
Dyma’r ail flog am siocled o fewn wythnos, ond dwi ddim am ymddiheuro am hynny, dwi wrth fy modd yn pobi efo siocled.
Nawr dwi ddim y math o berson sy’n estyn am far o siocled pan dwi eisiau rhywbeth melys, dwi’n llawer mwy tebygol o brynu cacen neu dda da’s. Ond mae yna wastad lwyth o fariau siocled yn y tŷ, rhai siocled tywyll, llaeth a gwyn, yn barod i’w hychwanegu at gacen neu darten.
Mae’n bosib gwneud cymaint gyda siocled, gall serennu fel mewn brownies dwys a chyfoethog, neu weithio fel blas cefndir drwy ychwanegu darnau bach o siocled i gacen oren er enghraifft.
Felly gallwch ddychmygu’r holl syniadau oedd yn mynd trwy fy mhen, pan glywais mai siocled oedd thema fy nghlwb pobi Band of Bakers y mis yma. Roedd yr opsiynau yn ddiddiwedd. Ac wrth gwrs dyna’r broblem.
Fy syniad cyntaf oedd gwneud bisgedi bourbons, dwi wedi creu rhai fy hun ar gyfer y llyfr newydd. Ond lwcus na wnes i gan fod rhywun arall wedi gwneud rhai hefyd.
Yna meddyliais wneud cacen bundt siocled, oren a tsili. Rysáit arall o’r llyfr, ond i fod yn onest ar ôl gwneud y ryseitiau yma cymaint dros y misoedd diwethaf roedd gen i awydd gwneud rhywbeth hollol newydd. Ond beth?
Felly fe agorais y cwpwrdd pobi (mae’r cynhwysion pobi yn cymryd mwy o le na bwyd cyffredin yn fy nghegin i!) yn y gobaith o ffeindio ysbrydoliaeth. A’r peth cyntaf i ddal fy llygad oed tun o laeth cyddwys. Yn syth daeth y syniad o wneud sgwariau caramel a siocled.

Roedd ‘caramel slice’ fel yr oeddem yn eu galw yn un o fy hoff gacennau o Popty’r Dref yn Nolgellau, wel ar ôl hyni byns wrth gwrs! Ond er fy mod yn eu bwyta yn gyson pan oeddwn i’n iau, doeddwn i erioed wedi gwneud rhai fy hun.
Ond dwi’n mwynhau her newydd, ac mewn gwirionedd maen nhw’n reit syml i’w gwneud. Er hynny maen nhw’n cymryd amser gan fod angen gwneud y tair haen un ar ôl y llall. Dechrau gyda bisged shortbread ar y gwaelod, cyn gwneud y caramel allan o’r llaeth cyddwys ac ar ôl gadael i hwnna setio rhoi haen o siocled tywyll am ei ben.
Gan fy mod i ychydig yn obsesiynol am garamel hallt ac yn benodol efo Halen Môn fanila ar hyn o bryd, doeddwn i methu peidio ag ychwanegu rhywfaint o halen rhwng y caramel a’r siocled.
Mae’r sgwariau caramel a siocled yma yn hurt o felys (wna i ddim dweud wrth y Deintydd os nad ydych chi!) felly mae’r halen yn helpu i dorri drwy’r melysrwydd. Wrth gwrs os nad ydych wedi’ch argyhoeddi o hyfrydwch caramel hallt does dim rhaid ei gynnwys.
O’r ymateb ges i yn y clwb pobi mae’n amlwg nad fi yw’r unig un sydd wrth fy modd a’r sleisys melys hyfryd yma. Felly dyma chi’r rysáit, gobeithio y byddwch chi’n joio hefyd.
Cynhwysion
Ar gyfer y fisged shortbread
250g o fenyn heb halen
180g o siwgr mân
300g o flawd plaen
50g o flawd corn
Pinsied o halen
Ar gyfer y caramel
800g o laeth cyddwys (condensed milk)
150g o fenyn heb halen
170g o surop euraidd
200g o siwgr mân
Llwy de o halen môn fanila
350g o siocled tywyll i roi ar y top
Dull
Cynheswch y popty i 170C / 150C ffan ac irwch a leiniwch dun pobi hirsgwar.
Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am gwpwl o funudau nes eu bod yn ysgafn.
Yna ychwanegwch y blawd plaen, blawd corn a halen a’i gymysgu gyda llwy. Mae hwn yn does reit sdiff felly bydd angen defnyddio eich dwylo i wasgu’r toes at ei gilydd.
Gyda’ch dwylo eto gwasgwch y toes i waelod eich tun cyn procio’r gwaelod i gyd gyda fforc.
Coginiwch yn y popty am 20-25 munud nes ei fod yn euraidd.
Tynnwch allan o’r popty a’i roi i un ochr i oeri.
Yn y cyfamser gwnewch eich caramel. Rhowch y llaeth cyddwys, menyn, surop a siwgr mewn sosban a’i chynhesu gan ei droi yn achlysurol nes bod popeth wedi toddi.
Daliwch ati i gynhesu’r gymysgedd gan ei gymysgu yn rheolaidd am 6-8 munud arall nes ei fod yn tewychu ac yn troi yn lliw caramel euraidd.
Tynnwch oddi ar y gwres a’i adael i oeri am funud cyn ei dywallt dros y fisged shortbread. Gadewch i oeri yn llwyr.
Pan fydd y caramel wedi oeri a chaledu ysgeintiwch yr halen am ei ben.
Torrwch y siocled yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen wedi’i osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. Pan fydd y siocled wedi toddi yn llwyr ryw allwch dros y caramel. Wedyn mae eisiau taro’r tun pobi yn galed yn erbyn y bwrdd er mwyn cael gwared ag unrhyw swigod awr yn y siocled.
Gadewch i’r siocled setio cyn ei dorri yn sgwariau.
Tagiau: caramel, Halen Mon, Shortbread, siocled