Archif | Mawrth, 2015

Cwrs Bara Bread Ahead

23 Maw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Dwi wedi bod yn pobi fy mara fy hun ers peth amser nawr, yn bennaf bara a byns melys, ond dwi hefyd yn mwynhau gwneud torth gyffredin yn achlysurol. Ond fel popeth arall, dwi di dysgu fy hun, a fyth ers i fy mrawd fynd ar gwrs bara Richard Bertinett yn Bath, dwi wedi bod eisiau mynd ar gwrs fy hun, er mwyn cael dysgu yn iawn gan arbenigwyr.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Felly pan ofynnodd fy ngŵr i mi beth oeddwn i eisiau ar fy mhen-blwydd roeddwn i’n gwybod yn syth beth i ofyn amdano. Roeddwn i wedi gweld bod Bread Ahead, becws Justin Gellatly yn Borough Market yn gwneud cyrsiau ac wedi bod yn pori drwy’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig ers peth amser.

Dwi wedi bod yn ffan mawr o Justin Gellatly ers peth amser, wel yn ffan o’i fara ac yn benodol ei doughnuts. Wir i chi maen nhw’r gorau dwi wedi’i flasu a dwi’n gorfod bachu un bob tro dwi’n Borough market. Mae o a’i dim yn amlwg yn angerddol iawn am fara, ac er gwaethaf poblogrwydd y becws, maen nhw’n cadw’r busnes yn weddol fach er mwyn sicrhau’r safon uchaf posib. Felly dy nhw mond yn gwerthu yn y farchnad ac ar gyfer busnesau lleol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ac roedd yr angerdd yna yn sicr i’w weld ar y cwrs.

Roedd hi’n anodd dewis cwrs penodol gan bod yna gymaint o rai da’r olwg ganddyn nhw, ond Cwrs Pobi Uwch ddewisais i – cwrs diwrnod yn dysgu gwneud popeth o baguettes i brioche.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Aidan Chapman oedd yn ein harwain ni trwy’r dydd ac yn rhannu ei brofiad helaeth a ni ac roedd y cwrs yn cael ei gynnal yn eu becws. Ac er eu bod nhw yn gorffen eu gwaith wrth i ni ddechrau, roedd yn braf, bod yn y fath awyrgylch; cael gweld y mynyddoedd o flawd maen nhw’n ei ddefnyddio, a’r poptai proffesiynol. Yn sicr roedd yna ddigon o ysbrydoliaeth.

Fe ddechreuom drwy wneud y toes ar gyfer baguettes a’r pizza fyddai hefyd yn ginio i ni.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mewn byd delfrydol fe fuasai’r broses yn cymryd 2 ddiwrnod. A’r cam cyntaf yw i wneud poolish, sef cymysgedd o furum, dwr ac ychydig o flawd, sy’n cael ei adael dros nos, er mwyn rhoi mwy o amser i’r burum ddatblygu sydd yn ei hun yn rhoi blas mwy cymhleth i’r bara. Mae hwn wedyn yn cael ei ychwanegu at weddill y cynhwysion ar y diwrnod canlynol, pan fyddwch yn barod i bobi.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Fe wnaethom dorth sourdough hefyd gyda blawd rye a hadau caraway a choriander. Eto proses fyddai fel arfer angen dechrau 6 niwrnod ynghynt ond roedd ‘na dipyn bach o cheatio yn mynd ymlaen!

I blesio fy nant melys, fe wnaethom croissants a thorth brioche hyfryd. Mae’r ddau yn broses reit lafurus, ddim yn rhywbeth y buasech chi’n ei wneud bob dydd ond yn sicr yn werth yr ymdrech yn y pendraw.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Wrth wneud y croissants, rydych yn dechrau gyda thoes bara melys, ond yr hyn ddysgais oedd nad oes angen gweithio’r toes yma yn ormodol fel bara cyffredin gan y bydd yn ei wneud yn anoddach i ychwanegu’r holl fenyn y diwrnod canlynol. Felly dim ond cymysgu popeth am ychydig funudau sydd ei angen, gan adael y toes i ddatblygu ei hun dros nos. Mae’n reit ddychrynllyd gweld faint o fenyn sy’n mynd mewn i croissants. Ond yr haenau o fenyn a thoes sy’n gwneud croissant ysgafn perffaith y byddai unrhyw boulangerie Ffrengig yn falch ohono.

