Archif | Mai, 2014

Sgwariau crymbl riwbob a chwstard

28 Mai

cacen crymblFel yr addewais dyma fy ail rysáit yn defnyddio riwbob a chwstard. A dwi wrth fy modd efo rhain.

Mae yna reswm pam ei fod yn gyfuniad mor glasurol – mae’r riwbob sur yn gyferbyniad perffaith i’r cwstard fanila melys a chyfoethog. Felly gyda’r rysáit yma fe benderfynais i wneud cacen gyda sbwng fanila ar y gwaelod, haen o gwstard am ei ben, wedyn riwbob a chrymbl crensio ar y top i orffen.

Dwi wrth fy modd yn gwneud fy nghwstard fy hun, ond tydi o ddim yn angenrheidiol fan hyn, mae cwstard siop, neu hyd yn oed un wedi’i wneud gyda phowdr yn ddigon da – er wrth gwrs mae croeso i chi wneud eich cwstard eich hun. Ond un peth sy’n bwysig yw bod y cwstard yn drwchus, neu fe fydd o’n amhosib cadw’r haenau gwahanol ar wahân.

cacen crymbl2

cacen crymbl3

 

Cynhwysion

200g o riwbob

2 lwy fwrdd o siwgr mân

 

Ar gyfer y crymbl

80g o flawd codi

40g o fenyn heb halen oer

40g o siwgr gronynnog

40g o geirch

20g o almonau tafellog

 

Ar gyfer y sbwng

150g o fenyn heb halen

150g o siwgr mân

2 wy

150g o flawd codi

1 llwy fwrdd o bowdr cwstard

1 llwy de o fanila

 

300g o gwstard siop (gweddol drwchus)

 

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.

Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch dun sgwâr, un 21cm x 21cm ddefnyddiais i.

Gwnewch y crymbl i ddechrau – rhowch y blawd mewn powlen, torrwch y menyn yn ddarnau bach a rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion (neu defnyddiwch brosesydd bwyd os oes gennych un).

Ychwanegwch y siwgr, y ceirch a’r almonau tafellog a’i gymysgu yn dda a rhowch i un ochr.

Nesaf gwnewch y sbwng drwy guro’r menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.

Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.

Ychwanegwch y rhin fanila a’i gymysgu yn dda cyn ychwanegu’r blawd a’r powdr cwstard a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.

Rhowch y gymysgedd yng ngwaelod eich tun a gorchuddiwch gyda’r cwstard, yna rhowch y riwbob wedi’i oeri am ei ben, gan orffen gyda haen o’r crymbl.

Coginiwch yn y popty am awr, ne bod y crymbl yn euraidd.

Gadewch y gacen i oeri yn llwyr yn y tun, cyn ei dorri yn sgwariau.

 

Cacen riwbob a chwstard

11 Mai

 

DS2_9426

Hwre! Mae’n dymor riwbob a dwi’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r ffrwyth /llysieuyn hyfryd yma.

Gyda bwyd yn cael ei hedfan ar draws y byd, does yna ddim llawer o lysiau neu ffrwythau sy’n wirioneddol dymhorol erbyn hyn. Os ydych wir eisiau, maen bosib cael mefus yn ganol gaeaf yn yr archfarchnad, er eu bod nhw fel arfer yn blasu o ddim. Ond am hanner y flwyddyn mae hi’n amhosib cael gafael ar riwbob, felly’r munud mae o’n ymddangos yn yr ardd neu’r siop dwi’n gwneud yn siŵr fy mod i’n cael fy nigon. Peidiwch â dweud wrth fy rhieni yng nghyfraith ond roeddwn i yn eu gardd yr wythnos diwethaf, tra’r oedden nhw i ffwrdd ar eu gwyliau, yn dwyn eu riwbob.

DS2_9302

Wrth gwrs dyw o ddim yn ddigon i mi wneud crymbl neu darten riwbob, dwi wastad yn chwilio am rywbeth newydd i’w wneud. Mae yna rysáit ar gyfer cacen gaws riwbob a sinsir yn Paned a Chacen, dwi hefyd wedi gwneud jam riwbob a sinsir, hufen ia crymbl riwbob a fodka riwbob. Ond eleni roeddwn i’n awyddus i wneud cacen oedd yn cyfuno’r ddau flas clasurol yna – riwbob a chwstard.

