Archif | Mawrth, 2012

Cacen Guinness

26 Maw

Ia Guinness mewn cacen, mae’n swnio’n od, ond wir i chi mae o’n gwneud synnwyr pan da chi’n ei drio! A dweud y gwir cacen siocled a guinness yw hon, ond mae hi mor wahanol i unrhyw gacen siocled arall. Mae’n ddwys, yn gyfoethog, ond dyw o ddim yn or-felys gan fod y guinness yn rhoi cic chwerw iddo. Mae’n berffaith ar ei ben ei hun, gan ei fod yn ddigon llaith, ond dwi’n licio rhoi eisin menyn ar ei ben. Mae’n ychwanegu ychydig bach mwy o felyster (mae gen i ddant melys!) ond mae’r eisin gwyn gyda’r gacen ddu hefyd yn gwneud iddo edrych yn debycach i beint o guinness.

Mae fy nghariad yn Wyddel a rysáit ei deulu o yw hon, ac roedd ei fam yn iawn pan ddywedodd bod y gacen yn plesio pawb. Pan es i a’r gacen hon i’r gwaith fe gefais i ymateb gwych gan bawb. Trïwch hi, mae hi mor hawdd i’w gwneud a dwi’n addo y bydd hi’n dod yn ffefryn. Mae’n sicr yn un o fy hoff gacennau i ar hyn o bryd.

Cynhwysion

120g menyn heb halen

250g siwgr brown tywyll

2 wy

170g blawd plaen

60g powdr coco

1 llwy de o soda pobi

½ llwy de o bowdr codi

200ml Guinness

Ar gyfer yr eisin

125g menyn heb halen, meddal

250g siwgr eisin

½ llwy de o echdyniad fanila

3 llwy fwrdd o laeth

Dull

1. Cynheswch y popty i 180C/160C ffan, ac irwch a leinio tun crwn dwfn neu dun torth.

2. Curwch y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.

3. Ychwanegwch y wyau, un ar y tro, gan guro yn llwyr rhwng bob un.

4. Yna hidlwch y blawd, powdr coco, soda pobi a phowdr codi, a’i blygu mewn gyda llwy fetel neu spatula.

5. Yn olaf ychwanegwch y guinness a’i gymysgu yn llwyr.

6. Rhowch ac i mewn i’r popty cyn gynted â phosib, gan mai’r adwaith rhwng y guinness a’r soda pobi fydd yn gwneud i’r gacen godi.

7. Pobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r gacen yn lan.

8. Gadewch iddo oeri ar restl metel, cyn ei eisio gydag eisin menyn.

9. Er mwyn gwneud yr eisin menyn, cymysgwch y menyn, siwgr eisin, echdyniad fanila a’r llaeth. Cymysgwch am 5 munud gyda chwisg trydan er mwyn cael eisin ysgafn.

Dwi’n caru cacs bach

11 Maw

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n trio fy ngorau!

Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod. Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!

Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.

Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

Cynhwysion

1lb blawd codi

4 oz menyn

4 oz lard

5oz siwgr

4oz syltanas

1 wy

sblash o laeth

 

Dull

1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.

 

2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.

3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu ffeindio’r torrwr crwn!)

 

 

4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.

5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.

6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)