Archif | Gorffennaf, 2011

Jam Eirin

26 Gor

 

20110726-075507.jpg

Mae mam a dad fy nghariad yn tyfu pob math o lysiau yn eu gardd nhw a da ni wastad yn gadael efo bag o ffa neu ychydig o gourgettes. Ond pan oeddem ni lawr yna n ddiweddar fe fuom ni’n eu helpu nhw i gasglu eirin oddi ar goeden yn yr ardd. Roedd y goeden yn llawn dop o eirin, ac roedd o’n amlwg nad oedden nhw’n gallu defnyddio’r holl eirin yma eu hunain, felly fe ges i lond bocs i fynd adra efo fi.

Unwaith y cyrhaeddais adref fe bwysais yr eirin ac roedd gen i bron i 4kg ohonyn nhw. felly’r peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd gwneud jam eirin. Nawr doeddwn i erioed wedi gwneud jam unrhyw fath o’r blaen, ond pan oeddwn i’n iau roedd nain yn gwneud jam eirin bob blwyddyn, o’r eirin gwyllt yr oedd hi a taid yn eu casglu ar y ffordd i’n fferm yn Llanfachreth.

Felly fe nes i chwilio am ryseitiau ar y we, ac yn syml yr hyn oedden nhw i gyd yn ei ddweud oedd bod angen yr un pwysau o siwgr a ffrwythau ac ychydig o ddŵr.

Felly fe wnes i dynnu’r cerrig i gyd allan, er ar ôl siarad efo nain yn hwyrach, does dim angen gwneud hyn , gan ei bod hi’n bosib pysgota nhw’i gyd allan ar ôl stiwio’r ffrwythau am ychydig. Wedyn fe roddais i bopeth mewn dwy sosban anferth a dechrau stiwio’r eirin yn araf gyda rhyw 1.5-2 beint o ddŵr.

Yna fe ychwanegais y siwgr, ychydig ar y tro, gan wneud yn siwr bod y siwgr i gyd yn toddi cyn ychwanegu mwy. Mae’n bwysig sicrhau bod y siwgr i gyd wedi toddi yn llwyr, yna mae angen berwi’r jam ar dymheredd uchel. Mae angen gwneud hyn tan mae’r jam yn cyrraedd y pwynt setio.

Y ffordd gorau o sicrhau bod y jam wedi cyrraedd y pwynt setio, yw cadw soser yn y rhewgell, ac yna rhoi llond llwy o’r jam ar y soser oer, a’i roi yn ôl yn y rhewgell am ryw funud. os yw’r jam yn ffurfio croen wrth ei wthio efo’ch bys, yna mae’n barod. os ddim parhewch i ferwi tan fod hyn yn digwydd.

Nawr roedd y ryseitiau i gyd yn dwud bod y pwynt yma yn cyraedd ar ol rhyw 10 munud o ferwi, ond dim i fi, roeddwn i wrthi am lot hirach. Efallai bod rhywun yn gallu dweud pam wrthai. Ond mae’r jam wedi setio yn iawn rwan felly maen rhaid fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn.

Unwaith mae’r jam yn barod, mae angen ei oi mewn jariau sydd wedi ei steryleiddio. Y ffordd gorau o wneud hyn yw eu golchi a’u rhoi yn y popty ar dymheredd o 120C am ryw hanner awr. Mae angen gadael i’r jariau oeri ychydig, ond mae angen iddyn nhw fod yn gynnes pan fddwch yn tollti’r jam iddyn nhw, neu fe fydden nhw’n cracio.

Fel y gwelwch chi, roedd genai lwyth o jam, felly roedd on lwcus fy mod i’n un sy’n cadw jariau jam ar gyfer adegau fel hyn! Dwi’m yn meddwl y byddai angen prynnu jam am sbel rwan!

 

 

Cookies

10 Gor

Am ryw reswm dwi wedi bod yn gwneud lot o fisgedi yn ddiweddar yn hytrach na chacennau. Efallai gan eu nod nhw’n lot haws a lot cyflymach i’w gwneud. Felly perffaith os ydych chi eisiau rhywbeth melys i’w fwyta ar frys neu os ydych chi’n brin o amser.

Mae’r rysait yma yn gwneud cookies Americanaidd, rhai mawr ‘chewy’, yn llawn siocled neu ffrwythau.

Rysait ar gyfer cookies plaen yw hwn, ond pwy sydd eisiau cookies plaen? Defnyddiwch o fel base ac ychwanegwch unrhyw beth da chi ffansi iddo, boed o’n gnau neu ffrwythau sych neu siocled.

