Does na ddim byd gwell na phaned a chacen – ffaith! Wel dim yn fy marn i beth bynnag.
Dwi’n eitha obsessed efo cacennau, dwi’n licio eu coginio nhw eu bwyta nhw a hyd yn oed darllen amdanyn nhw – dwi’m yn credu bod na na ddim byd gwell na phaned a chacen.
Dwi’m wastad yn cael lot o amser i goginio, ond os gai byth foment rhydd, allai’m meddwl am ddim byd gwell i’w wneud na trio rysait newydd o’r toreth o lyfrau coginio sydd genai.
Bwriad y blog yw cofnodi’r hyn dwi’n ei goginio – cacennau gan fwyaf, ond dwi’n siwr neith un neu ddau o bethau eraill sleifio mewn yma hefyd – a rhannu’r ryseitiau efo pwy bynnag sydd awydd darllen.
Rwyf nawr wedi ysgrifennu llyfr coginio Paned a Chacen, sy’n cynnwys hyd yn oed mwy o fy hoff ryseitiau.
Os ydych eisiau cysylltu â fi ynglyn ar blog, ebostiwch fi ar elliwg @ gmail.com a dwi ar twitter hefyd fel elliwgwawr
Fel ag y liciwch chi…
Dwisio ti flogio pan ti’n gwneud y cacen tebot na!
Haia Ell! Cacennau yn edrych yn amazing fel arfer!!! Plis, plis plis, wnei di ddysgu fi sut i neud cacen penblwydd i blentyn gyda’r eisin yna ti’n gallu rolio (dim syniad beth yw’r enw cywir!). Teimlo fel mam crap pan dwi’n prynu cacen penblwydd ‘ready-mdae’ o Asda!!! Charu chi x x x
Wrth gwrs!
Hi
Newydd glywed chdi ar Radio Cymru – cool! Wyt ti wedi bod i Lantana yn Charlotte Place? Teisennau amazing o fana (lemon polenta, teisen coconut)! A hefyd teisennay amazing yn No.26 ar Rathbone Place – yn enwedig y teisen du molasses!
Cefais ddarn o deisen priodas o La Gavroche…ofnadwy o felus (rhy felus a dim llawer o flas i mi!)
Hwyl,Sarah (hefyd yn byw yn Camden)
Helo! Na heb fod i’r un o’r ddau, ond dwi’n gwbod ble fyddai’n mynd penwythnos yma! Diolch.
Helo, newydd wrando ar radio Cymru pnawn ma, mae te yn Claridges i weld yn hyfryd!
Val
Ydi hyfryd iawn!