Tag Archives: siocled

Dyw hi ddim yn hawdd pobi gyda babi!

29 Gor

IMG_8733

Mae hi wedi bod yn sbel ers i mi flogio, ond mae gen i esgus da – dwi di cael babi! Roeddwn i’n dal i weithio pan ddaeth Gruff bach, bron i fis yn gynnar, gan roi dipyn o sioc i fi a’r gŵr. Yn amlwg doedd o methu aros i ddod fewn i’r byd yma. Ers hynny mae bywyd wedi newid cryn dipyn, a’r amser a hyd yn oed yr egni i bobi wedi bod yn brin iawn.

Ond wedi dweud hynny, dyw Gruff ddim wedi fy nghadw i allan o’r gegin yn llwyr. Mae o’n gallu bod yn hogyn da iawn ar adegau, gan gysgu’n ddigon hir yng nghanol y dydd i fi gael mentro i’r gegin i wneud rhywbeth. Ac mae powlen gymysgu a chlorian gegin yn ddefnyddiol iawn os ydych eisiau pwyso babi bach!

IMG_8767

IMG_8768

A’r peth cyntaf wnes i oedd y cacennau bach riwbob a chwstard yma ar gyfer fy nghlwb pobi. Haf oedd y thema, a gyda llond bag o riwbob yn yr oergell gan fy rhieni yng nghyfraith, roedd yn rhaid i mi eu defnyddio. A’r peth amlwg i’w gyfuno gyda riwbob yw cwstard, felly mae’r cacennau yma wedi’i gwneud gyda sbwng fanila, gyda riwbob wedi’i stiwio yn y canol, ac eisin menyn wedi’i wneud gyda phowdr cwstard a’i liwio yn binc a melyn fel y fferins.

IMG_8850

Fel y gwelwch chi roedd y gacen yma ychydig yn fwy uchelgeisiol, ac yn dipyn o her o ystyried yr amser oedd ei angen i’w gwneud. Doedd y tywydd ddim yn help chwaith, roedd hi’n chwilboeth ar y pryd, a dyw gweithio gydag eisin a siocled byth yn hawdd mewn tywydd poeth. Ond roeddwn i’n awyddus i’w wneud gan fod ffrind, sydd yn yr ysbyty a’r hyn o bryd, wedi gofyn am gacen pen-blwydd arbennig i’w hogyn bach oedd yn flwydd oed.

Mae’r gacen wedi’i wneud o bedwar haen o sbwng siocled, ac fe wnes i’r rheiny fin nos rhyw wythnos ynghynt ac yna eu rhewi. Yna’r diwrnod cyn y parti, fe wnes i eu dadmer, a’u llenwi a’u gorchuddio gydag eisin menyn siocled, a gwneud yr anifeiliaid bach allan o eisin ffondant. Yn lwcus i fi, fe gafodd Gruff nap digon hir i mi gael gorffen y gwaith!

Siocledi Santes Dwynwen

23 Ion

siocledau2

Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis diflas iawn, mae holl ddathlu a gloddesta’r Nadolig drosodd a phawb yn teimlo bach yn dlotach o’r herwydd. Ond da ni Gymru yn lwcus iawn, mae rheswm i ddathlu ym mis Ionawr hefyd, mae hi’n ddydd Santes Dwynwen ar y 25ain. Nawr dwi ddim y person mwyaf rhamantus yn y byd, a dweud y gwir mae’r syniad o ddathlu ddydd Sant Ffolant yn gwneud i mi deimlo bach yn sâl, ond rywsut mae Santes Dwynwen yn teimlo ychydig yn wahanol, rhywsut yn llai ffug.

Felly dwi’n falch iawn o weld y diddordeb cynyddol yn ein nawddsant cariadon. Mae’n llai masnachol na Dydd San Ffolant. Dydy siopau blodau ddim yn dyblu eu prisiau ac os ydych yn mynd allan am swper does dim rhaid i chi rannu bwyty gyda chant a mil o gyplau eraill sy’n trio bod yn rhamantus yr un pryd. Ond eto does dim rhaid gwario ffortiwn ar flodau neu swper drud, beth allai fod yn fwy rhamantus na gwneud eich anrheg eich hunain?

Dwi wedi blogio o’r blaen am y bisgedi santes Dwynwen – sydd i’w gweld yn y llyfr hefyd, neu’r gacen melfed coch yma, ond eleni dwi am wneud siocledi cartref.

Mae’r siocledi cartref yma’n hawdd iawn i’w gwneud ond eto’n blasu’n ogoneddus ac yn edrych yn drawiadol iawn. Mae yna bosibiliadau diddiwedd i chwarae gyda gwahanol flasau. Dwi wedi gwneud rhai â siocled tywyll a sinsir, a chyda siocled gwyn a pistasio, ond gallwch ychwanegu unrhyw flas i’r rysáit sylfaenol e.e. ffrwythau sych, gwirod neu gnau.

siocledau

 

Siocled tywyll a sinsir

140g o siocled tywyll

120ml o hufen dwbl

20g o fêl

20g o fenyn heb halen

30g o sinsir mewn surop

Pinsied o Halen Môn fanila

3 llwy fwrdd o bowdr coco

 

Torrwch y siocled yn ddarnau mân a’u gosod mewn bowlen.

