Archif | llyfrau RSS feed for this section

Pobi – y llyfr newydd

2 Tach

IMG_7740

Wel mae’r llyfr newydd wedi’i gwblhau ac i’w brynu yn eich siop lyfrau lleol.

Ar ôl yr holl arbrofi, sgwennu a golygu roedd o’n foment gyffroes iawn pan ddaeth y copi cyntaf drwy’r post. Unwaith eto mae Warren Orchard wedi gwneud gwaith gwych o wneud i fi edrych yn hanner call ynddo a Dorry Spikes wedi gwneud job hyfryd gyda’r dylunio

Fel mae’r teitl yn awgrymu, llyfr yn llawn cacennau, bisgedi a phwdinau yw hyn unwaith eto. Ond doeddwn i methu sgwennu llyfr am bobi ac anwybyddu danteithion sawrus. Felly mae yna bennod o ryseitiau ar gyfer pastai, cracyrs a thartenni sawrus hefyd.

DS2_4877

Ond daeth yr ysbrydoliaeth gyntaf am y llyfr wrth feddwl am fisgedi retro fy mhlentyndod, felly dwi wedi creu fy custard creams, bourbons a jammy dodgers fy hun.

IMG_5898

IMG_5902

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn arbrofi gyda’r defnydd o berlysiau a sbeisys mewn cacennau felly mae ‘na gacen siocled a chilli, myffins llys a choriander a chacennau bach lemon a theim – swnio yn anarferol efallai, ond maen nhw i gyd yn blasu’n hyfryd dwi’n addo.

lemon a theim

DS2_7762

Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer y llyfr hwn, fe es yn ôl i Awstria er mwyn ymweld â Heinz ac Anita Schenk yn y gwesty ble bu’m yn gweithio flynyddoedd yn ôl. Mae Heinz yn bobydd o fri, ac roeddwn i’n lwcus iawn i ddod adref gyda rhai o’i hoff ryseitiau. Mae’r bara plethu melys yn odidog a’r beugels yn wahanol i unrhywbeth dwi wedi’i weld o’r blaen ond yn hynod flasus.

bara plethu2

DS2_7102

Unwaith eto dwi’n gobeithio bod yna rywbeth i demtio pawb yn y llyfr hwn boed chi’n ddibrofiad neu yn barod i fentro mae yn ryseitiau ar gyfer bisgedi syml, neu macarons mentrus. Mae yn glamp o gacennau mawr ar gyfer achlysuron arbennig fel y gacen enfys isod (yr yn y gwnes i ar gyfer fy mhriodas) neu’r gacen siocled a charamel hallt , ond mae yn bwdinau syml hefyd ar gyfer unrhyw ddydd.

macarons 6


cacen enfys

siocled a charamel2

Dwi mond yn gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli i estyn am y ffedog a mynd ati i bobi unwaith eto.

Diolch i bawb sydd wedi prynu Paned a Chacen, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r ail gyfrol yma cystal.

Fy nhorth cyntaf

17 Tach

Mae gennyf gyfaddefiad i’w wneud. Dwi wedi bod yn prynu mwy o lyfrau coginio.

Wir i chi, mae o fel rhyw fath o addiction. Dwi’n ddigon hapus yn darllen trwyddyn nhw fel nofelau, mae gennyf hyd yn oed bentwr wrth fy ngwely ar hyn o bryd! Ond y prif reswm dwi’n eu prynu yw er mwyn dysgu pethau newydd a thrio pethau gwahanol.

Y ddau diweddaraf dwi wedi’i prynu yw llyfr newydd Hugh Fearnley Whittinsgtall, Veg Everyday a llyfr Dan Lepard, Short & Sweet – The Best of Home Baking. Hefyd ar fy mhenblwydd fe gefais lyfr ar wneud bara gan fy mrawd, llyfr Richard Bertinet, Crust.

Dim ond llyfr Dan Lepard dwi wedi’i ddefnyddio hyd yn hyn, mae o’n llyfr gwych gyda phenodau gwahanol ar gacennau, bisgedi, pastry, pwdinau a bara. A’r peth dwi’n licio fwyaf am y llyfr yw bod yna gyflwyniad hir a thudalennau o tips a thechnegau ar ddechrau pob pennod – felly llawer mwy na dim ond rysetiau a lluniau neis.

Nawr mae pawb yn gwybod mai cacennau a phethau melys sy’n mynd a fy mryd i ac mae’r llyfr yn llawn ohonyn nhw. Ond am ryw reswm y peth cyntaf yr oeddwn i eisiau ei wneud allan o’r llyfr yma oedd bara. Heblaw am foccacia dwi wedi bod yn eithaf petrusgar o wneud bara, ond roedd cyflwyniad Dan Lepard yn ddigon cynhwysfawr i fy ysgogi i drio.

Y rysait bara cyntaf yn y llyfr yw bara gwyn hawdd. A da chi’n gwybod be, mae o!

Dyma’r Rysait

Cynhwysion

400g blawd cryf gwyn

1 llwy de o furum sych (y math da chi’n ei gael mewn pecynnau unigol)

1 llwy de o halen mân

300ml o ddwr cynnes

olew ar gyfer tylino

Dull

1. Cymysgwch y blawd, burum, halen a dŵr mewn bowlen.

2. Gorchuddiwch efo cadach neu liain sychu llestri, a’i adael am ddeng munud

3. Yna tylinwch y gymysgedd am ryw funud, gan blygu ac ymestyn y toes cyn ei roi yn ôl yn y fowlen a’i adael am ddeng munud arall. Mae’n bosib gwneud hyn gyda chymysgwr trydan gyda bachyn tylino, neu gyda llaw. Os ydych yn ei wneud â llaw rhowch olew nid blawd ar eich bwrdd. Fe fydd y gymysgedd yn reit wlyb i ddechrau, ond wrth i chi ddyfalbarhau fe fydd yn gwella.

