Archif | pobi RSS feed for this section

Cacen Blodau’r Ysgaw heb glwten

20 Ion

Mae bywyd wedi bod yn eithaf prysur yn ddiweddar. Rhwng magu plentyn, ysgrifennu llyfr arall (Blasus) a gweithio yn San Steffan yn un o’r cyfnodau mwyaf gwallgof yn ein gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad ar adegau. Ond ar droad blwyddyn newydd dwi wedi gwneud adduned i fi fy hun i ailgydio yn y blog. Mae’n debyg y bydd yna lai o gacennau a mwy o’r prydau da ni’n ei fwyta fel teulu, gan mai dyna dwi’n ei goginio yn bennaf y dyddiau hyn.

Ond dwi’n dal i bobi pan mae’r cyfle yn codi, ac mae hon yn rysáit dwi wedi bod yn bwriadu ei rannu ers peth amser. Fe wnes i greu’r gacen blodau’r ysgaw yma yn arbennig ar gyfer y gyflwynwraig teledu Nia Parry. Bydd rhai ohonoch wedi gweld y gacen, a minnau, ar raglen Adre ar S4C yn ddiweddar.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Daeth y criw i ffilmio yn fy nghartref haf diwethaf, ac yn ogystal â busnesu rownd y tŷ, roedden nhw’n awyddus i fy ffilmio’n coginio. Ond gan nad yw Nia yn gallu bwyta glwten doedd yr un o fy ryseitiau yn mynd i wneud y tro felly roedd rhaid i mi arbrofi a chreu rhywbeth newydd.

Doeddwn i erioed wedi coginio gyda blawd di-glwten o’r blaen, ac fe ddarganfyddais ei fod yn creu ansawdd ychydig yn wahanol i flawd cyffredin, ond mae ychwanegu almonau mâl yn creu ansawdd hyfryd. Roeddwn i’n awyddus i arbrofi gyda blas newydd hefyd a hithau yn ganol haf roeddwn i wedi bod yn yfed cryn dipyn o gordial blodau’r ysgaw efo sleisen o leim, perffaith mewn diod, ac mae’n gwneud cacen reit flasus hefyd.

Roedd hon yn sicr yn plesio Nia a’r criw, ac fe gafodd Gruff hwyl yn ei goginio,  felly gobeithio y byddwch chithau yn ei fwynhau hefyd.

Cynhwysion

200g o fenyn heb halen
200g o siwgr mân
4 wy
100g o flawd codi di-glwten
100g o almonau mâl
2 llwy de o bowdr codi
Croen 1 leim wedi’i gratio
4 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

Ar gyfer yr eisin

200g o siwgr eisin
3 llwy fwrdd o gordial blodau’r ysgaw

 

Dull

Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan ac irwch eich tun bundt yn dda gydag olew.
Rhowch y menyn meddal i mewn i’r cymysgwr ai gymysgu am ychydig funudau.

Ychwanegwch y siwgr a chymysgwch am 5 munud nes bod y lliw yn mynd yn oleuach a’i fod yn edrych yn ysgafn.

Ychwanegwch eich wyau un ar y tro, gan gymysgu yn drylwyr rhwng pob un.
Rhowch y blawd , y powdr codi a’r almonau mâl i mewn i’r gymysgedd a chymysgwch yn araf.

Gratiwch groen un leim i mewn i’r gymysgedd a thywalltwch y cordial blodau’r ysgaw i mewn, cyn ei gymysgu yn ofalus gyda spatula neu lwy.

Rhowch y cymysgedd yn y tun a choginiwch am 30 munud, hyd nes ei fod yn edrych yn euraidd

Gadewch i’r gacen oeri yn y tun am 15 munud cyn ei droi allan ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Er mwyn gwneud yr eisin cymysgwch y siwgr eisin gyda’r cordial cyn ei dywallt am ben y gacen.

Myffins Marmaled

28 Tach

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Am ryw reswm dyw hi jyst ddim yn dderbyniol i fwyta cacen i frecwast. Er dwn i ddim pam chwaith, dyw darn o gacen ddim gwaeth i chi na phowlen o Frosties neu patisserie melys llawn menyn a siwgr – ac mae’r Ffrancwyr wedi’n dysgu ni bod hynny yn fwy na derbyniol.

Ond dwi’n benderfynol o newid hynny gyda’r myffins yma, sydd yn llawn ceirch a marmaled. Dwi ddim yn dweud y dyle chi eu bwyta bob dydd, Ond maen nhw’n berffaith ar gyfer brecwast arbennig ar benwythnos, neu hyd yn oed fel rhywbeth i’w gipio fel da chi’n rhedeg allan trwy’r drws heb hyd yn oed amser i wneud darn o dost.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

A pheidiwch â phoeni, does dim angen treulio oriau yn y gegin cyn y cewch chi’ch brathiad cyntaf, mae’r rhain mor syml a chyflym i’w gwneud fe fydden nhw’n barod i’w bwyta mewn llai na hanner awr.