Cynheswch yr hufen a’r mêl mewn sosban nes bod yr hylif bron â dod i’r berw a thywalltwch dros y siocled. Ychwanegwch y menyn mewn darnau bach a chymysgwch yn ofalus nes bod y cyfan yn llyfn.

Torrwch y sinsir yn ddarnau mân a’u hychwanegu at y siocled, yn ogystal â’r halen, a chymysgwch yn dda.

Rhowch y gymysgedd mewn bowlen neu dwb plastig a’i roi yn yr oergell i setio am 1½ i 2 awr.

Ar ôl i’r siocled setio tynnwch o’r oergell a thorri lwmp i ffwrdd a’i rolio yn eich llaw i ffurfio pêl, yna rholiwch y belen mewn powdr coco. Os ydi o’n rhy galed gadewch am i feddalu ar dymheredd ystafell am ychydig. Mae hyn yn joban flêr ond dyma’r ffordd orau i greu peli neis.

Cadwch y siocledi yn yr oergell nes eich bod yn barod i’w bwyta neu eu rhoi yn anrheg. Fe fyddan nhw’n cadw yn yr oergell am 3–5 diwrnod.

 

 

Siocled gwyn a pistasio

300g o siocled gwyn

150ml o hufen dwbl

20g o fenyn heb halen

¼ llwy de o Halen Môn fanila

50g o gnau pistasio

 

Torrwch y siocled yn ddarnau mân a’u gosod mewn bowlen.

Cynheswch yr hufen mewn sosban nes ei fod bron â dod i’r berw a thywalltwch dros y siocled. Ychwanegwch y menyn mewn darnau bach a chymysgwch yn ofalus nes bod y cyfan yn llyfn. Ychwanegwch yr halen a chymysgwch yn dda.

Rhowch y gymysgedd mewn bowlen neu dwb plastig a’i roi yn yr oergell i setio am 1½ i 2 awr.

Ar ôl i’r siocled setio, malwch y cnau pistasio yn fân mewn prosesydd bwyd a’u rhoi mewn bowlen. Cymerwch lond llwy de o’r siocled a’i rolio yn eich llaw i ffurfio pêl. Rholiwch y peli yn y pistasio mâl.

Cadwch y siocledi yn yr oergell nes eich bod yn barod i’w bwyta neu eu rhoi yn anrheg. Fe fyddan nhw’n cadw yn yr oergell am 3–5 diwrnod.

Patisseries Paris

17 Ion

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Cyn y Nadolig fe aeth y gŵr a minnau ar drip i Baris. Dwi wedi bod nifer o weithiau o’r blaen felly doeddwn i ddim yn teimlo fel bod rhaid i mi ymweld â’r holl fannau twristaidd arferol, ond un peth yr oeddwn i’n awyddus iawn i’w wneud oedd mynd i gymaint o Patisseries hyfryd a phosib. Mae yna ddigon o siopau cacennau neis yn Llundain, ond mae patisseries Paris ar lefel arall yn llwyr. Mae’r cacennau maen nhw’n ei wneud yn ddarnau o gelf bron a bob, a bron yn rhy ddeniadol i’w bwyta – bron!

Doedd y gŵr erioed wedi bod i Baris o’r balen, felly dim syndod nad oedd o eisiau treulio’r holl amser yn chwilio am siopau cacennau ond fe fues i’n gyfrwys iawn yn trefnu diwrnodau oedd y mynd a ni o gwmpas y prif olygfeydd ond hefyd yn digwydd pasio heibio rhai o patisseries gorau’r ddinas. Nawr yn sicr dy nhw ddim yn rhad ond ges i mo fy siomi yn unlle.

Dyma fy ffefrynau:

 

L’Éclair du Génie

Ar ôl y cupcake ar macarons mae’r eclair nawr yn ffasiynol iawn, a dyma chi siop sy’n gwneud dim byd ond eclairs, ac eclairs anhygoel hefyd. Dy nhw ddim byd tebyg i’r eclair trist welwch chi’n eich siopau arferol, maen nhw’n eu gwneud ymhob lliw a blas ac wedi’i haddurno yn hyfryd.

Fe gawsom ni un caramel hallt ac un pralin, a wir dyna’r eclairs gorau i mi erioed ei flasu.

IMG_7944

IMG_7945

IMG_7947

 

Phillippe Gosselin

Mae’r lle yma yn enwog am eu baguettes, ond maen nhw hefyd yn gwneud cacennau hyfryd. Gan ei bod hi’n agos at y Nadolig pan ymwelsom ni, fe gawsom ni ddwy sleisen o Bûche de Noel, cacen Nadolig y Ffrancwyr.