Yn yr un modd mae yna swm anweddus o fenyn yn mynd mewn i dorth brioche, ac mae’n edrych fel y buasai’n amhosib i’w gyfuno gyda’r toes. Yn sicr dyw o ddim yn hawdd i’w wneud gyda llaw fel y gwnaethom ni; mae’n rhaid tylino’r menyn i mewn, bedwar lwmp ar y tro, felly dyw o ddim yn broses y gallwch ei frysio. Ond byddwch yn anghofio am hynny yn ddigon sydyn wrth i’r arogl melys a menynog ddechrau llenwi’r gegin wrth iddo bobi. Wrth gwrs mae’r blas yn odidog hefyd.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Does dim dwywaith bod y diwrnod yn waith caled iawn, yn enwedig i fenyw feichiog, dwi erioed wedi tylino cymaint yn fy myw! Ond fe ddygais gymaint gan Aidan, ac fe gawsom ni lot fawr o hwyl. A’r peth gorau oedd gadael nid yn unig gyda sgiliau newydd ond gyda dau fag yn llawn o ddanteithion hyfryd. Roedd y ty yn arogli fel becws am ddyddiau wedyn.

Te Prynhawn yn Tea at 73

22 Maw

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Fel da chi’n gwybod rydw i a fy ffrindiau wrth ein boddau gyda the prynhawn, ac mae o wedi mynd yn dipyn o draddodiad i fynd i rywle gwahanol yn Llundain bob tro y maen nhw’n dod yma i aros. Ond pan ddes i lawr i Gaerdydd yn ddiweddar, fe awgrymodd Catrin ein bod ni’n trio’r lle te newydd ar Cathedral Road – Tea at 73. Doeddwn i ddim wedi clywed am y lle o’r blaen, gan ei fod yn weddol newydd, ac o gael cip ar y wefan fe wnaeth yn sicr wedi ennyn fy chwilfrydedd.

Mae Tea at 73 ar lawr gwaelod un o’r tai mawr hyfryd sydd ar Cathedral Road, ac mae’r lle wedi’i addurno yn hyfryd, yn fodern, glan ond eto yn groesawgar hefyd. Ac nid dim ond te prynhawn maen nhw’n ei weini chwaith, maen nhw hefyd yn cynnig brecwast a chinio, a hyd yn oed diodydd fin nos. Fyny staer wedyn mae yna westy boutique gyda naw o ystafelloedd braf iawn yr olwg.

Fe gawsom ni fwrdd yn y brif ystafell wrth y piano mawr (oedd mae’n rhaid cyfaddef yn hyfryd ond ychydig bach yn rhy swnllyd i dair ffrind oedd a lot o ddal fyny i’w wneud), ond mae yna ystafell wydr yn y cefn hefyd sy’n agor allan i’r ardd sy’n le perffaith ar gyfer parti mwy.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Yn debyg iawn i lawr o lefydd un fwydlen yno, ond gyda dewis o de. Fe aeth y tair ohonom am y te Assam (fy ffefryn), ond roedd o bach yn siomedig i weld mai bag te mewn tebot gawsom ni nid te rhydd, fel y buaswn i’n disgwyl gyda the prynhawn o safon. Ond roedd yn ddigon neis ac roedden nhw’n fwy na hapus i gynnig mwy heb unrhyw gost ychwanegol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ond fe gefais i fy mhlesio gyda’r bwyd, oedd yn sicr o safon uchel. Roedd yna blât o frechdanau, rhai ham a mwstard, wy, caws a phicl ac eog wedi’i fygu; ac roedden nhw’n amlwg wedi’i torri yn ffres gan nad oedd yr ochrau wedi mynd yn sych o gwbl (cas beth gen i mewn te prynhawn!). Wedyn fe gawsom ni sgonsen gynnes, wedi’i weini gyda jam a hufen oedd yn ddigon blasus, er efallai ychydig yn sych os ydw i’n mynd i fod yn ffyslyd. Ond roedd y cacennau eraill yn hyfryd, roedd yna brownie siocled llaith, darn o gacen afal a rhesin – oedd ymhell o fyd yn sych, macaron caramel hallt a mousse mafon blasus.