Fe wnes i rai siocled gwyn a cranberries a siocled tywyll a cheirios sych.

Os ydych chi’n gwneud rhai siocled cyfnewidiwch 50g o’r blawd am 50g o bowdr coco

Ond rhybudd bach, mae’r rysait yma yn gwneud llwyth o fisgedi. Felly os nad ydych chi’n porthi’r pum mil, mae’n bosib rhewi’r toes cyn ei goginio. Gwnewch sosej allan o’r hyn sy’n weddill a’i lapio mewn papur greaseproof, a’i roi mewn bag yn y rhewgell. Wedyn pan fyddwch chi eisiau ei ddefnyddio eto torrwch gylchoedd o’r toes a’u coginio yn syth. Efallai y bydd angen eu coginio am ychydig mwy o funudau. Perffaith os mai dim ond un neu ddau o fisgedi da chi eisiau neu os oes yna rywun yn pigo draw amser te yn ddirybudd!

Cynhwysion

225g menyn heb halen
375g siwgr brown golau
50g siwgr caster
3 tsp vanilla extract
2 wy mawr
400g blawd plaen
2 tsp bicarbonate of soda

Dull

1. Curwch y menyn, y ddau siwgr a’r vanilla am 2-3 munud nes ei fod wedi goleuo mewn lliw ac yn ysgafn.

2. Curwch y wyau i mewn i’r gymysgedd un ar y tro.

3. Hidlwch y blawd a’r bicarb a’i gymysgu.

4. Rhowch lond llwy pwdin o’r toes ar baking tray wedi’i leinio gyda phapur greaseproof. Gwnewch yn siwr bod digon o le rhyngddyn nhw achos fe fydden nhw’n gwasgaru cryn dipyn.

5. Coginiwch yn y popty ar 170C / 150C fan am 12-14 munud.

Shortbread

9 Gor

20110709-052542.jpg

Dwi wedi bod yn cael diwrnod o ddiogi heddiw ar ôl gwneud y gacen briodas yna ddoe, a doeddwn i ddim yn bwriadu gwneud unrhyw bobi. Ond pan ofynodd y cariad os oedd yna unrhyw fisgedi i gael gyda’i baned (wrth gwrs doedd yna ddim) fe benderfynais y buasai’n haws, ac yn neisiach, gwneud rhywbeth yn hytrach na mynd i’r siop.

Roedd genai fenyn, blawd, siwgwr a wyau yn y tŷ, ond dim llawer arall. Roedd yr hogyn isio rhywbeth yn reit handi hefyd, felly ar ol pori trwy lyfrau coginio fe benderfynais y buasai shortbread yn berffaith.

Felly fe wnes i rwbio 100g o fenyn meddal gyda 150g o flawd a 50g o siwgr caster a’i wasgu at ei gilydd mewn i does. Rhoi’r toes mewn tun a’i bricio gyda fforc. Yna ei bobi am 35 munud ar 150C / 130C ffan.

20110709-052705.jpg

Bisgedi munud olaf perffaith

Custard Creams Cartref

9 Gor

Gymaint a dwi’n mwynhau bisgedi crand fel rhyw viennese whirl neu triple chocolate cookie, weithiau does ‘na ddim byd gwell na phaced o fisgedi rhad efo paned. Bourbons, garibaldi, fig rolls neu custard creams dwi’n licio nhw’i gyd (wel heblaw am y pink wafers afiach yna!).

Mae’n siwr mae’r rheswm dwi’n eu licio nhw cymaint yw eu bod nhw’n fy atgoffa i o fy mhlentyndod.  Dyma yr oeddem ni’n eu cael yn nhŷ Nain ar ôl ysgol bob dydd a dwi’n cofio cwffio am y bisgedi gorau yn y bocsys mawr yna o fisgedi yr oeddem ni’n eu cael bob Nadolig.

Dwi’n nabod lot o bobl sydd ddim yn licio fig roll, neu’n casau garibaldi ond mae pawb yn licio custard creams (croeso i chi gywiro fi ar hyn!). felly pan weles i rysait ar gyfer gwneud custard creams adref ar flog Ed Kimber (y boi nath ennill the Great British Bake Off) odd rhaid i fi drio gwneud nhw fy hun.

Doedden nhw byth yn mynd i edrych yn union fel custard creams o’r siop, na blasu yn union yr un peth (duw a ŵyr beth sy’n mynd fewn i fisgedi siop), ond doedden nhw ddim yn rhy annhebyg. A beth yw’r ots pan maen nhw’n blasu mor hyfryd.

