Pobi efo plantos

29 Hyd

Dwi wedi treulio’r dydd yn helpu i edrych ar ôl dau o blant bach. Roedd hi’n ddiwrnod oer a gwlyb, felly pa ffordd well i’w diddori nhw na trwy wneud ychydig bach o goginio. Roeddwn i’n caru coginio fel plentyn, gwneud llanast mawr ond yn wyrthiol creu rhywbeth blasus yn y diwedd.

Roedd Nanw yn fy helpu i heddiw ac fe benderfynom ni wneud myffins siocled a fanila a chacen sawrus gyda ham a chaws.

Er mwyn gwneud y myffins siocled a fanila, fe wnaethom ni gymysgedd cacen fanila arferol, ei rannu mewn i ddwy fowlen ac ychwanegu powdr coco a hanner llwy de o finegr i un bowlen. Yna rhoi llond llwy yr un o’r ddau gymysgedd yn eich cas myffins, a’i orffen trwy roi lympiau o siocled ar y top.

Da chi byth yn mynd yn rhy hen i lyfu’r llwy, dwi dal yn gwneud!

Efallai bod cacen sawrus yn swnio ychydig yn od, ond mae o’n neis iawn, addo!

A’r peth gorau am y rysait hon yw y gallwch chi ei newid os ydych chi eisiau, a defnyddio unrhyw gig, llysiau neu gaws sy’n digwydd bod yn yr oergell.

Mae’r rysait gwreiddiol gan Hugh Fernley Whittingstall, roedd o yn y Guardian fisoedd yn ôl, a dwi wedi ei wneud o’r blaen gyda feta, pupur a courgette, ond am ryw reswm nes i’m blogio amdano.

Ham, caws ac olewydd sydd yn rysait Hugh, ond gan fy mod i’n coginio gyda phlant, fe adewais yr olewydd allan. Ond pe bawn i’n ei wneud ar gyfer oedolion fe fuaswn i’n cadw’r olewydd ac yn ychwanegu llysiau fel pupur neu nionod hefyd.

Dyma’r rysait.

Cynhwysion

150ml olew olewydd

250g blawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de paprika

1 llwy de o thyme (neu unrhyw berlysiau sy’n cymryd eich bryd)

100g parmesan (er caws cheddar ddefnyddiais i y tro hwn, a dwi wedi defnyddio feta yn y gorffennol hefyd, sy’n hyfryd.)

180g ham

130g olewydd (neu llysiau eraill fel nionod, pupur, courgettes)

150ml llaeth

4 wy

Dull

1. Cynheswch y popty i 200C/180C fan/ mar gas 6 ac irwch dun bara neu dun cacen (neu mae’n bosib defnyddio’r rysait i wneud myffins hefyd)

2. Hidlwch y blawd, powdr codi a paprika mewn i fowlen.

3. Cymysgwch yr ham, caws, olewydd a’r halen a phupur gyda’r blawd.

4. Mewn jwg cymysgwch yr olew, llaeth ac wyau, a’i gymysgu i mewn i’r cynhwysion sych.

5. Trosglwyddwch i’ch tun a phobwch am 45-50 munud (fe fydd myffins yn cymryd tipyn yn llai, tua 15 munud.)

2 Ymateb to “Pobi efo plantos”

  1. Rhodri 29/10/2011 at 21:57 #

    N yn edrych fel ninja cacennau yn yr un ola na! Finna di bod yn pobi heddiw efo Ll. Sgons figan ar gyfer Elin a P. Lyfli!

  2. Rhys 31/10/2011 at 14:11 #

    Waw, y ‘gacen’ ham a caws yn edrych yn lyfli.

Gadael ymateb i Rhys Diddymu ymateb