IMG_7928

IMG_7936

IMG_7932

 

Des Gateaux et des Pain

A dyma chi beth oedd Bûche de Noel. Doeddwn nhw ddim yn rhad, ond wow roedden nhw’n edrych yn anhygoel.

IMG_7939

 

IMG_7922

IMG_7924

 

Angelina

Mae Angelina yn dy te yn ogystal â siop, ac roeddwn i wir eisiau eistedd i mewn i fwynhau paned a chacen, ond roedd y ciw yn enfawr, a doedd gen i ddim owns o amynedd i aros, felly i’r siop a ni yn lle a mynd a chacennau yn ôl efo ni i’r gwesty i fwyta.

Clasur Ffrengig gefais i, y Saint Honoré tra bod y gŵr wedi cael Eclair Mont Blanc.

IMG_7904

IMG_7910

IMG_7911

 

Laudrée

Mae yna Laudrée  yn Llundain, ond doeddwn i methu mynd i Baris heb ymweld â chartref y macarons. Wrth gwrs doeddwn i methu prynu un neu ddau, roedd rhaid cael bocs ohonyn nhw er mwyn trio cymaint o flasau a phosib.A drychwch del ydi’r bocs hefyd?!!

IMG_7905

IMG_7913

 

Pierre Hermé

Siop arall sy’n arbenigo mewn macarons, y meringues bach lliwgar a phrydferth, sy’n cael eu llenwi gyda phob blas dan haul. mae Pierre herme ychydig yn fwy mentrus gyda’i flasau na Laudrée ac roedd yna hyd yn oed macaron foie gras ar werth yno – er wnes i ddim mentro blasu hwnna chwaith!

IMG_7949

 

Chocolat Chapon

Nefoedd os ydych chi’n hoffi siocledi. Roedd hyd yn oed y waliau wedi’i haddurno gyda thuniau gwneud siocled.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

IMG_7938

IMG_7986

 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

 

Sgwariau siocled a charamel hallt

28 Maw

20140328-143008.jpg

Dyma’r ail flog am siocled o fewn wythnos, ond dwi ddim am ymddiheuro am hynny, dwi wrth fy modd yn pobi efo siocled.

Nawr dwi ddim y math o berson sy’n estyn am far o siocled pan dwi eisiau rhywbeth melys, dwi’n llawer mwy tebygol o brynu cacen neu dda da’s. Ond mae yna wastad lwyth o fariau siocled yn y tŷ, rhai siocled tywyll, llaeth a gwyn, yn barod i’w hychwanegu at gacen neu darten.

Mae’n bosib gwneud cymaint gyda siocled, gall serennu fel mewn brownies dwys a chyfoethog, neu weithio fel blas cefndir drwy ychwanegu darnau bach o siocled i gacen oren er enghraifft.

Felly gallwch ddychmygu’r holl syniadau oedd yn mynd trwy fy mhen, pan glywais mai siocled oedd thema fy nghlwb pobi Band of Bakers y mis yma. Roedd yr opsiynau yn ddiddiwedd. Ac wrth gwrs dyna’r broblem.

Fy syniad cyntaf oedd gwneud bisgedi bourbons, dwi wedi creu rhai fy hun ar gyfer y llyfr newydd. Ond lwcus na wnes i gan fod rhywun arall wedi gwneud rhai hefyd.

Yna meddyliais wneud cacen bundt siocled, oren a tsili. Rysáit arall o’r llyfr, ond i fod yn onest ar ôl gwneud y ryseitiau yma cymaint dros y misoedd diwethaf roedd gen i awydd gwneud rhywbeth hollol newydd. Ond beth?

Felly fe agorais y cwpwrdd pobi (mae’r cynhwysion pobi yn cymryd mwy o le na bwyd cyffredin yn fy nghegin i!) yn y gobaith o ffeindio ysbrydoliaeth. A’r peth cyntaf i ddal fy llygad oed tun o laeth cyddwys. Yn syth daeth y syniad o wneud sgwariau caramel a siocled.

20140328-143131.jpg

Roedd ‘caramel slice’ fel yr oeddem yn eu galw yn un o fy hoff gacennau o Popty’r Dref yn Nolgellau, wel ar ôl hyni byns wrth gwrs! Ond er fy mod yn eu bwyta yn gyson pan oeddwn i’n iau, doeddwn i erioed wedi gwneud rhai fy hun.

Ond dwi’n mwynhau her newydd, ac mewn gwirionedd maen nhw’n reit syml i’w gwneud. Er hynny maen nhw’n cymryd amser gan fod angen gwneud y tair haen un ar ôl y llall. Dechrau gyda bisged shortbread ar y gwaelod, cyn gwneud y caramel allan o’r llaeth cyddwys ac ar ôl gadael i hwnna setio rhoi haen o siocled tywyll am ei ben.

Gan fy mod i ychydig yn obsesiynol am garamel hallt ac yn benodol efo Halen Môn fanila ar hyn o bryd, doeddwn i methu peidio ag ychwanegu rhywfaint o halen rhwng y caramel a’r siocled.