Neu beth am gael y plant i’ch helpu? Dim ond pwyso a chymysgu sydd angen ei wneud, mae hyd yn oed fy mhlentyn dwy oed yn gallu helpu efo hynny.

Gan fod gen i jariau lu yn y tŷ, dwi’n hoffi defnyddio marmaled cartref yn fy rhai i, ond wrth gwrs fe wnaiff marmaled siop yn hefyd cyn belled eich bod yn prynu un da sydd ychydig yn chwerw a ddim yn rhy felys.

Bydd y rysáit yn gwneud 6 myffin mawr.

Cynhwysion

150g o flawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de o soda pobi

Pinsied o halen

25g o geirch

25g o almonau mâl

50g o fenyn heb halen wedi toddi

1 wy

150g o farmaled (yn ogystal â  llwy fwrdd ychwanegol i roi sglein ar y topiau)

Sudd 1 oren

2 llwy fwrdd o iogwrt plaen

 

Dull
Cynheswch y popty i 180ºC / 160ºC ffan / marc nwy 4 a gosod cesys myffin yn eich tun.

Cymysgwch yr holl gynhwysion sych mewn powlen.

Yna mewn powlen neu jwg arall cymysgwch yr holl gynhwysion gwlyb.

Gwnewch bant ynghanol y cynhwysion sych a thywalltwch y cynhwysion gwlyb i mewn.

Plygwch yn gyflym ac yn ysgafn, hyd nes ei fod bron wedi’i gymysgu, ond gyda rhai lympiau o flawd yn dal i’w gweld. Os ydych yn ei or-gymysgu fe fydd eich myffins yn drwm.

Llenwch eich cesys myffin gyda’r gymysgedd ac ysgeintiwch ychydig o geirch ar ben pob un.

Coginiwch am 20 munud, hyd nes eu bod wedi codi ac yn euraidd.

Tra bod y myffins yn oeri ar rwyll fetel, cynheswch lond llwy fwrdd o’r marmaled mewn sosban gyda llwy fwrdd o ddŵr. Pan fydd wedi toddi yn llwyr, brwsiwch am ben y cacennau.

Bisgedi cyntaf

28 Tach


Mae amser wir wedi hedfan yn ddiweddar, ac mae’r mab nawr wedi dechrau bwyta. Fel rhywun sydd wrth eu bodd gyda bwyd a choginio, mae hyn yn gyfnod cyffroes iawn i mi, ond hefyd yn cynnig her newydd i mi – pobi a choginio gyda llai o halen a siwgr na’r arfer. Ond mae’n un dwi’n ei fwynhau hyd yn hyn, yn sicr mae’n helpu bod y bychan yn mwynhau ei fwyd cymaint â’i fam.

Stwnsh neu bethau meddal mae’n ei fwyta yn bennaf ar hyn o bryd, ond gyda dannedd ar y ffordd, mae o’n mwynhau cnoi ar bethau caled hefyd. Felly dyma’r cyfle cyntaf i bobi bisgedi ar ei gyfer, bisgedi sydd yn ddigon caled fel nad oes modd iddo dorri darn mawr i ffwrdd, ond yn meddalu yn araf wrth iddo gnoi a sugno arnyn nhw. A bisgedi sydd wrth gwrs heb unrhyw siwgr ynddyn nhw, ond yn hytrach wedi’i melysu gan ychydig o biwre afal.

Nawr dwi’n ymwybodol iawn bod amser yn brin os oes gennych fabi bach, felly mae’r rhain yn syml ac yn gyflym iawn i’w gwneud, yn enwedig os oes gennych chi lond rhewgell o biwre afal yn barod, fel y fi.

Er bod y rhain yn berffaith ar gyfer babis o 6 mis ymlaen, mae’n dal yn bwysig i gadw golwg ar eich plentyn wrth iddyn nhw eu bwyta, rhag ofn iddyn nhw dagu.

Cynhwysion

300g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi

1 wy

100g o biwre afal trwchus (Tua 2/3 afal) 

 

Dull

Dechreuwch drwy wneud y piwre afal. Peidiwch a phlicio’r afalau (mae yna lot o faeth yn y croen), ond torrwch y canol allan, a thorri’r afalau yn ddarnau. Dwi’n hoffi stemio fy afalau, ond gallech eu coginio mewn sospan hefyd. Fe ddylai gymeryd 15-20 munud hyd nes eu bod yn feddal. Yna defnyddiwch brosesydd bwyd i’w malu yn llyfn.
Gadewch i’r piwre oeri rhywfaint. 

Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Cymysgwch yr holl gynhwysion hyd nes bod popeth yn dod at ei gilydd i ffurfio toes llyfn. 

