
Gyda fy ffrind gorau, Catrin, yn dod i aros am y penwythnos, a minnau heb ei gweld hi ers sbel, roedd rhaid trefnu rhywbeth arbennig. A does yna ddim esgus gwell nag ymweliad ffrind i wneud y mwyaf o’r ddinas hon. Roeddwn i eisoes wedi cael tocynnau i ni fynd i’r theatr i weld The Audience, drama am gyfarfod wythnosol y frenhines (wedi’i actio yn wych gan Helen Mirren) gyda phrif weinidogion y wlad, ond wrth gwrs roedd angen trefnu rhywle i fwyta cyn hynny hefyd. Felly, gan fod angen bwyta yn gynnar, beth well na the prynhawn (unrhyw esgus!).
Nawr dwi wedi bod am de mewn nifer o westai yn Llundain yn barod, ond mae yna dal ddigon ar fy ‘to do list’. Y broblem fel arfer yw bod angen mis neu fwy o rybudd i gael bwrdd yn y llefydd gorau, yn enwedig ar ddydd Sadwrn. Ond rhywsut, gyda minnau ddim ond yn bwcio rhyw bythefnos yn ôl, fe gefais i fwrdd i dri yn y Dorchester.

Pan gyrhaeddodd Catrin a fi (ar ôl bod yn potsian o gwmpas Selfridges) roedd Johny eisoes yn aros amdanom yn y bar, felly gydag ychydig o amser i fynd nes bod y bwrdd yn barod, roedd rhaid cael diod bach. Ac wrth gwrs, beth mae merch i fod i’w yfed yn y Dorchester na glased o Bollinger. Yn amlwg maen nhw’n mynd trwy lot o champagne yno, achos nid o botel safonol y daeth ein glased ond o Jeraboam, roedd o’n anferth. Duw a ŵyr faint mae Jeraboam o Bollinger yn ei gostio!
Doedd dim rhaid aros yn hir am ein bwrdd, ac fe gawsom ein harwain draw i fwrdd ger y piano yn y Promenade, sef lobby y gwesty. Ond peidiwch â meddwl ein bod ni’n ei slymio hi, dyma’r lobby mwyaf crand yr ydw i wedi’i weld, gyda cholofnau euraidd, trefniadau blodau anferthol a soffas moethus. Ac roeddem ni mewn cwmni da, pwy oedd yn eistedd yno gyda chwpwl o ffrindiau ond y cricedwr Kevin Pieterson (bu bron i mi stopio i gymharu anafiadau ben-glin, wrth i mi hoblan heibio ar fy maglau!).


Dwi’n licio ffaith mai’r unig ddewis mae’n rhaid i chi wneud gyda the prynhawn yw champagne neu beidio (champagne bob tro!) a pha de i’w gael. Yn y Dorchester roedd yna ddewis helaeth o de, ond roedd ein gweinyddes yn hapus iawn i’n helpu ni i wneud penderfyniad. Gan ein bod ni i gyd yn hoff o de cryf, fe wnaeth hi argymell yr Assam, te dwi wastad yn dewis fy hun fel arfer.

Ar ôl i’r te a’r champagne gyrraedd (o Jeraboam arall!) fe ddaeth y brechdanau. Roedd yna ddewis o eog wedi’i fygu, ham, wy, cyw iâr a chiwcymbr. A ddim eisiau edrych yn farus fe es i am dri i ddechrau, ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn mynd i fod yn ddigon a diolch byth fe ddaeth y weinyddes yn ôl i gynnig mwy i ni. Roedden nhw’n flasus iawn gyda bara gwahanol i bob llenwad, ac roedden nhw’n amlwg wedi eu torri yn ffres (does dim byd gwaeth na brechdanau sy’n dechrau sychu ar yr ochrau). Roedd y tri ohonom yn gytûn bod y frechdan cyw iâr, gyda bara basil ymysg y frechdan cyw iâr orau i ni ei gael. Roeddwn i’n hoff iawn o’r frechdan ciwcymbr, oedd yn fwy diddorol na’r arfer gan fod yna caraway yn y bara.

Cyn i’r sgons a chacennau gyrraedd, fe gawsom ni gwpan bach siocled wedi’i lenwi gyda mousse cappucino a ffeuen goffi aur am ei ben. Doeddwn i ddim yn disgwyl hwn, felly roedd o’n ychwanegiad bach neis. Roedd y mousse yn ysgafn dros ben o’n flasus iawn, ac er fy mod wedi trio bwyta’r gwpan siocled gyda’r llwy, roedd o bach yn anodd felly fe wnes i stwffio yn un darn i fy ngheg.

Dim ond wedyn y daeth y sgons, yn dal yn gynnes o’r popty a’r cacennau bach. Roedd yna ddwy sgon yr un i ni, un plaen ac un ffrwythau, ac wrth gwrs jam mefus, jam cyrens duon a hufen tolchog i fynd gyda nhw. Roedd y sgons yn ysgafn iawn a ddim yn rhy fawr, felly doedd bwyta dwy ddim yn ormod o broblem!

Y cwrs olaf yw’r piece de resistance bob tro, ble ma’r chefs yn gallu dangos eu hunain gyda’r cacennau a thartenni bach del. Y broblem yn aml yw fy mod i’n stwffio gymaint ar y brechdanau a’r sgons fel nad oes gen i ryw lawer o le pan ddaw hi at y cacennau. Ond y tro hwn roedd y cacennau yn ddigon bach ac ysgafn fel nad oeddwn i’n teimlo’n rhy llawn ar y diwedd. OK roeddwn i’n llawn ond ddim yn teimlo fel fy mod i’n mynd i fyrstio!
Yn rhy aml hefyd mae’r danteithion olaf yma yn gallu edrych yn dlws iawn ond mae’r blas yn gallu bod ychydig yn siomedig. Ond nid y tro hwn, roedd y gacen oren yn iawn, ond ddim byd anhygoel, ond roedd yvgweddill yn flasus dros ben. Roedd yna gacen mefus a siocled gwyn, financier siocled gyda mousse pistasio (dwi’n caru unrhywbeth pistasio), macaron pina colada (wow!) a tharten siocled a chanu mwnci a charamel hallt (OMG!).


Roedd y darten siocled a chnau mwnci yn ogoneddus, fel snickers posh iawn ac roedd y macaron yn gyfuniad perffaith o goconyt a phinafal. Roedd rhaid i mi gael mwy ac roedd y weinyddes yn fwy na bodlon i ddod a rhagor.
Fe wnaeth y tri ohonom ni wedi mwynhau yn fawr a doeddwn i ddim yn gallu canfod yr un bai, wel heblaw am y bil yn y diwedd! Mae o’n sicr yn un o’r drytaf yn Llundain, ond mae o hefyd, yn fy marn i, ymysg y gorau hefyd.
Fe aethom ni’n syth o’r’ Dorchester i’r Gielgud Theatre i wylio Helen Mirren yn The Audience. Drama ddoniol a diddorol iawn gyda Helen Mirren yn portreadu’r frenhines yn llwyddianus iawn o’r dyddiau cynnar i’r presennol.
Diweddglo perffaith ar ddiwrnod i’r brenin (neu frenhines).
**Ymddiheuriadau am ansawdd y lluniau, ro’n i’n canolbwyntio mwy ar y bwyta a’r joi ang ar y lluniau!**
Tagiau: champagne, Dorchester, te, te prynhawn