Nawr doedd y bwyd ddim yn cymharu gyda the prynhawn mewn rhai o westai gorau Llundain, ond doedd dim disgwyl iddo.

Er hynny roedd o’n brofiad hyfryd, bwyd blasus dros ben a gwasanaeth da iawn hefyd. Ac am £15.80 roedd o’n dipyn o fargen. Mae Tea at 73 yn sicr yn gaffaeliad i’r ardal yma o Gaerdydd, ac yn le perffaith i gwrdd fyny efo ffrindiau neu deulu am wledd sydd ddim yn mynd i dorri’r banc. Dwi’n sicr yn ei argymell.

Peis bach cyw iâr a chennin

1 Maw

peis cyw iarDydd Gŵyl Dewi Hapus bawb.

Mae’n braf gweld cymaint yn dathlu diwrnod ein nawddsant y dyddiau hyn. Ac efallai na fydd yn eich synnu fy mod i wedi defnyddio hwn fel esgus i bobi cacs bach (cacennau cri / pice ar y maen). Dwi wedi postio’r rysáit o’r blaen ac mae o yn y llyfr cyntaf hefyd, ond mae gen i rysáit addas arall dwi di bod yn bwriadu ei bostio ers peth amser – peis bach cyw iâr a chennin.

Mae yna rywbeth cysurus iawn am bei cynnes, mae’r llenwad sawrus a chrwst euraidd am ei ben yn ddigon i gynhesu calon unrhyw un, felly beth well ar ddiwrnod fel hyn. Mae’r cyfuniad o gyw iâr a chennin yn glasur, ond yn hytrach na gwneud un pei mawr i rannu dwi’n licio gwneud rhai bach unigol. Mae’r rhain yn hyfryd yn gynnes ond yr un mor hyfryd yn oer, ac mae eu maint yn golygu eu bod yn berffaith ar gyfer picnic.

Cynwhysion

Ar gyfer y crwst

60g o fenyn

60g o lard

240g o flawd plaen

½ llwy de o halen

60ml o ddŵr

 

Ar gyfer y llenwad

2 brest cyw iâr

1 llwy fwrdd o olew olewydd

2 genhinen

1 clof o arlleg

1 llwy fwrdd o flawd corn

½ llwy de o deim sych

1 llwy de o fwstard Dijon

½ litr o stoc cyw iâr

25ml o hufen

1 wy

 

Dull

Gwneud 8 pei bach

Torrwch y menyn a’r lard yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen. Gan ddefnyddio eich dwylo, rhwbiwch y menyn a’r lard i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel brwision.

Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Tylinwch y toes nes ei fod yn llyfn.

Lapiwch y toes mewn cling film a’i roi i orffwys yn yr oergell am o leiaf hanner awr tra’ch bod chi’n gwneud eich llenwad.

Torrwch y cyw iâr yn ddarnau gweddol fach a’u rhoi mewn sosban i ffrio yn yr olew nes eu bod yn dechrau brownio.

Torrwch y cennin yn ddarnau bach a malwch y garlleg yn fân a’u hychwanegu at y cyw iâr, a’u coginio nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y blawd corn yna’r teim, mwstard a’r stoc a’i adael i fudferwi nes bod yr hylif wedi lleihau a thewychu. Pan fydd y saws yn drwchus ychwanegwch yr hufen a digon o bupur. Tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i oeri.

Cynheswch y popty i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch y toes allan nes ei fod yn 4-5 mm o drwch. Torrwch 8 o gylchoedd allan sy’n ddigon mawr i ffitio mewn tun myffin dwfn. Os nad oes gennych dorrwr o’r maint iawn, dylai myg wneud y tro. A thorrwch 8 cylch ychydig yn llai i ffitio fel caead.

Gosodwch y cylchoedd mwyaf yn ofalus yn nhyllau’r tun myffin, a llenwch gyda’r llenwad cyw iâr a chennin. Brwsiwch o amgylch eich caead gydag ychydig o ddŵr, er mwyn ei helpu i lynu, a’i osod am ben y llenwad. Gwasgwch yr ochrau i lawr gyda fforc a brwsiwch y top gydag wy wedi’i guro. Torrwch dwll yn y top gyda chyllell er mwyn gadael y stem allan, a choginiwch am 30-35 munud nes eu bod yn euraidd.

Gweinwch yn gynnes neu gadewch i oeri.