Torrwch belen o’r toes a’i rolio yn sosej rhyw 2 fodfedd o hyd, Gosodwch ar eich tun pobi a’i wasgu yn fflat. Mae angen i’r bisgedi fod yn ddigon mawr i fabi eu dal yn eu dwrn i fwydo eu hunain, ond ddim yn rhy fawr i’w roi yn eu ceg. Ailadroddwch gyda gweddill y bisgedi gan sicrhau bod digon o le rhwng pob un. 

Coginiwch am 25-30 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac yn galed. 

Gadewch i’r bisgedi oeri ar rwyll fetel. 
Fe fydd rhain yn cadw yn dda o’u rhoi mewn tun a chaead iddi. 

Tartenni afal

13 Hyd

Mae cyfres arall o’r Great British Bake Off wedi dod i ben ac fel y cyfresau eraill cyn hyn, dwi wedi mwynhau hon yn aruthrol, ac yn hapus iawn o weld Nadiya yn ennill. Pencampwr haeddiannol yn fy marn i, wnaeth gynyddu mewn hyder wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen gan greu cacennau trawiadol a blasus iawn yr olwg wythnos ar ôl wythnos.

Fel y dywedodd un person wrtha i ar twitter nos Fercher, ‘dyma dy world cup di ynte?’ – wel ia o bosib, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn mynd i fod yn hapus yn ei wylio adra ar fy mhen fy hun. O na, fe wnes i wylio’r rownd derfynol ar sgrin fawr mewn tafarn, gyda llond ystafell o gyd bobwyr a mwy na digon o gacennau a gwin.

A dweud y gwir dwi wedi bod yn cwrdd â grŵp o ffrindiau yn rheolaidd i wylio’r rhaglen, ac yn aml yn pobi rhywbeth i gyd fynd gyda themâu’r wythnos. Yn ystod wythnos toes y rhaglen, fe wnes i’r tartenni bach afal yma. Crwst pwff menynaidd, gydag afalau yn gorwedd ar bast almon melys. Tartenni bach trawiadol sydd mewn gwirionedd yn hawdd iawn i’w gwneud.

Fe wnes i fy nghrwst pwff fy hun, a wir i chi mae’n lot haws nag y buasech chi’n ei feddwl os ydych yn dilyn fy rysáit ar gyfer ‘rough puff’. Ond os yw amser yn wirioneddol yn brin yna does yna s dim byd yn bod gyda defnyddio paced da o does pwff, cyn belled mai un wedi’i wneud gyda menyn ydi o.  Ond rhowch gyfle arni unwaith o leiaf.



Cynhwysion
Ar gyfer y crwst

250g o fenyn oer

250g o flawd plaen

1 llwy de o halen

150ml o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad
80g o fenyn heb halen

80g o siwgr mân

1 wy

80g o almonau mâl

15g o flawd plaen

1 wy

1 llwy de o rym

2 afal

25g o fenyn wedi toddi

50g o siwgr mân

1 llwy fwrdd o jam bricyll wedi’i gynhesu efo llwy de o ddwr.


Dull

  • Torrwch y menyn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen.
  • Gyda’ch dwylo rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bras. Rydych dal eisiau darnau gweddol fawr o fenyn ynddo.
  • Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn tylino’r toes, fe ddylai fod yn reit lympiog.
  • Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a siapiwch eich toes fel ei fod yn ffurfio petryal. Nawr roliwch allan o’ch blaenau i un cyfeiriad fel bod gennych un darn hir o does tua 30cm x 15cm.
  • Plygwch draen o’r toes i lawr ar ben ei hun, cyn plygu’r traean gwaelod i fyny am ben hwnna, fel petai chi’n plygu llythyr!
  • Nawr trowch y toes 90°, a’i rolio unwaith eto mewn un cyfeiriad nes ei fod tair gwaith mor hir eto. Ailadroddwch y plygu, cyn ei lapio mewn cling film a’i roi yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar ôl iddo oeri yn ddigonol, roliwch a phlygwch ddwywaith eto. Fe fyddwch wedi rholio a phlygu pedair gwaith erbyn y diwedd. Rhowch yn ôl yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C / Nwy 6 a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
  • I wneud y past almon chwisgiwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am ychydig funudau hyd nes eu bod yn ysgafn ac yn olau. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n dda, yna plygwch yr almonau, y blawd a’r rym i mewn i’r gymysgedd.
  •  Rholiwch eich toes nes ei fod yn drwch ceiniog punt. Yna gyda thorrwr siâp cylch tua 4 modfedd ar draws, torrwch 10 o gylchoedd allan.
  • Gosodwch ar dun pobi wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim, a phrociwch ganol pob un gyda fforc.
  • Rhowch yn ôl yn yr oergell am o leiaf 20 munud.
  • Yn y cyfamser pliciwch eich afalau, torrwch y canol allan a sleisiwch yn dafellau tenau.
    Tynnwch y cylchoedd toes o’r oergell a thaenwch lond llwy de o’r past almon yn y canol a gosodwch dafellau afal am ei ben mewn patrwm del.
  • Brwsiwch y menyn wedi toddi am eu pennau ac ysgeintiwch gyda siwgr mân. Coginiwch am 15 munud neu hyd nes bod y crwst yn euraidd a’r afalau yn dechrau lliwio.
    Gadewch i oeri ar rwyll fetel.
  •  Wrth aros iddyn nhw oeri cynheswch y jam a’r dŵr mewn sosban a brwsiwch am ben y tartenni i roi sglein deniadol iddynt.

