Wel mae’r llyfr newydd wedi’i gwblhau ac i’w brynu yn eich siop lyfrau lleol.
Ar ôl yr holl arbrofi, sgwennu a golygu roedd o’n foment gyffroes iawn pan ddaeth y copi cyntaf drwy’r post. Unwaith eto mae Warren Orchard wedi gwneud gwaith gwych o wneud i fi edrych yn hanner call ynddo a Dorry Spikes wedi gwneud job hyfryd gyda’r dylunio
Fel mae’r teitl yn awgrymu, llyfr yn llawn cacennau, bisgedi a phwdinau yw hyn unwaith eto. Ond doeddwn i methu sgwennu llyfr am bobi ac anwybyddu danteithion sawrus. Felly mae yna bennod o ryseitiau ar gyfer pastai, cracyrs a thartenni sawrus hefyd.
Ond daeth yr ysbrydoliaeth gyntaf am y llyfr wrth feddwl am fisgedi retro fy mhlentyndod, felly dwi wedi creu fy custard creams, bourbons a jammy dodgers fy hun.
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn arbrofi gyda’r defnydd o berlysiau a sbeisys mewn cacennau felly mae ‘na gacen siocled a chilli, myffins llys a choriander a chacennau bach lemon a theim – swnio yn anarferol efallai, ond maen nhw i gyd yn blasu’n hyfryd dwi’n addo.
Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer y llyfr hwn, fe es yn ôl i Awstria er mwyn ymweld â Heinz ac Anita Schenk yn y gwesty ble bu’m yn gweithio flynyddoedd yn ôl. Mae Heinz yn bobydd o fri, ac roeddwn i’n lwcus iawn i ddod adref gyda rhai o’i hoff ryseitiau. Mae’r bara plethu melys yn odidog a’r beugels yn wahanol i unrhywbeth dwi wedi’i weld o’r blaen ond yn hynod flasus.
Unwaith eto dwi’n gobeithio bod yna rywbeth i demtio pawb yn y llyfr hwn boed chi’n ddibrofiad neu yn barod i fentro mae yn ryseitiau ar gyfer bisgedi syml, neu macarons mentrus. Mae yn glamp o gacennau mawr ar gyfer achlysuron arbennig fel y gacen enfys isod (yr yn y gwnes i ar gyfer fy mhriodas) neu’r gacen siocled a charamel hallt , ond mae yn bwdinau syml hefyd ar gyfer unrhyw ddydd.
Dwi mond yn gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli i estyn am y ffedog a mynd ati i bobi unwaith eto.
Diolch i bawb sydd wedi prynu Paned a Chacen, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r ail gyfrol yma cystal.