Mae’r sgwariau caramel a siocled yma yn hurt o felys (wna i ddim dweud wrth y Deintydd os nad ydych chi!) felly mae’r halen yn helpu i dorri drwy’r melysrwydd. Wrth gwrs os nad ydych wedi’ch argyhoeddi o hyfrydwch caramel hallt does dim rhaid ei gynnwys.

O’r ymateb ges i yn y clwb pobi mae’n amlwg nad fi yw’r unig un sydd wrth fy modd a’r sleisys melys hyfryd yma. Felly dyma chi’r rysáit, gobeithio y byddwch chi’n joio hefyd.

Cynhwysion

Ar gyfer y fisged shortbread
250g o fenyn heb halen
180g o siwgr mân
300g o flawd plaen
50g o flawd corn
Pinsied o halen


Ar gyfer y caramel

800g o laeth cyddwys (condensed milk)
150g o fenyn heb halen
170g o surop euraidd
200g o siwgr mân

Llwy de o halen môn fanila

350g o siocled tywyll i roi ar y top

Dull

Cynheswch y popty i 170C / 150C ffan ac irwch a leiniwch dun pobi hirsgwar.

Curwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am gwpwl o funudau nes eu bod yn ysgafn.

Yna ychwanegwch y blawd plaen, blawd corn a halen a’i gymysgu gyda llwy. Mae hwn yn does reit sdiff felly bydd angen defnyddio eich dwylo i wasgu’r toes at ei gilydd.

Gyda’ch dwylo eto gwasgwch y toes i waelod eich tun cyn procio’r gwaelod i gyd gyda fforc.

Coginiwch yn y popty am 20-25 munud nes ei fod yn euraidd.

Tynnwch allan o’r popty a’i roi i un ochr i oeri.

Yn y cyfamser gwnewch eich caramel. Rhowch y llaeth cyddwys, menyn, surop a siwgr mewn sosban a’i chynhesu gan ei droi yn achlysurol nes bod popeth wedi toddi.

Daliwch ati i gynhesu’r gymysgedd gan ei gymysgu yn rheolaidd am 6-8 munud arall nes ei fod yn tewychu ac yn troi yn lliw caramel euraidd.

Tynnwch oddi ar y gwres a’i adael i oeri am funud cyn ei dywallt dros y fisged shortbread. Gadewch i oeri yn llwyr.

Pan fydd y caramel wedi oeri a chaledu ysgeintiwch yr halen am ei ben.

Torrwch y siocled yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen wedi’i osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. Pan fydd y siocled wedi toddi yn llwyr ryw allwch dros y caramel. Wedyn mae eisiau taro’r tun pobi yn galed yn erbyn y bwrdd er mwyn cael gwared ag unrhyw swigod awr yn y siocled.

Gadewch i’r siocled setio cyn ei dorri yn sgwariau.

Gweithdy siocled

24 Maw

20140324-171616.jpg

Mae yna ‘perks’ i fod yn flogiwr bwyd weithiau, a pan gefais fy ngwahodd i fynychu gweithdy gwneud siocledi gan MyChocolate  doeddwn i ddim yn mynd i ddweud na. Cwmni ynghanol Llundain yw MyChocolate sy’n cynnig gweithdai siocled i unigolion, cwmnïau, partïon iâr, unrhyw un a dweud y gwir sydd eisiau dysgu sut i flasu a gwneud eu siocledi eu hunain.

Dwi wedi gwneud siocledi fy hun nifer o weithiau o’r blaen (fe fydd yna gwpwl o ryseitiau yn y llyfr newydd) ond roeddwn i dal yn awyddus i ddysgu mwy am y broses. A beth well na noson allan gyda ffrindiau yn yfed prosecco a photsian gyda siocled?

Ond cyn i ni gael ein dwylo yn fudur a dechrau gwneud y siocledi, roedd yna gyfle i flasu mathau gwahanol o siocled a dysgu am hanes coco.

20140324-171358.jpg
Roedd gennym ni gyd saith math gwahanol o siocled i’w drio, fel bod modd cymharu siocled o safon, gyda chyfran uchel o soledau coco, gyda siocled rhad o’r archfarchnad. Doedd o ddim yn anodd dweud y gwahaniaeth, er mawr sy’n dod roedd yna un neu ddau wedi cyfaddef licio’r siocled rhad dros y siocled drytach. Ond wedyn mi ydw i wrth fy modd gyda siocled tywyll neis.

Nawr mae’n debyg eich bod chi’n gallu blasau rhinweddau gwahanol y coco ym mhob siocled, fel yr ydych gyda gwin da. Mae hi hyd yn oed yn bosib, i rai, ddweud o ba wlad y daeth y coco, drwy flas yn unig. Yn amlwg does gen i ddim blas mor dda â hynny, achos er fy mod yn gallu adnabod siocled rhad a siocled yn llawn coco,  roeddwn i’n ofnadwy ar adnabod y gwahaniaeth cynnil mewn blas yn y siocled tywyll.

20140324-171447.jpg
Yna ar ôl y dysgu daeth yr hwyl, gyda chyfle i wneud ein siocledi ein hunain.