Cacen Ben-blwydd Lemon a Mafon

2 Hyd


Dydych chi byth yn rhy hen i gael cacen ben-blwydd, a hyd yn oed heb barti roedd rhaid gwneud rhywbeth i ddathlu pen-blwydd fy ngŵr yn ddiweddar. A pan ofynnais i’r gŵr Pa fath o gacen yr oedd o eisiau eleni, cacen lemon drizzle meddai. Digon teg, mae’n dipyn o ffefryn gen i hefyd. Ond dyw o ddim yn gacen ar gyfer dathliad, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth llawer mwy trawiadol. Felly gyda’r gacen lemon yn ysbrydoliaeth, fe es ati i wneud cacen lemon a mafon, gyda’r dyw haen o gacen lemon a haen ar all yn y canol wedi’i wneud gyda’r mafon ffres. Rhwng pob haen wedyn roedd yna eisin menyn lemon, ceuled lemon a mwy o fafon ffres. Addurnais y cyfan gydag eisin menyn lemon wedi’i liwio yn felyn a phinc, er mwyn rhoi rhyw syniad o’r hyn oedd y tu fewn.

IMG_1334
Roedd yna glod mawr i’r gacen ymysg ei deulu, ac roedden nhw’n amlwg wedi’i fwynhau achos dim ond un darn gefais i cyn yr oedd y gacen wedi diflannu yn llwyr.
Yn sicr dyw hon ddim yn gacen ar gyfer pob dydd ond mae’n berffaith ar gyfer achlysur arbennig pan mae yna ddigon o bobl i’w bwydo.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cynhwysion 

300g o fenyn heb halen

350g o siwgr mân

5 wy

350g o flawd plaen

3 llwy de o bowdr codi

Croen un lemon wedi’i gratio

100g o fafon

Ar gyfer yr eisin

375g o fenyn heb halen

700g o siwgr eisin

Sudd un lemon

Croen hanner lemon wedi’i gratio

Past lliw melyn a pinc

I orffen y gacen

Sudd un lemon

100g o Siwgr eisin

100g o fafon

Ceuled lemon

Dull

  • Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch dri thun crwn 20cm a leinio’r gwaelod gyda phapur gwrthsaim.
  • Rhowch y menyn mewn powlen a’i guro am funud gyda chwisg drydan nes ei fod yn llyfn, yna ychwanegwch y siwgr yn raddol a’i guro am 5 munud arall nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.
  • Nawr ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu’n drwyadl gyda’r chwisg drydan rhwng pob un. Os ydych yn poeni ei fod yn mynd i geulo ychwanegwch lwy fwrdd o flawd rhwng pob wy.
  • Hidlwch y blawd a’r powdr codi i mewn a’i gymysgu gyda llwy neu spatula.
  • Rhannwch y gymysgedd yn hafal rhwng tair powlen, gan ychwanegu’r croen lemon at ddau a’r mafon wedi’i stwnsio at y llall a chymysgwch yn ofalus.
  • Rhowch eich cymysgedd yn y tri thun a’u coginio am 25-30 munud, hyd nes bod y sbwng yn euraidd a bod sgiwer sy’n cael ei osod ynghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i oeri yn y tuniau am rai munudau cyn eu trosglwyddo i rwyll fetel i oeri yn llwyr.
  • Yn y cyfamser gwnewch surop drwy gynhesu sudd un lemon gyda’r siwgr eisin.
  • Os nad yw eich cacennau yn wastad, torrwch y topiau i ffwrdd efo cyllell fara yna brwsiwch y ddwy gacen lemon gyda’r surop.
  • Er mwyn gwneud yr eisin, cymysgwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch sudd a chroen y lemon a’r siwgr eisin yn raddol. Cymysgwch yn dda am 4-5 munud.
  • Gosodwch un o’r cacennau lemon ar eich plât gweini, a thaenwch haen o eisin am ei ben yn ogystal â rhywfaint o geuled lemon a hanner y mafon (wedi’i stwnsio) sydd yn weddill. Gosodwch y gacen mafon am ei ben, a gwnewch yr un peth eto. Rhowch y drydedd gacen (yr un lemon) ar y top a gorchuddiwch y gacen gyfan gyda haen denau o’r eisin. Fe fydd yr haen yma yn dal y briwsion i gyd ac yn gweithio fel sylfaen i’r haen olaf o eisin, felly does dim rhaid iddo fod yn rhy daclus nac yn rhy drwchus.
  • Rhowch y gacen yn yr oergell am 30 munud fel bod yr eisin yn caledu. Ar ôl i’r haen gyntaf o eisin setio, rhannwch yr eisin sy’n weddill rhwng pedwar powlen, gadewch un yn wyn, lliwiwch un yn binc a’r ddau arall yn felyn, ond gydag un yn dywyllach na’r llall.
  • Gorchuddiwch dop y gacen gyda’r eisin gwyn, gan ei wneud mor llyfn â phosib gyda chyllell balet. Yna yn fras Rhowch haen o eisin pinc p gwmpas gwaelod y gacen, yn a’r melyn golau, gan orffen gyda’r melyn tywyll. Ewch dros y cyfan gyda chyllell balet i’w wneud yn llyfn, gan sicrhau bod y lliwiau yn llifo i mewn i’w gilydd, a’r melyn yn lledaenu i’r top hefyd.

