Archif | Awst, 2012

Nadolig yn yr haf

2 Awst

Dwi wedi dweud o’r blaen bod angen dechrau ar eich cacen Nadolig yn gynnar, ond efallai bod coginio ac addurno cacen Nadolig ym mis Gorffennaf yn mynd cam yn rhy bell. Ond dyna yn union yr ydw i wedi’i wneud. Na, dyw’r tywydd oer yma ddim fy ffwndro yn llwyr, dwi wedi bod yn tynnu lluniau ar gyfer y llyfr.

Mae’r gwaith ar y llyfr yn tynnu tuag at ei derfyn erbyn hyn. Dwi wedi profi’r ryseitiau droeon, wedi gorffen y gwaith sgwennu i gyd, a rhyw bythefnos yn ôl fe dreuliais i benwythnos cyfan yn pobi tra bod ffotograffydd yn tynnu lluniau ohonof (a’r cacennau wrth gwrs!). Fi sydd wedi tynnu’r rhan fwyaf o’r lluniau ar gyfer y llyfr, ond gan nad wyf yn ffotograffydd proffesiynol, nag hyd yn oed yn berchen ar gamera call, roedd o’n neis cael rhywun oedd yn gwybod beth oeddent nhw’n ei wneud yn tynnu rhai o’r lluniau. Warren Orchard oedd y ffotograffydd ac mae ei luniau yn hyfryd, da ni jyst angen pigo un ar gyfer y clawr rwan!

Am y tro dyma rai o’r lluniau wnes i ei tynnu.

 

 

 

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith allan o fy nwylo i rwan, a dweud y gwir dim ond y dylunio terfynol sydd ar ôl. Ond dwi eisoes wedi gweld proflenni a dwi mor hapus gyda sut mae’r llyfr yn mynd i edrych. Mae’n hyfryd ac yn llawer gwell nag y bydden i erioed wedi ei ddychmygu. Dwi mond yn gobeithio y bydd pawb arall yn ei hoffi gymaint â fi. Bydd y llyfr allan dechrau mis Tachwedd, felly perffaith ar gyfer anrhegion Nadolig – hint hint!

Fe fydd y llyfr yn dod allan jyst fel dwi’n dechrau ar swydd newydd yn Llundain, felly dwi’ disgwyl y byddai’n teithio nôl a mlaen am ychydig yn trio gwthio’r llyfr ar gymaint o bobl â phosib! A dweud y gwir mae’r job wedi dechrau yn barod. Fues i ar raglen Dafydd a Caryl, (wel Daniel Glyn a Caryl) yr wythnos diwethaf, gan fynd a cupcakes hufen ia efo fi. Dwi’n siŵr nad ydi o’n syndod i rai sy’n nabod Dan ond fe wnaeth o fwyta un mewn un cegiad bron a bod. Roedd Caryl yn llawer mwy delicet, ac roeddwn i wrth fy modd pan ddywedodd hi mai dyna’r cupcakes gorau iddi drio. Hwre!

Yn y cyfamser mae gen i gacen briodas arall i’w wneud cyn diwedd y mis, ac mae’n rhaid i fi rannu lluniau o’r gacen wnes i ar gyfer priodas yn Ffrainc hefyd, ond fydd rhaid i hwnna aros tan y blog nesa.