Mewn gwirionedd mae gwneud siocledi neu truffles yn weddol hawdd. Rydych chi’n gwneud ganache drwy gymysgu dwywaith gymaint o siocled a hufen. Y ffordd draddodiadol o wneud ganache yw cynhesu’r hufen nes ei fod yn codi berw, cyn ychwanegu siocled wedi’i dorri yn fân ato a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn. Wedyn mae’n rhaid ei adael i setio yn yr oergell am ychydig oriau cyn ei siapio mewn i siocledi. Wrth gwrs doedd gennym ni mor amser i wneud hynny. Felly un peth da ddysgais i oedd bod yna ffordd llawer cyflymach o’i wneud, sef, toddi’r siocled ac yna ychwanegu’r hufen oer.

20140324-171503.jpg

 

20140324-171513.jpg

Y cam nesaf oedd peipio lympiau o’r ganache ar bapur gwrthsaim (dwi’n gwybod mae’r llun uchod yn edrych fel rhywbeth arall yn llwyr!), cyn eu gadael i setio rhywfaint. Tip da os ydych eisiau osgoi dwylo wedi’i orchuddio  mewn siocled sef beth sydd fel arfer yn digwydd pan fyddwch yn rholio’r siocledi yn syth yn eich dwylo. Ar ôl iddynt setio fe wnes i eu siapio rhywfaint gyda blaenau fy mysedd, cyn eu gollwng mewn powlen o siocled wedi toddi a’u haddurno. Roedd yna ddewis da o addurniadau o gnau i ddarnau bach o fafon – wrth gwrs fe nes i drio pob un!

20140324-171527.jpg

20140324-171550.jpg

 

20140324-171601.jpg

Does dim osgoi’r ffaith bod hon yn joban flêr, roedd yna siocled ymhob man erbyn diwedd y noson – er dwi’n siwr nad oedd y prosecco yn helpu! Ond roedd o’n lot o hwyl ac er fy mod i’n sicr nad oes gen i yrfa mewn gwneud siocledi, roeddwn nhw’n edrych yn ddigon del wedi’i gosod yn eu bocs aur a’u lapio gyda rhuban – a doedden nhw ddim yn blasu yn rhy ddrwg chwaith.

;

Cacen Guinness

26 Maw

Ia Guinness mewn cacen, mae’n swnio’n od, ond wir i chi mae o’n gwneud synnwyr pan da chi’n ei drio! A dweud y gwir cacen siocled a guinness yw hon, ond mae hi mor wahanol i unrhyw gacen siocled arall. Mae’n ddwys, yn gyfoethog, ond dyw o ddim yn or-felys gan fod y guinness yn rhoi cic chwerw iddo. Mae’n berffaith ar ei ben ei hun, gan ei fod yn ddigon llaith, ond dwi’n licio rhoi eisin menyn ar ei ben. Mae’n ychwanegu ychydig bach mwy o felyster (mae gen i ddant melys!) ond mae’r eisin gwyn gyda’r gacen ddu hefyd yn gwneud iddo edrych yn debycach i beint o guinness.

Mae fy nghariad yn Wyddel a rysáit ei deulu o yw hon, ac roedd ei fam yn iawn pan ddywedodd bod y gacen yn plesio pawb. Pan es i a’r gacen hon i’r gwaith fe gefais i ymateb gwych gan bawb. Trïwch hi, mae hi mor hawdd i’w gwneud a dwi’n addo y bydd hi’n dod yn ffefryn. Mae’n sicr yn un o fy hoff gacennau i ar hyn o bryd.

Cynhwysion

120g menyn heb halen

250g siwgr brown tywyll

2 wy

170g blawd plaen

60g powdr coco

1 llwy de o soda pobi

½ llwy de o bowdr codi

200ml Guinness

Ar gyfer yr eisin

125g menyn heb halen, meddal

250g siwgr eisin

½ llwy de o echdyniad fanila

3 llwy fwrdd o laeth

Dull

1. Cynheswch y popty i 180C/160C ffan, ac irwch a leinio tun crwn dwfn neu dun torth.

2. Curwch y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.

3. Ychwanegwch y wyau, un ar y tro, gan guro yn llwyr rhwng bob un.

4. Yna hidlwch y blawd, powdr coco, soda pobi a phowdr codi, a’i blygu mewn gyda llwy fetel neu spatula.

5. Yn olaf ychwanegwch y guinness a’i gymysgu yn llwyr.

6. Rhowch ac i mewn i’r popty cyn gynted â phosib, gan mai’r adwaith rhwng y guinness a’r soda pobi fydd yn gwneud i’r gacen godi.

7. Pobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r gacen yn lan.

8. Gadewch iddo oeri ar restl metel, cyn ei eisio gydag eisin menyn.

9. Er mwyn gwneud yr eisin menyn, cymysgwch y menyn, siwgr eisin, echdyniad fanila a’r llaeth. Cymysgwch am 5 munud gyda chwisg trydan er mwyn cael eisin ysgafn.