Dyw hi ddim yn hawdd pobi gyda babi!

29 Gor

IMG_8733

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi flogio, ond mae gen i esgus da – dwi di cael babi! Roeddwn i’n dal i weithio pan ddaeth Gruff bach, bron i fis yn gynnar, gan roi dipyn o sioc i fi a’r gŵr. Yn amlwg doedd o methu aros i ddod fewn i’r byd yma. Ers hynny mae bywyd wedi newid cryn dipyn, a’r amser a hyd yn oed yr egni i bobi wedi bod yn brin iawn.

Ond wedi dweud hynny, dyw Gruff ddim wedi fy nghadw i allan o’r gegin yn llwyr. Mae o’n gallu bod yn hogyn da iawn ar adegau, gan gysgu’n ddigon hir yng nghanol y dydd i fi gael mentro i’r gegin i wneud rhywbeth. Ac mae powlen gymysgu a chlorian gegin yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau pwyso babi bach!

IMG_8767

IMG_8768

A’r peth cyntaf wnes i oedd y cacennau bach riwbob a chwstard yma ar gyfer fy nghlwb pobi. Haf oedd y thema, a gyda llond bag o riwbob yn yr oergell gan fy rhieni yng nghyfraith, roedd yn rhaid i mi eu defnyddio. A’r peth amlwg i’w gyfuno gyda riwbob yw cwstard, felly mae’r cacennau yma wedi’i gwneud gyda sbwng fanila, gyda riwbob wedi’i stiwio yn y canol, ac eisin menyn wedi’i wneud gyda phowdr cwstard a’i liwio yn binc a melyn fel y fferins.

IMG_8850

Fel y gwelwch chi roedd y gacen yma ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn dipyn o her o ystyried yr amser oedd ei angen i’w gwneud. Doedd y tywydd ddim yn help chwaith, roedd hi’n chwilboeth ar y pryd, a dyw gweithio gydag eisin a siocled byth yn hawdd mewn tywydd poeth. Ond roeddwn i’n awyddus i’w wneud gan fod ffrind, sydd yn yr ysbyty a’r hyn o bryd, wedi gofyn am gacen pen-blwydd arbennig i’w hogyn bach oedd yn flwydd oed.

Mae’r gacen wedi’i wneud o bedwar haen o sbwng siocled, ac fe wnes i’r rheiny fin nos rhyw wythnos ynghynt ac yna eu rhewi. Yna’r diwrnod cyn y parti, fe wnes i eu dadmer, a’u llenwi a’u gorchuddio gydag eisin menyn siocled, a gwneud yr anifeiliaid bach allan o eisin ffondant. Yn lwcus i fi, fe gafodd Gruff nap digon hir i mi gael gorffen y gwaith!

Cacen foron a courgette

11 Ebr

IMG_1158

Does dim dwywaith bod y Gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r haul wedi bod yn tywynnu ers dyddiau nawr a dwi hyd yn oed wedi cyfnewid fy nhrainers am flip flops unwaith.

Ac wrth i’r tymhorau newid yna hefyd mae’r hyn dwi’n ei goginio, a’r awydd nawr i bobi cacennau sy’n gwneud y mwyaf o gynhaeaf hael y gwanwyn. Mae’n braf gweld yr holl ffrwythau a llysiau ffres yn y siopau ac mae’r gacen hon yn gwneud y mwyaf ohonyn nhw.

Dwi wedi gwneud cacen foron o’r blaen a chacen corbwmpen (courgette) o’r blaen, ond pam ddim cyfuno’r ddau. Maen nhw’n llysiau perffaith ar gyfer cacennau, maen nhw’n rhoi digon o felysrwydd a lleithder, i’r gacen, a da ni’n gallu perswadio ein hunain ei fod ychydig yn fwy iach na chacen arferol! Er bod yna wyau, does dim cynnyrch llaeth, felly er nad yw’n fegan, mae’n berffaith i’r rheiny ag alergedd i laeth.

