Gyda’r gaeaf yn edrych fel ei fod am bara am byth, a gwyliau’r Pasg yn agosáu fe benderfynais fynd ar drip munud olaf i Awstria. Wrth gwrs roedd yr eira ffres oedd yn dal i ddisgyn ar y llethrau yn atyniad mawr, ond roeddwn i hefyd yn awyddus i dreulio ychydig o amser yn y gegin gyda Heinz, fy nghyn fos, a phobwr o fri.
Fel dwi wedi sôn o’r blaen roeddwn i’n gweithio mewn gwesty bach yn Awstria am dymor sgïo ar ôl gadael y coleg, gwesty sy’n berchen i Heinz ac Anita Schenk. Mae Heinz yn dod o Awstria ond o Flaenau Ffestiniog y daw Anita yn wreiddiol. Fy gyfarfu’r ddau pan ddaeth Heinz i weithio fel chef yng ngwesty Portmeirion, ond ers blynyddoedd nawr maen nhw wedi bod yn rhedeg gwesty teuluol hyfryd o’r enw Luginsland, ynghanol ardal sgïo anhygoel.
Mae Heinz yn chef gwych, ac roeddwn i’n lwcus i gael bwyta ei fwyd bob dydd am ryw bum mis wrth weithio yno. Ond er fy mod wrth fy modd ar y pryd yn ei wylio’n coginio ac o gael helpu yn y gegin, wnes i ddim bachu ar y cyfle i ddwyn rhai o’i ryseitiau. Felly y tro hwn roeddwn i wedi rhybuddio Heinz fy mod i’n dod i bigo ei ymennydd (gan mai dyna ble mae ei ryseitiau i gyd) yn ogystal â dod i sgïo.
Roedd o’n grêt cael mynd i sgïo bob dydd (tan i fi frifo fy hun yn troi fy mhen-glin, ond stori arall yw honno) ac wedyn dod ‘nôl i dreulio amser yn y gegin. Cegin anferth broffesiynol! Roedd yna rai ryseitiau yr oeddwn i’n awyddus i’w gael, ond hefyd roeddwn i’n agored i awgrymiadau Heinz.
Y rysáit oedd ar frig fy rhestr oedd y bara melys wedi’i blethu. Roedd yn Heinz yn arfer gwneud y dorth yma bob dydd ar gyfer brecwast ac mae hi’n hyfryd, yn enwedig efo’i jam bricyll cartref, neu jam grawnwin a sinsir. Mae’r dorth yn un reit gyfoethog gyda menyn, siwgr ac wyau ynddi, ond er ei fod yn felys, dyw hi ddim cweit fel torth brioche chwaith.
Fe ges i hwyl yn dysgu sut i blethu’r dorth, dwi’n gallu plethu gwallt efo tri darn yn hawdd ond fe gymerodd ychydig o amser i gael fy mhen rownd gweithio gyda phedwar. Mae Heinz yn gwneud torth fwy gyda 6 hefyd, ond dwi heb fentro honno … eto.
Dwi wedi gwneud fideo o’r plethu os da chi am drio fo eich hun.
Ymysg y pethau eraill y gwnes i goginio oedd gebacken mäuse – llygod wedi’i ffrio (math o doughnut efo cyrens)
Beugel – toes bara tenau wedi’i lenwi un ai gyda chnau cyll wedi’i malu yn fan, neu hadau pabi (cynhwysyn sy’n gyffredin iawn yn Awstria).
Mae’r Awstriaid yn coginio lot efo caws ceulaidd (curd cheese) hefyd, topfen maen nhw’n ei alw ond mae’n cael ei werthu fel Quark yn y wlad yma. Fe wnaethom ni ddau rysáit yn defnyddio’r caws yma – topfen knödel a topfen palatschinken.
Math o dumpling caws sy’n cael ei goginio mewn dŵr berwedig a’i orchuddio mewn briwsion bara, siwgr a sinamon yw topfen knödel. Mae’n flasus iawn, yn enwedig wedi’i weini gyda jam eirin.
Wedyn crempog wedi’i llenwi gyda’r caws, cyrens a lemon, a’i goginio yn y popty wedi’i orchuddio mewn cwstard yw topfen palatschinken. Ddim yn annhebyg o gwbl i’n pwdin bara menyn ni a dweud y gwir, ond mae’r Awstriaid yn fwy na hapus i’w fwyta fel cinio yn ogystal â phwdin. Un o’r rhesymau pam fy mod i’n licio Awstria gymaint debyg!
Yn ogystal â hynny fe wnaethom ni fisgedi bach a creme caramel. Fel y gallwch ddychmygu roeddwn i wrth fy modd yn sglaffio’r holl bwdinau yma bob nos.
Mae’n rhaid i fi nawr ail greu’r holl ryseitiau yma adra, doedd Heinz ddim yn mesur dim, gan fod y ryseitiau i gyd yn ei gof, a’i fod yn gwybod o edrych faint o bopeth oedd angen. Felly roedd rhaid i mi amcangyfrif faint o bopeth yr oedd o’n ei ddefnyddio. Dwi’n gobeithio bod fy mesuriadau yn gywir!