Bisgedi cyntaf

28 Tach


Mae amser wir wedi hedfan yn ddiweddar, ac mae’r mab nawr wedi dechrau bwyta. Fel rhywun sydd wrth eu bodd gyda bwyd a choginio, mae hyn yn gyfnod cyffroes iawn i mi, ond hefyd yn cynnig her newydd i mi – pobi a choginio gyda llai o halen a siwgr na’r arfer. Ond mae’n un dwi’n ei fwynhau hyd yn hyn, yn sicr mae’n helpu bod y bychan yn mwynhau ei fwyd cymaint â’i fam.

Stwnsh neu bethau meddal mae’n ei fwyta yn bennaf ar hyn o bryd, ond gyda dannedd ar y ffordd, mae o’n mwynhau cnoi ar bethau caled hefyd. Felly dyma’r cyfle cyntaf i bobi bisgedi ar ei gyfer, bisgedi sydd yn ddigon caled fel nad oes modd iddo dorri darn mawr i ffwrdd, ond yn meddalu yn araf wrth iddo gnoi a sugno arnyn nhw. A bisgedi sydd wrth gwrs heb unrhyw siwgr ynddyn nhw, ond yn hytrach wedi’i melysu gan ychydig o biwre afal.

Nawr dwi’n ymwybodol iawn bod amser yn brin os oes gennych fabi bach, felly mae’r rhain yn syml ac yn gyflym iawn i’w gwneud, yn enwedig os oes gennych chi lond rhewgell o biwre afal yn barod, fel y fi.

Er bod y rhain yn berffaith ar gyfer babis o 6 mis ymlaen, mae’n dal yn bwysig i gadw golwg ar eich plentyn wrth iddyn nhw eu bwyta, rhag ofn iddyn nhw dagu.

Cynhwysion

300g o flawd plaen
1/2 llwy de o bowdr codi

1 wy

100g o biwre afal trwchus (Tua 2/3 afal) 

 

Dull

Dechreuwch drwy wneud y piwre afal. Peidiwch a phlicio’r afalau (mae yna lot o faeth yn y croen), ond torrwch y canol allan, a thorri’r afalau yn ddarnau. Dwi’n hoffi stemio fy afalau, ond gallech eu coginio mewn sospan hefyd. Fe ddylai gymeryd 15-20 munud hyd nes eu bod yn feddal. Yna defnyddiwch brosesydd bwyd i’w malu yn llyfn.
Gadewch i’r piwre oeri rhywfaint. 

Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim. Cymysgwch yr holl gynhwysion hyd nes bod popeth yn dod at ei gilydd i ffurfio toes llyfn. 

Torrwch belen o’r toes a’i rolio yn sosej rhyw 2 fodfedd o hyd, Gosodwch ar eich tun pobi a’i wasgu yn fflat. Mae angen i’r bisgedi fod yn ddigon mawr i fabi eu dal yn eu dwrn i fwydo eu hunain, ond ddim yn rhy fawr i’w roi yn eu ceg. Ailadroddwch gyda gweddill y bisgedi gan sicrhau bod digon o le rhwng pob un. 

Coginiwch am 25-30 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac yn galed. 

Gadewch i’r bisgedi oeri ar rwyll fetel. 
Fe fydd rhain yn cadw yn dda o’u rhoi mewn tun a chaead iddi. 

3 Ymateb to “Bisgedi cyntaf”

  1. Dafydd Morse 19/12/2015 at 13:50 #

    Ydw i ‘di colli’r rhan rysait fan hyn? Ma fy merch bach i’n 6 mis erbyn hyn ac felly ma rhain yn swnio’n gret!

    • Paned a Chacen 19/12/2015 at 14:23 #

      Wel am ryfedd dwn im i ble’r aeth y rysait ond rwyf wedi’i ychwanegu nawr.

      • Dafydd Morse 22/12/2015 at 13:49 #

        Gwych! Fe wnewn ni rhain dros Nadolig. Diolch yn fawr i ti.

Gadael sylw