IMG_1159

Fe fuasech chi’n gallu rhoi eisin caws meddal am ben y gacen hon, ond dwi’n meddwl bod eisin oren syml yn berffaith, gan ei fod yn gadael i flas y llysiau i ddisgleirio.

Cynhwysion

180g o siwgr mân
180g o siwgr brown
4 wy
300ml o olew rapeseed
200g o foron wedi’i gratio
150g o gorbwmpen (courgette) wedi’i gratio
120g o syltanas
croen 1 oren wedi’i gratio
300g o flawd plaen
1/2 llwy de o soda pobi
1/2 llwy de o bowdr codi
2 lwy de o sbeis cymysg
pinsied o halen

Ar gyfer yr eisin

150g o siwgr eisin
sudd un oren

Dull

Cynheswch y popty i 160C ac irwch dun bundt yn dda (dwi’n defnyddio olew pobi pwrpasol y gellir ei chwistrellu ymlaen er mwyn cyrraedd pob twll a chornel). )

Rhowch y siwgr a’r wyau mewn powlen a’u curo gyda chwisg drydan am 5 munud, nes eu bod yn olau ac yn ysgafn.

Gyda’r chwisg yn dal i guro, ychwanegwch yr olew yn araf fel ei fod yn cyfuno yn llwyr.

Nawr ychwanegwch y moron, corbwmpen, syltanas a chroen yr oren a’i gymysgu gyda spatula neu lwy.

Nawr ychwanegwch y blawd, soda pobi, powdr codi, sbeis cymysg a halen a’i blygu i mewn.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a phobwch am awr, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun cyn ei dynnu allan, yna gwnewch yr eisin drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd yr oren a’i dywallt am ben y gacen.

 

 

 

Torth Simnel

7 Ebr

IMG_1156

Dyma fy fersiwn i o gacen simnel, mae’n bell o fod yn draddodiadol – mae hi’n symlach ac yn ysgafnach na chacen simnel arferol, ond eto mae blas traddodiadol y ffrwythau sych a’r marsipan yn dal i ddisgleirio. Er yn y dorth hon dwi’n ychwanegu darnau o farsipan at y gymysgedd, fel eich bod yn cael blas o farpsian meddal ym mhob cegaid.

Byddai wedi bod yn rysáit perffaith ar gyfer y Pasg, yn anffodus, roeddwn i ychydig yn rhy brysur yn dal fyny efo ffrindiau a theulu, ac yn bwyta gormod, i bostio’r rysáit mewn digon o amser. Ond does dim rheswm pan na allech ei wneud unrhyw adeg o’r flwyddyn, mae’n gacen hyfryd i’w gweini gyda phaned o de, pan fydd gennych ymwelwyr.

Cynhwysion

300g o ffrwythau sych cymysg

60g o geirios glacee wedi’u torri yn chwarteri

croen a sudd 1 oren

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

4 wy

300g o flawd codi

50g o almonau mâl

1 llwy de o sbeis cymysg

2 llwy fwrdd o laeth

150g o farsipan

4 llwy fwrdd o siwgr eisin

sudd ½ oren

 

Dull

Cynheswch y popty i 170ºC / 150ºC ffan / marc nwy 4, ac irwch a leiniwch dun torth dau bwys.

Rhowch y ffrwythau sych a’r ceirios i socian gyda’r croen a sudd oren.

Gyda chwisg drydan curwch y menyn am funud nes ei fod yn feddalach yn llyfn yna ychwanegwch y siwgr a’i guro am 4 munud ymhellach nes ei fod yn olau ac yn ysgafn.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro gan sicrhau eich bod chi’n curo’r gymysgedd yn drwyadl rhwng pob un. Os ydych yn poeni bod y gymysgedd yn dechrau ceulo yna ychwanegwch lond llwy fwrdd o’ch blawd gyda’r wy.

Yna ychwanegwch y blawd, almonau mâl, a sbeis cymysg, a’i blygu i mewn gyda spatula neu lwy bren. Llaciwch y gymysgedd rhywfaint gyda’r llaeth, cyn torri’r marsipan yn ddarnau a’u hychwanegu at y gymysgedd.

Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’ch tun a’i goginio am 1 awr 20 munud, neu hyd nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lan.

Trosglwyddwch i rwyll fetel i oeri yn llwyr. Yna addurnwch gydag eisin wedi’i wneud drwy gymysgu’r siwgr eisin a sudd oren.