Felly dyma i chi’r rysait.

Cynhwysion

Bisged

225g blawd plaen

50g powdr cwstard

30g siwgr eisin

175g menyn heb halen, oer.

½ tsp o vanilla extract

Llenwad 

50g menyn heb halen

200g siwgr eisin

2 tbsp powdr cwstard

Dull

1. Rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd, siwgr eisin, powdr cwstard a vanilla extract. (neu rhowch bopeth mewn food processor a’i gymysgu nes ei fod yn ffurfio pêl).

2. Gwasgwch bopeth at ei gilydd a’i lapio mewn cling film a rhowch o yn yr oergell am o leiaf 30 munud.

3. Ar ôl 30 munud, roliwch y toes allan i tua 3-4mm, gan sicrhau bod gennych ddigon o flawd ar eich bwrdd. (Roeddwn i’n ffeindio bod o’n sticio ychydig felly byddwch yn ofalus.)

4. Torrwch gylchoedd bach allan a’u pricio nhw gyda fforc. Yna gosodwch nhw ar baking sheet wedi’i leinio gyda phapur greasproof a’u gadael i oeri am tua 15 munud.

5. Tra eu bod nhw’n oeri cynheswch y popty i  180C/160C Fan.

6. Pobwch y bisgedi am 10 munud, neu nes eu bod nhw’n dechrau cael rhywfaint o liw o gwmpas yr ochrau. Gadewch nhw  i oeri ar rack.

7. Ar gyfer y llenwad curwch y menyn gyda chwisg electrig am ryw 5 munud, gan ychwanegu’r powdr cwstard ar siwgr eisin yn raddol (mae’r powdr yn mynd i bob man fel arall!).

8. Rhowch yr eisin mewn bag peipio a gwasgu cylch bach ar hanner y bisgedi, cyn rhoi un arall ar eu pen.

Yr ail gacen briodas

8 Gor

20110708-045712.jpg

Mae hi’n arogli fel Nadolig yn y fflat ar hyn o bryd. Na dwi ddim di rhoi’r goeden dolig i fyny yn gynnar, mae genai gacen ffrwythau yn y popty ar gyfer priodas arall diwedd mis nesaf.

Rysait Delia dwi wedi ei ddefnyddio ar gyfer hon unwaith eto. Mae’n gweithio bob tro!

20110708-045812.jpg

Bore ma fe wnes i bigo lawr i Islington i nol anrheg i fy chwaer yng nghyfraith, sydd gobeithio, yn mynd i gael babi y penwythnos yma. Mae un o fy hoff siopau cacennau, Ottolenghi, yn Islington, a dwi methu mynd heibio heb brynnu rhywbeth. A doedd hi ddim gwahanol heddiw. Yr unig broblem yw bod ganddyn nhw gymaint o ddewis dwi byth yn gwybod beth i’w gael. Yn y diwedd fe brynais gacen bricyll a maen hyfryd efo paned!

20110708-050011.jpg

Dyw Ottolenghi ddim yn rhad os ydych chi byth yn pasio un o’u siopau nhw cerwch fewn. Mae nhw hefyd yn gwneud y salads mwyaf gogoneddus!

Blas ar Radio Cymru

7 Gor

Wel mae’r blog ma wedi cael ei plyg cyntaf ar ein gwasanaeth radio cenedlaethol.

Ddydd Mercher roeddwn i ar raglen Blas ar Radio Cymru yn son am y blog a fy obsesiwn bach i am gacennau. Os oeddechchi’n gweithio yn galed ar y pryd ac wedi ei fethu (bron iawn i fi ei fethu fy hun), peidiwch a phoeni mae’ rhaglen yn cael ei ail-ddarlledu ddydd Sul am 1315 ac mae o ar gael ar yr iplayer .

Rhodri Williams oedd yn holi, a gan ei fod o hefyd yn byw yn Llundain fe wnaethom ni gwrdd, bnawn dydd gwener diwethaf mewn caffi yn Soho. Wrth gwrs gan ein bod ni mewn caffi ac yn siarad am y blog, roedd rhaid cael paned o goffi a cwpwl o danish pastrise, felly dwi’n gobeithio nad ydych chi’n clywed fi’n slyrpian neu’n cnoi cil, trwy gydol y cyfweliad!

Nes i joi’r sgwrs efo Rhodri a dwi’n gobeithio eich bod chi wedi gwneud hefyd.

A croeso i unrhyw ddarllenwyr newydd sydd wedi dod ar draws y blog ar ol gwrando ar y rhaglen.