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus!

25 Ion

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!

Gobeithio bod pawb yn gwneud rhywbeth i ddathlu, neu’n defnyddiwch o fel esgus iwneud rhywbeth neis eich hunain! . Yn anffodus dwi’n gwneud dim gan bod y cariad yn Llundain a minnau yng Nghaerdydd, felly fyddai ddim yn cael mynd i Odette’s am swper i ddathlu eleni – roeddwn i’n hogan lwcus iawn y llynedd ac fe gawsom ni bryd o fwyd anhygoel yno.

Dwi erioed wedi bod yn ffan o Ddydd San Ffolant, mae o’n llawer rhy fasnachol a mae rhywun yn teimlo’r pwysau i wneud rhywbeth arbennig, ond rhywsut mae Dydd Santes Dwynwen yn teimlo’n wahanol. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n dathlu ein nawddsant cariadon ein hunain, mae stori Dwynwen yn hyfryd, ac wrth gwrs mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr i gael dynes fel nawddsant y cariadon (sori hogia!) Felly mwynhewch heddiw ac os da chi’n chwilio am rywbeth i’w goginio i’r person arbennig yna yn eich bywyd, dwi wedi gwneud cacen red velevt ar eich cyfer.

Mae’n gacen berffaith gan ei bod y sbwng siocled yn lliw coch tywyll, a dwi’n addo na fydd unrhyw un yn gallu gwrthod sleisen o’r deisen hon!

O America daw’r gacen yn wreiddiol, ac mae wedi dod yn boblogaidd iawn fel cupcake yn y blynyddoedd diwethaf – a dweud y gwir rysait ar gyfer cupcakes yn llyfr yr hummingbird baker yw hwn. Dwi wedi addasu’r rysait rhywfaint gan fy mod i eisiau gwneud un gacen fawr, ac mewn tun calon wrth gwrs gan ei bod hi’n ddiwrnod Santes Dwynwen!

Cynhwysion

120g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g siwgr caster

2 wy

40go bowdr coco

1 llwy de o fanila

240ml o laeth enwyn

300g blawd plaen

1 llwy de o bicarbonate of soda

3 llwy de o finegr gwyn

Ar gyfer yr eisin

600g siwgr o eisin

100g menyn heb halen ar dymheredd ystafell

300g caws meddal megis Philadelphia

Dull

1. Cynheswch y popty i 170°C / 150°C ffan. Irwch a leiniwch dun tua 20″ modfedd.

2. Gan ddefnyddio cymysgwr trydan, cymysgwch y menyn am 3 munud. Mae 3 munud yn lot hirach nag ydych chi’n ei feddwl felly amserwch o!

3. Nawr ychwanegwch y siwgr ychydig ar y tro, gan barhau i gymysgu. Yna cymysgwch am 4/5 munud arall. Dyma mae’r ryseitiau yn ei olygu pan maen nhw’n dweud ‘cream the butter and sugar until light and fluffy’!

4. Yna ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu yn llwyr rhwng pob un.

5. Mewn bowlen arall, cymysgwch y powdr coco, y fanila a tua llond llwy de o liw coch (past coch wnes i ei ddefnyddio, gewch chi byth liw cryf efo’r rhai rhad na da chi’n ei gael yn yr archfarchnad) ac ychydig bach o ddŵr nes eich bod chi’n cael past trwchus a thywyll.

6. Ychwanegwch at y menyn, a’i gymysgu yn dda.

7. Nawr ychwanegwch hanner y llaeth enwyn, ei gymysgu yn dda cyn ychwanegu hanner y blawd. Gwnewch yr un peth gyda gweddill y llaeth enwyn a’r blawd.

Os nad ydych chi’n gallu cael gafael ar laeth enwyn, mae’n bosib gwneud rhywbeth tebyg eich hunain gan ychwanegu sudd lemon at laeth cyffredin. Dyna wnes i y tro yma gan ddefnyddio sudd un lemwn ar gyfer 240ml o laeth)

8. Ychwanegwch y bicarbonate of soda a’r finegr a’i gymysgu unwaith eto.

9. Tywalltwch i mewn i’ch tun a phobwch am awr, nes bod sgiwer yn dod allan o’r canol yn lân.

10. Gadewch y gacen i oeri yn y tun am ychydig, cyn ei drosglwyddo i restl i oeri yn llwyr.

11. Ar ôl iddo oeri yn llwyr, torrwch y gacen yn ei hanner yn barod ar gyfer yr eisin.

12. Er mwyn gwneud yr eisin curwch y siwgr eisin a’r menyn tan ei fod wedi cymysgu yn dda, yna ychwanegwch y caws meddal oer i gyd, a’i guro am ryw 4-5 munud. Peidiwch â’i guro dim mwy na hynny neu fe fydd yn mynd yn rhy denau.

13. Rhowch ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau. Esmwythwch cymaint â phosib, wedyngadewch y gacen fel mae hi neu os oes gennych chi blentyn bach yn eich helpu chi (fel oedd gennyf i) gorchuddiwch y top gyda gormodedd o sprinkles pinc!