4. Mae angen gwneud y cam yma ddwywaith eto, gan adael i’r toes orffwys am ddeng munud bob tro. (Dyma ble mae Dan Lepard yn wahanol i nifer o bobwyr eraill, yn lle tylino am ddeng munud)

5. Siapiwch y toes mewn i belen gron, a’i osod ar hambwrdd pobi sydd wedi’i daenu â blawd.

6. Gorchuddiwch gyda lliain sychu llestri unwaith eto, a’i adael am ryw 45 munud, neu nes bod y toes wedi cynyddu o 50%.

7. Torrwch slaes yn nhop y toes (bydd angen cyllell finiog i wneud hyn!) a’i bobi ar 220C/200C fan am 35-40 munud, nes ei fod yn euraidd frown.

Ers dechrau darllen am sut mae gwneud bara dwi wedi sylwi bod yna yna gymaint o ryseitiau gwahanol a thechnegau gwahanol o drin y toes, mae o’n ddigon i ddrysu unrhyw un. Mae’r ffordd mae Dan Lepard a Richard Bertinet yn gwneud a thrin eu bara yn hollol wahanol. Felly am y tro dwi am geisio perffeithio rhai o ryseitiau Dan Lepard, gawn ni weld sut fyddai’n dod ymlaen.

Llyfrau coginio

15 Maw

Ges i bach o splurdge ar amazon y diwrnod o’r blaen, felly yn ogystal â phrynu nofel a llyfr gwleidyddol, nes i brynu dau lyfr coginio newydd. Nawr doeddwn i ddim angen yr un o’r ddau, mae genai lond silff yn barod a gyda channoedd o ryseitiau ar y we, efallai bod yna ddadl dros beidio â phrynu llyfrau o gwbl. Ond dwi’n caru llyfrau coginio ac wrth fy modd yn pori trwyddyn  nhw – ‘food porn’ dwi’n galw nhw! Yn aml dim ond ryw un neu ddau rysáit dwi’n ei wneud allan o’r rhan fwyaf o’r llyfrau dwi’n eu prynu, ond mae yna un neu ddau dwi’n ei ddefnyddio yn llawer mwy aml nag eraill. Felly dyma rai o fy hoff lyfrau.

Hummingbird bakery

Nawr dyma’r llyfr dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer gwneud cupcakes ac mae o wedi gweithio yn ddi-ffael, tan wythnos diwethaf. Ond mae yn lawer mwy na cupcakes yma felly mae o’n dal yn ffefryn.

Green & Black’s Chocolate Recipes

Anrheg ges i  gan fy nghariad Nadolig yma oedd hwn,  a dwi eisoes wedi gwneud nifer o ryseitiau allan ohono. Maen nhw i gyd wedi bod yn hyfryd, wel mae ‘na siocled ymhob un!

Delia Smith’s Complete Cookery Collection

Hen lyfr Nain ydi hwn, ac fe gefais yn anrheg er mwyn gwneud cacennau nadolig i’r teulu (nain oedd yn arfer gwneud i ni gyd, cyn iddo fynd yn ormod o job iddi). Clasur o lyfr, sy’n wych ar gyfer clasuron.

Madur Jaffrey’s Indian Cookery

Llyfr gwreiddiol Madur Jaffrey o’r 80au, wedi’i ddwyn o adref. Y llyfr ar gyfer gwneud cyri sy’n well nag unrhyw beth o’ch takeaway lleol. Peidiwch â bod ofn y rhestr hir o gynhwysion mae’r ryseitiau yn ddigon syml.

Plenty gan Yotam Ottolenghi

Mae hwn yn un o’r llyfrau dwi newydd brynu, a dwi eisoes yn rhagweld ei fod yn mynd i fod yn ffefryn. Dwi’n caru caffis Ottolenghi, mae eu salads a chacennau yn anhygoel, os nag ychydig yn ddrud, felly dwi’n edrych ymlaen at geisio eu gwneud adref. Llyfr llysieuol ydi hwn, ond  dwi’m yn tueddu i fwyta cymaint â hynny o gig os gai fy ffordd fy hun, er mae’r cariad yn un sy’n mynnu cael cig efo pob pryd! Beth bynnag mae genai ffrindiau sy’n llysieuwyr yn dod draw am swper nos Sadwrn, felly dwi am drio gwneud rhywbeth o’r llyfr yma ar eu cyfer.

Gan fy mod i wedi symud i Lundain dros dro, doeddwn i ddim yn gallu dod a pob un llyfr efo fi, felly mae ‘na lot mwy nol yng Nghaerdydd, er dwi’m yn cofio be rwan chwaith!  Ac wrth gwrs mae yna lwyth o lyfrau eraill yn dal i fod ar fy amazon wish list i, yn bennaf Nigella Lawson – How to be a domestic Goddess (duw a wyr pam dwi ddim yn berchen y clasur yma), Leon gan Alegra McEvedy ac mae genai ddiddordeb gweld beth mae llyfr newydd Bryn Williams fel, gan fod y bwyd yn Odette’s yn ogoneddus.

Gadewch fi wybod os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer llyfrau i’w ychwanegu i’r llyfrgell!