 

 

Cwrs Bara Bread Ahead

23 Maw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Dwi wedi bod yn pobi fy mara fy hun ers peth amser nawr, yn bennaf bara a byns melys, ond dwi hefyd yn mwynhau gwneud torth gyffredin yn achlysurol. Ond fel popeth arall, dwi di dysgu fy hun, a fyth ers i fy mrawd fynd ar gwrs bara Richard Bertinett yn Bath, dwi wedi bod eisiau mynd ar gwrs fy hun, er mwyn cael dysgu yn iawn gan arbenigwyr.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Felly pan ofynnodd fy ngŵr i mi beth oeddwn i eisiau ar fy mhen-blwydd roeddwn i’n gwybod yn syth beth i ofyn amdano. Roeddwn i wedi gweld bod Bread Ahead, becws Justin Gellatly yn Borough Market yn gwneud cyrsiau ac wedi bod yn pori drwy’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig ers peth amser.

Dwi wedi bod yn ffan mawr o Justin Gellatly ers peth amser, wel yn ffan o’i fara ac yn benodol ei doughnuts. Wir i chi maen nhw’r gorau dwi wedi’i flasu a dwi’n gorfod bachu un bob tro dwi’n Borough market. Mae o a’i dim yn amlwg yn angerddol iawn am fara, ac er gwaethaf poblogrwydd y becws, maen nhw’n cadw’r busnes yn weddol fach er mwyn sicrhau’r safon uchaf posib. Felly dy nhw mond yn gwerthu yn y farchnad ac ar gyfer busnesau lleol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ac roedd yr angerdd yna yn sicr i’w weld ar y cwrs.

Roedd hi’n anodd dewis cwrs penodol gan bod yna gymaint o rai da’r olwg ganddyn nhw, ond Cwrs Pobi Uwch ddewisais i – cwrs diwrnod yn dysgu gwneud popeth o baguettes i brioche.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Aidan Chapman oedd yn ein harwain ni trwy’r dydd ac yn rhannu ei brofiad helaeth a ni ac roedd y cwrs yn cael ei gynnal yn eu becws. Ac er eu bod nhw yn gorffen eu gwaith wrth i ni ddechrau, roedd yn braf, bod yn y fath awyrgylch; cael gweld y mynyddoedd o flawd maen nhw’n ei ddefnyddio, a’r poptai proffesiynol. Yn sicr roedd yna ddigon o ysbrydoliaeth.

Fe ddechreuom drwy wneud y toes ar gyfer baguettes a’r pizza fyddai hefyd yn ginio i ni.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mewn byd delfrydol fe fuasai’r broses yn cymryd 2 ddiwrnod. A’r cam cyntaf yw i wneud poolish, sef cymysgedd o furum, dwr ac ychydig o flawd, sy’n cael ei adael dros nos, er mwyn rhoi mwy o amser i’r burum ddatblygu sydd yn ei hun yn rhoi blas mwy cymhleth i’r bara. Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at weddill y cynhwysion ar y diwrnod canlynol, pan fyddwch yn barod i bobi.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Fe wnaethom dorth sourdough hefyd gyda blawd rye a hadau caraway a choriander. Eto proses fyddai fel arfer angen dechrau 6 niwrnod ynghynt ond roedd ‘na dipyn bach o cheatio yn mynd ymlaen!

I blesio fy nant melys, fe wnaethom croissants a thorth brioche hyfryd. Mae’r ddau yn broses reit lafurus, ddim yn rhywbeth y buasech chi’n ei wneud bob dydd ond yn sicr yn werth yr ymdrech yn y pendraw.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Wrth wneud y croissants, rydych yn dechrau gyda thoes bara melys, ond yr hyn ddysgais oedd nad oes angen gweithio’r toes yma yn ormodol fel bara cyffredin gan y bydd yn ei wneud yn anoddach i ychwanegu’r holl fenyn y diwrnod canlynol. Felly dim ond cymysgu popeth am ychydig funudau sydd ei angen, gan adael y toes i ddatblygu ei hun dros nos. Mae’n reit ddychrynllyd gweld faint o fenyn sy’n mynd mewn i croissants. Ond yr haenau o fenyn a thoes sy’n gwneud croissant ysgafn perffaith y byddai unrhyw boulangerie Ffrengig yn falch ohono.

Yn yr un modd mae yna swm anweddus o fenyn yn mynd mewn i dorth brioche, ac mae’n edrych fel y buasai’n amhosib i’w gyfuno gyda’r toes. Yn sicr dyw o ddim yn hawdd i’w wneud gyda llaw fel y gwnaethom ni; mae’n rhaid tylino’r menyn i mewn, bedwar lwmp ar y tro, felly dyw o ddim yn broses y gallwch ei frysio. Ond byddwch yn anghofio am hynny yn ddigon sydyn wrth i’r arogl melys a menynog ddechrau llenwi’r gegin wrth iddo bobi. Wrth gwrs mae’r blas yn odidog hefyd.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Does dim dwywaith bod y diwrnod yn waith caled iawn, yn enwedig i fenyw feichiog, dwi erioed wedi tylino cymaint yn fy myw! Ond fe ddygais gymaint gan Aidan, ac fe gawsom ni lot fawr o hwyl. A’r peth gorau oedd gadael nid yn unig gyda sgiliau newydd ond gyda dau fag yn llawn o ddanteithion hyfryd. Roedd y ty yn arogli fel becws am ddyddiau wedyn.

