
Ar hyn o bryd dwi’n teimlo fel fy mod i’n dechrau pob blog efo ymddiheuriad! Mae’r cyfnod rhwng pob un yn llawer rhy hir ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid cyfaddef dwi prin wedi bod yn pobi yn ddiweddar. Yn y ddau fis diwethaf dwi wedi gorffen y llyfr, symud yn ôl i Lundain, dechrau swydd newydd ac wedi treulio’r tair wythnos diwethaf yn mynd o un gynhadledd wleidyddol i’r llall. Felly dwi prin wedi cael amser i fi fy hun, heb sôn am amser i dreulio yn y gegin.
Ond y diwrnod o’r blaen fe gafodd Johny a fi ein gwahodd i fynd am swper gyda ffrindiau sy’n byw rownd y gornel, ac wrth gwrs fe wnes i gynnig gwneud pwdin. A dweud y gwir mae disgwyl cacen neu bwdin bob tro maen nhw’n fy ngweld i’r dyddiau. Dwi’n torri ffon i guro’n hun!
Ond beth i’w wneud oedd y cwestiwn, felly fe borais drwy fy llyfrau coginio yn chwilio am ysbrydoliaeth. Yn y diwedd fe benderfynais wneud rhyw fath o darten fach unigol i ni gyd, gan setlo ar rai lemon meringue yn y diwedd. Doeddwn i erioed wedi gwneud un o’r blaen, ond maen nhw’n ddigon hawdd mewn gwirionedd.
Cynhwysion
Ar gyfer y toes
330g o flawd plaen
200g o fenyn oer
75g o siwgr mân
1 wy
1 llwy fwrdd o ddŵr oer
Ar gyfer y llenwad
1 tun laeth cyddwys (pwy wyddai mai dyna di condensed milk yn Gymraeg?)
3 melynwy mawr
croen a sudd 3 lemon
3 gwyn wy
150g siwgr caster
Dull
Hidlwch y blawd i bowlen a thorrwch y menyn yn ddarnau bach, a’u rhwbio i mewn i’r blawd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion.
Yna ychwanegwch y siwgr a’i gymysgu â llwy cyn ychwanegu’r dŵr a’r wy a chymysgu gyda llaw nes bod y cyfan yn dod at ei gilydd i ffurfio pelen.
Tylinwch am ryw funud er mwyn sicrhau fod y toes yn llyfn, yna lapiwch ef mewn cling film a’i osod yn yr oergell am o leiaf 30 munud.
Ar ôl i’r toes oeri roliwch ef allan nes ei fod rhyw 4mm o drwch; torrwch gylchoedd i ffitio’ch tuniau. Dwi’n defnyddio tuniau tartenni bach unigol sy’n 10cm ar draws a gyda gwaelod rhydd.
Rhowch y toes yn y tuniau, (bydd y rysait yn gwneud digon ar gyfer 8) a gwasgu’n ofalus i’r ochrau. Torrwch unrhyw does sy’n weddill trwy rolio eich pin rholio ar draws dop y tun.
Rhowch y tuniau yn y rhewgell am 10 munud, yn y cyfamser cynheswch y popty i 180˚C/ Ffan 160˚C/ Nwy 4.
Rhowch ychydig o bapur gwrthsaim ar ben y toes a llenwi’r tuniau gyda phys ceramig a’u rhoi yn y popty am 15 munud. Yna tynnwch y papur gwrthsaim a’r pys a choginio’r toes am 5 munud arall.

I wneud y llenwad, rhowch y llaeth cyddwys mewn powlen, ychwanegwch y tri melynwy, croen lemon wedi’i gratio yn fân a’r sudd lemon, a’i gymysgu yn dda. Fe fydd yn mynd yn fwy trwchus yn naturiol.

Rhowch y 3 gwynnwy mewn powlen lân a’u chwisgio gyda chwisg drydan nes eu bod yn drwchus, ond ddim yn hollol stiff. Yna ychwanegwch y siwgr caster, lwy ar y tro, gan chwisgio yn llwyr bob tro. Ar ôl ychwanegu’r holl siwgr, parhewch i chwsigio nes ei fod yn drwchus ac yn sgleinio.
Llenwch y cesys gyda’r llenwad lemon. Yna rhowch y meringue mewn bag peipio, a’i beipio mewn blobs bach ar ben y llenwad lemon.

Rhowch yn ôl yn y popty am ryw 20 munud, nes bod y meringue yn dechrau brownio.
Rhowch ar rwyll fetel i oeri rhywfaint.
Gallwch eu bwyta yn gynnes neu yn oer.
Tagiau: lemon. meringue, tarten, toes