Dros y blynyddoedd rwyf wedi postio nifer o ryseitiau crempog gwahanol ar y blog, o grempog gyffredin, i ymerawdwr y crempogau- y kaiserschmarrn, a hyd yn oed rhai fegan. Ac ar ddydd Mawrth Ynyd mae gen i un arall i chi – crempogau tatws melys. Nawr peidiwch â throi eich trwynau yn syth, mae’r rhain yn llawer mwy blasus nag y maen nhw’n swnio.
Fe wnes i’r rhain yn gyntaf ar gyfer fy mab, gan ei fod o wrth ei fodd gyda thatws melys, ac maen nhw’n gwneud brecwast neu ginio perffaith ar gyfer plant sy’n dechrau bwyta gyda’u dwylo. Ond wrth gwrs roedd rhaid i mi eu trio hefyd, ac fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau, roeddwn nhw’n nhw ysgafn a blasus – yn enwedig gydag ychydig o ffrwythau ffres a surop masarn. Ac maen nhw’n dda i chi hefyd, gan fod tatws melys yn llawn maeth a fitaminau.
Rydw i fel arfer yn coginio mwy na digon o datws melys pan fyddai’n bwydo’r mab, wedyn fe fydd hi’n bosib gwneud y rhain y diwrnod canlynol heb unrhyw drafferth.
Cynhwysion
100g o datws melys wedi’i goginio (tua 1 taten)
100g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi
1/2 llwy de o soda pobi
1/2 llwy de o sinamon mâl
1 wy
100ml o laeth
Gwneud 12 crempog fach
Dull
Cynheswch eich popty i 220°C / 200°C ffan / marc nwy 8 a rhostiwch eich tatws melys am awr hyd nes eu bod yn feddal.
Gadewch i oeri, cyn tynnu’r croen a stwnsio’r cnawd.
Rhowch gnawd y tatws mewn prosesydd bwyd, neu ‘blender’ gyda’r holl gynhwysion eraill a’u prosesu nes ei fod yn llyfn.
Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros dymheredd cymedrol a rhowch lond llwy bwdin o’r gymysgedd yn y badell ar gyfer pob crempog. Coginiwch am ryw ddau funud ar bob ochr, hyd nes eu bod yn euraidd.
Ailadroddwch gyda gweddill y gymysgedd.
Bwytewch yn syth, tra’u bod nhw yn gynnes. Ond os ydych am gadw rhai i’w fwydo i’ch babi yn oer, fe fydden nhw’n cadw am gwpwl o ddiwrnodau yn yr oergell. Neu fe allwch eu rhewi hefyd, gan eu dadmer ar dymheredd ystafell.
Gadael Ymateb