Dwi ar y tren ar fy ffordd allan i ddathlu, felly dim ond nodyn bach cyflym ydi hwn i ddweud bod y llyfr wedi cyraedd! Goeliwch chi ddim pa mor ecseited dwi. Mae o’n edrych yn wych, llawer gwell nag y buaswn i erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r diolch am hynny wrth gwrs i’r Lolfa, i Warren Orchard am helpu gyda’r lluniau ac i Dorry Spikes am y gwaith dylunio anhygoel.
Mae o ar gael i’w brynu rwan ar wefan y lolfa a dwi’n siwr y bydd o yn eich siop lyfrau Cymraeg lleol yn fuan iawn.
Llongyfarchiadau!
Diolch x
Gret – dysgais i shwt odd neud bara brith ar dy flog.
Ma fy meddwl i mor fyr fel ag odd rhaid ifi fynd nol at dy flog pob tro own i’n moyn neud bara brith.
Gobitho bod y rysait yna yn dy lyfir.
Sdim ots os nag yw hi, pyrna i’r llyfir ta p’un i..
Diolch xx
ydi mae’r rysait yn y llyfr, felly gobeithio bydd o ychydig yn haws mynd nol ato fana, an chwilio ar y blog!