgwch y llaeth, yr wy a’r siwgr a chymysgu’n dda gyda chwisg.
  13. Taenwch ychydig o’r gymysgedd Quark ar un o’r crempogau, ei rolio i fyny a’i osod yn y ddysgl. Ailadroddwch gyda gweddill y crempogau a’r llenwad nes bod y ddysgl yn llawn.
  14. Tywalltwch y cwstard am ben y crempogau a choginio am 15–20 munud nes bod y cwstard wedi coginio a’r top wedi brownio.

Bwytewch yn gynnes.