Roulade siocled

15 Ion

20120113-191332.jpg

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl yn ein teulu ni sy’n licio pwdin dolig. Yn sicr dwi ddim! Mae’n llawer rhy gyfoethog a thrwm i fwyta ar ôl pryd mor fawr. Felly fe benderfynais wneud roulade siocled ar gyfer y dydd, llawer ysgafnach na phwdin nadolig, a pwy sydd ddim yn licio siocled?

Nawr dwi’n gwybod pawb di hen ddiflasu efo’r nadolig erbyn hyn, ond roeddwn i’n meddwl bod o’n werth rhannu’r rysait yma efo chi, gan fod roulade yn bwdin perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

A gan ei bod hi’n flwyddyn newydd, a rhai ohonom (gan gynnwys fi!) yn ceisio bwyta’n iach, mae modd gwneud y roulade yma yn weddol iachus. Hynny yw os ydych chi’n cyfnewid yr hufen dwbl am iogwrt neu creme fraiche braster isel. Hefyd does dim blawd ynddo, sy’n ei wneud yn ysgafn awn, ac yn gluten free. Felly beth sydd yna i beidio ei licio?

Mae yna filoedd o ryseitiau roualde i’w cael ond rysait gan Merry Berry yw hwn.

 

 

Cynhwysion

175g siocled tywyll, o leiaf 70% cocoa solids

6 wy, wedi eu gwahanu

175g siwgr caster

2 llwy fwrdd o bowdr cocoa

300ml hufen dwbl

Ychydig o ffrywthau fel mefus neu fafon

Dull

1. Cynheswch y popty I 180C/160 fan ac irwch dun swiss roll a’i leinio gyda papur gwrth saim.

2. Torrwch y siocled yn ddarnau man, a’i doddi mewn bowlen sydd wedi ei osod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi. (gwnewch yn siwr nad yw’r fowlen yn cyffwrdd y dŵr o gwbl)

20120113-191658.jpg

3. Rhowch y 6 gwyn wy mewn bowlen a’i chwisgo tan ei fod yn stiff, ond gofalwch nad ydych chi’n ei or-wisgio. Dyle’ chi fod yn gallu dal y fowlen uwch eich pen heb iddo gwympo allan!

20120113-192007.jpg

4. Rhowch y 6 melynwy mewn bowlen arall gyda’r siwgr a’i chwisgo am 2-3 munud nes ei fod yn edrych fel hufen trwchus.

5. Ar ôl i’r siocled oeri rhywfaint, ychwanegwch at y melynwy a’r siwgr, a’i blygu yn ofalus, nes ei fod wedi cymysgu yn llwyr.

6. Yna gan ddefnyddio llwy fetel mawr ychwanegwch ddau lond llwyaid o’r gwyn wy at y gymysgedd siocled. Mae hyn yn llacio’r gymysgedd ac yn ei gwneud hi’n haws i gymysgu gweddill y gwyn wy heb golli’r holl aer.

20120113-192323.jpg

7. Ychwanegwch weddill y gwyn wy a’i blygu yn ofalus. Felly cymysgu yn ofalus mewn ffigwr wyth, yn hytrach na’i guro yn galed.

8. Hidlwch y powdr coco dros y cyfan a’i blygu yn ysgafn.

20120113-192504.jpg

9. Tywalltwch y gymysgedd i mewn i’r tun, gan ei wthio yn ofalus i’r corneli.

10. Pobwch am 20-25 munud nes bod y gymysgedd wedi codi, a bod y top yn teimlo’n eithaf cadarn. Gadewch iddo oeri yn y tun (fe fydd y roulade yn disgyn rhywfaint wrth iddo oeri, ac efallai y bydd y top yn cracio rhywfaint).

11. Chwisgiwch yr hufen nes ei fod yn weddol stiff a pharatowch eich ffrwythau.

12. Gosodwch ddarn o bapur gwrthsaim ar eich bwrdd a thaenu ychydig o siwgr eisin ar ei ben. Gosodwch y roulade ar ei ben, fel bod y papur leinio yn eich wynebu. Yna, yn ofalus, tynnwch y papur i ffwrdd.

20120113-192749.jpg

13. Taenwch yr hufen ar ben y roulade, gan adael gofod o 2cm yr holl ffordd o gwmpas yr ochr. Rhowch eich ffrwythau ar ben yr hufen.

14. Nawr mae’n amser rolio! Gydag un o’r ochrau byrraf yn eich wynebu chi, torrwch linell gyda chyllell finiog ryw 2cm o’r pen, gan sicrhau mai dim ond hanner ffordd trwy’r roulade yr ydych chi’n torri. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddechrau rholio. Yna roliwch y darn yma drosodd yn ofalus, yna defnyddiwch y papur i’ch helpu chi i rolio gweddill y roulade yn dynn, trwy ei dynnu oddi wrthoch chi tra da chi’n rholio.

