Tartenni afal

13 Hyd

Mae cyfres arall o’r Great British Bake Off wedi dod i ben ac fel y cyfresau eraill cyn hyn, dwi wedi mwynhau hon yn aruthrol, ac yn hapus iawn o weld Nadiya yn ennill. Pencampwr haeddiannol yn fy marn i, wnaeth gynyddu mewn hyder wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen gan greu cacennau trawiadol a blasus iawn yr olwg wythnos ar ôl wythnos.

Fel y dywedodd un person wrtha i ar twitter nos Fercher, ‘dyma dy world cup di ynte?’ – wel ia o bosib, ac o’r herwydd doeddwn i ddim yn mynd i fod yn hapus yn ei wylio adra ar fy mhen fy hun. O na, fe wnes i wylio’r rownd derfynol ar sgrin fawr mewn tafarn, gyda llond ystafell o gyd bobwyr a mwy na digon o gacennau a gwin.

A dweud y gwir dwi wedi bod yn cwrdd â grŵp o ffrindiau yn rheolaidd i wylio’r rhaglen, ac yn aml yn pobi rhywbeth i gyd fynd gyda themâu’r wythnos. Yn ystod wythnos toes y rhaglen, fe wnes i’r tartenni bach afal yma. Crwst pwff menynaidd, gydag afalau yn gorwedd ar bast almon melys. Tartenni bach trawiadol sydd mewn gwirionedd yn hawdd iawn i’w gwneud.

Fe wnes i fy nghrwst pwff fy hun, a wir i chi mae’n lot haws nag y buasech chi’n ei feddwl os ydych yn dilyn fy rysáit ar gyfer ‘rough puff’. Ond os yw amser yn wirioneddol yn brin yna does yna s dim byd yn bod gyda defnyddio paced da o does pwff, cyn belled mai un wedi’i wneud gyda menyn ydi o.  Ond rhowch gyfle arni unwaith o leiaf.



Cynhwysion
Ar gyfer y crwst

250g o fenyn oer

250g o flawd plaen

1 llwy de o halen

150ml o ddŵr oer

Ar gyfer y llenwad
80g o fenyn heb halen

80g o siwgr mân

1 wy

80g o almonau mâl

15g o flawd plaen

1 wy

1 llwy de o rym

2 afal

25g o fenyn wedi toddi

50g o siwgr mân

1 llwy fwrdd o jam bricyll wedi’i gynhesu efo llwy de o ddwr.


Dull

  • Torrwch y menyn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen gyda’r blawd a’r halen.
  • Gyda’ch dwylo rhwbiwch y menyn i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion bras. Rydych dal eisiau darnau gweddol fawr o fenyn ynddo.
  • Yna gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu tri chwarter o’r dŵr, a’i gymysgu i mewn gyda llwy neu gyllell nes ei fod yn dod at ei gilydd, gan ychwanegu mwy o ddŵr os oes angen. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn tylino’r toes, fe ddylai fod yn reit lympiog.
  • Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a siapiwch eich toes fel ei fod yn ffurfio petryal. Nawr roliwch allan o’ch blaenau i un cyfeiriad fel bod gennych un darn hir o does tua 30cm x 15cm.
  • Plygwch draen o’r toes i lawr ar ben ei hun, cyn plygu’r traean gwaelod i fyny am ben hwnna, fel petai chi’n plygu llythyr!
  • Nawr trowch y toes 90°, a’i rolio unwaith eto mewn un cyfeiriad nes ei fod tair gwaith mor hir eto. Ailadroddwch y plygu, cyn ei lapio mewn cling film a’i roi yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar ôl iddo oeri yn ddigonol, roliwch a phlygwch ddwywaith eto. Fe fyddwch wedi rholio a phlygu pedair gwaith erbyn y diwedd. Rhowch yn ôl yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C / Nwy 6 a leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim.
  • I wneud y past almon chwisgiwch y menyn a’r siwgr gyda chwisg drydan am ychydig funudau hyd nes eu bod yn ysgafn ac yn olau. Ychwanegwch yr wy a’i gymysgu’n dda, yna plygwch yr almonau, y blawd a’r rym i mewn i’r gymysgedd.
  •  Rholiwch eich toes nes ei fod yn drwch ceiniog punt. Yna gyda thorrwr siâp cylch tua 4 modfedd ar draws, torrwch 10 o gylchoedd allan.
  • Gosodwch ar dun pobi wedi’i leinio gyda phapur gwrthsaim, a phrociwch ganol pob un gyda fforc.
  • Rhowch yn ôl yn yr oergell am o leiaf 20 munud.
  • Yn y cyfamser pliciwch eich afalau, torrwch y canol allan a sleisiwch yn dafellau tenau.
    Tynnwch y cylchoedd toes o’r oergell a thaenwch lond llwy de o’r past almon yn y canol a gosodwch dafellau afal am ei ben mewn patrwm del.
  • Brwsiwch y menyn wedi toddi am eu pennau ac ysgeintiwch gyda siwgr mân. Coginiwch am 15 munud neu hyd nes bod y crwst yn euraidd a’r afalau yn dechrau lliwio.
    Gadewch i oeri ar rwyll fetel.
  •  Wrth aros iddyn nhw oeri cynheswch y jam a’r dŵr mewn sosban a brwsiwch am ben y tartenni i roi sglein deniadol iddynt.

Gadael sylw