Te yn Claridges

1 Gor

Dwi mond angen yr esgus lleiaf i fynd am afternoon tea, ac felly gyda dwy ffrind o Gaerdydd yn dod lawr i aros am y penwythnos, beth gwell i’w wneud na mynd i dre i siopa ac wedyn mynd am de ar ddiwedd y dydd.

Mae yna gymaint o lefydd yn Llundain i fynd i gael te, ond roeddwn i eisiau mynd a’r genod i Claridges, gan mai nhw oedd wedi ennill gwobr y tea guild am y te gorau yn Llundain y flwyddyn hon.

Nawr fel gwnes i sôn mewn blog arall roedd rhaid bwcio’r bwrdd fisoedd o flaen llaw, felly roeddwn i wedi bod yn edrych malen am y penwythnos yma ers peth amser. Ond gyda’r te yn costio £50 yr un (gyda service charge o 12.5% ar ben hynny) roedd genai ddisgwyliadau uchel iawn. Ond dwi’n falch o ddweud na chefais i fy siomi.

Roeddwn wedi bwcio bwrdd am hanner awr wedi pump, ac efallai eich bod chi’n meddwl bod hynny bach yn hwyr am baned a chacen, ond roedd yn hyn yn bwrpasol, fel ein bod ni yn ddigon llwglyd i wneud y mwyaf o’r danteithion, ac fel nad oedd angen swper arnom wedyn, ar ôl gwario cymaint!

Felly beth oeddem ni’n ei gael am £50?

Wrth gwrs roedd yna ddewis helaeth o de, ac fe es i am y Claridges royal blend, a dwn i’m faint o baneidiau wnes i yfed, paned dda!

Roedd ganddyn nhw fwydlen arbennig ar gyfer wimbledon felly ar ben y te arferol roeddem ni’n cael gwydraid o champagne rose a phlât o fefus a macarons mefus. Fel da chi’n gwybod dwi’n ffan MAWR o macarons ,ac roedd y rhain ymysg y gorau dwi wedi’i gael, dwi’n glafoeri rwan wrth feddwl amdanyn nhw.

Nawr fe fuaswn i wedi bod yn hapus efo hynny, ond roedd yn a lot mwy i ddod. Fe gawsom ni blât o frechdanau, dewis reit glasurol – samwn wedi’i fygu, wy, ciwcymbr, coronation chicken a ham. Roedd yn amlwg eu bod nhw wedi cael eu gwneud yn ffres ac roedden nhw mor neis fe gawsom ni blât arall.

Nesaf wrth gwrs oedd y sgons, dau fath, un efo cyrens ac un efo afal. Roedden nhw’n ysgafn iawn ac yn gynnes ac roedd y ‘tea-infused jam’ yn odidog.

Wrth edrych nôl mae’n anodd meddwl y gallem ni fwyta mwy ond dyna wnaethom ni, gydag ystod o gacennau a pastries i orffen. Y gorau gen i oedd y darten afal a’r gacen caws lemwn.

Ond nid dim ond y bwyd a’r te sy’n bwysig pan fyddwch chi’n cael afternoon tea, mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio, y stafell yr ydych ynddo a safon y gweini i gyd yn ychwanegu at y profiad.

Mae gwesty Clardiges yn hyfryd, ‘old school glamour’ go iawn. Mae’r ystafell fwyta yn reit fawr ond wedi ei rannu yn ddwy, sy’n wgneud iddo deimlo yn lot llai, ond mewn ffordd neis. Mae’r ystafell edrych yn reit art deco, mae yna lot o arian a drychau mawr ar y waliau – da chi’n gallu dychmygu eich hunain mewn rhaglen poirot!

Mae’r llestri maen nhw’n eu defnyddio yn hyfryd hefyd, streipiau gwyrdd a gwyn gydag ymyl arian, sy’n cyd fynd gydag addurn y stafell. Ond fy hoff beth i oedd y bocs bach arian yn dal y siwgr – hyfryd!

Roedd y staff gweini yn arbennig hefyd, doedd yna ddim snobyddiaeth o gwbl ac roedden nhw’n ein hannog ni i gymryd mwy o frechdanau a mwy o gacennau, rhywbeth sydd yn ennill ychydig o bwyntiau ychwanegol iddyn nhw yn fy marn i.

A cyn gadael fe gawsom ni anrheg, dau siocled hyfryd mewn bocs bach del,  i fynd adref gyda ni. Diwedd perffaith i bnawn perffaith. Sori does genai ddim byd gwael i ddweud am y lle, mae’r tea guild yn amlwg yn gwybod beth maen nhw’n siarad amdano!