Peidiwch â phoeni os yw eich roulade yn cracio (fe wnaeth fy un i) mae’n eithaf cyffredin ac yn ychwanegu at edrychiad terfynol y pwdin.

Gweinwch gydag ychydig o siwgr eisin ar ei ben.

Macarons siocled oren

4 Tach

Fe ddysgais i lot ar y cwrs macarons efo Edd Kimber, ac roeddwn i’n hapus iawn efo sut oedd y macarons yn blasu ac yn edrych. Ond y prawf mawr oedd efelychu’r llwyddiant gartref. Felly ar ôl prynu thermomedr siwgr, (pwy feddylia y bydden i byth yn prynu’r ffasiwn beth!) fe es ati i drio gwneud rhai fy hun.

Fe benderfynais i wneud rhai siocled oren, dwn im pam, ond feddylies i y byddai macarons lliw oren gyda ganache siocled yn y canol yn edrych yn ddel.

Am ryw reswm fe gefais i ychydig o broblem gyda fy meringue Eidalaidd, roedd o’n edrych ychydg bach yn fflat. Er dwi’n rhoi’r bai ar y chwisg trydan, gan bod un o’r attachements wedi torri! (roedd hyn cyn i mi brynu’r kitchenaid) Ond er gwaethaf y problemau roedd y macarons yn edrych yn iawn ar ôl eu coginio.

Er mwyn gwneud y ganache fe wnes i doddi 220g o siocled tywyll blas oren, mewn 240ml o hufen dwbl oedd newydd ferwi, ac yna cymysgu 50g o fenyn fewn i’r cwbl, a’i adael i oeri nes oedd yn ddigon trwchus i’w beipio rhwng y macarons.

Dwi’n edrych mlaen rwan i’w gwneud gyda’r kitchenaid newydd, dwi’n siwr y bydd o’n llawer haws.

Pobi efo plantos

29 Hyd

Dwi wedi treulio’r dydd yn helpu i edrych ar ôl dau o blant bach. Roedd hi’n ddiwrnod oer a gwlyb, felly pa ffordd well i’w diddori nhw na trwy wneud ychydig bach o goginio. Roeddwn i’n caru coginio fel plentyn, gwneud llanast mawr ond yn wyrthiol creu rhywbeth blasus yn y diwedd.

Roedd Nanw yn fy helpu i heddiw ac fe benderfynom ni wneud myffins siocled a fanila a chacen sawrus gyda ham a chaws.

Er mwyn gwneud y myffins siocled a fanila, fe wnaethom ni gymysgedd cacen fanila arferol, ei rannu mewn i ddwy fowlen ac ychwanegu powdr coco a hanner llwy de o finegr i un bowlen. Yna rhoi llond llwy yr un o’r ddau gymysgedd yn eich cas myffins, a’i orffen trwy roi lympiau o siocled ar y top.

Da chi byth yn mynd yn rhy hen i lyfu’r llwy, dwi dal yn gwneud!

Efallai bod cacen sawrus yn swnio ychydig yn od, ond mae o’n neis iawn, addo!

A’r peth gorau am y rysait hon yw y gallwch chi ei newid os ydych chi eisiau, a defnyddio unrhyw gig, llysiau neu gaws sy’n digwydd bod yn yr oergell.

Mae’r rysait gwreiddiol gan Hugh Fernley Whittingstall, roedd o yn y Guardian fisoedd yn ôl, a dwi wedi ei wneud o’r blaen gyda feta, pupur a courgette, ond am ryw reswm nes i’m blogio amdano.

Ham, caws ac olewydd sydd yn rysait Hugh, ond gan fy mod i’n coginio gyda phlant, fe adewais yr olewydd allan. Ond pe bawn i’n ei wneud ar gyfer oedolion fe fuaswn i’n cadw’r olewydd ac yn ychwanegu llysiau fel pupur neu nionod hefyd.

Dyma’r rysait.

Cynhwysion

150ml olew olewydd

250g blawd plaen

2 llwy de o bowdr codi

½ llwy de paprika

1 llwy de o thyme (neu unrhyw berlysiau sy’n cymryd eich bryd)

100g parmesan (er caws cheddar ddefnyddiais i y tro hwn, a dwi wedi defnyddio feta yn y gorffennol hefyd, sy’n hyfryd.)

180g ham

130g olewydd (neu llysiau eraill fel nionod, pupur, courgettes)

150ml llaeth

4 wy

Dull

1. Cynheswch y popty i 200C/180C fan/ mar gas 6 ac irwch dun bara neu dun cacen (neu mae’n bosib defnyddio’r rysait i wneud myffins hefyd)

2. Hidlwch y blawd, powdr codi a paprika mewn i fowlen.

3. Cymysgwch yr ham, caws, olewydd a’r halen a phupur gyda’r blawd.

4. Mewn jwg cymysgwch yr olew, llaeth ac wyau, a’i gymysgu i mewn i’r cynhwysion sych.

5. Trosglwyddwch i’ch tun a phobwch am 45-50 munud (fe fydd myffins yn cymryd tipyn yn llai, tua 15 munud.)