Archif | Mai, 2012

Does na’m llonydd i gael

10 Mai

Mae’n rhaid i fi ymddiheuro am y diffyg blogio yn ddiweddar. Dwi ddim eisiau i chi feddwl fy mod i wedi anghofio am y blog yma, ond ar hyn o bryd mae’r llyfr yn cymryd pob munud sbâr sydd gen i.

Mae’n cymryd amser i feddwl am syniadau a ryseitiau ac yna i’w profi nhw a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio ac yn blasu’n dda. Dwi ddim eisiau unrhyw ryseitiau yn y llyfr sydd ddim yn berffaith. Yn lwcus i fi mae gen i griw reit dda o deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr sy’n fwy na bodlon fy helpu i’w bwyta.

Wir i chi ar hyn o bryd dwi’n coginio rhyw pum cacen yr wythnos neu fwy, ac mae’n od peidio gallu eu rhannu efo chi. Ond does ‘na ddim byd yn bod gyda rhannu ychydig o luniau efo chi, i roi syniad o beth fydd yn y llyfr.

Gobeithio eich bod chi’n eu licio nhw.


Dwi nid yn unig wedi bod yn dwyn rhai o ryseitiau Nain ond dwi hefyd wedi ‘benthyg’ rhai o’i llestri te hi.


Dwi ddim yn rhy bell o orffen profi’r ryseitiau rwan, ond mae gen i ychydig bach mwy o ysgrifennu i’w wneud (pwy feddylia bod yna gymaint o ysgrifennu mewn llyfr coginio!) Ond wedi hynny oll, dwi ddim yn bwriadu cymryd hoe. Fe fyddai’n gallu canolbwyntio mwy ar y blog yma, a dwi’n addo y bydd yna lot mwy ryseitiau i ddod.

Dwi hefyd yn gwneud cacen ar gyfer priodas yn Ffrainc mis nesaf, dwi’n mynd a’r gacen efo fi ar yr awyren! Fe gewch chi’r hanes i gyd!