Ar ôl tipyn o arbrofi, a dwy gacen oedd yn llanast llwyr, fe lwyddais i greu dwy rysáit yr oeddwn i’n hapus iawn â nhw. Y gacen sbwng riwbob a chwstard yma a sgwariau crymbl riwbob a chwstard (rysáit i ddilyn).

Mae’r gacen yma gam i fyny o sbwng Fictoria arferol, dwi wedi ychwanegu almonau mâl at y sbwng ac wedyn yn y canol mae yna eisin menyn cwstard a riwbob wedi’i bobi. cacen berffaith ar gyfer te prynhawn ar ddiwrnod braf.

DS2_9398

 

DS2_9410

 

DS2_9420

 

Cynhwysion

200g o riwbob

2 lwy fwrdd o siwgr fanila

 

Ar gyfer y sbwng

200g o fenyn heb halen

200g o siwgr mân

3 wy

160g o flawd codi

60g o almonau mâl

 

Ar gyfer yr eisin

120g o fenyn heb halen

120g o siwgr eisin

1 llwy fwrdd  bowdr cwstard

200g o gwstard (unai un siop neis neu un cartref)

2 llwy de o fanila

 

 

Dull

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6 a dechreuwch trwy goginio’r riwbob. Torrwch y riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u gosod mewn dysgl neu dun sy’n addas i’r popty. Ysgeintiwch y siwgr am eu pen a’u rhoi yn y popty i goginio am 15 munud hyd nes eu bod yn feddal ond yn parhau i ddal eu siâp. Rhowch i un ochr i oeri.

Trowch y popty lawr i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4 ac irwch a leiniwch waelod dau dun crwn 20cm.

Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am 5 munud.

Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn dda gyda’r chwisg drydan rhwng pob un.

Ychwanegwch y blawd a’r almonau mâl a’i gymysgu yn ofalus gyda llwy.

Rhannwch y gymysgedd rhwng y ddau dun a’u coginio am 20 munud, nes eu bod yn euraidd a’r sbwng yn bownsio yn ôl wrth ei gyffwrdd. Gadewch i oeri yn y tun am 5 munud cyn eu tynnu allan a’u rhoi ar rwyll fetel i oeri yn llwyr.

Tra bod y cacennau yn oeri gwnewch yr eisin drwy guro’r menyn

Curwch y menyn am funud neu ddwy gyda chwisg drydan nes ei fod yn feddal, yna ychwanegwch y siwgr eisin a’r powdr cwstard yn raddol gan barhau i gymysgu am 2-3 munud arall. Yna ychwanegwch y cwstard a’r fanila ‘i gymysgu yn dda am 2-3 munud arall nes ei fod yn drwchus.

Pan fydd eich cacennau wedi oeri yn llwyr, gosodwch un ar blât gweini, a thaenwch neu beipiwch (mae peipio yn gwneud iddo edrych yn lot fwy proffesiynol a deniadol, ond does dim rhaid) yr eisin am ei ben. Rhowch y riwbob am ben yr eisin wedyn, cyn gosod yr ail gacen am ei ben. Ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.

Hidlo neu beidio dyna yw’r cwestiwn

9 Mai

hidlo

Dwi’n mynd i ddweud rhywbeth dadleuol iawn fan hyn, rhywbeth sy’n siŵr o olygu gwaharddiad am oes o Ferched y Wawr a gwneud i Mary Berry dagu ar ei sgons – dwi wedi stopio hidlo blawd!

Diogi oedd o i ddechrau, pam treulio dau funud yn hidlo, ac ychwanegu at y golchi llestri, pan allai daflu’r blawd i mewn a symud yn syth i’r cam nesaf? Ond yn ddigon buan fe sylwais nad oedd o’n gwneud y gwahaniaeth lleiaf i fy nghacennau. Doeddwn nhw ddim yn drwm nac yn llawn lympiau, felly fe stopiais hidlo yn llwyr.

Dwi’n teimlo fel fy mod i’n cyfaddef i ryw bechod ofnadwy fan hyn, ond dwi jyst ddim yn gweld y pwynt mwyach. Felly’r unig bryd mae’r rhidyll yn gweld golau dydd nawr yw pan fyddai’n straenio llysiau neu basta.

Ond pam felly bod pob un rysáit (gan gynnwys y rhai yn fy llyfrau i mae’n rhaid cyfaddef) yn pwysleisio’r angen i hidlo blawd?

Wel yn hanesyddol mae yna lawer o resymau i hidlo blawd.

– Mae hidlo yn ffordd o ysgafnhau blawd sydd wedi ei bacio yn dynn y wrth iddo gael ei storio a’i gludo.

– Mae’n cael gwared â lympiau.

– Ac yn cael gwared ag unrhyw ddarnau o wenith neu hyd yn oed pryfaid sydd ar ôl yn y blawd.

– Mae’n cymysgu cynhwysion at ei gilydd.

Ond erbyn hyn dwi’n meddwl mai arfer ydio erbyn hyn gan nad yw’r rhesymau uchod yn berthnasol gyda chynhwysion modern. Da chi’n annhebyg iawn o gael darnau o wenith neu hen bryfed yn eich blawd y dyddiau hyn, ac os yw eich blawd yn lympiog iawn yna mae yna rywbeth yn bod a thaflwch o i ffwrdd. Os yw eich blawd wedi ei bacio yn dynn yn y bag, yna dylai’r broses syml o dywallt eich blawd i mewn i’ch powlen wrth ei bwyso fod yn ddigon i’w ysgafnhau. Ac os ydych eisiau cymysgu eich blawd gyda phowdr codi neu bowdr coco, yna rhowch nhw mewn powlen a’u cymysgu gyda fforc.

DS2_9270

DS2_9272

Mae llawer yn dadlau hefyd bod hidlo eich blawd yn ychwanegu mwy o aer i’r gymysgedd ac yn golygu bod y cynhwysion yn cyfuno yn llawer gwell ac yn gwneud eich cacennau yn ysgafnach. Yn bersonol dwi’n gweld dim prawf o hynny, a dyw fy nghacennau yn sicr ddim yn drymach ers i mi stopio hidlo.

Ond mae yna un peth sy’n sicr o wneud gwahaniaeth mawr i ba mor ysgafn yw eich cacennau, a’r amser yr ydych chi’n ei dreulio yn curo eich menyn a siwgr yw hynny. Pan fydd rysáit yn galw arnoch i guro’r menyn a’r siwgr nes ei fod yn ysgafn, dyw o ddim yn ddigon i’w guro am funud neu ddwy , mae angen parhau i guro am 4-5 munud, nes eich bod yn gallu gweld y gymysgedd yn newid lliw fel ei fod bron yn wyn. Fe sylwch ei fod yn llawer mwy ysgafn hefyd – a’r rheswm am hynny yw ei fod yn llawn swigod aer. Dyna sut mae cael aer yn eich cacen nid drwy hidlo ychydig o flawd.

kitchenaid

 

DS2_9258

Wir i chi allai ddim a phwysleisio pa mor bwysig yw hi i guro eich siwgr a menyn yn ddigon hir, dwi’n efengylaidd am hyn. Dwi’n hen ddigon parod i dorri corneli ac arbed amser ble gallaf i, ond dyw hwn byth yn gam y byddaf yn ei osgoi.

Felly be da chi’n ei feddwl o fy nghyfaddefiad? Ydych chi’n gweld gwerth mewn hidlo neu yn ei wneud allan o arfer yn unig? Dwi’n siŵr y bydd yna lawer sy’n anghytuno a mi ond dwi’n annhebyg iawn o estyn am fy rhidyll eto yn y dyfodol agos.

Pizza cartref

2 Mai

20140501-204409.jpg

Dwi wrth fy modd gyda pizza ond dwi hefyd yn ei gasáu. Oes yna unrhyw fwyd sy’n gallu bod cweit mor afiach a hyfryd ar yr un pryd?

Alla’i ddim meddwl am ddim byd gwaeth na Dominos seimllyd, efo crwst trwchus, sydd â digon o galorïau i’ch cadw chi fynd am wythnos. Ond ar y llaw arall does yna’m llawer gwell na pizza tenau a chrensiog, wedi gwneud â’r cynhwysion gorau a’i goginio mewn popty coed.

Mae’r ddau yn fwystfil hollol wahanol.

Ond does yna ddim esgus i estyn am y ffôn a galw am takeaway, achos mae pizza nid yn unig yn hawdd i’w wneud adref, mae hefyd yn lot o hwyl, ac fe allaf warantu y bydd o’n blasu gan-gwaith yn well hefyd. Er fel da chi’n gweld isod mae o’n gallu golygu lot o lanast!

20140501-204505.jpg

20140501-204452.jpg

Roeddwn i wrth fy modd yn cael gwneud pizza fel plentyn. Byddai mam yn prynu’r crwst mewn paced o’r siop a ninnau yn cael rhoi beth bynnag oedd yn mynd a’n bryd am ei ben – ham, pys bach melyn a lot o gaws fyddai fy newis arferol i os ydw i’n cofio’n iawn. Wrth gwrs doedd y crwst siop yn ddim byd tebyg i grwst cartref (tebycach i gardfwrdd fuaswn i’n ei ddweud), ond roedd o’n gymaint o hwyl cael gwneud ein bwyd ein hunain, a dewis y cynhwysion yr oeddwn i eisiau, yn hytrach na gorfod rhannu gyda phawb.

A dyna ydi’r pleser yn dal i fod, mae Johny a minnau’n licio pizzas hollol wahanol – mae o’n ddyn meat feast efo gymaint o bethau wedi’u taflu ar un pizza ac sy’n bosib, tra dwi’n licio rhywbeth llawer symlach. Ond mae hynny yn iawn pan fyddwch chi’n gwneud eich pizza personol eich un.

20140501-204517.jpg

Felly y tro hwn fe gawsom pizza garlleg i ddechrau efo dim byd mwy nag olew olewydd a garlleg arno, wedyn fe wnes i bizza pesto, parma ham, pupur coch a dail rocket, tra bod Johny wedi cael un efo salami, ham, wy a chaws. Fel y gwelwch chi roedd o’n falch iawn o’i gampwaith.

20140501-204439.jpg

Er mwyn sicrhau’r crwst perffaith mae’n bwysig bod eich popty mor boeth ag y gall fod. Mae hefyd yn werth cael rhyw fath o garreg bobi, sy’n cael ei gynhesu yn y popty o flaen llaw. Mae’n bosib prynu un pwrpasol, defnyddio teil marmor, neu gwnewch be dwi’n ei wneud a defnyddio’r radell haearn sydd gen i ar gyfer gwneud cacs bach.

Mae’r rysáit yma yn gwneud digon o does i wneud 8 pizza, dwi ddim yn disgwyl i unrhyw un fwyta cymaint a hynny, ond mae’n rhewi’n dda, felly dwi wastad yn gwneud gormod. Felly ar gadael i’r toes godi, rhannwch yn 8 pelen, a rhowch unrhyw does na fyddwch yn ei ddefnydio mewn bagiau plastig a’u gosod yn y rhewgell. Wedyn y tro nesaf dwi awydd pizza yr unig beth sydd angen ei wneud yw ei dynnu allan a’i adael i ddadmer ar dymheredd ystafell, cyn ei rolio allan fel arfer.

 

Cynhwysion

500g o flawd bara cryf

500g o flawd spelt

20g o halen

14g o furum

3 llwy fwrdd o olew olewydd

650ml o ddŵr cynnes

 

Dull

Cymysgwch y ddau flawd mewn powlen fawr cyn ychwanegu’r halen a’r burum. Gwnewch bant yn y canol ac ychwanegwch y dŵr a’r olew. Cymysgwch gyda llwy nes ei fod wedi cyfuno yn llwyr yn does gwlyb.

Ysgeintiwch fymryn o flawd ar eich bwrdd a thylino’r toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn.

Rhowch y toes mewn powlen wedi ei hiro ag olew, a’i orchuddio â cling film. Gadewch i’r toes godi am awr, neu hyd yn oed ei roi yn yr oergell i godi yn araf dros nos.

Yn y cyfamser rhowch eich carreg bobi yn y popty a chynhesu’r popty i 240ºC / 220ºC ffan / marc nwy 6

Ysgeintiwch y bwrdd â blawd. Cnociwch y toes yn fflat, ei rannu’n 8 darn. Rholiwch i mewn i beli a’u gadael i orffwys am 15 munud o dan liain sychu llestri, (ar y pwynt yma gallwch rewi unrhyw does na fyddwch yn ei ddefnyddio).

Gyda digon o flawd ar eich bwrdd, a gyda phin rholio rholiwch un o’r peli toes yn gylch mawr tenau.

Ychwanegwch pa bynnag gynhwysion yr hoffech, boed o’n saws tomato, cig a chaws, neu pesto a llysiau, cyn trosglwyddo’r toes yn ofalus i’ch carreg pobi. Fel arall gallwch roi’r toes yn syth ar y garreg pobi, ac wedyn ychwanegu’r cynhwysion, ond bydd angen gweithio yn gyflym fel hyn gan fod y garreg yn boeth iawn ac fe fydd y toes yn dechrau coginio.

Yna rhowch yn y popty i goginio am 10-12 munud, nes bod y crwst yn grisp.

Bwytewch, cyn gwneud un arall!