Cacennau datys a sinsir gyda saws taffi

11 Ion

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Gyda gloddesta’r Nadolig drosodd mae’n teimlo fel pawb nawr ar ryw fath o ddeiet neu detox, wel dwi’n sicr ddim. Wrth gwrs dwi wedi rhoi’r gorau i fwyta siocled bum gwaith y diwrnod ac yn ceisio bwyta ychydig mwy o lysiau na wnes i dros yr ŵyl, ond dwi ddim yn un sy’n mynd amddifadu fy hun o’r hyn dwi’n ei hoffi, ac felly mae’r pobi yn parhau. A dweud y gwir dwi’n disgwyl ac mae’r babi yma yn mynnu cacennau felly pwy ydw i i ddweud na.

I fod yn onest mae mis Ionawr yn ddigon diflas heb orfod byw ar smoothies gwyrdd yn unig. Mae angen cyfarwyddo efo codi’n gynnar i fynd i’r gwaith ar ôl gwyliau go hir, mae’r dyddiau yn fyr a’r tywydd yn afiach, felly mae angen rhywbeth i godi calon rhywun.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Yn y gegin dwi hapusaf, ac felly’r penwythnos yma gyda’r gwynt yn rhuo y tu allan a’r glaw ffyrnig yn taro’r ffenestri dyma benderfynu gwneud pwdin sydd fel cwtsh mawr ar ddiwrnod oer, y cacennau datys a sinsir yma, gyda saws taffi. Maen nhw’n felys ac yn gyfoethog gyda chic gynnes gan y sinsir, pwdin perffaith i fwytho’r enaid, ond sy’n siŵr o ddychryn unrhyw un sydd ar ddeiet!

Dwi wedi gwneud y cacennau yma mewn tuniau bundt bach gan eu bod yn rhoi siâp mor ddeniadol i’r cacennau heb unrhyw ymdrech gennych chi, ond os nad ydych yn berchen ar duniau o’r fath bydd tun myffin arferol yn gwneud y tro hefyd. Un tip is ydych chi’n defnyddio tun bundt yw defnyddio chwistrell olew pwrpasol ar gyfer pobi er mwyn eu hiro, fe fydd yn mynd i bob twll a chornel yn haws na petase chi’n defnyddio menyn.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

Mae’r cacennau yma yn hyfryd yn gynnes gyda’r saws taffi am eu pen, ond maen nhw hefyd yr un mor flasus yn oer heb y saws o gwbl (a lot llai o galorïau hefyd os yw hynny yn eich poeni!).

Fe fydd y rysáit yma yn gwneud rhyw 16 cacen fach

 

Cynhwysion

 

Ar gyfer y cacennau

175g o ddatys

300ml o ddŵr berwedig

1 llwy de o soda pobi

100g o fenyn heb halen

150g o siwgr brown tywyll

2 wy

1 llwy de o rin fanila

50g o sinsir mewn surop wedi’i dorri yn fân

225g o flawd codi

½ llwy de o halen

 

Ar gyfer y saws taffi

100g o fenyn heb halen

75g o siwgr brown golau

50g o siwgr brown tywyll

150ml o hufen dwbl

pinsied o halen môr

 

Dull

Cynheswch y popty i 180°C / 160°C ffan / marc nwy 4.

Torrwch y datys yn ddarnau gweddol fach a’u rhoi mewn powlen gyda’r dŵr berwedig a’r soda pobi a’u gadael i socian am o leiaf 10 munud.

Yn y cyfamser curwch y menyn a’r siwgr am ryw 5 munud nes bod y gymysgedd yn olaf ac yn ysgafn.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro gan gymysgu yn drylwyr ar ôl bob un, yna cymysgwch y fanila i mewn.

Ychwanegwch y blawd a’r halen a’i blygu i mewn gyda spatula cyn tywallt y datys a’r holl hylif i mewn yn ogystal â’r darnau sinsir a’i gymysgu yn dda.

Irwch eich tuniau bundt yn dda, cyn eu llenwi nes eu bod yn 2/3 llawn.

Coginiwch am 20 munud nes bod sgiwer o’i osod yn y canol yn dod allan yn lân.

Os ydych am eu bwytya yn gynnes gadewch i oeri am ychydig funudau yn eu tuniau cyn eu tynnu allan. Neu os ydych am eu cadw am gyfnod gadewch i oeri yn llwyr ar rwyll fetel.

Er mwyn gwneud y saws taffi, rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban a’i gynhesu yn araf nes bod y menyn yn toddi. Yna cynyddwch y tymheredd a’i ferwi am ychydig funudau nes ei fod yn ddigon trwchus.

Gweiniwch wedi’i dywallt am ben y cacennau.

 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA