Ar ôl sbel bach heb flogio, dwi methu stopio rwan. Mae yna gymaint o bethau dwi wedi’i gwneud yn yr wythnosau diwethaf ond dwi heb gael cyfle i flogio amdanyn nhw. Nawr mae hwn yn un gacen mae’n rhaid i fi ei rannu. Dwi’n meddwl fy mod i wedi ffeindio cacen sy’n curo’r lemon drizzle! Nawr mae fy nghariad yn anghytuno efo fi (mae o’n ffan enfawr o’r lemon drizzle), a dyw Vaughan Roderick heb drio hon eto, ond dyma fy hoff gacen i ar hyn o bryd. Mae o jysd mor mooorish, oedd rhaid i fi stopio fy hun rhag bwyta’r holl beth ar unwaith. O’n i’n ffeindio fy hun yn mynd nôl am ‘un sleis fach arall’ dro ar ôl tro.
Mae’r sbeisys yn y gacen yn rhoi blas hyfryd iddi hi, ac yn mynd yn dda fe’r afalau sy’n sicrhau bod y gacen yn moist. Wedyn mae’r maple syrup ar y diwedd yn rhoi crwst melys neis i’r gacen.
Dyma’r ail dro i fi drio’r rysait (wnes i ganfod yng nghylchgrawn Delicious fis ….) a doedd hon ddim cystal â’r cyntaf i fi ei gwneud. Yn bennaf gan fy mod wedi tynnu’r gacen allan ychydig yn rhy gynnar ac o ganlyniad fe wnaeth y canol suddo rhywfaint. Ond roedd hi dal yn blasu’n hyfryd ac fe wnes i a fy nghariad ei sglaffio hi i gyd. Yn anffodus wnes i’m tynnu lluniau o’r gacen gyntaf, felly maddeuwch i fi nad yw hon yn edrych cweit mor berffaith ag y dylai hi!
Cynhwysion
190g menyn heb halen
40g siwgr caster
2-3 afal bwyta, wedi eu pilio a’u torri fewn i ddarnau reit fawr
1 tsp cinnamon
1 tsp nytmeg
1 tsp sinsir
220g sigwr brown ysgafn
2 wy mawr
½ tsp vanilla extract
220g blawd codi
maple syrup
Dull
1. Cynheswch y popty i 160°C / 140°C fan
2. Rhowch 40g o’r menyn mewn padell ffrio gyda’r siwgr caster. Toddwch y menyn dros dymheredd isel, peidiwch â’i droi ond ysgwydwch y badell bob nawr ag yn y man.
3. Unwaith iddo ddechrau troi’n caramel brown ychwanegwch yr afalau, cinnamon, nytmeg a sinsir a’i goginio am 5 munud pellach.
4 Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi i un ochr.
5. Irwch ‘springform cake tin’ (un o’r rheiny ble mae’r ochr yn dod yn rhydd o’r gwaelod) a rhowch ychydig o bapur greasproof ar y gwaelod.
6. Cymysgwch gweddill y menyn gyda’r siwgr brown gyda chwisg electrig am 5 munud, tan ei fod yn ysgafn.
7. Ychwanegwch y wyau ychydig ar y tro (ryw lwy fwrdd dwi’n tueddu i’w wneud), gan guro’n llwyr rhwng bob llwy, yna ychwanegwch y vanilla a chymysgu.
8. Hidlwch y blawd a phinsied o halen mewn i’r gymysgedd a’i blygu trwodd. Yna ychwanegwch yr afalau a’u cymysgu yn ofalus.
9. Rhowch y gymysgedd yn y tun a’i goginio am 50-60 munud, neu tan fod skewer yn dod allan yn lan o ganol y gacen. (Roedd fy rhai i angen ychydig yn fwy na 60 munud)
10. Unwaith yr ydych wedi tynnu’r gacen allan o’r popty, tywalltwch ychydig o’r maple syrup dros y top i gyd.